Ceris y Pwll/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Ceris y Pwll Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Cynhwysiad

RHAGYMADRODD

Y mae'n hawdd rhannu nofelau'r byd yn ddau ddosbarth, — nofelau hanesyddol a nofelau ereill.

Y mae nofelau hanesyddol yn darlunio pethau ddigwyddodd cyn cof i'r awdwr; y mae nofelau ereill yn darlunio y pethau welodd yr awdwr ei hun.

Y nofelau ereill hyn yw y rhai mwyaf lliosog o lawer. Gall eu hadwr eu hysgrifennu heb efrydu ac heb ymdrech. Weithiau ceir hwy yn ddarluniadau byw o gymeriadau sydd wedi llenwi meddwl yr awdwr, megis yn Rhys Lewis Daniel Owen a Sioned Winnie Parry. Dro arall ceir hwy yn ddadleniadau o orthrwm neu gam; ac wedi i wlad eu darllen y mae'n barod i groesawu un a laddo'r gorthrwm ac a uniono'r cam. Little Dorrit Dickens roddodd ddiwedd i greulondeb cyfraith methdaliad; helpodd Pickwick Papers ddeddfau estyn yr etholfraint; galwodd Nicholas Nickeleby am ymyriad y Llywodraeth ag ysgolion: Oliver Twist oedd un o brif achosion gwella deddfau'r tlodion. A pha faint yw dyled y fam anffodus i Heart of Midlothian Syr Walter Scott, a dyled y caethwas i Gaban F'Ewythr Twm Harriett Beecher Stowe?

Ond er fod y nofelau hyn yn rhan o hanes, nid nofelau hanesyddol mohonynt. Ychydig iawn o nofelau hanesyddol sydd yn llenyddiaeth Cymru eto. Mae Cymru yn hoff o hanes, yn hoff iawn; nis gwn am wlad yn meddu cymaint o hynafiaethwyr, ac nis gwn am wlad lle mae'r werin yn talu cymaint o sylw i gromlech a charnedd, i gutiau Gwyddelod a ffyrdd Helen. Ond ychydig o nofelau sydd yn apelio at y teimlad hwn. Y rheswm yw, – manylrwydd yr ymchwiliad angenrheidiol; rhaid cael pob manylion yn gywir, nid yn unig am sefydliad a chymeriad ond am wisg a bwyd a botymau, – pethau y mae eu ffasiwn wedi newid lawer gwaith. Nis gellir rhoi pytatws ar fwrdd Gruffydd ab Cynan, nag oriawr i Owen Gwynedd, na phibellaid o dybaco i Guto'r Glyn, na chrinolin i Werfyl Fychan.

Yn y nofel sy'n dilyn y mae'r awdwr yn cymeryd cyfnod pell a niwlog iawn. Dengys amlinellau'r gwir trwy fanylion dychmygol. Dengys fel y cymysgwyd pobl Mon, ac fel y daeth dwy genedl a dwy grefydd a dwy iaith yn un. Ymdrinia â phroblem bwysicaf hanes bore. Dengys ddwy genedl yn ymgymysgu mewn heddwch, ac nid yn ymladd nes difodi un gan y llall. Ac, yn ddiameu, dyma'r gwir sy'n graddol ennill ei le: er na ddysgir ef eto ond mewn ambell un o'n hysgolion. Wrth ddarllen y nofel hon, ceir gwirionedd hanes ar lun dychymyg.

OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn, Medi 1, 1908.