Cerddi'r Eryri/Ysgubor Rhysyn

Oddi ar Wicidestun
Yr hen amser gynt pan oedd Bess yn teyrnasu Cerddi'r Eryri
Cerddi
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Cerddi
Fy anwyl Robin Bach

YSGUBOR RHYSYN

Miwsig gan J. D. Jones, yn Alawon y Bryniau.

Hen Gymro braf oedd Rhysyyn
Yn byw heb boen na brad,
Na meddwl drwg am undyn,
Mewn Tyddyn yn y wlad;
'Roedd ganddo 'sgubor fechan,
I gadw'r yd a'r pys,
A'i chlo oedd clicied dderwen
Gyfodid gyda bys!

Un gauaf, pan oedd cloron
Yn ddrud a phrinion iawn;
'Roedd LLYGOD MAWR ar droion
Yn tolli'r pentwr grawn;
Ac er cael trap a'i osod,
I warchod twll y wal,
Parhau wnai'r pys i ddarfod,
A'r llygod heb eu dal!

'Roedd Dic, ei fachgen henffel,
Rhwng deg a deuddeg oed;
Yn gosod yn mhob cornel,
Heb ddal yr un erioed;
Ond rhedodd rhyw brydnawngwaith
Ddrychfeddwl pert i'w ben,
Y gallai fod nhw'n ymdaith
Trwy dwll y glicied bren!

Y nos ddrycinog hono
Croesawyd aeres wanc,
Mewn lletty yn nefni'r bondo,
A'i bysedd yn y banc!!
Lladmerwyd y dychymyg
Trwy ddal arwres brad,
Ona nid Liygoden Ffrengig,
LLYGODEN FAWR Y WLAD!!!
GWILYM COWLYD.

Nodiadau[golygu]