Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams (testun cyfansawdd)
← | Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams (testun cyfansawdd) gan Maurice Davies, Llanfair-ym-Muallt |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams |
COFFADWRIAETH,
NEU HANES BYR O
FYWYD A MARWOLAETH
Y PARCHEDIG
JOHN WILLIAMS,
GYNT O
BANT-Y-CELYN,
𝔖𝔴𝔶𝔡𝔡 𝔊𝔞𝔢𝔯𝔣𝔶𝔯𝔡𝔡𝔦𝔫;
AT YR HYN Y CHWANEGWYD RHAI PIGION
O'I LYTHYRAU, AC AMRYW O'I
HOFF DDYWEDIADAU.
WEDI EU CASGLU A'U CYFIEITHU GAN Y
PARCH. MAURICE DAVIES,
LLANFAIR-YN-MUALLT,
Trwy ganiatâd Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd,
yn y Deheubarth.
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
PONT-Y-POOL:
ARGRAFFWYD GAN W. ROWLANDS.
1830.
RHAGYMADRODD.
AT Y DARLLENYDD,
Os bydd i ti gael rhyw ddywenydd neu adeiladaeth wrth ddarllen y dalenau canlynol, gwybydd dy fod yn ddyledus mewn rhan i Morgan Williams, Ysw. Dolaugwynion; câr a chymmynweinydd, y diweddar Barch. John Williams, yr hwn yn ei hynawsedd caredig, a ganiataodd i mi ddyfodfa at bapyrau ac ysgrif-lyfrau Mr. J. Williams.
Os bydd i ti ganfod gwallau, fel yn ddiau y canfyddi lawer un; cyfrif hyny i'm hanfedrusrwydd i. Os bydd i ti dderbyn bendith i dy enaid, dyro y gogoniant i Dduw, oddi wrth yr hwn y mae pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith yn disgyn. Gan ddymuno i ti a phob dyn, ras yma, a thragywyddol ogoniant a dedwyddwch wedi myned oddi yma, y gorphwysa
Dy ewyllysiwr da,
A'th was dros Grist,
MAURICE DAVIES.
Llanfair-yn-Muallt,
- Rhagfyr 24, 1830.
COFFADWRIAETH
Y
PARCH JOHN WILLIAMS.
CWYNIR yn athrist gan y prophwyd Esay 57. I. Fod y cyfiawn yn marw, ac ni esyd neb at ei galon, a bod y gwyr trugarog yn cael ei cymmeryd ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymmerir y cyfiawn ymaith. Mae yn debyg nad oes yr un genedl gristionogol wedi bod yn fwy euog o'r cyhuddiad trwm uchod, na'n cenedl ni, y Cymry. Cododd yr Arglwydd lawer o ddynion enwog mewn dawn, dysgeidiaeth, llafur, a defnyddioldeb yn ein plith; ond cyn gynted ag y buant feirw, hwy a ebargofwyd yn y ddinas, ac yn y wlad lle buont yn llafurio.
Mae yn wir fod peth diwygiad o'r esgeulusdra hyn yn y blynyddoedd diweddaf, os gellir ei alw yn ddiwygiad hefyd; sef ysgrifenwyd hanes amryw o ddynion ieuainc duwiol a gobeithiol, gan rai o'u cyfeillion a'u cyfoedion, tra mae llawer o'r hen bobl enwog a llafurus, y rhai a ddygasant bwys y dydd a'i wres, yn cael eu gadael i fyned i dir angof, heb son am danynt. Un o'r cyfryw ydoedd y diweddar Barch. John Williams, o Bant-y-celyn: gwr teilwng iawn i'w gofiant gael ei ysgrifenu gan y mwyaf doniol a llithrig yn y dywysogaeth; ond gan mai arnaf fi y disgynodd y coelbren am y gorchwyl, nid oes genyf ddim i'w wneyd, ond hel yn nghyd gymmaint o ddefnyddiau a allaf, a'u gosod ger bron y darllenydd mor drefnus ag y medraf, gan feddwl yn sier, y bydd yn dda gan filoedd yn ein gwlad, gael hyn o goffadwriaeth am y gwr enwog hwnw.
