Neidio i'r cynnwys

Ceris y Pwll/Y Wrach Ddu

Oddi ar Wicidestun
Brad Caswallon Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Yr Esgob Moelmud

III. Y WRACH DDU

TUA'R adeg yr oedd Ceris yn ymbaratoi ar gyfer gwrthwynebu y gadgyrch Frythonig ddisgwyliedig o gyfeiriad Deganwy heibio Gaer Rhun a thrwy Fwlch y Ddeufaen, daeth i Lwyn Ceris fenyw nodedig a thra afreolaidd yn ei hymweliadau, a'r hon a barai gryn gynnwrf ym mhob man lle deuai, nid oblegid un math o aflonyddwch a achosai, ond oherwydd dieithrwch ei symudiadau. Ni wyddai neb fawr o'i hanes, er fod ei chartref ymhob ardal yn achlysurol, oblegid dywedid ei bod yn ymweled a llawer o wledydd Goidelig a Gwyddelig. Sibrydid y gallai gyflawni llawer o bethau rhyfedd heblaw y rhodreswaith a briodolir gennym ni yn awr i'r crwydriaid a elwir y Sipsiwn. Dywedid hefyd ei bod mewn cymundeb â'r un drwg; feallai nad honnai hynny, oblegid tueddai yr ychydig ddywedai mewn ymddiddan achlysurol, a'r ychydig ymarferion o'i heiddo, i awgrymu mai rhyw fath o dderwyddiaeth, neu addoliad hynafiaid, a geisiai ddilyn. Ymwelai â chromlechau, creigiau, a llwyni coed, ond ni chai neb un math o gyfleustra i ymuno â hi yn ei hymarferion crefyddol tybiedig, oblegid osgoai bob cyfeiriad at ddyledswydd grefyddol. Yr oedd felly lawer o goelion a thybiau yn ei chylch — megis y gallai fod yn anweledig pan y mynnai, ac y gallai symud i ardaloedd pell mewn amser mor fyr ag a ddisgrifid gan yr hygoelus gydag enghreifftiau mwyaf rhyfeddol. Proffesai ei bod yn ymweled â'r Dwyrain ac â gorllewin Ewrob: ac yr oedd ei hymddangosiad personol mor ddieithr fel yr oedd y bobl gyffredin yn credu ei bod o deulu tywysogaidd rhyw wlad bell. Yr oedd ei phrydwedd yn dywyll, ei llygaid yn dduon a gloew fel ffrwyth y berthen, ac yn fflachio hyd yn oed yn y tywyllwch pan gynhyrfid hi, ac yr oedd ei gwallt gloew—ddu hirllaes a phrydferth yn deilwng o frenhines ddwyreiniol. Er hyn i gyd nid oedd barddoniaeth y werin yn ei dyrchafu yn uwch na'i galw yn Wrach Ddu.

Oherwydd rhesymau na chyffyrddir â hwy yn bresennol nid oedd neb yn gallu dylanwadu dim arni mewn un modd ond merch brydferth a chrefyddol Ceris y Pwll. Swynai Bera, y Wrach Ddu, bawb a'i cyfarfyddai ag ofn syfrdanol, tra y toddai dylanwad Dona ach Ceris yr holl hud dewiniol a amgylchai Bera nes ymddangos o honni yn ei phresenoldeb fel dynes gyffredin, neu fel mamaeth plentyn anwylgu ar yr hon y rhoddasai holl serch ei henaid. Wedi i Bera ymddangos yn Llwyn neu Bwll Ceris bu y cynnwrf arferol ymhlith y gwasanaethyddion, ac yr oedd amryw wahanol dybiau ynghylch natur ei hymweliad. Aeth hi yn gyntaf i ymgrymu yn y dull mwyaf dwyreiniol o flaen cromlech fawr ddwbl oedd yn agos, ac yna daeth i gyfeiriad y Llwyn. Erbyn hyn yr oedd ei hymweliad yn hysbys i Geris, yr hwn a frysiodd yn bryderus i ofyn i Bera yr achos o'i hymweliad; oblegid ers peth amser nid arferai hi ymweled a neb heb fod ganddi neges neilltuol.

"Wel, Bera," ebai Ceris, "beth a'th gynhyrfodd i ddod i'r Llwyn yr amser yma? A wyt ti'n dwyn newyddion da, ynte drwg dy ddarogan?"

"Daeth drwg o'r gogledd," oedd yr ateb, "enciliodd y da tua'r môr."

"Dywed dy neges ar frys," meddai Ceris, "a ydyw y Brython wedi croesi afon Gonwy?"

"Mae'r Brython â'i fwa yn ei gawell," ebai Bera, "cyllell y bradwr sydd wedi ei dadweinio."

"Hwda di, Bera," meddai Ceris, "paid di a thywyllu ymadrodd, trwy ei wisgo mewn damhegion. Paham y sonni am frad, a'r Brython yn aros yn ei babell a'i fwa yn ei gawell?"

"Yr haul a fachludodd a'r lleuad a dywyllodd," ebai Bera, "y Brython sy' ddiofal oherwydd i'r Goidel droi y Fflamddwyn yn erbyn ei frawd."

Troes Ceris yn sydyn a galwodd ar un o'r moelion, gan orchymyn, — "Dos a rhed i Lwyn Onn, a gofyn i'r Esgob Moelmud frysio yma." Yna troes at Bera, a dywedodd, —

"Daw'r Esgob yma, a gwae di os wyt yn twyllo."

"Dengys y ffrwyth natur y pren," atebai Bera, "a gwae y dyn nad adwaen ffug pan brofo."

"A glywaist ti," meddai Ceris, "pa bryd y dychwel Bran o'r Werddon?"

"A welaist ti seren yn esgyn wedi iddi ddisgyn? Y lleuad lywodraetha wedi machlud haul."

"Bera," ebai Ceris, gan droi ati, a'i hannerch yn ddifrifol, "Paid a dy gellwair. Nid wyf fi am oddef brudio yma. Goleuni ac nid tywyllwch sy'n gweddu'n oreu dan bob amgylchiad."

"Nid brudio na dewinio yr ydwyf, Ceris," atebodd hithau yn llawn mor ddifrifol; "os coleddir Caswallon yn awr, ni ddychwel Bran byth. A glywaist ti'r ddiareb — 'Traed wna draed gerdded?'"