Cerddi'r Eryri/Gyda'r Wawr
Gwedd
← Deryn Pur | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Hedydd Lon → |
GYDA'R WAWR.
Udganai udgorn rhyfel
Gyda'r wawr, gyda'r wawr,
Gwehyrai'r meirch yn uchel,
Gyda'r wawr;
Bu galed iawn y brwydro,
A'm hanwyl gariad yno
Yn gorwedd wedi ei glwyfo,
Gan alw am ei Weno,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.
Es yno'r boreu wedyn,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr;
I chwilio am Llewelyn,.
Gyda'r wawr:
Ces wel'd ei ruddiau gwelw,
Ces glywed swn fy enw
Oddiar ei fin wrth farw,
Rhyw foreu prudd oedd hwnw,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.
Pob dydd rwy'n mynd er hyny
Gyda'r wawr, gyda'r wawr,
At fedd y gwr wy'n garu,
Gyda'r wawr;
I blanu tlysion flodeu,
Eneiniwyd gyda'm dagrau,
Tra'r dydd yn taflu ei oleu
I dd'weyd y cwyd rhyw foreu,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.