Mr. John Williams, ydoedd ail fab i'r Parch. William Williams, o Bant-y-celyn, yr awen-fardd godidocaf, a mwyaf defnyddiol i Eglwys Crist, a fu yn mhlith y Cymry erioed: gwr y bydd ei enw fel ei waith, yn arogli yn beraidd iawn, tra parâo crefydd Iesu, yn mhlith unrhyw enwad union-gred yn y dywysogaeth. A diamau y pery hyny weithian. hyd derfyn byd.
Ganwyd John Williams ar y 23ain o fis Mai, ya y flwyddyn 1754. Yn ei fabandod, ei febyd, a'i ieuenctid, ymddengys oddiwrth lythyrau ei dad, bod golwg gyflym a gobeithiol arno; a'r hen wr fel pe buasai yn darllen rhyw beth yn ei wynebpryd, neu yn hytrach yn meddu gradd o ysbryd prophwydoliaeth, a ddywedai yn aml, "E fydd Jack yn wr cadarn yn yr ysgrythyrau." Pa beth bynnag a gynhyrfai yr hen Ganiedydd peraidd i feddwl felly, ac i ddywedyd felly, am ei fab, iawn y meddyliodd, ac iawn y dywedodd: cadarn a fu efe yn yr ysgrythyrau, a grymus iawn a fu effeithiau yr ysgrythyrau ar ei galon a'i holl ymddygiad ef, trwy ei oes.
Derbyniodd gynsail egwyddorion ei ddysgeidiaeth gan ei dad ei hun; a chychwynwyd of mewn dysgeidiaeth awdurawl, (Classical Learning,) dan ofal un Mr. Williams, yr hwn oedd y pryd hyny yn athraw ysgol yn y lle a elwir Coed-cochion, ond a fu gwedi hyny yn Weinidog yn yr Eglwys Sefydledig, ac hefyd yn pregethu yn deithiol yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd. `Yr oedd Mr. J. Williams yn barchus ac yn anwyl iawn o'i hen athraw hyd y diwedd, fel yr ymddengys oddiwrth lythyr a ddanfonodd at ei frawd, y Parch. W. Williams, Offeiriad yn Truro, yn Nghernyw, lle mae yn crybwyll am dano fel hyn:-"Mae Mr. Williams, Feriglor Llandeilo'r-fàn, yr athraw cyntaf a goreu a gawsoch chwi a minnau, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Cyfarfu ar ei bererindod â chroesau trymion, ac âg aml ddrygau; ond gwaredodd yr Arglwydd ef oddiwrthynt oll. Bu farw dan ganu "fordd newydd wnawd gan Iesu Grist, &c."
Gadawodd ar ei ol dri o feibion, yn Weinidogion yn yr Eglwys Sefydledig.
Pan yn nghylch pymtheg oed, symudwyd Mr. Williams oddi dàn ofal ei hen athraw duwiol i'r Ysgol Ramadegol yn Nghaerfyrddin: lle y gorphenodd y ddysgeidiaeth hono, sydd fel llawforwyn, yn wasanaethgar iawn, ac yn dra angenrheidiol, i weinidogaeth yr efengyl. Gwedi iddo fod am rai blynyddoedd yn yr athrofa uchod, yr oedd J. Williams, drwy athrylith a diwydrwydd, nid yn unig wedi rhagori ar ei gyd-ysgolheigion, ond hefyd yn cyd-raddu â'i athrawon; fel nad oedd ganddynt mwyach ddim i'w ddangos iddo, ar nad oedd eisioes. wedi ei ddysgu.
Yr oedd y pryd hwn yn rhy ieuanc i dderbyn urddau eglwysig, ac yn rhy fywiog a deffro ei ysbryd, i dreulio ei amser mewn segurdod. Fel yr oedd un prydnawn-gwaith yn myfyrio pa beth a wnelai; canfu trwy y ffenestr, yr Esgob a'i wraig yn rhodio ar yr heol: aeth allan yn ddioed i'w cyfarfod ac a gyfarchodd yr Esgob fel y canlyn:"Fy arglwydd, a fyddwch chwi mor ostyngedig a chaniatâu i mi gael ymddiddan gair a chwi?" Caniataodd yr Esgob hyny yn dirion iddo, ac yntau a aeth rhagddo, "Fy arglwyd, mae yn hysbys i'ch arglwyddiaeth fy mod i wedi dysgu y cwbl sydd ganddynt i'w ddysgu i mi yn yr athrofa hon, a chan nad wyf yn ewyllysio treuliaw dim o'm hamser yn segur; yr wyf mewn cyfyng-gyngor pa beth i'w wneyd, hyd oni ddelwyf mewn oedran i gael fy urddo: a gair o gyngor gan eich arglwyddiaeth yn fy amgylchiad presenol, yw yr hyn yr ydwyf yn ddeisyfu yn daer ac yn ostyngedig." Atebai yr Esgob ef yn fwynaidd, "Gellwch ddisgwyl clywed oddiwrthyf, John Williams, yn nghylch y pryd hwn yfory." Diolchodd yntau iddo yn barchus, a'r Esgob a'i wraig a ymadawsant dan wênu.
