Chwedlau'r Aelwyd/Y Dewr a'r Llwfr
← Y Tri Dyrnaid Yd | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Y Copyn a'r Pryf → |
Y Dewr a'r Llwfr.
Dygwyddodd unwaith i ddau fachgen mewn ysgol ddyddiol, o'r enw John a Joseph, ymrafaelio â'u gilydd, pryd y darfu i'r rhai gwaethaf o'u cydysgolorion wneud eu goreu i gael ganddynt ymladd. Yr oedd John yn barod i dynu ei siaced yn y fan; ond ni wnai Joseph ymladd ar un cyfrif.
Clywodd yr Athraw am y dygwyddiad, a galwodd ato y cyntaf, ac meddai wrtho, "John, pa reswm a ellwch chwi roddi dros fod eisieu ymladd a Joseph?"
Atebai John, "Am y bydd i'r plant fy ngalw yn gachgi os gwrthodaf."
"O, ai ê— gwell genych felly wneyd yr hyn sydd o'i le, na chael eich galw yn gachgi? John, yr wyf yn cywilyddio drosoch."
Yna galwodd yr Athraw ar y llall, ac meddai wrtho, "Joseph, pa reswm a ellwch chwi roddi dios wrthod ymladd â John?" "Mae genyf lawer o resymau, syr," oedd yr ateb.
"Gadewch i mi eu clywed, fel y gallwyf farnu eu teilyngdod," meddai yr Athraw.
"Yn y lle cyntaf, syr, pe byddai i mi ymladd â John, byddwn yn siwr o wneud niwed iddo, a byddai hyny yn ofidus iawn i fy meddwl."
"Da iawn," meddai yr Athraw.
"Yn y lle nesaf, syr, os na lwyddwn i wneud niwed iddo ef, yna byddai ef yn siwr o wneud niwed i mi."
"Y mae hyny yn sicr," meddai yr Athraw.
"A pheth arall, syr, gwell genyf gael fy ngalw yn gachgi, na gwneud yr hyn y tystia fy nghydwybod ei fod o'i le."
"Da iawn eto," meddai yr Athraw.
"Ac yn olaf, syr, byddai ymladd â'n gilydd nid yn unig yn groes i reolau yr ysgol, ond hefyd i orchymyn ein Harglwydd, yr hwn a'n dysgodd i faddeu ac i garu ein gilydd. Ac i'r un pwrpas y mae y testyn a glywais boreu Sabboth diweddaf,— "Tyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a liefain, a chabledd, gyda phob drygioni. A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i'ch gilydd, megys y maddeuodd Duw er mwyn Cristi chwithau."(Eph.iv. 31, 32.) Canmolai yr Athraw Joseph am ei atebion synwyrol, a gobeithiai y byddai iddo ymddwyn ar bob achlysur yn unol a'i egwyddorion; ac ychwanegai, "Yn ol fy marn i, yr ydych wedi amlygu mwy o wroldeb trwy wrthod ymladd, nag a fuasech trwy wneud felly, er i chwi fod yn orchfygwr."
Dygwyddodd yn ddamweiniol, ymhen oddeutu wythnos ar ol hyn, i fwthyn yr hen Farged Jenkins fyned ar dân. Llwyddodd yr hen wraig i ffoi o'r tŷ, a digwyddodd fod ei merch oddicartref ar y pryd; ond tra yr oedd y tân yn prysur gau oddeutu y grisiau, cofiwyd fod ei hwyres fechan yn y gwely yn y llofft. Yr oedd amryw o blant yr ysgol yn bresenol ar y pryd: anturiodd un o honynt i fyny y grisiau, er gwaethaf y mwg a'r tân, a gollyngodd y plentyn i lawr drwy y ffenestr i freichiau dyn a gafai i'w dderbyn, ac yna llwyddodd i ddyfod yn ol yn ddiogel ei hunan.
Ond pwy a allai y bachgen hwn fod, a amlygodd y fath wroldeb, ac a achubodd fywyd y plentyn? Ai John ddewr ydoedd, yr hwn oedd mor barod i ymladd? Nagê, eithr Joseph, yr hwn a alwyd gan lawer yn gachgi. Mynwesai pawb o hyn allan feddyliau uchel am dano, ac ni amheuwyd ei wroldeb byth mwyach. Y dydd canlynol aeth rhai o fechgyn yr ysgol i ymdrochi yn yr afon, ac yn eu plith yr oedd John a Joseph. Cyn bod o honynt yn hir yn y dwfr, aeth John i le dwfn, a chan na allai nofio, diamheu mai boddi a wnaethai, oni bai i Joseph, yr hwn oedd yn nofiwr da, neidio i mewn i'w achub. Gafaelodd yn mraich ei gyfaill, a thynodd ef allan yn ddioed.
Os bu i Joseph amlygu gwroldeb canmoladwy yn amgylchiad y tân, wele brawf adnewyddol o hyn i feddyliau ei gymdeithion yn ngwaredigaeth ei gyfaill rhag boddi.
Ar eu dychweliad i'r ysgol, Joseph a groesawyd a banllefau o gymeradwyaeth. Ychydig ddyddiau ar ol hyn, dywedai yr Athraw wrth gyfarch y plant, "Bydded i chwi gymeryd addysg oddiwrth ymddygiad Joseph, fel y galloch wahaniaethu rhwng gwag-ymffrost a gwir ddewrder. Y mae ef wedi ymddwyn yn deilwng trwy fyned trwy ddwfr a thân er mwyn eraill. Cofiwch mai hwnw yw y gwir ddewr, yr hwn a feiddia wneud yr hyn sydd iawn, er cael ei ddifenwi am hyny; tra y mae yr hwn a esgeulusa gyflawni yr hyn sydd yn ei le rhag ofn cael ei watwar, yn ei galon yn gachgi."