Chwedlau'r Aelwyd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Chwedlau'r Aelwyd
Cynnwys
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Cynnwys
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Chwedlau'r Aelwyd

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

CHWEDLAU'R AELWYD:

ER ADDYSG A DIFYRWCH

IEUENGTYD.


WREXHAM:


CYHOEDDEDIG GAN HUGHES AND SON.

AT Y DARLLENWYR.

GYFEILLION IEUAINC,

Wele lyfryn bychan wedi ei fwriadu yn bwrpasol i chwi. Yn y Chwedlau a'r Caneuon a gynwysa, amcanwyd at gyflwyno addysg a difyrwch ynghyd. Yr ydych oll yn ymwybodol o'ch hoffder o bleser; ac yn ol tystiolaeth y Beibl y mae arnoch angen addysg hefyd, obiegyd "Ffolineb sydd yn rhwym yn nghalon plentyn." Hyderir, gan hyny, y profwch fod y darlleniad o'r tudalenau canlynol yn ddeniadol a phleserus, ac yn effeithio i wrthweithio, i ryw raddau, eich gorawydd at chwareuon plentynaidd, a'ch hoffder o gwmni ac arferion llygredig; ac o feithrin yn eu lle ymlyniad at eich cartref, a phleser mewn darllen a meithrin eich meddyliau.

Chwi gewch fod y gwersi a ddysgir ynddo yn dwyn perthynas agos a'ch dedwyddwch personol, ac hefyd â chysur eich teuluoedd. O herwydd os byddwch yn blant anufydd, hunanol, gwatwarus, celwyddog, anonest, nwydwyllt, diegni, a diweddi, byddwch yn druenus eich hunain, ac yn flinder parhaus i'ch rhieni. Dyben y gwersi hyn yw dangos drygedd y cyfryw arferion, a meithrin ynoch ysbryd ac ymddygiad gwahanol.

Gan obeithio y cyrhaeddir yr amcan yna, ac y bydd y darlleniad o honynt yn fendithiol i chwi oll, yw dymuniad


Y DETHOLYDD.

CHWEDLAU YR AELWYD.

Y Tri Dyrnaid Yd.

UN diwrnod yn nechreu y flwyddyn, galwodd Gerard Steimer ei dri mab ato, Adolphus, Henry, a Bernard fychan. Yn ei law yr oedd llythyr agored. Gyda dagrau yn ei lygaid, dywedodd â llais galarus :—

"Fy mhlant, clywsoch fi yn son yn fynych am fy mrawd Bernard, yr hwn a adawodd ei gartref lawer blwyddyn yn ol, i fasnachu mewn gwlad beill

"O do," meddynt, gan edrych yn syn ar eu tad.

"Wel, fy mhlant," chwanegai, "wedi i'ch ewythr Bernard lwyddo o'r diwedd i gasglu swm helaeth o arian, penderfynodd ddychwelyd i'w bentref gen- edigol, a gwneud ei gartref gyda myfì, gan nad oes," meddai, gan sychu ei ddagrau â'i law, "ond efe a minau o deulu dedwydd o saith brawd a phum chwaer."

"A ydyw fy ewythr yn dyfod yn fuan ynte?" gofynai Henry yn fywiog.

"Dylasai fod yma cyn hyn, fy mab, ond trefnodd Rhagluniaeth ddoeth yn wahanol. Yr wyf yn ofni na chewch ei weled byth, gan fod y llythyr hwn yn fy hysbysu ei fod yn gorwedd yn glaf mewn dinas bell, ac yn erfyn arnaf ddyfod ato yn ddioed, iddo fy ngweled unwaith yn rhagor, a chael fy ngwasanaeth i drefnu ei amgylchiadau."

"A ewch chwi yno, 'nhad?" gofynai Bernard yn bryderus.

"Af yn siwr, fy mab; a chan y bydd raid i mi deithio ymhell, ac o bosibl na ddeuaf adref cyn mis Hydref, fe gymer fy nghefnder Jacob Reimmer a'i wraig ofal am y tŷ yn fy absenoldeb. Ac os cymer marwolaeth eich ewythr le, y mae yn debyg y bydd genyf lawer o bethau i ofalu am danynt."

"Hwyrach y bydd iddo wella a dyfod yn ol gyda chwi."

"Yr wyf yn ofni na chymer hyny le, oblegyd dywed yn ei lythyr fod y meddyg yn anobeithiol o'i adferiad. Yn awr, fy mhlant, gwrandewch yn astud, tra y mynegaf genadwri eich ewythr atoch chwi oddiar ei wely angau. Fe ddywed, "Rhoddwch ddyrnaid o ŷd i'ch tri phlentyn, pan yn eu gadael i ddyfod ataf, gyda gorchymyn fod i bob un ei ddefnyddio yn y dull a farno efe yn oreu; ac ar eich dychweliad gartref cewch chwithau benderfynu pa un o'r tri a wnaeth y defnydd goreu o hono, a hwnw a wobrwyir fel y bydd i mi drefnu. ”

* * * * * *

Dyma Hydref wedi d'od. Ac fel yr oedd Bernard fychan yn edrych trwy y ffenestr agored, prysurodd cerbyd at y drws, a daeth yr hen Gerard allan, yn dwyn blwch yn ei law.

"O dyna 'nhad, dyna 'nhad," gwaeddai y bachgen.

Yna y tri phlentyn a redent allan ac a'i cofleidient yn eu breichiau.

"O, 'nhad, yr ydym yn hoff o'ch gweled, wedi i chwi fod mor hir i ffwrdd."

"Yr ydwyf finau yn falch o'ch gweled chwithau, fy mhlant, ac oll yn ymdJangos mor iach," meddai yr hen wr, gan blygu i roddi cusan i bob un.

Yna daeth ei gefnder, Jacob Reimmer, a'i wraig ymlaen i'w groesawu; a gofynodd y tad ynghylch ymddygiad y plant yn ei absenoldeb,

"Yn wir, y maent wedi bod yn blant pur dda," atebai yntau. Yna aethant olli'r tŷ. Rhoddodd Gerard Steimer y blwch o'i law ar y bwrdd; ac wedi cymeryd agoriad o'i locell ac agor y blwch, tynodd allan ewyllys ddiweddaf ei frawd Bernard Steimer.

Edrychai pawb yn drist ar yr hen wr pan oedd yn ei hagor. Yna dywedodd wrthynt:—

"Cefais yr hyfrydwch galarus, fy anwyl blant, o weled eich ewythr yn marw mewn tangnefedd, ac o osod ei weddillion marwol i orphwys yn y bedd. Yn yr ewyllys hon, gadawodd ei holl eiddo i'r un, yn ol fy marn i, a wnaeth y defnydd goreu o'r dyrnaid ŷd a roddais iddo cyn myned oddicartref, Yn awr, gadewch i mi glywed pa ddefnydd a wnaethoch o hono.

"Yr ydwyf fi,"meddai Adolphus, "wedi cadw fy un i yn ddyogel. Rhoddais ef yn ofalus mewn blwch pren mewn lle sych; y mae mor werthfawr heddyw â'r dydd y rhoisoch chwi ef i mi."

Atebodd ei dad ef â llais sarug, "Fy mab, ti a gedwaist y grawn heb ei ddefnyddio, a pha beth a enillaist? Dim. Felly y mae gyda chyfoeth. Trysorwch ef, ac ni ddyry nac elw na phleser. Tithau, Henry, pa beth a wnaethost ti â'r dyrnaid grawn?"

"Wedi i mi ei falu yn flawd, mi a'i gwneuthum yn deisen felus, yr hon a fwytëais." "Y bachgen ynfyd,"meddai y tad, ar ol munud o fwynhad dyna ddarfod am dano. Felly yn gymhwys y mae gydag arian. Treuliwch hwynt ar bleserau, nid yw y rhai hyny ond darfodedig."

Trôdd yr hen Gerard ar hyn at ei fab ieuengaf, a chan ei gymeryd yn nês ato gofynai, "Ond beth a wnaeth Bernard fychan â'r dyrnaid ŷd a roddais iddo?"

Y plentyn dan wenu a gymerodd law ei dad yn ei law ei hun, ac a ddywedodd wrtho, "Deuwch gyda mi, a dangosaf i chwi."

Aethant oll gydag ef, y bachgen yn gyntaf a hwythau yn canlyn, tuag un o feusydd ei dad.

"Dyma yr hyn a ddaeth o'm dyrnaid ŷd i fy nhad,"meddai y bachgen siriol, gan gyfeirio â'i fys at gongl o'r cae, lle y tyfai darn o ŷd, ei welltyn hir a gwanaidd yn toni yn brydferth dan bwysau y dywysen aeddfed.

Ar hyn gwenai yr hen Gerard yn foddhaol, a chan roddi ei law ar ben Bernard, dywedodd wrtho, "Darfu i ti ymddwyn yn ddoeth, fy mab. Tydi a hauaist y grawn yn y ddaear, a chefaist ffrwyth toreithiog; tydi, gan hyny, a enillaist gyfoeth dy ewythr. Bydd mor ddoeth gyda hwn ag y buost gyda'r dyrnaid ŷd. Paid a'i gadw yn ddiddefnydd, a phaid ychwaith a'i wario yn unig er dy bleser. Eithr cyfrana i'r tlawd, i'r weddw a'r amddifad, ac i rai bychain Crist, ac Efe a'th wobrwya yn helaeth."

Y Dewr a'r Llwfr.

Dygwyddodd unwaith i ddau fachgen mewn ysgol ddyddiol, o'r enw John a Joseph, ymrafaelio â'u gilydd, pryd y darfu i'r rhai gwaethaf o'u cydysgolorion wneud eu goreu i gael ganddynt ymladd. Yr oedd John yn barod i dynu ei siaced yn y fan; ond ni wnai Joseph ymladd ar un cyfrif.

Clywodd yr Athraw am y dygwyddiad, a galwodd ato y cyntaf, ac meddai wrtho, "John, pa reswm a ellwch chwi roddi dros fod eisieu ymladd a Joseph?"

Atebai John, "Am y bydd i'r plant fy ngalw yn gachgi os gwrthodaf."

"O, ai ê— gwell genych felly wneyd yr hyn sydd o'i le, na chael eich galw yn gachgi? John, yr wyf yn cywilyddio drosoch."

Yna galwodd yr Athraw ar y llall, ac meddai wrtho, "Joseph, pa reswm a ellwch chwi roddi dios wrthod ymladd â John?" "Mae genyf lawer o resymau, syr," oedd yr ateb.

"Gadewch i mi eu clywed, fel y gallwyf farnu eu teilyngdod," meddai yr Athraw.

"Yn y lle cyntaf, syr, pe byddai i mi ymladd â John, byddwn yn siwr o wneud niwed iddo, a byddai hyny yn ofidus iawn i fy meddwl."

"Da iawn," meddai yr Athraw.

"Yn y lle nesaf, syr, os na lwyddwn i wneud niwed iddo ef, yna byddai ef yn siwr o wneud niwed i mi."

"Y mae hyny yn sicr," meddai yr Athraw.

"A pheth arall, syr, gwell genyf gael fy ngalw yn gachgi, na gwneud yr hyn y tystia fy nghydwybod ei fod o'i le."

"Da iawn eto," meddai yr Athraw.

"Ac yn olaf, syr, byddai ymladd â'n gilydd nid yn unig yn groes i reolau yr ysgol, ond hefyd i orchymyn ein Harglwydd, yr hwn a'n dysgodd i faddeu ac i garu ein gilydd. Ac i'r un pwrpas y mae y testyn a glywais boreu Sabboth diweddaf,— "Tyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a liefain, a chabledd, gyda phob drygioni. A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i'ch gilydd, megys y maddeuodd Duw er mwyn Cristi chwithau."(Eph.iv. 31, 32.) Canmolai yr Athraw Joseph am ei atebion synwyrol, a gobeithiai y byddai iddo ymddwyn ar bob achlysur yn unol a'i egwyddorion; ac ychwanegai, "Yn ol fy marn i, yr ydych wedi amlygu mwy o wroldeb trwy wrthod ymladd, nag a fuasech trwy wneud felly, er i chwi fod yn orchfygwr."