Y canlyniad o hyn a fu, iddo gael ei osod yn îsathraw yn yr ysgol hòno: ac am ei wroldeb hwn, mae ei dad yn ei ganmol yn wresog mewn llythyr at ei fab henaf:—"Bydd wrol, Billy," ebe efe "mae pregethwr. heb wroldeb fel durlif heb ddanedd, fel cyllell heb awch, neu fel milwr heb galon. Aeth dy frawd Jacky ei hun i ymddiddan a'r Esgob, ar yr heol yn Nghaerfyrddin, a chafodd ei wobrwyo am ei wroldeb." "Mae ofn dyn yn dwyn magl."
Gwedi iddo gael hawl-fraint i Eglwys Llanfynydd, yn Swydd Gaerfyrddin, cafodd ei urddo yn Ddyweinydd, (Deacon,) gan yr Esgob Warren, yn Nghapel Llys yr Esgob, yn Abergwili, ar y Sabbath y 17eg o Hydref, yn y flwyddyn 1779, sef y flwyddyn gyntaf o gyssegriad yr Esgob Warren. Cyn pen y flwyddyn, sef Medi y 3ydd, 1780, cafodd ei urddo yn Offeiriad gan yr un Esgob. Yr unig holiadau am dduwinyddiaeth a ofynodd yr Esgob iddo wrth ei urddo oedd, y ddau a ganlyn. 1. Beth oedd cyfiawnâad? 2. Beth oedd yn ei feddwl wrth ffydd yn unig? I'r gofyniad cyntaf, atebodd Mr. Williams fel hyn:—"Wrth gyfiawnhad, yr wyf yn deall, fod pechadur euog yn cael hawl personol yn nghyfiawnder Crist trwy ffydd yn unig. "Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn, y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd." "Yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawneir dyn heb weithredoedd y ddeddf." I'r ail, attebodd fel hyn:-"Wrth ffydd yn unig, yr wyf yn deall, egwyddor ysbrydol, ag mae yr Ysbryd Glan yn ei phlanu yn enaid dyn yn yr adenedigaeth, yr hon egwyddor sydd yn ei ddysgu synied yn addas am Dduw, ac am dano ei hunan; ac yn ei alluogi i ymorphwys ar gyfiawnder Crist am gymeradwyaeth gydâ Duw; i ymddiried yn ei waed ef am faddeuant a glanâad; ac yn y cyflawnder sydd ynddo am bob trugaredd i fywyd tragywyddol." Ni welodd yr Esgob yn addas i godi yr un wrthddadl, yn erbyn ei atebion addas ac ysgrythyrol; yr unig gyngor a roddodd iddo wrth ymadael oedd, "Byddwch wych fy mab; gochelwch na wneloch ddim cyfeillach a'r Methodistiaid, a dïammau genyf y byddwch yn gysur i chwi eich hun, ac yn addurn i'r Eglwys." Ar hyn ymadawodd Mr. Williams yn siriol, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am y cymmorth a'r llwyddiant a gawsai: ac ar y ffordd adref, dywedai rhyngddo ag ef ei hun, "Nid yw fy arglwydd Esgob yn adnabod y Methodistiaid hyn, cystal ac yr adwaen i hwynt, pe amgen, ni buasai yn fy annog i beidio cyfeillachu a hwynt. Arglwydd, na ddyro y pechod hwn yn erbyn dy hen was! Ac am danaf finnau, byddaf waelach etto na hyn; byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun, a chyda'r llaw-forwynion. (am y rhai y llefurai yr Esgob,) y'm gogoneddir."
