Celain Urien Rheged

Oddi ar Wicidestun
Y gelein veinwen a oloir hediw
a dan brid a mein
gwae vy llaw llad tat Owein


Y gelein veinwen a oloir hediw
ym plith prid a derw
gwae vy llaw llad vyg keuynderw


Y gelein veinwen a oloir hediw
a dan vein a edewit
gwae vy llaw llam ry'm tynghit.


Y gelein veinwen a oloir hediw
ym plith prid a thywarch
gwae vy llaw llad mab Kynuarch.


Y gelein veinwen a oloir hediw
dan weryt ac arwyd
gwae vy llaw llad vy arglwyd.


Y gelein veinwen a oloir hediw
ym plith prid a thywawt
gwae vy llaw llam ry'm daerawt.


Y gelein veinwen a oloir hediw
a dan brid a dynat
gwae vy llaw llam ry'm gallat.


Y gelein veinwen a oloir hediw
a dan brid a meinglas
gwae vy llaw llam ry'm gallas.