Dygwyddodd yn ddamweiniol, ymhen oddeutu wythnos ar ol hyn, i fwthyn yr hen Farged Jenkins fyned ar dân. Llwyddodd yr hen wraig i ffoi o'r tŷ, a digwyddodd fod ei merch oddicartref ar y pryd; ond tra yr oedd y tân yn prysur gau oddeutu y grisiau, cofiwyd fod ei hwyres fechan yn y gwely yn y llofft. Yr oedd amryw o blant yr ysgol yn bresenol ar y pryd: anturiodd un o honynt i fyny y grisiau, er gwaethaf y mwg a'r tân, a gollyngodd y plentyn i lawr drwy y ffenestr i freichiau dyn a gafai i'w dderbyn, ac yna llwyddodd i ddyfod yn ol yn ddiogel ei hunan.

Ond pwy a allai y bachgen hwn fod, a amlygodd y fath wroldeb, ac a achubodd fywyd y plentyn? Ai John ddewr ydoedd, yr hwn oedd mor barod i ymladd? Nagê, eithr Joseph, yr hwn a alwyd gan lawer yn gachgi. Mynwesai pawb o hyn allan feddyliau uchel am dano, ac ni amheuwyd ei wroldeb byth mwyach. Y dydd canlynol aeth rhai o fechgyn yr ysgol i ymdrochi yn yr afon, ac yn eu plith yr oedd John a Joseph. Cyn bod o honynt yn hir yn y dwfr, aeth John i le dwfn, a chan na allai nofio, diamheu mai boddi a wnaethai, oni bai i Joseph, yr hwn oedd yn nofiwr da, neidio i mewn i'w achub. Gafaelodd yn mraich ei gyfaill, a thynodd ef allan yn ddioed.

Os bu i Joseph amlygu gwroldeb canmoladwy yn amgylchiad y tân, wele brawf adnewyddol o hyn i feddyliau ei gymdeithion yn ngwaredigaeth ei gyfaill rhag boddi.

Ar eu dychweliad i'r ysgol, Joseph a groesawyd a banllefau o gymeradwyaeth. Ychydig ddyddiau ar ol hyn, dywedai yr Athraw wrth gyfarch y plant, "Bydded i chwi gymeryd addysg oddiwrth ymddygiad Joseph, fel y galloch wahaniaethu rhwng gwag-ymffrost a gwir ddewrder. Y mae ef wedi ymddwyn yn deilwng trwy fyned trwy ddwfr a thân er mwyn eraill. Cofiwch mai hwnw yw y gwir ddewr, yr hwn a feiddia wneud yr hyn sydd iawn, er cael ei ddifenwi am hyny; tra y mae yr hwn a esgeulusa gyflawni yr hyn sydd yn ei le rhag

ofn cael ei watwar, yn ei galon yn gachgi."

Y Copyn a'r Pryf.

"A ddoi di mewn i'm parlwr i?"
'Be'r copyn wrth y pry';
"Hwn yw yr harddaf le, rwy'n siwr,
Erioed a welaist ti;
Mae'r grisiau harddwych yma sydd
Yn arwain iddo'n syth,
Ac ynddo'r pethau gwychaf geir,
A welir genyt byth."
"Na ddeuaf fi," atebai'r pry',
"Hyn fyddai'n weithred ffol,
Can's os i fynu'r grisiau'r awn,
Ni ddeuwn byth yn ol."

"Rhaid bellach" meddai'r copyn call
"Dy fod yn teimlo'n flin,
Wrth 'hedeg ar ddiorphwys daith,
Mewn uchel le fel hyn.
Tyr'd ar fy ngwely i gysgu, ffrynd,
Gwnaf di yn gynes glyd;
O'i gylch mae lleni sidan hardd,
Mae'r glanaf le'n y byd."
"Na ddeuaf fi," atebai'r pry',
"Can's clywais rhai yn dweud,
Mai marwol gwsg yw rhan y rhai
O fewn dy wely geid."


"Mae arnat eisieu bwyd rwy'n siwr,"
'Be'r copyn wrth y pry';
"Tyr'd fro i mewn am damaid, tyr'd,
Mae digon yn fy nhy;
Mae pob danteithion yma wrth law,
A dysglau maethlon mad;
Os gweli'n dda droi mewn yn awr,
Rho'f damaid iti'n rhad."
"Na ddeuaf fi,"atebai'r pry',
"Er llyfned ydyw'th iaith,
I mewn ni ddeuaf i dy dŷ,
Ni cheisiaf damaid chwaith."

"Yr wyt dros ben o'r hardd yn wir,"
'Be'r copyn wrth y pry';
"Ac O! mor ddoeth a ffraeth dy air,
Pan y siaredi di:
Fath lygaid ac adenydd gwych,
'Does arall un a fedd ;
Nid wyt yn coelio'r haner, gwn,
Am dlysni'th ffurf a'th wedd:
Mae genyf gywir ddrych o fewn,
Yn crogi ar yr hoel;
Tyr'd, gwel dy hun o'th ben i'th draed,
A'm gair gaiff genyt goel."


Ond och! mor fuan darfu'r pryf,
Wrth wrando gweniaith cas,
Anghofio'r peryg' oedd gerllaw,
Trwy swyn ei hyfryd flas.
Tra'n meddwl am ei hunan bach—
Ei lygad gloyw, byw—
A'I ffurf main taclus, gyda hyn—
A'i edyn hardd eu lliw ;
Yn ddiarwybod iddo'i hun,
Fe aeth yn nes—yn nes,
Ac yna'r copyn arno ddaeth—
Am dano rhodd ei drês.

I fynu'r grisiau llusgo wnaeth,
I'w gell y truan ffol,
A byth ni ddaeth y pryfyn bach
Oddiyno i lawr yn ol.
'Nawr cym'rwch addysg, ie'ngtyd hoff
Oddiwrth y chwedl hon,
Yn erbyn gweniaith ceuwch byth
Eich llygaid, clust, a'ch bron.
Ar bleser gau, a medd'dod brwnt
Sydd am eich hudo chwi,
Trowch gefn o hyd a chofiwch am
Y copyn gyda'r pry'.

Oddiuchod y Daeth.

Yn oedd yn byw yn Ffrainc ar un adeg fachgen tlawd, yr hwn a adwaenid wrth yr enw Pedr fychan, Bachgen amddifad ydoedd, ac enillai ei damaid drwy gardota o dŷ i dŷ. Medrai ganu yn hynod felus, ac anfynych y danfonid ef oddiwrth ddrws neb yn waglaw. Bywyd diog ac annifyr ydoedd yr eiddo ef ar y goreu, ond nid oedd gan Pedr druan neb i ofalu am dano, ac nis gwyddai beth a allai wneud yn amgen. Arferai ddweud ar bob amgylchiad, "Oddiuchod y daeth." Ac yn awr yr wyf am adrodd i chwi paham y dywedai felly.

Pan oedd ei dad ar ei wely angau (os oedd gan- ddo wely hefyd, oblegyd yr oedd yn hynod o dlawd) fe ddywedodd wrth ei fab, "Pedr anwyl, yr wyf yn awr yn dy adael dy hunan, a byddi yn siwr o gyfarfod â llawer o drafferthion yn y byd. Ond os bydd i ti gofio ar bob amgylchiad fod pob peth a'th gyferfydd yn dyfod oddiuchod, bydd yn help mawr i ti ddyoddef y cwbl yn amyneddgar."

Pedr a ddeallodd ei feddwl—a mynych yr adroddai eiriau ei dad â'i leferydd, er mwyn eu hargraffu ar ei gôf. Ar dderbyniad pob rhodd dywedai, "Oddiuchod y daeth." Fel yr oedd yn cynyddu mewn maintioli, myfyriai yn fynych uwchben y geiriau. Yr oedd yn ddigon doeth i ganfod, yn gymaint a bod Duw yn llywodraethu y byd, fod genym y seiliau cryfaf i gredu am bob peth a gymer le yn ffordd ei ragluniaeth mai "Oddiuchod y daeth."

Profai y ffydd hon o eiddo Pedr yn fantais iddo yn fynych. Unwaith, pan oedd yn myned trwy y dref, chwythwyd llech oddiar dô gan awel ddisymwth o wynt, yr hon a syrthiodd ar ei ysgwydd, ac a'i tarawodd i lawr. Y geiriau cyntaf a ddywedodd oeddynt, "Oddiuchod y daeth. "Y rhai a safent gerllaw, heb wybod paham y dywedai felly, a dyblent ei fod wedi colli ei synwyrau, gan y gwyddent nas gallai y llech syrthio oddi isod. Y funud nesaf chwythwyd tô cyfan oddiar dŷ yn yr un heol, yr hwn a syrthiodd ar dri o ddynion, ac a'u lladdodd yn y fan. Y tebygolrwydd ydyw pe buasai Pedr wedi myned yn ei flaen yn ddirwystr, y buasai wedi cyrhaedd y fan ar yr adeg y syrthiodd y tô.

Dro arall, cyflogwyd ef gan wr bonheddig i gario llythyr drosto i ryw dref, gyda gorchymyn fod iddo wneud y brys mwyaf. Ar y ffordd, gwnaeth ymgais i neidio dros ffos lydan, ond methodd yn ei amcan—syrthiodd iddi, a bu agos a boddi. Collwyd y llythyr yn y llaid, a methwyd ei adferu. Pan adroddodd Pedr y dygwyddiad wrth y boneddwr, "ymgynddeiriogodd i'r fath raddau nes cymeryd chwip ato â'i yru o'r tŷ. Ond pan ar y rhiniog, dywedai Pedr, "Oddiuchod y daeth." Y dydd canlynol y boneddwr a ddanfonodd am dano. "Dowch yma," meddai, "dyma bum swllt i chwi am syrthio i'r ffos... Mae amgylchiadau wedi cyfnewid cymaint erbyn hyn, fel y buasai yn golled ddirfawr i mi pe buasai y llythyr wedi ei gymeryd yn ddyogel."

Byddai yn hawdd adrodd llawer yn rhagor yn nghylch Pedr. Gelwid ef Pedr fychan wedi tyfu o hono yn llanc. Anfonodd boneddwr Seisnig, yr hwn a ymwelodd â'r dref, am dano, gyda'r bwriad o roddi anrheg iddo. Pan aeth Pedr i'w wyddfod, gofynodd iddo, "Beth wnaeth i mi ddanfon am danoch, debygech chwi, Pedr?"

"Oddiuchod y daeth, syr," meddai Pedr,

Boddhawyd y boneddwr yn fawr yn yr atebiad. Wedi ystyried o hono am beth amser, dywedodd wrtho, "Yr ydych yn dweud y gwir, Pedr, canys yr wyf wedi penderfynu yn awr eich cymeryd chwi i fy ngwasanaeth, a gwneud darpariaeth ar eich cyfer. A ydych chwi yn foddlon i hyn ?"

"Oddiuchod y daeth, syr," atebai Pedr. "Mae Duw yn dirion iawn o honof; mi a ddeuaf gyda chwi yn ewyllysgar."

Cymerodd y Sais ef ymaith. I'r bachgen, druan, gan yr hwn nid oedd yr un grefft, yr oedd yn ddygwyddiad ffodus dros ben. Clywsom ymhen amser maith ar ol hyn fod ei feistr wedi marw, ac wedi gadael iddo swm mawr o arian i gario ei fasnach yn mlaen, a bod "Pedr fychan" yn wr cyfoethog yn byw yn Birmingham. Parhaodd i ddweud mewn perthynas i bob amgylchiad, "Oddiuchod y daeth."

Wil a'r Pren Afalau.

DAN hen bren afalau, yn llwythog o rawn,
Eisteddai Wil fach yn yr ardd un prydnawn;
'R afalau mawr boch-goch gynhyrfent ei chwart,
Ond ofnai eu cyffwrdd a llaw nag a dant.

Nis gwn pa'm gorchymynodd fy nhad heddyw im',
"Paid, Wil, a chymeryd un afal er dim."
A phan y gofynais am un wrth ei law,
Gomeddodd yn bendant, gan ateb, "Taw, taw."


Yn awr dyma afal bach aeddfed a chrwn,
Sut y gwyddai fy nhad, pe cymerwn i hwn?
Mae canoedd ar ganoedd yngrhog ar y pren,
A mae hwn, 'rwy'n siwr, yn un melys dros ben.

