Cerddi a Baledi/Y Cysgwyr
Gwedd
← Y Pryf | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Hen Fynwent → |
Y CYSGWYR
HEDDIW, a Mai yn Chwerthin
O berth a chlawdd a gwig,
Sefais wrth lidiart isel
Eu holaf dawel drig.
'Roedd chwerthin yno hefyd,
Ac yno yr oedd "Mai
Ai lifrau yn roi urddas
Ar irddail" gwael y tai
Blagurai'r wyllt fiaren
Ar drothwy llawer tŷ,
Ac wrth y drws caeedig
Ymsythai'r chwyn yn hy.
A thorrodd llais direidus
Y drudwy ar fy nghlyw;
Ei chellwair rhwng y cangau,
A'i chân ym mrig yr yw
Ond cysgai'r holl breswylwyr
Drwy hirddydd heulog Mai;
Ac ni ddaeth neb i godi
Llenni ffenestri'r tai.