Cerddi'r Eryri/Nos Sadwrn y Gweithiwr
← Yr Hen Amser Gynt | Cerddi'r Eryri Cerddi gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd) Cerddi |
Ymweliad y Bardd a Thre'r Bala |
NOS SADWRN Y GWEITHIWR.
Ton—Nos Sadwrn y Gweithiwr.
Pa beth a welaf?—gweithiwr draw,
A chaib a rhaw mewn rhych,
A phwys a thristwch byd, a'i wg
A'i gwnaeth yn ddrwg ei ddrych;
Ond er ei fod mor llwm i'w gael,
Yn glytiog wael ei wawr,
Nos Sadwrndeifl ei galed waith,
A'i ludded maith i lawr.
O gwel mor glytiog garpiog yw
Yn ceisio byw'n y byd:
Heb ond prin ddigon at ei draul
Yn nghysgod haul o hyd,
Ei gylla weithiau'n gwaeddi'n groch,
Pob dimai goch ar goll;
Ond daw nos Sadwrn—gyda llôg
Fe gaiff ei gyflog oll.
Mae blin a chaled waith y dydd,
Hyd ffosydd gyda'r ffyrdd,
Bron a gorlwytho'i babell frau,
Mae dan ofidau fyrdd:
Pa’m mae'n gwirfoddol oddef dan
Ei ffwdan? adyn ffol I
Ah! mae ei olwg ar ryw lon
Nos Sadwrn eto'n ol.
Cyn codi'r haul y bore rhed
A'i fwyd a'i fasged fach,
Pib fer yn cuddio rhan a'i mwg
O'i wridog olwg iach;
Pan fyddo hunawg wyr mawr glod
Yn bod heb symud bys,
Bydd e'n llafurio'n ol ei drefn
A phen a chefn yn chwys.
Gan yr uchelwr mae ei barch
Yn ail i farch neu ful;
Pob un yn cerdded hyd ei ben,
Ail pont—bren ceubren cul,
A phlant ei feistr, cy'd a'i goes,
Rydd iddo loes neu lach;
Ond caiff nos Sadwrn gartre'i hun,
A bod yn frenin bach.
CAWRDAF.