Cerddi a Baledi/Y Wennol

Oddi ar Wicidestun
Yr Eos Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Yr Ehedydd


O DAN y bondo ger fy nhŷ
Y wennol las yn trydar fu
Am ryfeddodau broydd pell,
A hafau hir rhyw hafan well;
Ni tharfu dig na thwrf y don,
Na min y storm, mo fynwes hon;
A heb i'm wybod, dros y lli
Â'i llathraidd adain llithrodd hi.