Estynodd law ato, ond clywodd rhyw lais
Mwyn, trist, yn ei gyfarch er atal ei gais;
Swn telyn fach ydoedd yn nghudd tan ei fron,
A chwareu 'roedd angel cydwybod ar hon.

Ac fe ganodd yn eglur, — " Wil bach yn awr clyw,
Er myn'd o'th dad ymaith, fe'th welir gan Dduw;
A beth pe dywedai am danat yn'r ardd,
Y bachgen hwn ddygodd yr afal bach hardd!"

Ar hyn aeth "Wil ymaith tua'r ty yn ddioed,
I'r llofft aeth mor lonydd na chly wyd swn troed;
Gweddiai, — " maddeu, ti Lywydd y nen,
Ac os gweli yn dda na dd'wed uwch fy mhen,
'Bu agos i Wil gym'ryd afal o'r pren.' "

Hanes Celwydd.

"Melys gan wr fara trwy ffalsedd; ond o'r diwedd ei enau a lenwir a graian." — Diar. xx. 17.

NID oedd Betsy ond geneth ieuanc. Un boreu, tra y safai o flaen y drych yn pinio rhosyn ar ei dwyfron, galwyd hi gan ei mam i gymeryd gofal y baban. Ufuddhaodd yn dra hwyrfrydig, gan fod ei bryd ar fyned i'r ardd i chwareu.

Dywedodd ei mam wrthi am eistedd yn ei chadair fechan, yna gosododd y plentyn yn ofalus ar ei glin, ac aeth allan o'r ystafell. Darfu i'r rhosyn coch ddenu sylw yr un bychan yn y funud, a chyn y gallai ei chwaer ddweud "Peidiwch," yr oedd wedi gafael ynddo a'i law, a'r rhosyn wedi ei lwyr ddyfetha. Cynhyrfodd Betsy gymaint nes y tarawodd ef yn lled arw. Ac yntau, fel y gwna pob plentyn, a waeddodd a'i holl egni. Ar hyn daeth y fam i mewn i wybod beth oedd wedi dygwydd i'r baban. Yna Betsy, er achub ei hun rhag cosb, a ddywedodd mai ei brawd Benjamin, yr hwn oedd yn chwareu yn yr ystafell, oedd wedi ei daraw a'i holl nerth. A Benjamin, druan, er tystio ei ddiniweidrwydd yn y modd mwyaf pendant, a dderbyniodd y gosb yr oedd Betsy yn ei haeddu mor gyfiawn. Cyn hir aeth Betsy i'r ysgol; ond teimlai yn eithaf annedwydd.

Y noson hono, wedi myned o honi i'r gwely i orphwys, methai yn glir a chysgu, gan feddwl am y pechod a gyflawnodd yn erbyn ei brawd, a mwy na hyny yn erbyn Duw. Penderfynodd yn ei meddwl y cyffesai y cyfan wrth ei mam boreu dranoeth. Y boreu a ddaeth, ond teimlai fel pe buasai ei gwddf mor llawn, fel nas gallai siarad. Methai a gwneud ei meddwl i fyny i gyffesu; a rhywfodd nid oedd y bai erbyn hyn yn ymddangos mor fawr a'r noson o'r blaen. "Nid oedd fawr o beth wedi'r cwbl," meddai ei chalon ynfyd. Fel yr oedd y naill ddiwrnod ar ol y liall yn myned heibio, teimlai Betsy fod y baich yn myned lai, lai; ac ond am y dygwyddiad galarusa ganlyn, gallasai, yn ngwyneb temtasiwn gyffelyb, fod wedi syrthio i'r un bai eilwaith. Un boreu, ar ei dychweliad o'r ysgol, cafodd fod ei brawd Benjamin wedi ei gymeryd yn glaf gan ddolur tost yn ei wddf. Clafychodd y boreu, parhaodd i waethygu, a'r noson ganlynol bu farw.

Druan oedd Betsy! yr oedd ar dori ei chalon gan ofid. Gwnaeth cyfeillion tirion eu goreu i'w chysuro. "Cofia," meddynt, "ei fod yn awr yn ddedwydd. Mae wedi myned i'r nefoedd i fyw gyda'r Gwaredwr, yr hwn sydd mor hoff o blant, ac er na ddaw ef yn ol atat ti, fe gei di fyned ato ef, os byddi yn eneth dda."

"O," meddai y plentyn truan, "nid wyf yn wylo am fyned o hono i'r nefoedd, ond am i mi ddweud celwydd arno, a'i fod ef wedi dyoddef y gosp yr oeddwn i yn ei haeddu." Ac am amser maith ni fynai ei chysuro.

Mae rhai blynyddau wedi myned heibio bellach, ac erbyn hyn y mae Betsy wedi tyfu i fyny. Ond y mae adgof y celwydd hwnw yn blino ei chydwybod o hyd. Ni chymerodd ond munudi'w gyflawni, ond nid yw blynyddoedd wedi dileu y cywilydd a'r tristwch a'i canlynodd.

O Arglwydd Dduw, bendithia fi,
A chalon bur, yn moreu f'oes,
Ac ysbryd unplyg, gonest, dewr,
Er dweud y gwir i godi'r groes.

Y Bachgen Geirwir.

'Roedd unwaith fachgen hardd ei wedd,
Modrwyog wallt, a llygaid glas,
'R hwn beunydd ddwedai'r gonest wir,
Ac ni arferai gelwydd cas.
Y plant a ddywedent yn unfryd,
Pan welent ef yn myn'd trwy'r llan,
"O dacw'r bachgen enwog un,
Na ddywed gelwydd yn un man."

Ei glod a draethid ar bob llaw,
Gan ei gydnabod trwy y tir;
A dywedent fel y tyfai'n fwy,
Hwn yw y llanc sy'n dweyd y gwir,
Os myni dithau, blentyn hoff,
Gael parch, rhaid i ti gofio byw,
Mewn meddwl, gair, a gweithred bur,
Yn eirwir ger bron dyn a Duw.

Y Dyn yn y Tywyllwch.

MAB ydoedd Dafydd Evans, pregethwr Cymreig enwog, i rieni tlawd ond hynod am eu duwioldeb. Fel y cyffredin o deuluoedd Cymru, yr oeddynt yn hoff iawn o'r weddi deuluaidd. Y "ddyledswydd" a gyflawnid er pob rhwystrau. Pa mor hwyr bynag y dychwelai adref, a pha mor luddedig bynag ar ol llafur maith y dydd, yr oedd y weddi deuluaidd, fel yr allor Iuddewig gynt, "cynenid y tân bob amser." 'Doedd ryfedd fod y bwthyn tlawd hwn, lle yr oedd Duw yn trigo, yn dir sanctaidd a dedwydd iddynt.

Mae yn arferiad gan lawer o deuluoedd tylodion yn Nghymru, un ai oddiar ddybenion o gynildeb, neu ynte er llonyddwch i'r meddwl, i ddiffodd y ganwyll ar adeg y weddi hwyrol. Gwnaeth yr arferiad hwn argraff dwfn ar feddwl Dafydd pan yn ieuangc, a mynych y bu yn wrthrych ei fyfyrdod plentynaidd. Bendithiwyd yr amgylchiad gan Ysbryd Duw i'w ddwyn i roddi ei galon i'r Gwaredwr yn moreu ei oes.

Wedi i Dafydd Evans dyfu yn ddyn, daeth yn bregethwr enwog, a mynych y gwelwyd miloedd yn cyrchu i wrando arno. Gofynwyd unwaith iddo gan gyfaill,— "'Beth a'ch dygodd i deimlo gwerth eich enaid cyntaf"

A dyma ei ateb:—"Ar ol i'm tad ddarllen penod o'r Beibl gyda fy mam, yn yr hwyr, arferai bob amser ddiffodd y ganwyll, ac yna siaradai a rhywun yn y tywyllwch. A chan na chlywais neb yn siarad ag ef yn ol, ac nad oedd neb yn y tŷ pan oleuwyd y ganwyll drachefn, bum yn hir heb ddeall â phwy yr oedd yn siarad. I mi yr oedd dirgelwch mawr yn hyn. Llawer gwaith y gorweddais yn fy ngwely yn ceisio meddwl â phwy y gallai fy nhad fod yn ymddyddan, yn enwedig gan ei fod yn ymddangos mor ddedwydd ar ol darfod. Gan y gwyddwn fod fy nhad yn ddyn hynod o dduwiol, meddyliais nad allai fod dim o'i le yn yr hyn yr oedd ef yn ei wneud; felly penderfynais y gwnawn inau siarad â'r dyn yn y tywyllwch cyn myned i'r gwely. Mynych y dywedais wrthyf fy hunan, "Pwy raid fod hwnw yr wyf yn siarad âg ef yn y tywyllwch, gan nad wyf yn gweled neb nac yn clywed un llais?" Ond yr unig ateb a ellais i roddi ar y pryd oedd,— "A'r dyn hwnw yr wyf fi yn siarad yr hwn y mae fy nhad yn ymddyddan âg ef pan yn diffodd y gan wyll.) "

Deallodd Dafydd yn fuan fod yr un yr oedd ei dad yn ymddyddan âg ef yn rhywun mwy na dyn. Nid oedd yr hwn oedd yn bresenol, er yn anweledig, yn neb llai na'r Duw mawr, yr hwn a all glywed yn y tywyllwch yn gystal ag yn y goleuni.

Parhaodd Dafydd o hyn allan i ymddyddan â'r "Un yn y tywyllwch," nes gorphen ei waith ar y ddaear, a chyrhaedd o hono y lle dedwydd hwnw "lle ni raid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul, oblegyd y mae yr Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt."

Ond anwyl blentyn, a wyt TI weithiau yn siarad â'r "Dyn yn y tywyllwch?"Onid wyt ti yn meddwl ei fod yn werth siarad âg ef, ac yntau wedi marw ar y groes er mwyn i ti gael byw gydag ef dros byth? Hwyrach y dywedi, "Nis gwn pa fodd y mae i blentyn bach fel myfi gyfeillachu âg ef, yr hwn sydd mor sancfaidd ac mor fawr." Dyna reswm paham y dylit fyned at Grist ar unwaith, a dywedyd wrtho â'th holl galon, "Arglwydd, dysg imi weddio." Efe yw yr Athraw goreu, "Nac

amheua er dim ei barodrwydd i'th ddysgu."

Dymuniad Plentyn.

"Fŷ mam," medd geneth fach ryw ddydd,
Tra angau'n gwywo'i siriol wedd;
"Na rhowch rhosynau o gylch fy ngrudd,
Pan ddodwch fi mewn dystaw fedd."

"Pa'm, fy anwylyd,"meddai'r fam,
"Does flodyn fel y rhosyn cain?"
Atebai'r forwyn fach ddinam,
"Coronwyd Iesu Grist â drain."

Y Cwmwl Diog.

Y BACHGEN.

"MAM, hoffwn fod yn gwmwl glân,
I nofio yn yr awyr fry;
Ymddengys mor ysgafn a goleu a llon,
Heb un wers i'w dysgu, na dychryn y ffon,
Ond chwareu oddiamgylch y flwyddyn yn gron,
Ar feusydd yr wybren yn hy'.


Daw i'r gorllewin yn yr hwyr,
Ac yno cwrdd â'r haul,
Fe rydd ei wisg oreu am dano'n y fan,
Yn felyn fel aur, ac yn goch fel y tân;
Ymddengys yn hapus a difyr ei ran,
Heb ofal, na thafferth, na thraul."


Y FAM.

"Dy nôd, fy mhlentyn, yw cael byw
Yn ddiog gwmwl uwch y byd;
Ond cofia, er nad yw ei oes ef yn faith,
Mae ganddo ei orchwyl, a gwna ei holl waith;
A dysg y wers hon i ti ar dy daith,—
Bydd ddiwyd a diddrwg o hyd.

Mae'n hofian fry, fy mhlentyn mwyn,
Gan ddiwyd weithio bob rhyw awr:
I'r teithiwr blinderus yn mhoethder y dydd
Ei gysgod caredig yn noddfa a fydd;
Neu ar y tir sychllyd fe ddisgyn yn rhydd
Yn ffrwythlon gawodydd i lawr.

Y cwmwl hardd, fy mhlentyn hoff,
Yn wŷn ei liw uwchlaw y byd;
Ac yn yr hwyr welir mewn gwisg mwy rhagorol,
Yn borphor ei liw, a'i wenau yn siriol,
Nid yw ei holl wychder, fy mab, ond benthyciol,
Yr haul yw ei harddwch o hyd.