Gwedi iddo gael ei urdd Offeiriadol, ni chafodd yr un Plwyf dàn ei ofal, nes iddo gael perigloriaeth (curacy) Llanfair-yn-muallt, a Llanddewi'r-cwm, yn mis Awst, 1782. Ond byddai yn gweinyddu dros eraill, pa le bynnag y byddai galwad am dano; a bu yn gwasanaethu amryw weithiau yn Llanfairar-y-bryn, y Plwyf lle ganed ef, a lle mae ei gorph yn awr yn gorwedd, hyd oni chyfodir y meirw yn Nghrist.
Ar gais y diweddar Barch. Mr. Jones o Langana, gwr y bydd ei goffadwriaeth byth yn fendigedig, aeth Mr. Williams i Langrallo, yn Morganwg, yn Ionawr, 1781, a bu yno yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn rhai o'r Llanau cymmydogaethol, hyd oni symmudodd i Lanfair-yn-muallt, yn Awst, 1782. Mae yn debygol ei fod yn barchus iawn yn Morganwg gan rai o uchelwyr y wlad; oblegid cair fel hyn yn ysgrifenedig yn ei Gôd-lyfr, Mai 30, 1781. "Heddyw, pregethodd yr Esgob Barrington a minnau, y naill ar ol y llall, yn Nghymmanfa fisol yr Offeiriaid, yn Mrô Morganwg: ei arglwyddiaeth yn Saesoneg, a minnau yn Gymraeg." Nis gallasai fod yn anenwog iawn, pe amgen, ni roddasid ef i bregethu ar y fath achlysur, ac yn enwedig gyda'r Esgob.
Ar ei symmudiad i Lanfair-yn-muallt, aeth i lettŷa at Law-feddyg cyfrifol, o'r enw Jones, gwraig yr hwn oedd yn ddynes dduwiol, ac yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd hyd ddydd ei marwolaeth ac yn dra adnabyddus i gasglydd hyn o hanes. Ymddengys fod ei dad ar daith yn Ngogledd Cymru, pan gafodd y Parch. John Williams ei sefydlu yn Llanfair; a disgynai yr awen ar yr hen gathlydd peraidd ar ei daith; ysgrifenodd gân go ddigrif ato, un pènill o ba un sydd fel y canlyn:
"Hed y Gwccw, hed yn fuan, hed, aderyn glas ei liw, "Hed oddi yma i Bant-y-celyn, gwed wrth Maly 'mod i'n fyw; "Hed oddi yno i Lanfair-'muallt, gwed wrth Jack am gadw'ile "Ac os na chaf ei weled yma, caf ei weled yn y ne‘.
Mewn ymddiddanion â Mr. Williams, clywais ef yn sylwi lawer gwaith, bod gormod o weniaeth yn hanesion dynion duwiol; o herwydd y byddir yn coffâu eu rhinweddau yn unig, ac yn cuddio eu holl golliadau. Gan mae dyna oedd ei farn ef, a chan fod yr Ysbryd Glân yn yr ysgrythyr, yn coffầu beiau duwiolion er gocheliad i ni, yn gystal a'u rhinweddau er siampl i ni; mi feddyliwn mai nid anweddus fyddai coffâu yma ei wendid yntau hefyd, yn enwedig pan ystyriom y coffa galarus sydd ganddo ef ei hun am ei fai, yn ei holl lythyrau at ei gyfeillion. Er bod Mr. Williams er yn ieuanc, a phethau gobeithiol ynddo, yn wastad o ymddygiad boneddigaidd; ac ar ol cael ei neillduo i'r weinidogaeth yn cael ei barchu gan bob gradd, fel gwr dysgedig a gwybodus; eto, mae yn debygol, (a hyny oedd ei feddwl ef ei hun,) nad oedd wedi cael tröedigaeth wirioneddol at Dduw, ac i lwybrau sancteiddrwydd, cyn dyfod i Lanfair-yn-muallt: oblegid byddai yn fynych yn cael ei orchfygu gan y pechod o yfed i ormodedd; ac fel yr oedd un tro yn claddu un o'i blwyfolion,[1] ac yn sefyll ar fin y bedd, yn datgan y geiriau "Pridd i'r pridd, lludw i'r lludw, &c.," trwy effaith diod gadarn, bu agos iddo syrthio i'r bedd, a hyny a wnaethai