Cerddi a Baledi/Y Fantell Fraith

Oddi ar Wicidestun
Hwyaden Cerddi a Baledi
I'r Plant
gan I. D. Hooson

I'r Plant

Y FANTELL FRAITH

I

EISTEDDED pawb i lawr
I wrando arna' i'n awr
Yn dweud yr hanes rhyfedd
Am bla y llygod mawr:
Am helynt flin Llanfair-y-Llin,
Ar lannau afon Gennin,
Cyn geni'r un ohonoch chwi
Na thaid i daid y brenin.

II


Llygod!
O! dyna i chwi lygod, yn haid ar ôl haid,
Yn ymladd a'r cathod a'r cwn yn ddi-baid;
Yn brathu y gwartheg a phoeni y meirch,
A rhwygo y sachau lle cedwid y ceirch;
Yn chwarae eu campau gan wichian yn groch,
A neidio o'r cafnau ar gefnau y moch;
Yn tyllu trwy furiau o gerrig a chlai
I barlwr a chegin,
Ysgubor a melin;
Yn torri i'r siopau, yn tyrru i'r tai,
Yn rhampio trwy'r lloftydd, yn cnoi trwy'r parwydydd,
Ac eistedd yn hy ar y cerrig aelwydydd,
Gan wichian a thisian,
A herian a hisian,
Ar ganol ymddiddan y forwyn a'r gwas;
Yn dringo i'r distiau,
A neidio o'r cistiau,
113

A heidio ar risiau y bwthyn a'r plas;
'Sgyrnygu eu dannedd ar fonedd a thlawd,
A bwyta eu bara, a d'wyno eu blawd;
A dryllio barilau
Mewn dyfnion selerau
Nes boddi o'r lloriau mewn cwrw a gwin.
Pa ryfedd bod newyn yn Llanfair-y-Llin?
Yn wir, nid oedd 'menyn
Na chosyn caws melyn
Na bara nac enllyn yn Llanfair-y-Llin:
Ond llygod mawr Pygddu
Yn rhythu a gwgu,
A phawb ar fin llwgu yn Llanfair-y-Llin!

III

Eisteddai y Cyngor yn Neuadd y Dref,
Mewn dygn anobaith, yn isel eu llef;
Mewn dryswch a phenbleth pa beth i'w wneud,
Mewn dryswch a phenbleth pa beth i'w ddweud,
Yn gwelwi, yn crynu wrth glywed rhu
A lleisiau bygythiol y dicllon lu
Oedd ogylch y Neuadd, yn dyrfa flin,
I fynnu gwell rheol yn Llanfair-y-Llin.
"Beth? Talu ein trethi i ffyliaid fel hyn,
A'u gwisgo mewn porffor a melyn a gwyn,
A hwythau yn methu ein gwared rhag pla
Y llygod sy'n ysu a difa ein da!"

Ar hyn dacw rywun yn curo yn daer
Ar ddrws yr ystafell Cyfododd y Maer;
Gwrandawai yn astud,—mae'r Cyngor yn awr
Yn credu bod Pennaeth y Llygod mawr
Wrth law a holl lengoedd ei fyddin gref
I ofyn am einioes Cynghorwyr y Dref!
Distawrwydd am ennyd;ac yna yn y man.
"D-o-w-ch i m-e-w-n," meddai'r Maer a'i
....leferydd yn wan;
Ac i mewn y cerddodd ar ysgafn droed
Y creadur rhyfeddaf a welwyd erioed.
Ei wallt yn hirllaes a chyn wynned â'r gwlân,
Ei drwyn fel bwa a'i lygaid yn dân
Am funud: ac yna mor llon
 llygaid bachgennyn diofal ei fron;
Ei gorff yn lluniaidd a llyfn oedd ei en,
Yn fachgen, yn llencyn, yn hen ŵr hen;
A chraffu mewn syndod wnâi Maer y Dref
A'r Cyngor i gyd ar ei fantell ef.
Ni welwyd ei thebyg erioed o'r blaen
Ond ar beunod balch pan fo'u plu ar daen,
Ac ni roes yr Hydref i'r cwm na'r coed
Fantell cyn hardded â hon erioed.

IV

Amneidiodd am osteg. Ei lais oedd mor fwyn
A bwrlwm yr aber yn nyfnder y llwyn.
"Chwi-Faer a Chynghorwyr Tref Llanfair-y-Llin-
Hysbyswyd fi neithiwr o'ch helynt flin,
A dyma fi'n unswydd, heb oedi, ar lam
O gyrrau pellennig ac unig Sïam
I wared eich ardal o'i blinder a'i phla

O lygod mawr rheibus sy'n difa eich da.
Gyda hon," meddai ef-a gwelodd y Maer
Rhwng plygion ei fantell ei delyn glaer—
"Medral yrru yn ebrwydd bob aflwydd o'ch plith,
Boed amlwg neu ddirgel, beth bynnag fo'i rith.
A gaf i eich cennad i'ch gwared o'r pla
Sy'n poeni'r preswylwyr a dila eu da?"

