Cerddi a Baledi/Y Pryf

Oddi ar Wicidestun
Castell Conwy Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Cysgwyr

Y PRYF

(RHYBUDD A WELIR AR FURIAU EGLWYS PEDR SANT YN
NINAS CAER, MEDI, 1933. "THIS ANCIENT CHURCH—1026.
YEARS OLD—IS IN DANGER. THE DEATH WATCH BEETLE
HAS ATTACKED THE SOUTH ROOF")

MAE Eglwys y Sant mewn enbydrwydd,
A chyffro drwy Ddinas Caer;
Ac Esgob a Rheithor yn anfon
I fyny ymbiliau taer.

Mae rhywun yn ysu y trawstiau
Nes siglo'r muriau a'r tŵr,
Heb barch i na Rheithor nac Esgob
Na Sant, na chywreinwaith gŵr

Yn nen yr adeilad â'i finiog
Fynawyd yn tyllu drwy
Y llathraidd golofnau fu'n sefyll
Am fil o flynyddoedd a mwy,

Gan droi eu cadernid a'u tegwch
Yn fân-lwch, i ddilyn hynt
Bob tegwch a fu, a chadernid
Ac ymffrost yr oesau gynt.


A dynion â chŷn ac â morthwyl
Yn dringo'r ysgolion tal,
Gan ddilyn ei drywydd drwy'r trawstiau;
Ond ofer yw ceisio ei ddal,

Ei drywydd a gylcha'r cyfanfyd;
A phan êl hwnnw ar chwâl,
Yn lludw y Seren olaf
Y delir y pryf yn ei wâl.