Chwedlau'r Aelwyd/Y Bachgen Dall
← Bachgen nad ydoedd yn hoffi ei Gyflog | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
→ |
Pont y Gwr Drwg (Devil's Bridge).
MEWN lle yn Ngheredigion y mae afon wyllt yn rhuthro trwy agoriad cul mewn craig fawr; uwchlaw iddi y mae pont arw, a elwir Pont y Gŵr Drwg. Y mae'r golygfeydd yn y llecyn hwn yn wyllt â rhamantus neillduol. Wrth sefyll ar y bont haiarn a godwyd uwchlaw y bont yr ydym yn son am dani, ac edrych i lawr i'r gwaelod, a gwel'd yr afon yn rhuthro ac yn ewynu wrth ymwasgu trwy y fynedfa gul, ac yna yn disgyn o'r naill graig i'r llall nes cyrhaedd y gwaelod, anmhosibl i'r edrychydd beidio cael ei daro gan arucheledd yr olygfa.
Yr oedd yr "hen bobl" yn ofergoelus iawn. Credent bob math o ffolinebau anhygoel bron. Yn mhlith pethau ereill, dywedent mai y diafol a adeiladodd y bont isaf dros yr afon hon. Wrth gwrs, ni chredid y fath ffolineb yn bresenol. Gŵyr pob plentyn erbyn hyn nad oedd a wnelai Satan a'r bont hon mwy nag â rhyw bont arall,
Ond y mae Satan, er hyny, yn gwneyd pontydd. Ond y mae yr holl bontydd wneir ganddo yn dwyllodrus fel ei holl weithredoedd ef, a gwae y bachgen neu y lodes a'u croesant: gallant, y mae'n wir, eu harwain dros y dyryswch ag y byddont ynddo, ond dygant hwy yn y diwedd i gywilydd athrallod. Gadewch i ni ystyried rhai o henynt.
Y mae Hugh yn chwareu ar ei ffordd i'r ysgol nes y mae haner awr dros yr amser; y mae arno ofn y meistr a'r gospedigaeth sydd yn ei aros; ac fel y mae yn ystyried pa beth i'w wneyd, y mae Satan, ag sydd bob amser yn ymyl, yn gwneyd pont i Hugh—pont o gelwydd—a dyweda wrth y meistr "mai ei dad a'i hanfonodd ar neges."
Y mae Jane yn gafael mewn peth na ddylasai; yn fuan clywir swn uchel, y mae y gwydr neu y gwpan yn deilchion. Ofna y canlyniadau, ac yn lle cyffesu ei bai ar unwaith fel lodes dda, ceisia guddio ei phechod. Gwna Satan bont iddi a'i galluoga i fyn'd dros ei dyryswch; ac yna y mae yn casglu y darnau ac yn eu gosod wrth eu gilydd yn ofalus nes yr edrycha y llestr yn gyfan, doda yn ei le a gadawa i rhywun arall afaelyd ynddo yn ddifeddwl, a chael y bai am ei dori hefyd.
Fy nghyfeillion ieuangc, cofiwch mai pontydd y diafol ydyw pob math o dwyll ac anwiredd. Gwir y gallant eich cynorthwyo ar y pryd i fyn'd dros y dyryswch; ond yn y diwedd, arweiniant i ganlyniadau ofnadwy.