Cerddi a Baledi/Y Llwynog

Oddi ar Wicidestun
Yr Ysgyfarnog Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Yr Ynys Bellennig

Y LLWYNOG

MI welais innau un prynhawn
Dy hela yn y Dyffryn bras
Gan wŷr a merched, cŵn a meirch,
Y lledach dlawd a'r uchel dras;
Gwibiaist o'm gwydd fel mellten goch
A'th dafod grasboeth ar dy foch.

Yn unig druan o flaen llu,
Yn llamu'r ffos yn wyllt dy hynt;
Y llaid ar dy esgeiriau llyfn,
A chorn y cynydd ar y gwynt;
O'th ol' oedd Angau'n agosáu,
O'th flaen dy ryddid di a'th ffau.

'R wyt yn ysbeiliwr heb dy fath,
Pa beth yw deddfau dyn i ti
Ni wn a dorraist ddeddfau'r Un
A blannodd reddf dy natur di;
Ond gwn na chei, ffoadur chwim,
Gan ddyn na chŵn drugaredd ddim.


Mynnwn pe mynnai'r Hwn a wnaeth
y goch ddiwnïad siaced ddrud,
A luniodd dy "ryfeddod prin"
It gael dy ddwyn yn iach i'th dud,
I'r creigiau tal ar grib y bryn,
A fflam dy lygaid eto 'nghyn.

Mi fûm mewn pryder oriau hir,
Ond daeth llawenydd gyda'r nos
O wybod mai oferedd fu
Dy hela di hyd waun a rhos,
A'th fod yn hedd y rhedyn crin,
Â'th ben ar bwys dy balfau blin.