ddïammau, oni buasai i gyfaill oedd yn ei ymyl ymfaelyd ynddo, a'i achub! Effeithiodd hyn gymmaint arno, fel y sobrodd yn hollawl yn y fan. Aeth i'w letty dan wylo yn chwerw-dost, ac i'w ystafell yn ddioed; ac ni welwyd ef hyd y boreu dranoeth. Ni chysgodd ef ddim y noson hono; ond, a'i galon yn ddrylliog, ac a'i enaid yn toddi gan drallod, gwnaeth ei wely yn foddfa. Gellir cael graddau o olwg ar y cyfyngder caled y bu ynddo, wrth y cyfaddefiadau a'r saeth-weddïau canlynol o'r eiddo ef ar yr achlysur hwnw:—"Dywedaf wrth y pwll, tydi yw fy nhad; ac wrth y pryƒ, fy mam aʼm chwaer wyt. Fy ngheudod sydd anwireddau Nid oes ynof fi ddim da yn trigo. Aflan, aflan! Mae fy nghalon fel Babilon, yn lletty cythreuliaid, ac yn nyth pob aderyn aflan ac atgas! Rhyfedd, o Dduw na buasit ti yn fy nghauad i fynu mewn anobaith, ac mewn cadwynau tywyllwch gydâ'r diafol, hyd farn y dydd mawr! Pa beth a ddywedaf? gosodaf fy llaw ar fy ngenau, i edrych a oes gobaith Gan i ti arbed hyd yma, arbed i fywyd tragywyddol. Deuaf atat fel y Publican, gan ddywedyd, O Dduw bydd drugarog wrthyf bechadur. Y Duw sydd anfeidrol mewn trugaredd, trugarhâ wrthyf finnau. Bydd drugarog wrth fy anghyfiawnderau, a'm pechodau, a'm hanwireddau, na chofia ddim o honynt mwyach. Cyfiawnhâ fy enaid euog trwy dy ras, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu. Ac O, pura, sancteiddia, glanhâ, a dyro galon newydd i mi 0 Dduw. Cefais galon arall genyt lawer gwaith: ond yr wyf heb y galon newydd. Calon newydd wyf yn ymofyn, pe byddai i mi gardota fy mara o ddrws i ddrws. Bydded i waed Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragywyddol a'i hoffrymod ei hun yn ddifai i Dduw, buro fy nghydwybod oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw. Gogonedda dy ras yn fy iachawdwriaeth, bechadur tlawd, &c., &c.
Fel hyn y trodd ei wyneb, ac yr ymroddodd i geisio yr Arglwydd, gan barau mewn gweddiau ac erfyniadau taerion hyd doriad y dydd; ac mae yn debygol i'r Arglwydd yn fuan, ddangos ei hun yn Dduw parod i faddeu; yr hyn a barodd iddo yntau dorri allan mewn diolchgarwch, gan ddywedyd, "Diolch am radd o lonyddwch oddi wrth of a drag. O na fydded i mi mwyach dderbyn ysbryd eaethiwed i beri ofn, ond ysbryd mabwysiad, trwy yr hwn y gallwyf lefain Abba Dad. Addefais fy mhechod wrth it, a'm hanwiredd ni chuddiais; dywedais, cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod." Ychydig ddyddiau ar ol hyn, mae yn ysgrifenu fel hyn:—"O na byddai yr holl fyd yn profi y fath sylwedd, ac yn teimlo y fath rym a chysur mewn crefydd, ag wyf fi yn deimlo yn bresenol. Mae yr Arglwydd wedi maddeu fy mhechod, ac yn darostwng fy llygredd. Mae yn tarfu fy ngelynion, ac yn symud fy ofnau. Mae yr ychydig a brofais i o bethau y nefoedd ar y ddaear, yn ei gwneud yn nefoedd yma; ond yn y nef ei hun, lle mae gwyneb fy Mhriod i'w weled heb un llen, a'i holl berffeithiau yn ymddisgleirio heb un gorchudd. O mor fawr fydd y wledd, mor rhyfedd y mwynâad; lle caf oleuni tragywyddol, gweledigaethau tragywyddol, a thebygolrwydd tragywyddol, i'r Duw tragywyddol!"