Bydd dithau fyw, fy mhlentyn hoff,
Yn ddiwyd fel y cwmwl glân ;
Yn lloni'r trallodus âth nefol brydferthwch,
Tra'n teithio tua'i gartref trwy'r dyrys anialwch
Gweithredoedd o gariad heb ddianwadalwch,
Fo'th fuchedd er siampl i'r gwan.

Cydnebydd pawb, fy mhlentyn hoff,
Pwy wnaeth y goleu gwmwl can ;
Yn eglur fel hyny y byddo i'w ganfod
Dy santaidd oleuni mewn byd llawn o bechod,
Nes yn dy ofn duwiol y gellir adnabod,
Y nefol ogoniant mewn rhan.

A phan y byddi, blentyn hoff,
Yn nesu tua'r tywyll fedd,
Dy ran y pryd hyny a fyddo y gwychder
A ddyry yr Iesu, 'Haul y Cyfiawnder,'
I'r oll o'i blant ffyddlon yn nydd eu cyfyngder,
Cyn gorphwys o honynt mewn hedd.

Y Pwrs Aur

Dau gyfaill gydgerddent yn ddifyr eu hynt,
Pryd y cododd un bwrs oddiar lawr;
"Wel dyma lwc,"meddai, bron colli ei wynt,
"Gwel faint o aur gefais i'n awr."

"A gefaist ti,"meddai ei gyfaill ar hyn,
"Myfi bia'r haner, wrth gwrs;"
"Yr haneri ti,"llefai yntau yn syn,
"'Tra mai'm dwylaw i gododd y pwrs!"

"Wel, cymer hwynt ynte—ond pwy sy o'th ol.
Yn gwaeddi chwil-leidr fel cawr?
Gwel dyma'r heddgeidwad yn dyfod i'th nol; "
Meddai yntau, "Beth wnawn ni yn awr?"

"A wnawn ni yn wir, pa'm y dywedi fel hyn,
Ti hawliodd yr ysbail yn rhan?
A hwnw yw'r lleidr, dyweded a fyn,
A gym'rodd yr arian o'r fan."

Mae pobl i'w canfod wrth ymdrin a'r byd
O duedd anonest, hunanol, a gwael;
Tra'r gorchwyl dry'n elw neu bleser i gyd,
Y nhw ydyw'r bobl y cwbl rhaid gael:
Ond os niwed neu golled dry arnynt eu gwg,
Hwy hoffent pryd hyny gael rhanu y drwg.

Sut i fod yn Ddedwydd

DIOGI, dos, dos ymaith oddiwrthyf fi;
Diogi, dos, yn gyfaill ni byddaf â thi:
Yn llawen ceisiaf ddysg bob dydd,
A diwyd fydd fy llaw ;
Can's dyma'r doethaf ffordd y sydd
I gadw diogi draw.
Diogi ddwg i ddyled a gwarth yn y man,
Diogi ddwg bob cysur ymhell o fy rhan.

Twyll hyll, dos—cydfyw ni chei byth â myfi;
Twyll hyll, dos—yn gyfaill ni byddaf â thi:
Gonestrwydd fydd fy newis ran,
Ar air a gweithred bur:
Mewn gwaith a phleser ymhob man,
Ymdrechaf ddweyd y gwir:
Ymaith dwyll—can's trigo ni chei gyda mi;
Ymaith dwyll—'does bleser byth lle yr wyt ti.

Drwg dymer, dos—ni chei gydfyw â myfi;
Drwg dymer, dos—yn gyfaill ni fyddaf â thi:
Ymddygiad hynaws ymhob dim
Tuag ereill fydd fy nôd,
'Rhyn hoffwn wneud o honynt im'
Hyn geisiaf iddynt fod,

Tymer ddrwg—ei thrigfan ni chaiff dan fy mron:
Tymer ddrwg—'dall byth fod yn ddedwydd allon,
Erlidier tymer ddrwg o'r byd,
Diogi, twyll, 'run wedd;
Cawn yna ddifyrwch a chysur o hyd,
Pan gleddir rhai hyn yn y bedd.

Y Paun.

Tyr'd, tyr'd, Mr. Paun, a phaid a bod yn falch,
Er bod genyt gynffon mor frith;
Mae'th well ymhlith adar mewn doniau a pharch,
Heb haner dy hunan a'th rith.

A chofia mai rheiny i gyd, o'r bron,
Sy'n rhoddi mawr fri ar eu gwisg,
Nad ydynt yn hynod am ddim ond am hon,
Fel cneuen wag brydferth ei blisg.

Nid oes gan yr Eos ond gwisg ddigon llwyd,
Ond pa 'deryn all ganu fel ef?
Tra nad oes un Paun yn werth tamaid o fwyd,
Er rhoddi difyrwch a'i lef.


Nid oes gan yr Hebog blyf harddwych eu lliw,
Ond fe genfydd ei lygaid bob dim;
Ac er dy falch osgo, ar lawr 'rwyt ti'n byw,
Tra mae ef uwch y cwmwl yn chwim.

Mae'r golomen mewn gwisg mwy cartrefol, mae'n wir,
Ond nid yw'n hunanol fel ti:
Ei serchus ymddygiad rydd bleser mwy pur
Na ddyry gorwychder dy bly'.

'Nawr gwel, Mr. Paun, a phaid bod yn falch,
Er bod genyt gynffon mor frith;
Mae'th well ymhlith adar mewn doniau a pharch
Heb haner dy hunan a'th rith.

Y Llew ar y Ffordd.

GAN DR. ALDEN.

"OES, y mae llew ar y ffordd yn wastadol,"meddai Mr. Hall wrth foneddwr gyda'r hwn yr oedd yn ymddyddan yn y parlwr. Daeth ei fab Justin i mewn ar y pryd. Clywodd sylw ei dad, ond yn ei fyw nis gallai ddeall ei feddwl. Yr oedd wedi darllen am lewod yn fynych, a theimlai ddyddordeb mawr yn eu hanes, fel y gwna plant yn gyffredin, Buasai yn cerdded ymhellach i weled llew nag un creadur arall.

Hiraethai yn fawr gael gwybod at bwy y cyfeiriai ei dad yn y sylw a wnaeth, ond ataliodd rhag gofyn iddo tra yr ydoedd yn siarad a'r boneddwr. Buasai rhai bechgyn mor anfoesgar a gofyn ar draws yr ymddyddan, "Am bwy yr ydych chwi yn siarad?" Ond addysgwyd Justin i ymddwyn yn amgenach, yn gystal a bod syniad lled gywir am weddeidd-dra yn reddfol yn ei natur. Felly, efe a eisteddodd yn llonydd, gan obeithio y clywai rhywbeth a'i galluogai gael allan yr hyn a hoffai wybod. Yn y cyffredin arferai feddwl drosto ei hun, yn lle trafferthu o'i gydnabod â chwestiynau diddiwedd. Yr oodd hyn yn elfen ganmoladwy yn ei nodweddiad.


Ond er gwrando, methodd Justin a chael allan yr hyn a hoffai wybod. Yna efe a ddaeth at ei dad, "wedi myned o'r boneddwr ymaith, gan bwyso ar ei lin, a dangos trwy ei ymddygiad foJ rhywbeth ar ei feddwl, ond ei fod yn petruso ei amlygu.

" A oes arnat eisieu gwybod rhywbeth, Justin?" meddai Mr. Hall.

" Oes, syr; hoffwn wybod am bwy yr oeddych chwi yn son, pan y dywedasoch fod llew ar ei ffordd yn wastadol? "

Deallodd Mr. Hall, oddiwrth ymddangosiad ei fab, ei fod yn cymeryd ei eiriau yn llythyrenol. Teimlai barodrwydd i chwerthin am ei ben, ond ataliodd, rhag i hyny archolli ei deimladau, neu ddigaloni ei chwilfrydedd canmoladwy. Atebodd, "Am Mr. Harris yr oeddwn i yn siarad, Justin, ond rhaid i tithau gymeryd gofal rhag i lew ddod ar dy ffordd."

"Ond beth a allwn i wrtho os mynai ddyfod?— nid wyf fi yn ddigon cryf i wrthwynebu llew."

"Pa fath ysgolhaig ydyw Robert Carr?"

Nis gallai Justin ddyfeisio beth oedd dyben ei dad yn gofyn y fath gwestiwn, a chymaint oedd ei syndod fel nad atebodd y gofyniad gyda'i barodrwydd arferol. O'r diwedd dywedodd, gyda gradd o betrusder. "Wn i ddim." "Wyddost ti ddim—onid wyt fi yn yr un dosbarth ag ef?"

"Ydwyf, syr."

"Sut, ynte, yr wyt ti heb wybod pa fath ysgolhaig ydyw?"

"Meddwl yr oeddwn na ddylwn ddweud dim yn erbyn fy nghyd ysgolorion."

"Mae hyny yn bur wir, ni ddylit ar un cyfrif ddweud dim a fyddo yn anfantais i neb, heb ei fod yn wir, a bod genyt hefyd resymau digonol dros ei hysbysu. Ond wrth geisio gochelyd un drwg, rhaid i ti beidio cyflawni drwg arall, trwy ddweud anwiredd. Fe wn i nad yw Robert yn ysgolhaig da, er fod ganddo feddwl cryf. A wyddost ti yr achos nad yw yn well ysgolhaig?"

"O herwydd nad oes ganddo benderfyniad, syr. Os gwel ef y wers yn hir fe ddywed, 'Dalla i mo'i dysgu hi, ac ni cheisiaf i ddim ychwaith,' ac os daw at le anhawdd, fe'i rhydd o'r neilldu yn y fan."

"Y mae llew ar ei ffordd ef, ynte,"meddai Mr. Hall.

Gloywodd llygaid Justin ; yr oedd yn deall erbyn hyn paham y gofynodd ei dad yn nghylch Robert, ac hefyd y dywediad fod "llew ar y ffordd." Gwn yn awr beth oeddych yn feddwl wrth ddweud wrthyf am beidio gadael i lew ddod ar fy ffordd :— wedi i mi ddechreu gorchwyl, rhaid peidio digaloni a'i roddi i fyny."

"Dyna fe."

"Beth os bydd y peth yn bechadurus?"

"Rhaid i ti beidio ei ddechreu."

"Beth os byddaf heb wybod hyny nes ar ol ei ddechreu?"

"Rho ef i fyny ar unwaith."

"Mae ambell i lew bychan yn dyfod ar dy ffordd di, Justin, weithiau, onid oes?" meddai ei fam, yr hon a ddaeth i mewn i'r parlwr mewn pryd i glywed y rhan olaf o'r ymddyddan.

"Wn i ddim, mam,"meddai Justin yn amheus.

"A orphenaist ti dy farcutan? "

"Naddo, mam."

"A orphenaist ti chwynu y gwely blodau yn yr ardd?"

"Naddo yn gwbl."

"A wyt ti wedi gorphen darllen dy lyfr newydd"

"Darllenais ran o hono."

"Beth a'th rwystrodd—ai'r llewod bychain?"

"Yr wyf yn meddwl mai ê,"meddai Justin, gan wenu, er ei fod yn teimlo y cerydd i'r byw.

Yr oedd Justin, fel llawer o fechgyn, yn dechreu lluaws bethau nad oedd byth yn eu gorphen. Mae hyn yn arferiad tra niweidiol. Ni ddylid byth ei ffurfio, ac os ydym wedi ei ffurfio eisioes, dylid ei ddiwygio heb oedi. Mae rhai dynion na wiw ymddiried iddynt orphen dim, a hyny am ddarfod iddynt ffurfio yr arferiad, pan yn ieuanc, o ddechreu pethau, heb eu gorphen.

"Sut y gallaf fi gadw y llewod bychain draw?" meddai Justin.

"Trwy orphen pob peth a gymeri mewn llaw" meddai ei dad.

"Ond yr wyf yn blino ar rai pethau."

