Clywch leferydd gras a chariad
Gwedd
← Dacw gariad, dacw bechod | Hyn yw 'mhleser, hyn yw f'ymffrost gan Jonathan Evans, Coventry wedi'i gyfieithu gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) |
Gwelaf graig a'm deil mewn stormydd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
193[1] Gorffennwyd
87.87. 47.
1 CLYWCH leferydd gras a chariad,
O Galfaria'n seinio sydd;
Wele'r cedyrn greigiau'n hollti,
Haul yn twllu ganol dydd:
"Fe orffennwyd!"
Dwys ddolefa'r Meichiau mawr.
2 O! 'r trysorau anchwiliadwy
A gynwysir yn y gair;
Môr diderfyn o fendithion,
I dylodion ynddo a gair:
"Fe orffennwyd!"
Ni bydd eisiau aberth mwy.
3 Atgyweirier pob rhyw delyn
Drwy y ddaear faith a'r nef
Er cyd-daro'r anthem newydd
Heddiw a gyhoeddodd Ef:
"Fe orffennwyd!"
Dyma gân na dderfydd byth.
—Jonathan Evans, Coventry.
cyf: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 193, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
[[Categori:Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)}}