Chwedlau'r Aelwyd/Y Paun

Oddi ar Wicidestun
Sut i fod yn Ddedwydd Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Y Llew ar y Ffordd

Y Paun.

Tyr'd, tyr'd, Mr. Paun, a phaid a bod yn falch,
Er bod genyt gynffon mor frith;
Mae'th well ymhlith adar mewn doniau a pharch,
Heb haner dy hunan a'th rith.

A chofia mai rheiny i gyd, o'r bron,
Sy'n rhoddi mawr fri ar eu gwisg,
Nad ydynt yn hynod am ddim ond am hon,
Fel cneuen wag brydferth ei blisg.

Nid oes gan yr Eos ond gwisg ddigon llwyd,
Ond pa 'deryn all ganu fel ef?
Tra nad oes un Paun yn werth tamaid o fwyd,
Er rhoddi difyrwch a'i lef.


Nid oes gan yr Hebog blyf harddwych eu lliw,
Ond fe genfydd ei lygaid bob dim;
Ac er dy falch osgo, ar lawr 'rwyt ti'n byw,
Tra mae ef uwch y cwmwl yn chwim.

Mae'r golomen mewn gwisg mwy cartrefol, mae'n wir,
Ond nid yw'n hunanol fel ti:
Ei serchus ymddygiad rydd bleser mwy pur
Na ddyry gorwychder dy bly'.

'Nawr gwel, Mr. Paun, a phaid bod yn falch,
Er bod genyt gynffon mor frith;
Mae'th well ymhlith adar mewn doniau a pharch
Heb haner dy hunan a'th rith.