"Hidia mo hyny, gorphen hwynt er mwyn ffurfio yr arferiad. Os bydd i ti gadw at y rheol hon, ti fyddi yn fwy gofalus beth a ddechreui. Ti ddysgi foddwl mwy cyn gweithredu, a chynllunio gyda mwy o ddoethineb. Yr oeddwn i yn debyg iawn i ti'pan yn ieuanc. Gelwid fi yn fawr am ddechreu, ond anfynych y gorphenais ddim. Sylwodd fy nhad ar hyn, a phenderfynodd y gwnai fy ngorfodi, hyd y gallai, i orphen pob peth a gymerwn mewn llaw, ac felly cefais oruchafiaeth ar yr arferiad. Hoffwn dy weled ti, fy mab, yn diwygio yn hyn, heb i mi arfer unrhyw orfodaeth."

Penderfynodd Justin y gwnai ddylyn esiampl ei dad.

Dymuniad George Fychan.

"FE hoffwn weled Jacob, mam,"
Medd George un dydd, tra'r oedd
Yn adrodd ei ddymuniad gwir
I'w anwyl fam ar g'oedd.

"Gofynwn iddo ef, fy mam,
Roi benthyg i myfi
Yr ysgol ar ba un y daeth
Angylion oddi fry.

Cawn felly ddringo fyny, mam,
I wel'd angylion glân,
Ar edyn fel goleuni'r wawr,
Yn 'hedeg uwch y fan.

Ac hwyrach y gwnant hwythau, mam,
Fy ngweled i'n syllu'n syn,
A dyfod at eich plentyn bach,
I'm cyfarch y pryd hyn.

Os gallwch chwi fy hebgor, mam,
A gaf fi eu canlyn hwy,
I fynu blith y nefol lu,
I aros yno mwy?


Fe hoffwn weled Jacob, mam,
Fe wn na siomid fi
O'r ysgol ar ba un y daeth
Angylion oddi fry."

"O f' anwyl blentyn,"meddai'r fam,
A dagrau ar ei grudd,
"Mae Jacob gyda'r engyl glân
Yn byw er's llawer dydd.

Os caru wnai, fel Jacob gynt,
Yr Iesu trwy dy oes,
Gwna engyl, er nas gweli hwy,
Dy gadw rhag pob loes.

A phan fachluda haul dy ddydd,
Try angau 'n gyfaill gwiw;
Dy ysbryd esgyn wna i'r nef,
Cei gyda Jacob fyw.

Ond gall fod siwrne faith a blin
I'w theithio genym ni,
Cyn clywed cân y nefol gôr
Yn y Gaersalem fry.


Meddyliau pur, fy mhlentyn mwyn,
Fo gyda thi o hyd,
Fel cwmni engyl ar dy daith,
I'th gartref uwch y byd.

Ar derfyn oes, yn angau du,
Hyn fo dy ddedwydd lef,
Fel Jacob pan ddywedodd gynf,
"Wel dyma borth y nef. "

Y Wenynen.

"WENYNEN dlos, d'wed im' yn awr,
Pa'm 'rwyt i'th wel'd, o doriad gwawr
Hyd fachlud haul, ar aden chwim,
Yn casglu mêl, heb chwareu dim?"
"Dywedaf it fy mhlentyn cu,
Pa'm 'rwyf mor ddiwyd, gwrando di,
A chaed yr achos mawr ei bwys
Dy sylw a'th ystyriaeth dwys.

Ni cheir haf flodau, cofia hyn,
Pan ddelo'r rhew a'r eira gwyn;
Daw dyddiau'r haf cyn hir i ben,
A machlud wna eu haul o'r nen :

Dysg di, fy mhlentyn, y wers hon,
Dy dymhor hau yw'th ie'ngtyd llon,
Ac yna'n ngauaf henaint gwan
Cei fedi ffrwyth dy ddiwyd ran."

Pethau Bychain.

NID yw y moroedd meithion
Ond mân ddefnynau nghyd,
A mân ronynau dirif
Yw'r sychdir oll i gyd,

Munudau sy'n gwneud oesoedd
Y tragwyddoldeb maith,
Tra deuant hwy yn gyson
Ar eu diorphwys daith.

Mân feiau'n fynych droant
Yr enaid ar eu hol,
Oddiar ffyrdd hyfryd rhinwedd,
I rodio llwybrau ffol.


Mân eiriau llawn o gariad,
A mân weithredoodd mwyn,
Ddug ffrwythau Eden uchod
I'r galon flin ei chwyn.

Mân hadau o drugaredd,
Sef rhoddion plant ynghyd—
Toreithiog ffrwyth gynyrchant
Yn nhywyll fanau'r byd,

Ymddygiad wrth Fwyta.

Yn ddystaw at y bwrdd yr âf,
Cyn dechreu, gofyn bendith wnaf;
Rhaid peidio bod mewn brysiog nwyd,
I fod y cyntaf i gael bwyd;
Rhaid bod yn llonydd yn ddioed,
Heb gadw trwst â llaw na throed,
Na rhoi i'r cwmni flinder trwy
I'm chwareu a'm cader, plât, neu lwy ;
Na chanu chwaith, nac arfer gwawd,
Na checru'n groes â chwaer neu frawd ;
Na moni yno'n hyll fy llun,
Na chrio am fy ffordd fy hun.
Os na fydd f'ymborth wrth fy modd,
Ni ddylwn feio arno ar g'oedd

Gan ddweud, "Mae'r coffi'n ddrwg ei flas,
Mae'r tê yn boeth—mae'r cig yn frâs;
Mae'r bara'n hen, neu ynte'n fall," —
Na chwyno 'herwydd hyn neu'r llall.
Gorlwytho'm safn sydd ffìaidd iawn,
Neu siarad pan bo'm genau'n llawn.
Os rhaid pesychu wrth y bwrdd,
Neu disien, dylid troi i ffwrdd.
Rhaid cofio dweud wrth ofyn am—
"Os gwelwch yn dda, syr," neu "m'am,"
A "Diolch i chwi" yn ddifeth,
Pan y derbynir unrhyw beth.
Rhaid peidio baeddu'r llian gwyn,
Na d'wyno â'm bwyd y dwylaw hyn,
Na chodi oddiwrth y bwrdd un pryd,
Nes darfod bwyta o'r cwmni i gyd :
A phan gaf genad i fyn'd ffwrdd,
Rhaid cadw'm cader oddiwrth y bwrdd,
Ond rhaid yn gyntaf dyrchu'm llef
Mewn mawl am ddoniau rhad y nef.

Gweddi Plentyn.

BOED i mi fod yn ddoeth fel Daniel, Dan.i. 17,20.
Yn dduwiol fel y bachgen Samuel; 1 Sam. ii. 18.
Mewn sel a ffydd fel Stephan ferthyr, Act. vi. 8.
Fy nghynllun fyddo Paul mewn llafur; 2'Ti.iv.1.
Cymdeithas agos gaffwyf fi,
Fel Ioan gynt â'r Iesu cu; Ioan xiii. 23.
Sel fel Martha, cariad Mair,
I hoffi yn mlaenaf peth y gair; Luc x. 38, 42.
Yn fwyn fel Moses, proffwyd Duw, Num. xii. 3.
Fel Lazarus, myn'd i'r nef i fyw; Luc xvi. 22.
Amynedd Job dan chwerw wynt, Iago v. 11
A chalon dyner Lydia gynt; Act. xvi. 14
Cywirdeb Pedr fyddo'm rhan,
A ddeil olygon Iesu glân; Ioan xxi. 15, 17.
Fel Tmotheus, O na chawn ras,
I ffoi rhag chwantau ffiaidd cas; 2 Tim. ii. 22.
Fel Joseph dan demtasiwn gref, Gen. xxxix. 9.
A Jacob pan ymdrechodd ef; Gen. xxxii. 24, 28.
Fel Isaac mewn myfyrdod llwyr,
Tra'n cerdded yn ei faes yr hwyr; Gen. xxiv. 63.
Yn gyfaill Duw boed i'm gael bod,
Fel Abra'm gynt oedd fawr ei glod; Iago ii. 23.

Ond o flaen pawb fe gymrai'n awr
Esiampl berffaith Iesu mawr. 1 Pedr ii. 21,
Ymdrechaf wneuthur ar bob pryd,
Yr hyn wnaeth ef pan yn y byd;
Dylynaf gamrau Mab y dyn,
Nes bod yn berffaith ar ei lun.


Paid a'i Sathru.

TRO heibio'th droed rhag rhoddi poen
I'r pryfyn lleiaf sydd
Yn dysgwyl fel dy hun wrth Dduw,
Am damaid nos a dydd.

Fe edrych Ef o'r nefoedd fry,
Yn dirion ar y llawr,
Er gwneuthur â'i ddeheulaw gref
Y pryfyn bach neu fawr.

Fath ryfyg i ti yn dy ddrwg
Roi i'r peth bychan friw,
Neu ddwyn oddiarno'r einioes roed
Er mwyniant gan ei Dduw.


Ymdrecha fod, fy mhlentyn hoff,
Yn dirion at bob rhyw ;
Can's cas gan Dduw y creulon un,
Ni chaiff ddod ato i fyw.

Yn Fachgen Gwell.

YMWELODD hen-wr ar ei hynt
A'n haelwyd ar un oer-nos ddu,
Son wnai am gartre'i ie'ngtyd gynt,
Ac am ei hoff rieni cu,—
Eu gweddi a'u llafur ar ei ran,
A'u bod er's talm mewn mynwent bell,
Ac yna d'wedai'n drist ei lef,
"Pe buaswn i yn fachgen gwell."

Meddyliais lawer tro 'rol hyn,
Wrth gofio ei ofidus wedd,
Rhaid myn'd o'm rhiaint i i'r glyn—
Cyn hir—a huno yn y bedd:
Gall f' anffyddlondeb atynt hwy
Fy mlino 'mhen blynyddau pell,
Am hyny'm gweddi fydd byth mwy,
Am ras i fod yn fachgen gwell.

Yr Eneth Gloff.

YN araf trwy y pentref clyd,
Y cerddai geneth gloff a gwan,
Ei gwisg, er aml bwyth a chlwt,
Oedd eto'n daclus ac yn lân.
Er cloffder ac afiechyd corff,
'Roedd ganddi wyneb hardd dinam,
A'r gwallt plethedig gylch ei phen,
Ddangosai ofal tirion mam.

Hi ddaeth hyd at ysgoldy'r llan,
Ar adeg gollwng plant yn rhydd ;
Trwy'r drws y rhuthrent â mawr floedd,
Y:n falch o orphen gwersi'r dydd ;
Daeth ati rai anfoesgar hyf,
Diystyr o wendidau hon,
A gwawdient yr anafus un,
Tra adref trôdd y brudd ei bron.

Bu amser pan y gwnaethai Jane
Ymddial eu hedliwiau cas,
Ond bellach nid yw yn yngan gair
Er pan y profodd rinwedd gras;
Ond teimlo ddarfu yn y fan
Ddwfn archoll eu cellweirus wawd,

Can's treiglai'r dagrau tros ei grudd,
A chodai'r gwrid i'w gwyneb tlawd.

Cyrnaeddodd ei chartrefle llwm,
Ac yna i'w hystafell aeth ;
Penliniodd wrth ei gwely gwael,
Ac ar ei Duw gweddio wnaeth:
Edifar fuasai'r bechgyn hyn
Pe'r weddi hon a glywent hwy,—
"Fel y maddeuwyd im', O Dad,
Rho ysbryd maddeu i mi mwy."

Rhad roddion Duw, O fechgyn hoff,
Yw iechyd, nerth, a thegwch pryd,
Ac atal wnai'i ewyllys ddoeth
Rhag rhoi'r bendithion gwerthfawr drud;
Na chlywer gair o'ch genau byth
A baro i'w calon bruddaidd glwy',
Ond gwnewch'r hyn, pe baech yn eu lle,
A hoffech dderbyn ganddynt hwy.

Tebyg i ddyn ydyw syrthio i bechod,
Tebyg i ddiafol yw byw er ei drafod,
Tebyg i Iesu yw wylo o'i herwydd,
Tebyg i Dduw ydyw peidio ei gyffwrdd.

Y Chwaer a Gollwyd

O! ANNIE, hawddgar Annie,
'Rwy'n brudd o'th blegyd ti,
Wrth eistedd wrth fy hun, neu pan
Yn chwareu yr wyf fi.

Mae'm brodyr bach yn dirion,
A'r babi'n denu'm bryd;
Ond nid oes neb fel ti, fy chwaer,
I mi o fewn y byd.

