Cerddi'r Eryri/Caniad y Gog i Arfon
← Ymweliad y Bardd a Thre'r Bala | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Myfyrdod ar lanau Conwy → |
CANIAD Y GOG I ARFON.
Ton—Morwynion glan Meirionydd
Perffaith yw dy waith, Duw lôr,
Mae tir a mor yn dystion;
Da a didwyll gwnaed hwy oll,
Heb goll na dim diffygion;
Ond o'r cyfan goreu gwnaed
Goreuwlad wirfad Arfon.
P'le mae cynar ganiad côg
Mewn glaswydd deiliog glwysion,
Dynion neint, a chreigiau serth,
A phrydferth reieidr mawrion?
Ar Eryri uchel wawr,
Yn erfawr lanau Arfon.
Defaid filoedd sy'n porfau
Ar hyd ei bryniau meithion,
Ei gweunydd heirdd, a'i bronydd teg,
Sy'n llawn o wartheg duon,
Da yw'r pysgod sydd yn gwau
Yn nyfnion lynau Arfon.
Clywir adlais bêr ddibaid
Y clau fugeiliaid gwiwlon,
A'u chwibaniad hydy dydd,
Ar hyd ei gelltydd gwylltion,
A diniwaid frefiad wyn
Ar irfwyn fryniau Arfon,
Clywir miwsig bwysig, ber,
Trwy fwynder twrf y wendon
Nos a dydd y sydd a'i si,
Yn golchi'i glanau gleinion;
O! na chawn i rodio o hyd
Hyd forfin hyfryd Arfon,
P'le mae amlaf geinciau per
Y gwiwber delynorion:
Pawb yn canu yn eu cylch,
O‘n hamgylch fwyn benillion,
Yn gariadion, gyson gor,
Yn ngoror erfai Arfon.
P'le mae mwynder doethder dysg
Ac addysg teg agweddion,
Odlau cu, a mydru mawl,
A siriawl ddoniawl ddynion?
Odlau mae'r Beirddion mwya'u clod,
Anorfod, ond yn Arfon.
Pwy sydd bur, heb dwyll na brad,
Drwy fwriad na dichellion?.
Pwy sydd hawddgar, heb naws gwg,
Neu gynal drwg amcanion?
Pwy sydd un, ac un i gyd,
Ond dewrfeib hyfryd Arfon.
Hardd yw'r haul ar foreu teg.
A gloywdeg uwch gwaelodion;
Hardd a llon yw meillion Mai,
Ar ddifai lenydd afon,
Harddach yw menywod mad
Goreuwlad wirfad Arfon.
P'le y ceir mewn dolur du
Anadlu iach awelon,
Yfed dyfroedd mawr eu rhin
Sydd well na gwin i'r galon?
Pʻle ceir laeth a mel heb drai?
Yn erfai frodir Arfon.
Pa le у bu'm yn chwareu gynt
Yn chwyrn fy hynt a'm troion,
Pan oedd nwyf maboliaeth clau
Yn bywincau fy nghalon,
Heb. drafferthion i'm pruddhau?
Ar erfai frodir Arfon.
Y mae hiraeth i'm trymhau
Am weled glanau gleinion,
Hyfryd ddolydd, maesydd maith
Sy'n lanwaith heb elynion,
Ac am greigiau, muriau mawr,
Clog wynfawr, erfawr Arfon,
Os da gan glaf ar fin ei fedd
Gael adwedd o'i glefydion
Os da gan grwydryn yn y nos,
Cael llety diddos boddlon,
Gwell gan i gael lloches glyd
O dwrf y byd yn Arfon.
Gwyn fy myd pe cawn yn awr
Adenydd y wawr dirion;
Hedeg wnawn dros for a thir,
Yn gywir ac yn union,
A disgynwn yn ddiau
Ar erfai fryniau Arfon.,
Duw a'm dycco cyn fy medd
I fyw mewn hedd a digon,
A chael treulio‘m gweddill oes
Heb loesau anfelusion;
Hyn yw'm harch, a Duw yn dad,
Yn mynwes wirfad Arfon.
A phan y delo diwedd oes,
A duloes angau creulon,
A d'od o'r dydd i'm rhoddi'n fud
Yn nistaw fyd marwolion,
Boed i'm corph gael bedd yn nghlai
A daear erfai Arfon.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.