Ceris y Pwll/Cyfnod Niwlog

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Brad Caswallon

I. CYFNOD NIWLOG

NID oes gyfnod mwy pwysig yn hanes Prydain na'r pedair canrif gyntaf a nodir yn gyffredin gyda'r llythyrennau A.D.; ond nid oes adeg fwy tywyll neu fwy anhawdd treiddio i'w helyntion, sef casglu a gosod mewn trefn ddealladwy ddefnyddiau cymysg yr hanes a ddisgrifia y gwasanaeth pwysig y cymerwyd rhan ynddo gan y Goidel, y Brython, a'r trefnydd hynod a osododd i lawr yn Ewrob sylfeini y gwareiddiad a adnabyddir fel y Rhufeinig.

Wrth i ni gyfeirio at ran neilltuol o'n gwlad, – Gogledd Cymru, er enghraifft, – mae niwl yn gorchuddio y dyffrynnoedd, sef y gaenen isaf o'r hen boblogaeth; daw y parthau uwch yn fwy amlwg, ond hynod dywyll yr hud a'r lledrith sy'n gordoi pob man; yn y parthau uchaf y mae'r awyrgylch yn lled glir. Mae'r disgrifiad, feallai, yn gofyn eglurhad. Wrth y parthau isaf y golygir y genedl Goidelig: defnyddia y Brython arddull alegoraidd neu fabinogaidd wrth ddisgrifio; mae y Rhufeinddyn yn fwy eglur gyda'i hanes, oblegid nid yw efe yn gwisgo gwybodaeth â damhegion.

Nid oes gennym ni hanes Goidelig, namyn manion aneglur a adawyd ar ôl gan y Brython mewn cofnodau mabinogaidd ansicr yn eu cynhwysiad oblegid ei duedd i guddio yr hyn oedd anffafriol i'w ddysg ef, ac i ddefnyddio pob peth oedd ffafriol i'w olygiadau ef, o ba ffynhonnell bynnag y tynnai wybodaeth. Wrth gyfeirio at Brydain Rufeinig yr ydym ar dir sicrach. Yr unig gyfeiriad boreol sicr a phwysig a gawn ni at Fon yn yr hanes Rhufeinig yw yr hyn ddisgrifir fel Goresgyniad Mon yn y ganrif gyntaf gan Suetonius Paulinus, pryd y derbyniodd y Derwyddon, meddir, ergyd farwol a agorodd ddrysau Gogledd Cymru i drafnidiaeth â Rhufain. Cadarnheir hyn gan draddodiadau ynghylch cloddfeydd Rhufeinig Mynydd Parys, a rhwydwaith o ffyrdd Rhufeinig yn y parthau mwyaf dyrus o Ogledd Cymru.

Yn y cyfnodau dan sylw tybir i wareiddiad Rhufeinig effeithio yn fawr a llesol ar Gymru, er nad i'r un graddau ag a wnaeth yn y rhannau eraill o Rufain Brydeinig. Y cyfoeth mwnawl a demtiodd y Rhufeiniaid i dalu ymweliad mwy arosol â'r parth o'r Ymherodraeth a alwn ni yn Gymru, na'r ymgyrch y cyfeiriwyd ato uchod. Ni oresgynnwyd Cymru, mae’n debyg, yn yr ystyr ag y meddiannwyd hi yn fwy diweddar gan y Brythoniaid, y rhai a orfodwyd, feallai, gan yr Angliaid i adael Gogledd Lloegr ac ymfudo i Ogledd Cymru.

Yn yr hanes dilynol y mae a wnelom ni yn bennaf â Mon mewn cyfnod amhenodol na ellir yn hawdd ei gyfyngu tu fewn i gylch dyddiau neu amserau adnabyddus. Gan fod cyn lleied ymddiried yn cael ei roddi gan haneswyr i'r hanes henafol, a chan fod gwahanu hanes oddiwrth chwedloniaeth yn orchwyl dyrus, y mae yn anhawdd gwybod beth sydd ffaith a beth sydd ffug; ond y mae i ni ychydig bethau a'n cynorthwyant i ddarllen hanes Mon, a digwyddiadau y goresgyniad Brythonig dilynol i ymadawiad y Brythoniaid o Brydain, ynglŷn â'r rhai y cymerwyd rhan bwysig gan Geris y Pwll, Moel y Don, a'r rhai y ceisir eu disgrifio yn y penodau sydd yn dilyn.