"Beth yw dy bris? Pa faint fydd y bil?"
Meddai'r Maer, a daw'r ateb yn swil
"Cewch wared o'r llygod i gyd a'u hil
Am bymtheg cant."

Cei bymtheng mill!"
Meddai'r Maer: a'r Cyngor yn unfryd a llon
A roddodd eu sêl ar y fargen hon.

V

I lawr y grisiau marmor
O Neuadd fawr y Dref,
Y cerddodd y telynor
A'r Cyngor gydag ef;
Hwy yn eu gwisgoedd porffor,
Ac yntau ar y blaen,
A'i fantell hardd symudliw
Fel machlud haul ar daen.

Ymaflodd yn ei delyn,
A'i fysedd meinion gwyn
Yn hudo miwsig allan
Yn ffrwd o'r tannau tyn;

A'r dyrfa fawr a glywai
Ryw derfysg oddi draw,
Fel cenllysg trwm yn curo
Neu sydyn gafod law;
A'r llygod yn ymdywallt
I ganol Sgwâr y Dref,
Gan rym cyfaredd ryfedd
Ei delyn hudol ef.

VI

Llygod!
O! dyna i chwi lygod a dyna i chwi sŵn!
Rhai cymaint â chathod, bron cymaint â chŵn;
Rhai duon, rhai llwydion, rhai melyn, rhai brith,
Yn lluoedd afrifed cyn amled â'r gwlith;
Rhai gwynion, rhai gwinau,
Rhai tewion, rhai tenau,
Yn rhuthro i'r golau o'r siopau a'r tai,
Gan dyllu trwy furiau o gerrig a chlai:
Rhai mawrion, rhai bychain,
Yn hisian a thisian,
A rhedeg dan wichian at Neuadd y Dref,
Ac yno yn heidio, yn dawnsio a neidio
Wrth nodau deniadol ei delyn ef;
Dilynent y delyn dros briffordd y Brenin
At hen afon Gennin, i ymyl ei lli,
Ac yna'n eu bwrw eu hunain i'w lli.
Y fyddin fileinig
O lygod mawr ffyrnig
Yn llamu yn llawen i ganol ei lli!!

A'r afon yn chwyddo
A hwythau yn suddo,
Yn suddo am byth yn ei dyfroedd hi!

Ac O! y llawenydd yn Llanfair-y-Llin!
Y canu a'r bloeddio yn Llanfair-y-Llin!
Baneri yn chwifio,
A chlychau yn seinio,
A'r bobl yn dawnsio yn Llanfair-y-Llin,
Yn dawnsio a bloeddio,
Yn chwerthin a chrio,
A rhai yn gweddio yn Llanfair-y-Llin!

VII

Fe ddywed yr hanesydd
Mai un llygoden ddu
Yn unig a achubwyd
O'r dirifedi lu;
Ac iddi cyn ei marw
Roi i lawr ar gof a chadw
Hanes yr hyn a fu.
A dyma a ddywedodd
Yr hen lygoden ddu:-

"Wrth edrych ar ei fantell a gwrando'i delyn fwyn,
Ymrithiai caws a 'menyn yn union dan fy nhrwyn.
Fe beidiai'r cŵn a'u cyfarth, a'r cathod oll yn ffoi,
A holl gypyrddau'r ddaear ar unwaith yn datgloi;
A'r rheini'n llawn o fara a'r seigiau gorau erioed,

O felyn rawn y meysydd a ffrwythau ir y coed.
Ac nid oedd prinder mwyach, ond pob llygoden lwyd
Am byth uwchben ei digon o ddiod ac o fwyd;
A gwelwn afon Gennin yn troi o fin i fin
Yn hufen tew a melyn, yn gwrw coch a gwin;
A'r delyn yn cyhoeddi mai dros ei dyfroedd hi
Yr oedd Paradwys Llygod a Nefoedd Wen i ni.

Mi geisiais nofio'r afon at y Baradwys Wen,
Ond llifodd afon Gennin a'i dyfroedd dros fy mhen."

