Cerddi'r Bwthyn/Y Chwynnwr

Oddi ar Wicidestun
Ffos y Clawdd Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Euogrwydd

Y CHWYNNWR

TRWY'R manwellt, try i'r mynydd
Ergydiwr dewr gyda'r dydd,
Hen dreisiwr drain a drysi,
Hen deyrn iach ein daear ni.

Ar ei ôl, droediwr yr âr,
Ni bydd gwae, ni bydd gwyar,
Eithr tir fel gardd, â harddwch
Haf a'i geinion drosto'n drwch.
Ei rymuster ar weryd
Yw'r boen sy'n prydferthu'r byd.

Ymesyd ar haint meysydd,
A'i law ar wreiddyn y gwlydd.
Mae'n derfysg i wrysg y gro,
Yn dranc i'w henwanc yno.
Trewir perth, torrir heb ball
Yr hesg, y cyrs a'r ysgall;
A'r hen efrau anhyfryd,
Dihoenant, gwywant i gyd.
Difrodir hendwf rhedyn,
Tynnir a chwelir y chwyn;
A'r prysgoed diffrwyth hwythau,
Â'u trais trwm uwch cwm yn cau,
Dirymir eu mall dramwy,
Rhwystrir eu taith ddiffaith hwy.
Ar lasfron chwyfio ni chânt,
Yn swrth o'i flaen y syrthiant.


Deyrn cadarn! Syllwch arno,
Wanwr brwyn, gymhennwr bro,
Fel y teifl y tw aflan
A thrueni'r tir i'r tân;
Rhoi i boethwal raib eithin,—
Lu colynnog heulog hin.
Cyfyd ei drem o'u cofio
Yn fflam aur ar fryniau'r fro.
Ai rhyw wall yn swyddfa'r wawr
A fileiniodd felynwawr?

***
Gwelwch wedd y tir heddiw,
Gorchfygwr yw'r gweithiwr gwiw.
Gwenyg aur yw grynnau'r grawn,
Haf a'i redli hyfrydlawn.
Cenir godidog hanes
Y triniwr taer yn y tes.
I'r maes, lle bu'r ymosod,
Daeth tafodau clychau clod,
Si mawl y tywys melyn,
A bendith y gwenith gwyn,
Rhin ei ddolur yn ddilyw,
Rhin ei boen yn arian byw.

Try ef, fab awen, hefyd
I'r boen sy'n prydferthu'r byd.
'Rôl maith anfodd y rhoddir
Ei ddidlawd eurwawd i'w dir.
Sawl pennod a ddifrodwyd
Gan ei ysol, nefol nwyd,

A'r fflam gain a'u llosgai'n llwch
Yn dwyfoli dyfalwch?
Yna daeth rhyw ddarn dethol,
Darn o wyrth, swyn di-droi'n-ôl,
A'r boen a fu'n hir benyd
Yn aur glân drwy'r gân i gyd.

Gwyn ei fyd a ganfu wall,
Â'i wawr mewn cynnig arall!
Diau ni bydd Eden bêr
Na cheinwaith oni chwynner.

Nodiadau[golygu]