Chwedlau'r Aelwyd/Y Cwmwl Diog
← Dymuniad Plentyn | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Y Pwrs Aur → |
Y Cwmwl Diog.
Y BACHGEN.
"MAM, hoffwn fod yn gwmwl glân,
I nofio yn yr awyr fry;
Ymddengys mor ysgafn a goleu a llon,
Heb un wers i'w dysgu, na dychryn y ffon,
Ond chwareu oddiamgylch y flwyddyn yn gron,
Ar feusydd yr wybren yn hy'.
Daw i'r gorllewin yn yr hwyr,
Ac yno cwrdd â'r haul,
Fe rydd ei wisg oreu am dano'n y fan,
Yn felyn fel aur, ac yn goch fel y tân;
Ymddengys yn hapus a difyr ei ran,
Heb ofal, na thafferth, na thraul."
Y FAM.
"Dy nôd, fy mhlentyn, yw cael byw
Yn ddiog gwmwl uwch y byd;
Ond cofia, er nad yw ei oes ef yn faith,
Mae ganddo ei orchwyl, a gwna ei holl waith;
A dysg y wers hon i ti ar dy daith,—
Bydd ddiwyd a diddrwg o hyd.
Mae'n hofian fry, fy mhlentyn mwyn,
Gan ddiwyd weithio bob rhyw awr:
I'r teithiwr blinderus yn mhoethder y dydd
Ei gysgod caredig yn noddfa a fydd;
Neu ar y tir sychllyd fe ddisgyn yn rhydd
Yn ffrwythlon gawodydd i lawr.
Y cwmwl hardd, fy mhlentyn hoff,
Yn wŷn ei liw uwchlaw y byd;
Ac yn yr hwyr welir mewn gwisg mwy rhagorol,
Yn borphor ei liw, a'i wenau yn siriol,
Nid yw ei holl wychder, fy mab, ond benthyciol,
Yr haul yw ei harddwch o hyd.
Bydd dithau fyw, fy mhlentyn hoff,
Yn ddiwyd fel y cwmwl glân ;
Yn lloni'r trallodus âth nefol brydferthwch,
Tra'n teithio tua'i gartref trwy'r dyrys anialwch
Gweithredoedd o gariad heb ddianwadalwch,
Fo'th fuchedd er siampl i'r gwan.
Cydnebydd pawb, fy mhlentyn hoff,
Pwy wnaeth y goleu gwmwl can ;
Yn eglur fel hyny y byddo i'w ganfod
Dy santaidd oleuni mewn byd llawn o bechod,
Nes yn dy ofn duwiol y gellir adnabod,
Y nefol ogoniant mewn rhan.
A phan y byddi, blentyn hoff,
Yn nesu tua'r tywyll fedd,
Dy ran y pryd hyny a fyddo y gwychder
A ddyry yr Iesu, 'Haul y Cyfiawnder,'
I'r oll o'i blant ffyddlon yn nydd eu cyfyngder,
Cyn gorphwys o honynt mewn hedd.