VIII

A thrannoeth yn fore ger Neuadd Dref
Mae'r Maer a'r Cynghorwyr yn uchel eu llef,
Yn siarad â'i gilydd a chwerthin yn llon,
A'r Maer yn torsythu a churo ei fron:
(Un tew oedd y Maer ac yn foel ei ben,
Gŵr bychan a byr ond un pwysig dros ben).
Mae'n codi ei lais ac yn edrych draw,
Yn pesychu'n drwm ac yn codi ei law;
A'r bobl yn tyrru at Neuadd Dref
Yn eiddgar i glywed ei eiriau ef.
Yn sydyn distawodd y cyffro a'r stŵr:
Pwy sydd yn dyncsu! 'Ha! Wele y gŵr
Yn ei fantell frithliw'n ymwthio gerbron
Y Maer a'r Cynghorwyr a'r dyrfa lon.


IX

Yn foesgar ymgrymodd a gwen ar ei fin,
Ei lygaid yn dyner a'i lais fel y gwin: -
"Chwi–Faer a Chynghorwyr Tref Llanfair-y-Llin-
A fyddwch chwi cystal a thalu fy mil,
Sef y pymtheg cant?" gofynnai yn swil.
Beth! Meddai'r Maer, gan chwerthin yn braf,
Dy bymtheg cant! Y dihiryn! Y craf!
Dos ymaith ar unwaith a chymer dy hynt,
Efallai y rhoddwn it bymtheg punt.
Mae popeth drosodd a phopeth yn dda,
A diwedd am byth ar y llygod a'r pla.
Oni welais hwy'n suddo i'r afon, fy hun,
Pob copa ohonynt? Do'n siwr, neno'r dyn!
Fe foddwyd y cwbwl ac ni ddônt yn ôl,
Ar arch yr un dewin. Yn awr na fydd ffôl,
Ond cymer yr arian, a hynny'n chwim,
Neu'n wir, ar fy llw, ni roir iti ddim."

(A dweud cyfrinach rhwng brawd a brawd,
Roedd Llanfair yn wir, yn eithaf tlawd;
Y coffrau'n wag a'r trethi'n drwm
Ar ol gwastraffu llawer swm
Ar fympwy'r Maer, ar win a medd,
A mynych ddawns a mynych wledd;
Ar deithio pell heb unrhyw raid,
A phrynu fafar plaid a phlaid:
Ar wisgoedd gwychion drud i'r Maer;

A beth am neithior merch ei chwaer?
Fe gostiodd honno fwy na mwy,
A'r gost i gyd ar dreth y plwy).

X

Ymwingai y gwr dan y ddichell a'r cam,
Yn finiog llefarai A'i lygaid yn fflam:—
"Mi roddaf un cynnig eto i chwi
I dalu yn llawn eich dyled i mi
Yn deg ac yn gyfiawn, a hynny'n chwim,
Y pymtheg cant neu ynteu ddim.
Mae gennyf gennad i fynd ar lam
Yn syth oddi yma i dueddau Assam,
I wared tywysog gonest a da
Rhag nadroedd gwenwynig a heintus bla.
Dowch! Telwch ar unwaith; neu mi drawaf dant
Nas anghofir byth gennych chwi na'ch plant."

Ond ffromodd y Maer dan ei eiriau ef,
A chododd ei ddwylo a chododd ei lef:-
"Dos ymaith y cnaf, neu'n siŵr i ti
Mi yrraf y cŵn ar dy warthaf di."

XI

I lawr yr heol lydan
Y cerddai'r gwr yn awr,
o Wydd y Maer a'r Cyngor
A heibio i'r dyrfa fawr.
Gafaelodd yn ei delyn,

A'i fysedd hirion gwyn,
Yn hudo miwsig allan
Fel mel o'r tannau tyn;
A'r dyrfa fawr a glywai
Sŵn canu oddi draw,
A'r plant yn llifo allan
O'r drysau ar bob llaw,
Gan dyrru yn eu miloedd
I ganol Sgwâr y Dref,
Ar alwad seiniau swynol
Ei delyn hudol ef.

XII

Plant!
O! dyna i chwi blant! Tyrfaoedd dircel
Yn brysio o bobman i ganol yr heol;
Yn rhedeg, yn trotian, yn cerdded, yn cropian,
Pob llun a phob oedran yn diddan a llon;
A'u gruddiau rhosynnog,
A'u pennau bach cyrliog,
A'u llygaid chwerthinog cyn lased â'r don:
Genethod a bechgyn yn dawnsio wrth ddilyn
Y cerddor a'i delyn at ymyl y dŵr,
Dros briffordd y Brenin
Hyd at lannau Cennin;
Ac yna, arafodd a safodd y gŵr;
A'r bobl yn synnu,
Yn gwelwi a chrynu;
Ond heibio i'r afon y cerddodd y gŵr;
I fyny i'r mynydd,
A'r plant mewn llawenydd

Yn dilyn o hyd yn ei gamau ef;
Yn rhedeg, yn trotian,
Yn cerdded, yn cropian,
Heb falio am degan na dim dan y nef
Ond miwsig dihafal ei delyn ef;
A'r mynydd yn agor
O flaen y telynor
Ac yntau yn arwain cei fintai i'w gôl!
Y gruddiau rhosynnog,
Y pennau bach cyrliog,
Ac ni ddaeth na bachgen na geneth yn ôl!

