Cerddi'r Bwthyn/Hafnos

Oddi ar Wicidestun
Gwennol Wen Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Hydref


HAFNOS

DIGYFFRO, wedi'r tes, yw coed y dyffryn,
Diog yr afon hithau ar y ddol,
Ond cyfyd brithyll gwancus at y gwyfyn
A ddawns ymysg y clêr fel hoeden ffôl.
Syllaf o'r ffridd dros erwau'r hedd diarswyd
Heb weld na beddrod, na phererin claf,
Tremio a chilio draw i bellter breuddwyd
Yn gaeth gan hudoliaethau hwyrddydd haf.
Rhydd eurlliw'r cyfnos ddrych ei hen ogoniant
I'r briw fynachlog obry rhwng y llethrau,
A chyfyd tarth aroglus uwch y ceunant,
Onid wyf syrthlyd braidd gan sawr perlysiau.
Ni synnwn ddim pe gwelwn abad crwm
Yn chwifio'i thuser rhwng y muriau llwm.

Hawdd i fugeilfardd heno fyddai casglu
Ei ddefaid oll a'u llocio mewn caethiwed,
Ond gormod gorchest iddo yw corlannu
Mwynderau'r hafnos hon rhwng ffiniau soned.
Er suddo o'r haul, cân mwyalch nes pereiddio
Awr tranc y dydd a chwalu cysgod loes,
Ac megis chwedl pob dim a fedrai staenio
Daear a ddwg hawddgarwch euraid oes.
Dacw ysguthan ddiofn yn dychwelyd
I'w hundy yn y ffawydd uwch fy mhen,
Ond wele'i throi gan walch crafangog, tanllyd
A ddisgyn megis bollt o uchder nen.
Darfu ei hafddydd hi mewn ceuffos ddofn,—
Cyflymach asgell gwanc nag asgell ofn.


Daeth rhyw weddnewid dwys dros faes yr awron,
Ac nid adwaenaf mwy na lliw na llun,—
Cipiodd y machlud, draw dros gant yr eigion,
Holl degwch haf i'w goelcerth fawr ei hun.
Fel delwau milod anferth yw'r clogwyni
Gan ryw gyfaredd od a fedd dechreunos,—
Yr hesg fel byddin ddistaw rhwng y twyni,
A'r coed ar lechwedd megis torf yn aros.
Diau, genweiriwr sydd wrth odre'r goedwig
Yn taer anelu ei lith ar draws y ffrwd,—
Ni thrôi neb arall wyll hen geunant unig
Yn ddiofnusrwydd ag ysgorn mor frwd!
Traidd drwy uffernau'r drain a'r gwibed brathog
Heb deimlo dim ond ysfa'r heliwr ffyddiog.

Gwân chwilen heibio'n wyllt, fel edn yn ffoi,
A grŵn hen sturmant lleddf i'w thonnog si,
Yna llonyddwch nos yn ail grynhoi
A llenwi rhigol gam ei gwibio hi.
Geilw tylluan gan ddwysáu'r tawelwch,
A'i gwaedd fel colledigaeth ar fy nghlyw,
A thros y ceunant dwfn ymled tywyllwch
A gladd o olwg byd y marw a'r byw.
Meddyliaf am y curyll didrugaredd,
Â'i dwyll yng nghryndod ei adenydd braf,
A chais fy enaid athrist y gynghanedd
A gollais pan ystaeniwyd tegwch haf.
Gyda'r gylfinir effro ar y rhos,
Chwibanaf ymaith ddrychiolaethau'r nos.


Croesaf y cwm heb weld melynlliw'r eithin,
Na thân porfforlliw'r grug, na gwrid y rhos,
Cans dwg pob perth a llwyn, y banadl eurin
A'r pabi ysgarlad yntau bygliw'r nos.
Huned y lili wen heb blygu'n isel
At ddrych y dŵr i syllu arni'i hun,
Cans ni bydd tegwch mwyach oni ddychwel
Dydd heulog cynganeddu lliw a llun.
Ust! Dyna lais, fel llais seraffaidd, clir,
A'r hoen soniarus yn dwyfoli'r hedd,—
Eurllais yr eos! Derfydd cwsg y tir,
A derfydd sôn am lendid pryd a gwedd.
Safaf yn nuwch llwyn yn wyn fy myd,
A sisial: O! na byddai'n nos o hyd!

Tau'r lleisio nefol, ond ni phaid yr effaith,
A thybiaf fod y coed yn anesmwytho,
Megis y cyffry torf pan dderfydd araith
Rhyw ddewin o lefarwr a'i syfrdano.
Try sêr i wibio eilwaith rhag caethiwed,
Hyglyw drachefn ystwrio'r nant gerllaw,
A minnau'n methu symud gam nes clywed
Cyfarth hen ffrind a lam o'r gweundir draw.
Af rhagof bellach tua'm bwth croesawgar,
 phersawr mwsg a gwyddfid yn fy ffroen,
Gan ddiolch am seraffiaid nosau'r ddaear
A rydd felyster cerdd i wermod poen.
Dyma'r genweiriwr yntau'n llawen iawn,
Heb iddo fendith fwy na basged lawn!


Nodiadau[golygu]