Cerddi a Baledi/Rhagair
← Cerddi a Baledi | Cerddi a Baledi Rhagair gan I. D. Hooson Rhagair |
Cynnwys |
RHAGAIR
YN y Cymru Coch lawer blwyddyn yn ôl y bwriais fy mhrentisiaeth, a mawr yw fy niolch i Olygydd mwyn y misolyn annwyl hwnnw am roddi derbyniad mor garedig i'm hymdrechion cynnar, O edrych yn ôl dros y blynyddoedd gallaf dystio amdano, fel y gwna llaweroedd, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Ysgrifennais lawer i wahanol gylchgronau a phapurau lleol y dyddiau hynny; ac yna am ryw reswm anesboniadwy disgynnodd mudandod arnaf. Ymhyfrydwn fel cynt mewn barddoniaeth, ond pallodd pob cyffro ac awydd i greu cân fy hun. Rhai blynyddoedd wedi'r Rhyfel Mawr, yn sydyn ac yr un mor anesboniadwy, wele'r ysfa drachefn yn fy meddiannu, a chynnyrch y dwymyn hon a geir yn bennaf yn y Gyfrol. Rhwng 1930—1936 yr ysgrifennwyd y rhan fwyaf o gynnwys y Gyfrol, ac ni cheir ynddi ond rhyw dair neu bedair o'm caneuon cynnar. Ni bûm erioed yn chwannog i gystadlu. Nid rhinwedd ynof mo hyn yn ogymaint â diffyg o'r ddawn a roddwyd mor helaeth i rai o'm brodyr i ganu'n rhwydd a pharod ar destunau gosodedig. Yr ychydig droeon y mentrais i'r maes cystadlu bu'r beirniaid yn dirion iawn wrthyf, ond ni roddais i mewn yn y gyfrol ond un delyneg fuddugol.
Ymddangosodd y rhan fwyaf o'r "Cerddi a'r Baledi" o droi dro yn Y Llenor, Y Ford Gron a'r Western Mail, a mawr yw fy niolch i Olygyddion y Cyhoedd- iadau hynny am roddi llcty iddynt ar cu siwrnai gyntaf oddi cartref.
Diolch yn bennaf i'm gyfaill llengar, Mr. Hugh Ellis Hughes, prifathro Ysgol Ganolog, Penygelli, Wrecsam, am ei ddiddordeb parhaus yn fy ngwaith, ac am ei gymorth parod a gwerthfawr ynglŷn a phob adran o'r gyfrol.
Am yr hyn sy'n gamp yn orgraff a chystrawen y llyfr, iddo ef y mae'n rhaid diolch. Am unrhyw remp a all fod ynddo, beier mympwy'r awdur.
- I. D. HOOSON.
RHOSLLANNERCHRUGOG,
HYDREF, 1936.