Ac O! y galaru yn Llanfair-y-Llin!
Y cwyno a'r wylo yn Llanfair-y-Llin!
Y siopau'n gacëdig a'r llenni i lawr,
A'r bobl yn tyrru i'r eglwys yn awr:
Y mamau a'r tadau,
A'u gruddiau yn ddagrau,
Yn plygu eu pennau, yn plygu y glin,
A phawb yn gweddio yn Llanfair-y-Llin.

XIII

Ond dywed yr hanesydd
Am un amddifad hoff
A fethodd ddringo'r mynydd,
Sef Huw, y bachgen cloff.
A byddai Huw adrodd
 dagrau ac â gwen,
Hanes y diwrnod hwnnw
Wrth ifanc ac wrth hen.

"Chwaraewn," meddai'r bachgen, a rhai o'm
...ffrindiau hoff
A fyddai'n dyner beunydd wrth Huw, y bachgen cloft;
A gwelais yn mynd heibio ryw ŵr mewn mantell glaer
Na welais i mo'i thebyg crioed ar gefn y Maer.
Fe redodd fy nghyfeillion ar unwaith ar ei ôl,
A cheisiais innau ddilyn, a Siôn, yr hogyn ffôl,
Yn gafael yn fy mreichiau; ond dyna Siôn yn mynd,
A minnau ar yr heol fy hunan, heb un ffrind.
Ar hyn mi glywais ganu, a thelyn fwyn ei thant
Yn sôn am froydd tirion Paradwys Wen y Plant;
Ac am ei llethrau tawel, ei dolydd glas a'i choed,
A'i chwrlid hardd o flodau na bu eu bath erioed;
Am adar pêr yn nythu ym mrigau'r cangau mawr,
A ffrwythau cochion addfed yn hongian hyd y llawr;
Am wenyn aur ei gerddi a brithyll chwim ei lli,
A'r meirch a'u carnau arian ar ei heolydd hi.
Fy nghalon o lawenydd ddychlamai dan fy mron
Wrth wrando'r delyn seinber yn sôn am degwch hon—
Y Wlad tu hwnt i'r mynydd! Ac, O! mor wyn fy myd
Pe gallwn rywfodd gyrraedd un o'i chilfachau clyd!
Y Wlad tu hwnt i'r mynydd, a'i llwyni byth yn wyrdd,
Bro'r Tylwyth Teg a'r Cewri a Rhyfeddodâu fyrdd:
Lle'r oedd teganau ddigon a gwisgoedd o bob lliw,
A phawb o'i mewn yn llawen heb neb o dan ei friw;
Lle rhoddid synnwyr eto i Siôn, fy nghyfaill hoff,
A lle na byddwn innau byth mwy yn fachgen cloff.
Mi geisiais ddilyn camau y gêr a'r fantell fraith,
Ond Och! ni fedrwn redeg na cherdded llawer chwaith;
A gwelais fy nghyfeillion a'r gwr yn ymbellhau,

A phyrth y wlad yn agor a phyrth y wlad yn cau;
A mi fy hunan yno, heb un o'm ffrindiau hoff,
Yn Huw, y bachgen unig, a Huw, y bachgen cloff."

XIV

Ar hyd a lled y gwledydd
Anfonwyd gan y Maer
Genhadon gannoedd lawer
Ar ymchwil hir a thaer.
Ond ofer fu'r holl chwilio
Ni ddaeth y gŵr yn ôl,
Er gwobrau ac ymbiliau
Y Maer a'r Cyngor ffôl.

A'r mamau trist a'r tadau,
Mewn hiraeth ddydd a nos,
Am bennau bychain cyrliog,
A gruddiau fel y rhos;
Ac ni ddaeth un ohonynt
Byth mwy yn ôl i'r dref,
'R ôl clywed miwsig rhyfedd
Ei delyn swynol ef.


A dyna ddiwedd hanes
Y gŵr â'r fantell fraith,
A'r delyn ryfedd honno,
A'i swynol hudol iaith—
Y llygod mawr a'r Cyngor,
A'r Maer anonest, ffôl
A'r pennau bychain cyrliog;
Na ddaethant byth yn ôl