Cerddi'r Eryri/Can y Melinydd
Gwedd
← Can y Bardd wrth Farw | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Bwthyn Bach to Gwellt → |
CAN Y MELINYDD.
Ton—Person Paris.
Mae genyf dy cysurus,
A melin newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron.
Mae genyf drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A deg o ddefaid tewion,
A mochyn yn y cwt.
Mae genyf gwpwrdd cornel
Yn llawn o lestri te,
A dreser yn y gegin
A phobpeth yn ei le,
Er hyn i gyd mae 'nghalon
Yn brudd o dan fy mron,
O eisiau meinir hawddgår
I wneyd fy myd yn llon.
A ddo'i di, Mari anwyl,
I'r Eglwys gyda mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A'm calon ydwyt ti.
Os do'i di, fy anwylyd,
I'm gwneyd yn ddedwydd wr,
Cei gariad y melinydd
Tra try yr olwyn ddw'r.