Neidio i'r cynnwys

Claf Abercuawg

Oddi ar Wicidestun
1
Goreiste ar vrynn a eruyn uym bryt,
A heuyt ny'm kychwyn.
Byrr vyn teith; diffeith vyn tydyn.


2
Llem awel; llwm benedyr byw.
Pan orwisc coet teglyw
Haf, teryd glaf wyf hediw.


3
Nyt wyf anhyet; milet ny chatwaf.
Ny allaf darymret.
Tra vo da gan goc, canet!


4
Coc lauar a gan gan dyd
Kyfreu eichyawc yn dolyd Cuawc.
Gwell corrawc no chebyd.


5
Yn Aber Cuawc yt ganant gogeu
Ar gangheu blodeuawc.
Coc lauar, canet yrawc.


6
Yn Aber Cuawc yt ganant gogeu
Ar gangheu blodeuawc.
Gwae glaf a'e clyw yn vodawc.


7
Yn Aber Cuawc, cogeu a ganant.
Ys atuant gan vym bryt
A'e kigleu nas clyw heuyt.


8
Neus e[n]deweis i goc ar eidorwc brenn.
Neu'r laesswys vyg kylchwy.
Etlit a gereis neut mwy.


9
Yn y vann odywch llonn dar
Yd e[n]dewis i leis adar.
Coc uann, cof gan bawp a gar.


10
Kethlyd kathyl uodawc hiraethawc y llef,
Teith odef, tuth hebawc.
Coc vreuer yn Aber Cuawc.


11
Gordyar adar; gwlyb neint.
Llewychyt lloer; oer deweint.
Crei vym bryt rac gofit heint.


12
Gwynn gwarthaf [bre; gwlyb] neint; deweint hir.
Keinmygir pob kywreint.
Dylywn pwyth hun y heneint.


13
Gordyar adar; gwlyb gro.
Deil cwydit; divryt divro.
Ny wadaf, wyf claf heno.


14
Gordyar adar; gwlyb traeth.
Eglur nwyure; ehalaeth
Tonn; gwiw callon rac hiraeth.


15
Gordyar adar; gwlyb traeth.
Eglur tonn, tuth ehalaeth.
Agret y mabolaeth;
Carwn bei kaffwn etwaeth.


16
Gordyar adar ar edrywy ard.
Bann llef cwn yn diffeith.
Gordyar adar eilweith.


17
Kynnteuin, kein pob amat.
Pan vryssyant ketwyr y gat,
Mi nyt af; anaf ny'm gat.


18
Kynteuin, kein ar ystre.
Pan vrys ketwyr y gatle,
Mi nyt af: anaf a'm de.


19
Llwyt gwarthaf mynyd; breu blaen onn.
O ebyr dyhepkyr tonn
Peuyr: pell chwerthin o'm kallon.


20
Assymy hediw penn y mis
Yn y westua yd edewis.
Crei vym bryt; cryt a'm dewis.


21
Amlwc golwc gwylyadur.
Gwnelit syberwyt segur.
Crei vym bryt; cleuyt a'm cur.


22
Alaf yn eil; meil am ved.
Nyt eidun detwyd dyhed.
Amaerwy adnabot amyned.


23
Alaf yn eil; meil am lat.
Llithredawr llyry; llonn cawat.
A dwfyn ryt; berwyt bryt brat.


24
Berwit brat anuat ober.
Bydaut dolur pan burer,
Gwerthu bychot yr llawer.


25
Pre ator pre ennwir.
Pan uarno Douyd, dyd hir,
Tywyll vyd geu; goleu gwir.



26
Kerygyl yn dirch mat; kyrchynyat kewic.
Llawen gwyr odywch llat.
Crin calaf; alaf yn eiliat.


27
Kiglei don drom y tholo,
Vann y rwng gra[ea]n a gro.
Krei vym bryt rac lletvryt heno.


28
Osglawc blaen derw; chwerw chweith onn.
Chwec evwr; chwerthinat tonn.
Ny chel grud kystud callon.


29
Ymwng ucheneit a dyneit arnaf,
Yn ol vyg gordyfneit.
Ny at Duw da y diryeit.


30
Da y dirieit ny atter,
Namyn tristit a phryder.
Nyt atwna Duw ar a wnel.


31
Oed mackwy mab claf; oed goewin gynran
Yn llys vre[e]nhin.
Poet gwyl Duw wrth edëin.


32
Or a wneler yn derwdy,
Ys tiryeit yr a'e derlly.
Cas dyn yman yw cas Duw vry.[1]
  1. Ifor Williams, Canu Llywarch Hen gyda Rhagmadrodd a Nodiadau (Cardiff: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935), 23-27.