Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch
← Pwysaf arnat, addfwyn Iesu | Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch gan Frederick William Faber wedi'i gyfieithu gan John Thomas Job |
Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
183[1] Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch?
87.87.
1 CHWI, eneidiau, pam y crwydrwch
Fel tarfedig braidd o dref?
Ffôl galonnau, pam y cefnwch
Ar ei ryfedd gariad Ef?
2 A fu cyn dirioned Bugail,
Neb erioed mor fwyn ei fryd
A'r Gwaredwr a fu'n gwaedu
Er mwyn casglu'i braidd ynghyd?
3 Mae'i drugaredd Ef yn llydan,
Mae yn llydan fel y môr;
Ac mae gras sydd fwy na rhyddid
Yng nghyfiawnder cyfraith Iôr.
4 Cans mae cariad Duw'n ehangach
Na doethineb eitha'r byd;
Ac mae calon yr Anfeidrol
Yn rhyfeddol fwyn o hyd.
5 Y mae cyflawn waredigaeth
Yn yr Hwn fu ar y pren;
Mae gorfoledd i'w holl Eglwys
Yng ngofidiau Crist, ei Phen.
6 Drist eneidiau, dowch at Iesu,
Ymneséwch heb amau dim;
Dowch mewn ffydd yn rhin ei gariad,
Profwch o'i anfeidrol rym.
7 Pe bai'n cariad yn fwy didwyll,
Digon fyddai'i air i ddyn;
Byddai'n hoes yn llawn hyfrydwch-
Yn hyfrydwch Duw ei Hun.
Frederick William Faber,
cyf. John Thomas Job
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 183, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930