Clyw hyn, O ferch! ac hefyd gwêl

Oddi ar Wicidestun

Mae Clyw hyn, O ferch! ac hefyd gwêl yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Clyw hyn, O ferch! ac hefyd gwêl,
Ac â chlust isel gwrando;
Mae'n rhaid it ollwng pawb o'th wlad
A thŷ dy dad yn ango'.


Yna bydd gan y Brenin wych
Gael edrych ar dy degwch;
Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,
I gael i'th oes hyfrydwch.


A merch y Brenin, glân o fewn,
Anrhydedd llawn sydd iddi;
A gwisg o aur a gemau glân
Oddi allan sydd am dani.


Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon
Yn wych ger bron ei Harglwydd,
Ac â'i gwyryfon gyda hi
Daw atat ti yn ebrwydd.


Ac mewn llawenydd mawr a hedd,
Ac mewn gorfoledd dibrin,
Hwynt-hwy a ddeuant, wrth eu gwŷs,
I gyd i lys y Brenin.


Dy feibion yn ategion tau
Yn lle dy dadau fyddant;
Tywysogaethau drwy fawrhad
Yn yr holl wlad a feddant.


Coffaf dy enw di 'mhob oes
Tra caffwyf einioes imi;
Am hyn y bobloedd a rydd fawl
Byth yn dragwyddol iti.