Ti aethost mor ddisymmwth,
Ni ddarfu it "ganu'n iach:"
Am hyn hiraethu 'rwyf dy wel'd,
A rhoi it' gusan bach.

A wyt ti yn y nefoedd, chwaer ?
A yw y nef yn mhell?
A yw'th fwynhad o'r lle y fath
Fel nad oes blys ei well ?

Fe hoffwn gael dy wel'd, yn wir,
Ymhlith angylion glân,
A chlywed dy berswynol lais,
Yn pyncio'r nefol gân.


Fe glywais fod yr Iesu mawr
Yn hoff o honot tì;
A wna E' ngharu inau, chwaer,
A'm derbyn inau fry?

O Iesu tirion, Cyfaill plant
A fuost yn y byd;
Bydd i mi'n rhan, a'm cartref fo
Dy nefoedd dawel glyd.

Y "V" Fawr — neu Pwy sydd fwyaf?

DYGWYDDODD unwaith i ddadl frwd gymeryd lle ymhlith bwystfilod y maes. Meddai y ceffyl, "Bydded i ni ymgynghori â'r dyn er penderfynu pwy sydd yn ei le, nid yw ef yn un o'r pleidiau mewn ymrafael, ac felly gall farnu yn ddiduedd."

"Ond," meddai y twrch daear, "a oes ganddo synwyr digonol i'r gorchwyl? Oblegyd y mae deall o'r radd uchaf yn ofynol er darganfod ein mynych guddiedig ragoriaethau."

"Sylw doeth ryfeddol," meddai yr eppa.

"Da iawn yn wir," meddai y draenog, "fum i erioed o'r farn fod dirnadaeth dyn yn ddigonol i'r gorchwyl."


"Tewch," meddai y ceffyl, "fe wyr pawb mai yr hwn sydd a lleiaf o ymddiried yn uniondeb ei fater ydyw yr un cyntaf i feio penderfyniad ei farnwr."

Dewiswyd dyn yn farnwr. "Aroswch funud," meddai y llew, "cyn cyhoeddi eich barn. Yn ol pa reol, ddyn, y bydd i chwi benderfynu eu teilyngdod?"

"Yn ol pa reol?" atebai yntau, "rhaid mai yn ol y graddau yr ydych yn ddefnyddiol i ddynion."

"Campus," meddai y llew, yn ymwybodol o'r sarhad, "os felly, pa mor bell y gosodir fi islaw yr asyn! Ni chewch chwi, O ddyn, fod yn farnwr arnom. Ymgynghorwn â'n gilydd ar y mater."

Aeth y dyn ymaith. "Yn awr," meddai y twrch yn watworus, a gydag ef yr eppa a'r draenog, "a wyt ti y ceffyl yn gweled fod y llew yn meddwl fel ninau nas gall dyn fod yn farnwr arnom? Mae y llew a ninau yn hollol o'r un farn."

"Ydwyf," meddai y llew, gan droi golwg ddiystyrllyd arnynt, "ond oddiar ystyriaethau hollol wahanol i chwi, cofiwch."

Yna y llew a chwanegodd, "Os wyf fi yn deall yn iawn, y mae y ddadl bresenol yn un dra annheilwng. Pa wahaniaeth i mi, pa un a ystyrir fi y mwyaf neu y lleiafo bawb? Os wyf yn adnabod fy hunan, dyna ddigon." Ar hyn aeth ymaith oddiwrthynt.

Darfu i'r cawrfil call ddilyn ei esiampl. Yna y dywalgi dewr, yr arthes brudd, y llwynog cyfrwys, a'r ceffyl boneddigaidd. Yn fyr, aeth pawb allan ag oeddynt yn teimlo neu yn credu eu bod o ryw werth.

Y rhai a arhosasant yn ol ac a wnaethant fwyaf o drwst fod y ddadl ar ben oedd yr "eppa" a'r "asyn".

Boreuol Weddi Plentyn.

DAETH gwawr y dydd, â gwridog rudd,
I'm deffro o fy hân;
Cydnabod wnaf fy nefol Naf,
Dy ofal o'r fath un.

Rhag pob rhyw ddrwg yn ddyogel dwg
Fi, trwy y dydd heb goll;
Rho'th gwmni i mi, fy Iesu cu,
A maddeu'm beiau oll.


Dy drigfan rad, Ysbryd mad,
Fo'm mynwes euog i ;
A thrwy dy ras par'to dy was,
I fyw byth gyda thi.

Gweddi Hwyrol Plentyn.

GORWEDD wnaf yn awr heb fraw,
Yn fy ngwely cynhes clyd,
Duw all gadw niwed draw,
Oddiwrth blentyn bach o hyd:

Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.

Pan ddaw'r hwyr, fy rhiaint cu
Ant i orphwys; ond bydd Duw
I mi'n Geidwad trwy'r nos ddu,
Rhydd hân dawel, ceidw'n fyw;
Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.


Cwsg i'm llygaid blin a gaf,
Gorphwys gaiff fy aelodau bach ;
Yn y boreu codi wnaf,
Yn ddiludded ac yn iach:
Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.

Pan yn angau y rhaid myn'd
I'm hoer wely yn y bedd,
Os bydd Iesu i mi'n ffrynd,
Fe gaiff f'enaid fyw mewn hedd;
Grasol yw fy nefol Ri,
Arglwydd cofia am danaf fi.

Chwareuon Plant,

PETH dymunol iawn yw gweled plant yn ddedwydd, Os ceir hwynt yn ddiwyd a chyson gyda'u gwersi, ac yn dychwelyd o'r ysgol neu o neges heb sefyllian a cholli amser, nid oes neb mor afresymol a'u rhwystro i fwynhau eu hunain mewn chwareuon diniwed, gyda phlant rhinweddol a da. Ond y mae yn dygwydd yn fynych fod pethau annymunol yn cymeryd lle mewn cysylltiad â'u chwareuon, a hyny o herwydd eu hymddygiadau fuag at eu gilydd, gan hyny rhoddir yma ychydig reolau y bydd yn fanteisiol iddynt sylwi arnynt a'u cofio.

1. Ymdrechwch foddhau ereill, a chael boddhad eich hunain.

2. Peidiwch a thramgwyddo wrth bethau bychain

3. Ymgedwch rhag castiau drwg.

4. Na fyddwch am eich ffordd eich hun.

5. Peidiwch a chyffroi tymer neb.

6. Rhoddwch heibio chwareu yn ewyllysgar pan elwir am danoch.

I'r dyben o ymddwyn yn iawn, ymdrechwch feithrin ysbryd caruaidd. Cofiwch fod yr hwn a ddengys yn ei chwareuon a'i gyfeillgarwch ei fod yn teimlo yn dirion, yn meddu ar un o briodoleddau hawddgaraf nodweddiad.

Y Wers Fyw.

(Sef ymweliad Gloyn-byw ag ysgol Mabanod.)

Ar foreu dydd tesog yn nghanol yr haf,
'Roedd gloyn-byw cymysg-liw a hynod o braf,
Yn 'hedeg ar antur ar wyneb y byd,
Yn ol ac ymlaen, ar draws ac ar hyd—

Heb feddwl am drefn na gofalu dim chwaith;
Aeth felly i ysgol tra ar ei wib-daith,
Lle 'roedd ychydig fechgyn
A'u trwst fel murmur melin,
Wrth ddysgu y gwersi a grogent ar daen,
Ar furiau yr ysgol yn hwylus o'u blaen.
Yr athraw a welodd y gloyn gynta' i gyd,
A gwaeddai, "Gostegwch, blant, trowch yma'ch
bryd,—
Tra llyfrau a ddysgant i ni bron bob dim,
Daeth gwers atoch heddyw ar edyn yn chwim,
Rhyw wythnos yn ol fe allesid gwel'd hwn
Yn rholyn llwyd diwerth, diaddurn, a chrwn;
Fel marw mewn amdo, fel hyny 'roedd ef,
Ond 'hed heddyw'n brydferth yn awyr y nef.
Ei gorff bach a meindlws, uwch gallu un dyn
I ffurfio ei debyg mewn lliw nac mewn llun.
De'wch bob yn un bellach a thraethwch i mi
Ei enw a'r gwersi a ddysg ef i chwi."


Y BACHGEN CYNTAF.

Gloyn byw! gloyn byw! ydyw hwn,
Tewch rhag ei ddychrynu â'ch swn;
Dyfod mae oddiwrth y drws,
Syllwch ar ei edyn tlws!

Dysg i mi yr edrych Duw
Ar y lleiaf peth yn fyw.
Rhodd i'r gloyn gorff hardd ei wedd,
Ac oni cheidw fi hyd fedd?
Yn ei air gorchymyn rydd
I mi ei geisio nos a dydd,
Yna bydd yn Dad o hyd,
Im' tra byddaf yn y byd.


YR AIL FACHGEN.

Gwel'd 'rwyf fi mor ffol yw byw
'N falch o'r dillad gore'u rhyw;
Gan fod i'r gloyn bach difri
Harddach gwisg na'r eiddof fì:
Beth os wyf yn llwm fy llun ?
'Dwyf un mymryn gwaeth er hyn,
Nac yn well pe cawn yn awr
Wisgoedd goreu daear fawr.


Y TRYDYDD BACHGEN.

I orwedd fe roddwyd fy chwaer yn ei chryd,
Cyffyrddais a'i gwyneb, ond parodd yn fud;
Pan alwais ei henw, fe ddwedwyd i mi
Mai marw fy chwaer, ac mai ofer fy nghri.

Ond clywais ein gweinidog ni
Yn dweud y deuai Iesu cu,
Rhyw ddydd sydd gerllaw i'w chyfodi o'r bedd,
A'i dwyn i fwynhad o ogoniant a hedd :
Wrth syllu ar wychder y gloyn bach yn syn,
A chofio beth ydoedd rhyw wythnos cyn hyn,
Rwy'n credu'n ddiysgog y gwawria y dydd,
Daw hithau o afael y creulon yn rhydd.
Mae Ef yn alluog i ddwyn hyn i ben,
Ac fe wna'r hyn a all — boed felly, Amen.

Gwers Olaf y Fam.

PLENTYN ieuanc o'r enw Roger L—— a agorodd y drws, a chan edrych yn ddirgelaidd i'r ystafell lle y gorweddai ei fam afiach, a ddywedodd, "A fyddwch chwi cystal a dysgu i mi fy adnod, mam, a rhoddi i mi gusan, a dywedyd nos da'wch wrthyf? Yr wyf mor gysglyd, ac nid oes neb wedi gwrando arnaf yn dweyd fy mhader eto."

Yr oedd Mrs. L—— yn glaf iawn ar y pryd; yn wir ofnai y rhai oedd yn gweini iddi ei bod yn marw. Cynhelid hi yn ei heistedd gan glustogau; anadlai yn boenus; yr oedd ei gwefusau yn llwydion, ei llygaid yn pylu, a'i gwaed yn fferu yn mhenau ei bysedd teneuon.

Gweddw ydoedd hi, a Roger oedd ei hunig a'i hanwyl blentyn. Arferai ei gymeryd bob nos i'w hystafell, a thra yr eisteddai ef ar ei glin, neu y penliniai wrth ei hochr, adroddai hithau iddo ran o'r Gair Santaidd, neu ynte hanes y dynion doeth a da a sonir am danynt yn y Beibl. Yr oedd wedi bod yn wan ei hiechyd er's blynyddau, ond nid yn rhy wan i ddysgu i Roger ei adnod a gwrando ei bader.

"Tewch, tewch," meddai gwraig a safai wrth erchwyn y gwely, "y mae eich anwyl fam yn rhy sali wrando eich pader heno." _ A chan nesu ato, a gafael yn dirion yn ei law, fel am ei gymeryd o'r ystafell, dywedai wrtho, "Gwnaf fi eich rhoi yn y gwely heno." Ar hyn dechreuodd yntau ocheneidio fel ar dori ei galon.

"Yn wir nid alla'i ddim myn'd i'r gwely heb ddweud fy mhader."

