Cerddi'r Bwthyn/Yr Afon
Gwedd
← Y Pysgotwr a'r Bardd | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Hen Fwthyn → |
YR AFON
CYFRIN ei glwysiaith ar dalaith dolau,
Ail sibrwd isel asbri duwiesau,
Neu barabl nymffod, ddireidus fodau,
Â'u hafiaith anwel yn nhwrf ei thonnau;
Ac ail i gryman golau,—adeiniog
Y llam yr eog o'i gwridog rydiau.
Naid dros ddibyn, a'i chwymp, gan daranu,
Yn ceuo'r wenallt, a'r llethrau'n crynu.
Ar ruthr hedlam hi a ddeil i lamu,
Rhuo a lluwchio, a'r dwrgi'n llechu,
Cynnwrf ewynlliw'n cannu—agendor,
Rhwyg yn ymagor, a'r graig yn mygu.
Obry, fel diog deyrn yn ymogel
Rhag gwŷn a'i hysodd, a'r caeau'n isel,
Hi a arafodd. Paid gwynlliw'r ufel,
Y rhuo brochus a'r berwi uchel;
A goris awyr gwrel,—teifl y cyll
Eu lliwiau tywyll i'w phyllau tawel.