Cafodd Mr. Williams y tro hwn, y fath gasineb at y pechod o feddwdod, fel y clywais ef yn dywedyd, na bu y peth byth wedi hyny yn brofedigaeth iddo. Ac mewn llythyr at ei frawd, 1784, mae yn dywedyd, "I Dduw y byddo'r diolch, yr wyf wedi cael y fath oruchafiaeth ar y pechod a wyddoch chwi oedd barod i'm hamgylchu, fel nad oes neb o'm cyfeillion yn fy nrwg-dybied: a thrwy drugaredd nid oes raid iddynt."
Gwedi y tro uchod, darllenai y gwasanaeth a phregethai dair gwaith ar y Sabbath, o fewn yr Eglwys Sefydledig; ac yn yr wythnos byddai gydâ ei frodyr y Methodistiaid yn Nghapel Alpha,[2] y rhai yr oedd ganddo erioed barch mawr iddynt, ond o hyn allan, ei frodyr anwylaf yn yr Arglwydd oeddynt. Aeth son am ei droedigaeth yn y fan drwy holl Sir Frycheiniog; a chlywodd yr Arglwyddes Huntingdon am y cyfnewidiad mawra gymerodd le arno; ac o herwydd y parch mawr oedd ganddi i'w dad, a gwybod ei fod yntau yn ysgolhaig rhagorol; hi a ysgrifenodd ato yn ei dull syml a difrifol a chyffredin hi, gan daer ddymuno arno gymeryd gofal yr Athrofa yn Nhrefeca am ryw yspaid o amser; o herwydd fod y Prif-athraw yno dan angenrheidrwydd o fyned oddi cartref am rai misoedd. Ufuddhâodd Mr. Williams i fyned; ac yn Nhrefeca y bu o ddechreu Awst hyd ddiwedd Rhagfyr, 1784. Yn ystod yr amser hwn dangosodd y fath ddiwydrwydd, a'r fath gymwysderau fel athraw, fel yr hoffodd y bendefiges enwog a duwiol hono ef yn fawr, ac a'i gwobrwyodd ef yn hardd am ei wasanaeth. Yr oedd yr holl Efrydwyr (students) hefyd yn ei garu yn anghyffredin; a chafwyd cryn waith darbwyllo rhai o honynt, i beidio gadael yr athrofa, a chanlyn Mr. Williams i Lanfair-yn-muallt.
Bu wedi hyn ddwy flynedd yn Llanfair, yn llafurus a defnyddiol iawn, oddi fewn ac oddi allan i furiau yr Eglwys Sefydledig. Pan diswyddwyd Mr. Phillips o fod yn athraw yr ysgol yn Nhrefeca, cafodd Mr. Williams fel oedd yn naturiol disgwyl, ei ddewis yn ei le, yn Ionawr, 1786. Yr achos o ddiswyddo Mr. Phillips, medd y Parch. William Kemp, (Athraw Duwinyddol yr Athrofa yn Cheshunt,) ydoedd yn nghylch Bradford, y Gwrthddeddfwr, (Antinomian,) Mr. Phillips yn lle ymddwyn tu ag ato yn ol rheolau yr Athrofa, a bennododd ymddadleu âg ef yn yr iaith Ladin, ar yr awr giniaw. Yn mhoethder y ddadl, pan oedd Bradford a'i dalcen fel y pres, yn haeru, ac yn amddiffyn ei athrawiaeth benrydd, methodd Mr. Phillips a meddianu ei hun, cododd ei waed yn ei wyneb, torodd allan o'i ffroenau, a llifodd yn ffrwd ar hyd liain y bwrdd. Daeth y peth annymunol hyni glustiau yr Arglwyddes, gorchymynodd i'r holl Efrydwyr gyd gyfarfod, a thrin y mater yn ol cyfraith yr Athrofa, a'r penderfyniad a fu, diswyddo Mr. Phillips. Y Parch. S. Lloyd, (o Abertawy wedi hyny,) oedd yr Efrydydd henaf y pryd hwnw, ac yn y gadair ar yr achlysur hwnw. Offeiriad oedd Mr. Phillips, ac yn ŵr tra dysgedig: bu yn byw wedi hyny yn Birmingham.