Clywyd y trwst gan y fam, ac er ei bod yn ddi- sylw o bob peth o'i hamgylch, darfu i lais ei hanwyl blentyn ei deffroi o'i dideimladrwydd, a chan droi at gyfeilles dymunodd arni ei ddwyn ati, a'i roi i orwedd yn ei mynwes. Gwnaed felly. Ond O! y fath gyferbyniad dyeithr rhwng gwallt euraidd a bochau cochion y plentyn, â gwyneb llwyd ac oer yr un oedd ar drengu! O! y truan diniwed, bychan y gwyddai am y golled anadferadwy yr oedd yn fuan i'w phrofi.

"Roger, fy mab, fy anwyl blentyn," meddai ei fam wrtho, "(dywed yr adnod hon ar fy ol i,a phaid byth, byth, ei annghofio,— "Pan yw fy nhad a fy mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Adroddodd y plentyn yr adnod yn eglur, ac yna dywedodd ei weddi fechan, ac wedi cusanu gwefusau oer ei fam, prysurodd i'w wely.

Pan ddeffrodd boreu dranoeth, ymwelodd fel arferol ag ystafell ei fam, ond yr oedd dystawrwydd marwolaeth yn teyrnasu yno. _Yr oedd ei fam wedi dysgu ei gwers olaf iddo.

Nid yw efe eto wedi anghofio y wers hono, ac o bosibl na wna efe byth. Mae bellach yn ddyn, ac yn ddyn duwiol hefyd, ac yn llenwi sefyllfa o enwogrwydd ac anrhydedd. Byth nis gallaf edrych arno heb feddwl am y ffydd a amlygwyd mor hynod gan ei fam pan yn marw. Ac ni siomwyd ei ffydd hi ychwaith, canys yr "Arglwydd a dderbyniodd" ei hanwylyd.

Ddarllenydd ieuanc, nid oes achos i ti ofni os bydd Duw yn gyfaill iti. Fe allai y byddi dad a mam dy wrthod, ac hwyrach y cei y byd yn anialwch digysur, yn llawn drain a phydewau. Ond gall Duw dy ddwyn yn ddyogel trwy dy holl brofedigaethau, a rhoddi i ti yn y diwedd delyn aur a gwisg wên.

Yr Aderyn a'i Nyth.

'RWY'N crefu mewn pryder, hoff blentyn,
Paid dryllio fy nyth bychan clyd;
Paid syllu mewn iddo, 'rwy'n erfyn,
Mae'm cywion bach ynddo i gyd;
Pe gwelent hwy'th lygaid mawr gloyw gerllaw,
Hwy waeddent, rai gwirion, mewn syndod a
braw.

Er cymaint ei flys gwel'd y cywion,
Fe safodd y bachgen nailldu;
'R aderyn i'w nyth aeth yn union,
I dwymno ei dylwyth â'i bly' ;
Ac yna arllwysodd orchestgan ei big,
I'r bachgen mwyngalon o entrych y wig.

Gostyngeiddrwydd.

Ma tuedd mewn dyn i brisio ei hunan yn ormodol, i hyn y mae priodoli y rhan fwyaf o annghysuron ein bywyd. Dywed Dr. Franklin, mewn llythyr at y Dr. S. Mather, "Y tro diweddaf y gwelais eich tad, fel yr oeddwn yn ymadael âg ef, cymerodd fi ar hyd llwybr a groesid uwchben gan drawst o bren. Yr oeddym yn parhau i ymddyddan, efe o'r tu ol a minau yn lled-droi tuag ato, pan y gwaedd- odd yn frysiog, "Plygwch! plygwch!" Ni ddeallais ef cyn taro o'm pen yn erbyn y trawst. Dyn oedd ef nad esgeulusai un cyfleusdra i weinyddu addysg, a'r cyngor a roddodd i mi oddiwrth yr amgylchiad oedd hwn, "Yr ydych chwi yn awr yn ieuanc, a'r byd o'ch blaen, plygwch wrth fyned drwyddo, a chwi a ochelwch lawer loes galed. Y cyngor a gurwyd fel hyn i'm pen a fu o ddefnydd i mi lawer gwaith. Byddaf yn meddwl am dano yn aml wrth weled balchder yn cael ei ddarostwng, ac aflwydd yn cael ei ddwyn ar bobl wrth gario eu penau yn rhy uchel."

I'r un pwrpas y mae yr hanesyn bychan a ganlyn :—

Ar derfyn y diwrnod, Syr E. Wilmot, wrth gael ei benodi yn brif ynad, a nesaodd at erchwyn y gwely ac a gusanodd law y brenin; yr oedd ei fab, llanc dwy-ar-bymtlieg oed, yn bresenol ar y pryd. Ar ol hyn cyfarchai ei fab fel hyn: — "Yn awr, hysbysaf i ti ddirgelwch a fydd o werth i ti ei wybod a'i gofio. Mae y dyrchafiadau a'm cyfarfyddodd ar hyd fy oes, yn enwedig y diweddaf hwn, yn ddyledus, nid yn gymaint ar gyfrif unrhyw fedrusrwydd na theilyngdod o'm heiddof i, ond i'm gostyngeiddrwydd, am na ddarfu i mi osod fy hunan uwchben eraill, yn gystal ag i ymdrech gwastadol i fyned trwy y byd yn ddidramgwydd i Dduw a dynion.


Cwyn y Bachgen Du


Ai am fy mod yn Negro
Y caf y fflangell drom ? ,
Gan deimlo'i phwys, dan wres y dydd,
Ar f'ysgwydd deneu, lom.
Mae plant fy massa'n chwareu
Mewn mwyniant o bob bri,
Tra mae ol llafur caled ar
Fy nwylaw duon i;


Hwy ro'nt eu penau i orphwys
Ar dyner esmwyth blu',
Tra nad oes ond y gwlanog wallt
Dan ben y "Bachgen Du."
Nid wyf yn anfoddloni
Fy mod yn ddu fel hyn,
Pe cawn i fod yn rhydd, a rhan
Ar fwrdd y bachgen gwyn,

Ai nid yr un yw'r Awdwr
Yr oll o ddynolryw ?
Tra mae y naill yn gwerthu'r llall,
A churo'r du ei liw.
Nid ydyw Duw yn foddlon
I ddynion anwar lu,
I roddi pwys y fflangell drom
Ar gefn y "Bachgen Du."

Pa bryd y llwyr ddatodir
Y rhwymau tynion hyn,
Ac y ca'r bachgen caeth a du
Holl freintiau'r bachgen gwyn ?
A bod heb iau caethiwed
Ymhlith y dedwydd lu,
Lle nad oes son am "Passa" cas
Yn curo "Bachgen Du."

Bydd Dirion.

Bydd dirion o'th dad—pan oeddit yn blentyn
Pwy'th garodd â chariad mor gynes ag ef ?
Efe glywodd gyntaf dy faldordd digynllun,
Chwareuai i'th foddio, neu canai a'i lef.
Bydd diron o'th dad, mae'n awr yn oedranus,
Mae'i wallt ef yn gwynu ti weli o hyd;
Nid yw ei gerddediad mwy'n eon a hoenus,
Mae'th dad yn ymadael yn gyflym a'r byd.

Bydd dirion o'th fam ; mae arwydd o dristwch
I'w wel'd ar ei gwyneb llwyd teneu yn awr,
Mae'n gweddu i ti fod iddi'n ddyddanwch,
Am noddi dy febyd â gofal mor fawr:
O cofia dy fam — ni phaid hi a chofio
Am danat ti beunydd wrth orsedd ei Duw;
Bydd serchus o honi— gochela ei digio,
Bydd iddi'n ymgeledd tra byddo hi byw.

Bydd dirion o'th frawd— ei galon a wywa,
Os na wel dy gariad yn ngwenau dy wedd,
Bydd farw per flodau hoff deimlad yn gyfa',
Lle na bo gwlith serch i'w adfywio o'i fedd.
Bydd dirion o'th frawd— dy hoffder o hono
Fydd i ti yn addurn godidog a drud;
Mwy gwerthfawr na phürlau y moroedd yn gryno,
Mwy pur, mwy dymunol y pery o hyd.


Bydd dirion o'th chwaer — hi gâr a'i holl galon,
Rhyw ddyfnder anhygoel yw serch pur ei bron ;
Mae fel cudd drysorau yn mynwes yr eigion,
Cyfuddau islaw i arwyneb y dôn:
Dy dirion ymddygiad ddug oriau o fwyniant,
Ac aml gysuron i'th ran rydd o hyd;
Serch bletha wych goron fydd iti yn ogoniant
Mwy gwerthfawr na bri a thrysorau y byd.

"Glynwch wrth eich Llwyn."

Yn oedd Mr. Morgan yn ŵr cyfoethog, ac yn ddyn da hefyd. Parchwyd ef gan ei gyd-drefwyr, anfon- asant ef i'r Senedd, ac nid yn aml yr ymgymerent a dim heb ofyn ei gyngor. Os byddai eisieu codi ysgoldy newydd, yr oedd yn rhaid cael siarad y peth drosodd gydag ef. Byddai gweddw John Jones yn gofyn iddo pa beth a blanai yn ei chae, a byddai Samuel Hughes bob amser yn ymgynghori âg ef cyn prynu ei anifeiliaid; a byddai Mrs. Lloyd yn gofyn ei gyngor o berthynas i ddygiad i fyny ei phlant. Pan y gofynwyd iddo pa fodd yr oedd mor llwyddianus, dywedodd Mr. Morgan, "Dywedaf wrthych pa fodd y bu. Un diwrnod, pan yn fach- gen, yr oedd cwmni o fechgyn a genethod yn myned i'r wlad i gasglu mwyar duon. Yr oedd arnaf eisieu myned i'w canlyn, ond yn ofni na byddai i'm tad roddi ei gydsyniad. Pan y dywedais wrtho pa beth oedd yn myned yn mlaen, ac iddo yntau roddi ei gydsyniad yn rhwydd, prin y gallwn gynwys y llawenydd a deimlwn, a rhedais i'r gegin i gael ychydig ymborth gan fy mam, ac i ofyn am y fasged fawr. Wedi cael y fasged ar fy mraich, a chychwyn tua'r drws, galwyd arnaf yn ol gan fy nhad. Cymerodd afael yn fy llaw, a dywedodd mewn llais caredig neillduol, "Joseph, i ba beth yr ydych yn myn'd, ai i gasglu mwyar duon, ynte i chwareu?" "I gasglu mwyar duon, atebais. "Yna, y mae arnaf eisieu i chwi wneyd un peth, Joseph, a dyma ydyw — pan y cewch lwyn gweddol, na fydded i chwi ei adael i chwilio am un gwell. Bydd i'r bechgyn a'r genethod ereill redeg oddiamgylch, gan bigo ychydig yma ac ychydig acw, a cholli llawer o amser, a chael ond ychydig o fwyar duon. Os gwnewch fel hwy, bydd i chwi ddyfod gartref gyda basged wag. Os oes arnoch eisieu mwyar duon, glynwch wrth eich llwyn." Aethym gyda'r cwmni, a chawsom hwyl anghyffredin, ond yr oedd yn union fel y dywedodd fy nhad. Nid cynt y caffai un lwyn da nag y galwai ar yr oll o'r cwmni, y rhai a adawent eu gwahanol leoedd, ac a redent at y trysor a ddarganfyddwyd. Heb foddloni am fwy na munud neu ddau yn yr un lle, crwydrasant dros yr holl wlad, a blinasant yn fawr, ac yn yr hwyr nid oedd ganddynt ond ychydig o fwyar duon. Yr oedd geiriau fy nhad yn swnio yn fy nghlustiau, a "glynais wrth fy llwyn." Ar ol gorphen âg un, cefais un arall, a gorphenais hwnw; yna aethym at un arall. Pan y daeth yr hwyr, yr oedd genyf lon'd fy masged o fwyar duon braf, mwy nag oedd gan y lleill oll gyda'u gilydd, ac nid oeddwn haner mor flinedig chwaith. Aethym adref yn ddedwydd. Ond ar ol myn'd i mewn, cefais fod fy nhad wedi ei daro yn glaf iawn. Edrychodd ar fy masged lawn o ffrwyth addfed, a dywedodd, "Da iawn, Joseph. Oni ddig- wyddodd yn union fel y dy wedais ? Glynwch wrth eich llwyn bob amser."

