Cerdd yr Hydref

Oddi ar Wicidestun
Cerdd yr Hydref

gan Robert Roberts (Silyn)

Gwywa, gwywa rhosynnau diddanwch,
A'r hydref a dry yn auaf llwm;
Cilia, cilia cerddi difyrrwch,
Egwan eu heco yng nghreigiau'r cwm.

Gwyw, O mor wyw, lliw'r manddail wrth farw:
Torri ei chalon wna awel swyn:
Cilia'r blodau o'r dymestl arw;
A thrist a distaw yw côr y llwyn.

Ataf mewn hun daeth adlais dy enw
Fel cusan esmwyth anadl y chwa;
Eto fe erys atgof dy ddelw
Wedi'r ymedy rhosynnau'r ha.