Chwedlau'r Aelwyd/Y Dyn yn y Tywyllwch

Oddi ar Wicidestun
Y Bachgen Geirwir Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Dymuniad Plentyn

Y Dyn yn y Tywyllwch.

MAB ydoedd Dafydd Evans, pregethwr Cymreig enwog, i rieni tlawd ond hynod am eu duwioldeb. Fel y cyffredin o deuluoedd Cymru, yr oeddynt yn hoff iawn o'r weddi deuluaidd. Y "ddyledswydd" a gyflawnid er pob rhwystrau. Pa mor hwyr bynag y dychwelai adref, a pha mor luddedig bynag ar ol llafur maith y dydd, yr oedd y weddi deuluaidd, fel yr allor Iuddewig gynt, "cynenid y tân bob amser." 'Doedd ryfedd fod y bwthyn tlawd hwn, lle yr oedd Duw yn trigo, yn dir sanctaidd a dedwydd iddynt.

Mae yn arferiad gan lawer o deuluoedd tylodion yn Nghymru, un ai oddiar ddybenion o gynildeb, neu ynte er llonyddwch i'r meddwl, i ddiffodd y ganwyll ar adeg y weddi hwyrol. Gwnaeth yr arferiad hwn argraff dwfn ar feddwl Dafydd pan yn ieuangc, a mynych y bu yn wrthrych ei fyfyrdod plentynaidd. Bendithiwyd yr amgylchiad gan Ysbryd Duw i'w ddwyn i roddi ei galon i'r Gwaredwr yn moreu ei oes.

Wedi i Dafydd Evans dyfu yn ddyn, daeth yn bregethwr enwog, a mynych y gwelwyd miloedd yn cyrchu i wrando arno. Gofynwyd unwaith iddo gan gyfaill,— "'Beth a'ch dygodd i deimlo gwerth eich enaid cyntaf"

A dyma ei ateb:—"Ar ol i'm tad ddarllen penod o'r Beibl gyda fy mam, yn yr hwyr, arferai bob amser ddiffodd y ganwyll, ac yna siaradai a rhywun yn y tywyllwch. A chan na chlywais neb yn siarad ag ef yn ol, ac nad oedd neb yn y tŷ pan oleuwyd y ganwyll drachefn, bum yn hir heb ddeall â phwy yr oedd yn siarad. I mi yr oedd dirgelwch mawr yn hyn. Llawer gwaith y gorweddais yn fy ngwely yn ceisio meddwl â phwy y gallai fy nhad fod yn ymddyddan, yn enwedig gan ei fod yn ymddangos mor ddedwydd ar ol darfod. Gan y gwyddwn fod fy nhad yn ddyn hynod o dduwiol, meddyliais nad allai fod dim o'i le yn yr hyn yr oedd ef yn ei wneud; felly penderfynais y gwnawn inau siarad â'r dyn yn y tywyllwch cyn myned i'r gwely. Mynych y dywedais wrthyf fy hunan, "Pwy raid fod hwnw yr wyf yn siarad âg ef yn y tywyllwch, gan nad wyf yn gweled neb nac yn clywed un llais?" Ond yr unig ateb a ellais i roddi ar y pryd oedd,— "A'r dyn hwnw yr wyf fi yn siarad yr hwn y mae fy nhad yn ymddyddan âg ef pan yn diffodd y gan wyll.) "

Deallodd Dafydd yn fuan fod yr un yr oedd ei dad yn ymddyddan âg ef yn rhywun mwy na dyn. Nid oedd yr hwn oedd yn bresenol, er yn anweledig, yn neb llai na'r Duw mawr, yr hwn a all glywed yn y tywyllwch yn gystal ag yn y goleuni.

Parhaodd Dafydd o hyn allan i ymddyddan â'r "Un yn y tywyllwch," nes gorphen ei waith ar y ddaear, a chyrhaedd o hono y lle dedwydd hwnw "lle ni raid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul, oblegyd y mae yr Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt."

Ond anwyl blentyn, a wyt TI weithiau yn siarad â'r "Dyn yn y tywyllwch?"Onid wyt ti yn meddwl ei fod yn werth siarad âg ef, ac yntau wedi marw ar y groes er mwyn i ti gael byw gydag ef dros byth? Hwyrach y dywedi, "Nis gwn pa fodd y mae i blentyn bach fel myfi gyfeillachu âg ef, yr hwn sydd mor sancfaidd ac mor fawr." Dyna reswm paham y dylit fyned at Grist ar unwaith, a dywedyd wrtho â'th holl galon, "Arglwydd, dysg imi weddio." Efe yw yr Athraw goreu, "Nac amheua er dim ei barodrwydd i'th ddysgu."