Cerddi a Baledi/Cynhebrwng
Gwedd
← Y Gannwyll | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Tobi → |
CYNHEBRWNG
RHYW dridiau yn ôl ar yr heol
Ynghanol prysurdeb y dref,
Y safai'n gardotyn digysur
Heb neb yn ei gyfarch ef.
Ciliodd i'w gaban, ac yno,
Rhwng cyfnos a thoriad dydd,
Gosododd y Brenin ei hunan
Ei sêl ar ei lwydaidd rudd.
 chydradd cardotyn yr heol
Â'r balchaf benadur a fu,
 chyfled ei stad â'r pendefig
YN rhandir y Brenin du.
Heddiw yng ngherbyd y Brenin,
A'i lifrau, y pasiodd dref,
Â'r dyrfa a minnau'n dinoethi
Ein pennau o barch iddo ef.