Chwedlau'r Aelwyd/Paid a'i Sathru

Oddi ar Wicidestun
Gweddi Plentyn Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Yn Fachgen Gwell

Paid a'i Sathru.

TRO heibio'th droed rhag rhoddi poen
I'r pryfyn lleiaf sydd
Yn dysgwyl fel dy hun wrth Dduw,
Am damaid nos a dydd.

Fe edrych Ef o'r nefoedd fry,
Yn dirion ar y llawr,
Er gwneuthur â'i ddeheulaw gref
Y pryfyn bach neu fawr.

Fath ryfyg i ti yn dy ddrwg
Roi i'r peth bychan friw,
Neu ddwyn oddiarno'r einioes roed
Er mwyniant gan ei Dduw.


Ymdrecha fod, fy mhlentyn hoff,
Yn dirion at bob rhyw ;
Can's cas gan Dduw y creulon un,
Ni chaiff ddod ato i fyw.