Chwedlau'r Aelwyd/At y Ddarllenwyr
← Chwedlau'r Aelwyd | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Y Tri Dyrnaid Yd → |
AT Y DARLLENWYR.
GYFEILLION IEUAINC,
Wele lyfryn bychan wedi ei fwriadu yn bwrpasol i chwi. Yn y Chwedlau a'r Caneuon a gynwysa, amcanwyd at gyflwyno addysg a difyrwch ynghyd. Yr ydych oll yn ymwybodol o'ch hoffder o bleser; ac yn ol tystiolaeth y Beibl y mae arnoch angen addysg hefyd, obiegyd "Ffolineb sydd yn rhwym yn nghalon plentyn." Hyderir, gan hyny, y profwch fod y darlleniad o'r tudalenau canlynol yn ddeniadol a phleserus, ac yn effeithio i wrthweithio, i ryw raddau, eich gorawydd at chwareuon plentynaidd, a'ch hoffder o gwmni ac arferion llygredig; ac o feithrin yn eu lle ymlyniad at eich cartref, a phleser mewn darllen a meithrin eich meddyliau.
Chwi gewch fod y gwersi a ddysgir ynddo yn dwyn perthynas agos a'ch dedwyddwch personol, ac hefyd â chysur eich teuluoedd. O herwydd os byddwch yn blant anufydd, hunanol, gwatwarus, celwyddog, anonest, nwydwyllt, diegni, a diweddi, byddwch yn druenus eich hunain, ac yn flinder parhaus i'ch rhieni. Dyben y gwersi hyn yw dangos drygedd y cyfryw arferion, a meithrin ynoch ysbryd ac ymddygiad gwahanol.
Gan obeithio y cyrhaeddir yr amcan yna, ac y bydd y darlleniad o honynt yn fendithiol i chwi oll, yw dymuniad
Y DETHOLYDD.