Bu farw yn mhen ychydig ddyddiau, a bu gorfod i mi weithio fy ffordd yn y byd goreu gallwn. Suddodd geiriau fy nhad yn ddwfn i'm meddwl, ac nid anghofiais wersi cwmni y mwyar duon — darfu i mi "lynu wrth fy llwyn." Ar ol i mi gael lle gweddol, a gwneyd yn o lew, ni ddarfu i mi ei adael, a threulio wythnosau neu fisoedd i chwilio am un ychydig yn well. Pan fyddai dynion ieuaingc ereill yn dweyd, "Deuwch gyda ni, a bydd i ni wneyd ein ffortiwn mewn ychydig wythnosau," ysgydwn fy mhen, a "glynwn wrth fy llwyn." Yn mhen ychydig amser darfu i fy meistradoedd gynyg fy nghymeryd i'r fasnach gyda hwynt. Arosais yn yr hen le hyd nes y bu farw fy holl gydbartneriaid, ac yna cefais bobpeth oedd arnaf ei eisieu. Darfu i fy ngwaith yn glynu wrth fy masnach, arwain dynion i ymddiried ynof, a rhoddodd hyny gymeriad da i mi. Yr wyf yn ddyledus am yr oll wyf ac sydd genyf i'r arwyddair — "GLYNWCH WRTH EICH LLWYN."

"Welith neb mohono i."

"Weli'th neb m'hono i," medda Tomos yn llon,
Achos 'roedd ei dad a'i fam wedi myned i'r fron,
Gan ei adael ei hun yn y ty;
"Welith neb m'hono i;" felly dringodd i ben stôl,
Ac edrychodd i'r cwpbwrdd i gael gweled y stôr,
Yr hon oedd weithred ry hŷ'.


Âr blât yn y cwpbwrdd yr oedd y fath bentwr
O gochion afalau, mor felus a siwgwr,
A theisen, a photiad mawr o fêl;
"Welith neb mohonoi," ebai Tom yn ddistaw bach,
Fel'r estynai ei law tuag at afal coch iach,
"Mynaf hwn, deued a ddêl."

Safodd Tom yn syn, a rhoddodd yn ol yn y fan,
Oblegid daeth i'w feddwl bwysig eiriau ei fam,
Cyn cychwyn i fyned i'r dre';
"A welith neb mohonoi," meddyliai, "nid yw wir",
Oblegid darllenais y gwel Duw bobpeth yn glir,
A'i fod gyda ni yn mhob lle.”

Da iawn, anwyl Tom, i'ch tad a'ch mam ufuddhewch,
Boddiwch bob pryd, ac ar eu geiriau gwrandewch,
Hyd yn nod pan fyddont absenol;
A chofiwch bob awr, er bod yn mhell o olwg a chlyw,
Nas gellwch ymguddio rhag golygon Duw byw,
'Rhwn wel y cudd a'r mewnol.

Y Bachgenyn Budr.

'ROEDD bachgen elwid John,
Yn byw yn y Fron,
A d'wedir gan William ac Arthur,
Na welwyd 'rioed ei law
Heb ei throchi a baw,
A'i wyneb run modd yn fudur.

Ei fam oedd yn llawn braw
Wrth wel'd y fath faw,
A gwnelai e'n drefnus a glân;
Ond ofer y rhwbio,
Cyn ela' awr heibio,
'Roedd eilwaith mor ddued a'r frân.

Pan anfonid i 'molchi,
Fel bydda'n rhochi!
Gan chwareu a lolian â'r dw'r glân:
A lawr 'rhyd ei fochau
Rhedai cant o ddu resau,
Yn ei wneyd yn waeth nag o'r blaen.


'Toedd y moch yn y dom
Yn fwy medrus na John,
I gasglu baw a llaid yn drwchus;
A chreda gŵr Ty-coed,
Pe cawsa' bedwar troed,
Y gwnaethai fochyn campus.

Mae y diog a'r drwg,
Er gwaethaf pob gwg,
Yn ddidrefn beth bynag a wisgont;
Ond plant da gofalus,
Y'nt lân a threfnus,
Pa mor dlawd bynag y byddont.

Bachgen nad ydoedd yn hoffi ei Gyflog.

AR un adeg aeth bachgenyn bychan tlawd i weithio i feistr drwg iawn, yr hwn a geisiai ganddo ddywedyd celwydd am nwyddau ei siop, ac felly i dwyllo a chamarwain y cwsmeriaid. "'Na wnaf, Syr," ebai y bachgen, "nis gallaf wneyd y fath beth. Bydd imi ymadael o'ch gwasanaeth cyn y gwnaf hyny." Ymadawodd o'r lle, ac ar ol myned adref at ei fam, dywedodd wrthi, "Yr wyf wedi gadael fy lle, mam." "Paham yr ymadewaist, fy mab?" ebai wrtho; "a oedd dy feistr yn anngharedig wrthyt?" "Nac oedd, mam; toedd dim eisieu neb caredicach nag ef." "Ai nid oeddit yn hoffi y gwaith, fy machgen?" ""Welli mi ateb ar unwaith, mam," ebai y bachge n; "nid oeddwn yn hoffi y cyflog; dyna'r achos i mi ymadael. Yr oedd ar fy meistr eisieu i mi bechu, "a chyflog pechod yw marwolaeth. "

Yr wyf yn hoffi ysbryd y bachgen, a byddai i mi ei wasgu yn dŷn at fy nghalon, pe byddai yn agos ataf. Yr oedd yn meddu ar ddigon o ddoethineb i wybod fod twyllo a dywedyd celwydd yn bechod. Yr oedd yn meddu ar ddigon o wroldeb i fforffetio enillion presenol pechod, oblegid nad ydoedd yn hoffi ei gyflog yn y dyfodol. Fachgen ardderchog! Yr oedd ynddo y defnydd ag y gwneir ohono ddyn- ion da, defnyddiol, a dedwydd. Yn awr, fy nghyf- eillion ieuainc, yr ydwyf yn adnabod llawer o blant ag sydd yn hoffi pechod am ei fod yn ddymunol ar y Pryd; ond a wyddoch chwi am rywun oedd yn hoffi y gyflog? CYFLOG PECHOD YW MARWOLAETH. Mae yn lladd y corff, ac yn dinystrio yr enaid. Onid yw pechu yn weithred ffol? Oni fyddai yn beth ffol i fachgen neu eneth fach yfed gwenwyn marwol, am ei fod yn felus? Ac onid ydyw y plentyn hwnw yn ffolach o lawer ag sydd yn pechu am fod hyny yn ddymunol, er ei fod yn gwybod y bydd i hyny ei ddinystrio am byth? Cofiwch, ddarllenwyr ieuaingc,

mai Cyflog pechod yw marwolaeth.

Y Bachgen Dall.

Y BACHGEN bach dall a ddywedai, "Anwyl Mary,
Mor swynol ma'r aderyn bach yna yn odli;
A welwch chwi ef yn nghanol ei afiaeth
A ydyw ei dlysni mor wych a'i beroriaeth ?"

"O ydi, anwyl Edward," atebai'r forwynig,
"Mi welaf'r aderyn ar bren uchaf y goedwig."
Y bachgen och'neidiai, gan araf ddywedyd,
"Fy chwaer, fel y carwn ei weled ef hefyd!

Chwi welwch y blodau a'u prydferth gywreinrwydd,
A'r hardd-ddail sy'n wyrddion ar frigau y coedydd ;
Yr adar mwyn tlysion sydd yno'n telori,
I'r hwn all eu gweled y fath bictiwr o dlysni:

Ond eto 'rwy'n gallu arogli y blodau,
A theimlo y gwyrdd-ddail a'u hiachus gysgodau ;
'Rwyf hefyd yn clywed mawl-gerddi godidog,
Yr adar a greodd y Duw Hollalluog.

Anwyl chwaer, mae'r Arglwydd yn dirion o honwyf,
Er iddo ef atal fy ngolwg oddiwrthyf;
Ond d'wedwch hyn imi, a oes rhai na welant
Yn mhlith y plant bychain sydd yn y gogoniant?"


"Nac oes un, Edward bach, maent oll yno'n canfod,
Ond pa'm y gofynwch ofyniad mor hynod?"
"O! bu Ef mor dda imi yn ngwyneb fy aflwydd,
Fel yr hoffwn yn fawr wel'd gwyneb yr Arglwydd."

Cyn hir daeth afiechyd a'i ddwylaw haiarnaidd,
I greulon afaelyd yn y bachgen hoff llariaidd ;
Ei fam weddw dlawd, mewn dagrau a gweddi,
Erfyniai ar Dduw roi ei bachgen dall iddi.

A. theimlai ei dagrau ar ei ruddiau yn disgyn,
A d'wedai, "Na wylwch droswyf fi yr un deigryn,
'Rwy'n myned i ardal ardderchog—ysblenydd,
Lle y dywed Mary caf weled yr Arglwydd.

A chwithau, fy Mary anwylaf, fydd yno;—
Ond mam, pan gyraeddwch chwi yno i breswylio,
Dywedwch wrth Edward mai chwi fydd yn siarad,
Chwi wyddoch na chefais erioed yma'ch gweled.”

Ac mwyach ni ddywedodd un gair, ond tlws wenodd,
Nes derbyn y ddyrnod ddiweddaf, pan hunodd ;
A phan y cymerodd Duw'r bachgen dall adref,
Agorwyd ei lygaid yn nghanol y wiw-nef.

Pont y Gwr Drwg (Devil's Bridge).

MEWN lle yn Ngheredigion y mae afon wyllt yn rhuthro trwy agoriad cul mewn craig fawr; uwchlaw iddi y mae pont arw, a elwir Pont y Gŵr Drwg. Y mae'r golygfeydd yn y llecyn hwn yn wyllt â rhamantus neillduol. Wrth sefyll ar y bont haiarn a godwyd uwchlaw y bont yr ydym yn son am dani, ac edrych i lawr i'r gwaelod, a gwel'd yr afon yn rhuthro ac yn ewynu wrth ymwasgu trwy y fynedfa gul, ac yna yn disgyn o'r naill graig i'r llall nes cyrhaedd y gwaelod, anmhosibl i'r edrychydd beidio cael ei daro gan arucheledd yr olygfa.

Yr oedd yr "hen bobl" yn ofergoelus iawn. Credent bob math o ffolinebau anhygoel bron. Yn mhlith pethau ereill, dywedent mai y diafol a adeiladodd y bont isaf dros yr afon hon. Wrth gwrs, ni chredid y fath ffolineb yn bresenol. Gŵyr pob plentyn erbyn hyn nad oedd a wnelai Satan a'r bont hon mwy nag â rhyw bont arall,

Ond y mae Satan, er hyny, yn gwneyd pontydd. Ond y mae yr holl bontydd wneir ganddo yn dwyllodrus fel ei holl weithredoedd ef, a gwae y bachgen neu y lodes a'u croesant: gallant, y mae'n wir, eu harwain dros y dyryswch ag y byddont ynddo, ond dygant hwy yn y diwedd i gywilydd athrallod. Gadewch i ni ystyried rhai o henynt.

Y mae Hugh yn chwareu ar ei ffordd i'r ysgol nes y mae haner awr dros yr amser; y mae arno ofn y meistr a'r gospedigaeth sydd yn ei aros; ac fel y mae yn ystyried pa beth i'w wneyd, y mae Satan, ag sydd bob amser yn ymyl, yn gwneyd pont i Hugh—pont o gelwydd—a dyweda wrth y meistr "mai ei dad a'i hanfonodd ar neges."

Y mae Jane yn gafael mewn peth na ddylasai; yn fuan clywir swn uchel, y mae y gwydr neu y gwpan yn deilchion. Ofna y canlyniadau, ac yn lle cyffesu ei bai ar unwaith fel lodes dda, ceisia guddio ei phechod. Gwna Satan bont iddi a'i galluoga i fyn'd dros ei dyryswch; ac yna y mae yn casglu y darnau ac yn eu gosod wrth eu gilydd yn ofalus nes yr edrycha y llestr yn gyfan, doda yn ei le a gadawa i rhywun arall afaelyd ynddo yn ddifeddwl, a chael y bai am ei dori hefyd.

Fy nghyfeillion ieuangc, cofiwch mai pontydd y diafol ydyw pob math o dwyll ac anwiredd. Gwir y gallant eich cynorthwyo ar y pryd i fyn'd dros y

dyryswch; ond yn y diwedd, arweiniant i ganlyniadau ofnadwy.