Pum' mlynedd a haner y bu Mr. Williams yn Nhrefeca, a chyfrif yr amser y bu yno yn absenoldeb yr athraw: oblegid yn Ebrill, 1791, rhoddodd ei swydd i fynu, er pob ymdrechiadau o eiddo Ymddiriedolwyr (Trustees) yr Athrofa, a'r Arglwyddes hefyd, i'w gadw yno. Dau reswm neillduol oedd yn roddi ym ei waith yn ymadael â Threfeca; yn gyntaf, o herwydd marwolaeth ei dad, yr oedd yn barnu mai ei ddyledswydd oedd myned i Bant-y-celyn, i fod yn gysur i'w fam yn ei gweddwdod a’i henaint. Yn ail, fel y gallai gael mwy o amser a chyfleusdra at ei hoff waith, sef pregethu yr efengyl.
Er mai pum' mlynedd a haner y bu ef yn athraw yn Nhrefeca; eto, yr oedd yn amser maith pan ystyriom fod holl bwys y gwaith arno ef ei hun: nid oedd ganddo neb i'w gynorthwyo; efe ei hun oedd yn dysgu'r ieithoedd, yn gwrando yr holl draethodau ar ddywinyddiaeth, ac yn manwl farnu arnynt. Ymddengys oddiwrth amrai o'i lythyrau, yn enwedig at ei frawd, fod ei lafur yn fawr iawn yr amser hwnw. Ni byddai yn cysgu, yn aml, dros ddwy, o'r pedair awr ar hugain; a'r rhan fynychaf, byddai yn codi am bedwar o'r gloch yn y boreu. Yr oedd ganddo o leiaf ddeuddeg o Efrydwyr (Students) dan ei ofal, ac weithiau bedwar ar ddeg; a rhai o'r hai hyny yn hynod o dreiddgar, fel y byddai yn cael gwaith cadw y blaen arnynt: yn enwedig dau o honynt, Woodward a Roby; byddent hwy yn aml wrth ei sodlau, ac yn ei gadw ar lawn waith, i roddi gwaith newydd iddynt hwy.
Gwedi bod wrthi felly yn galed am chwe' diwrnod, nid oedd gorphwys iddo ef ar y sabbath; llefarai y rhan fynychaf dair gwaith ar y sabbath; a theithiau yn gyffredin ddeg, ugain, ac weithiau ddeugain milldir, at yr oedfâon hyn, rhwng myned a dychwelyd. Mewn llythyr at ei frawd, dyddiedig Mawrth, 1789, mae yn dywedyd fel hyn:—"Yr wyf fi weithian wedi cynefino a gweithio, debygwn, fel nad oes arnaf eisiau na gorphwys na chysgu, gan yr hyfrydwch fyddaf yn gael yn y gwaith, a'r cymorth mae'r Arglwydd yn ei roddi i mi ynddo: ond, y mae fy rheswm yn dywedyd wrthyf: y caf fi deimlo oddiwrth hyn yn ol llaw.
Yr ydym newydd gael galwad o'ch Sir chwi, (Cernyw), oddiwrth ugain o gynulleidfaoedd am bregethwyr; ac yr ydwyf finnau wedi cael gorchymyn i barotoi cynnifer a allaf yn ddioed. Onid yw hyn, fy anwyl frawd, yn profi eich segurdod a'ch esgeulusdra chwi yr Offeiriaid, yn y rhan yna o'r wlad?—Ond nac adroddwch hyn yn Edinburgh, na fynegwch hyn yn heolydd Glasgow, rhag llawenychu merched y Kirk,[3] rhag gorfoleddu o ferched yr anghydffurfwyr!"
Mehefin 17, 1791, sef dau fis ar ol ymadawiad Mr. Williams o Drefeca, bu farw yr Arglwyddes Huntingdon; a phenderfynodd ymddiriedolwyr a chynorthwywyr y sefydliad yn Nhrefeca, mai gwell oedd symud yr Athrofa o Gymru i Cheshunt, swydd Herts, 14 milldir o Lundain. Hyny a wnaed, ac agorwyd y lle uchod Awst 24, 1792, pryd y llefarodd ar yr achlysur y Parch. Mrd. Crole, Eyre, Platt, a Kirkman: y rhai oedd wedi eu dwyn i fynu oll yn Nhrefeca. Mae yr Athrofa wedi bod o ddefnydd i'r Cymry, er ei symud i Cheshunt, yn Lloegr; mae rhai yn llafurio yn bresenol, yn llafurio yn ddefnyddiol yn mhlith y Methodistiaid, a gawsant eu dysgu yn yr Athrofa hono. Mae yn agored i wyr ieuainc o bob enwad crefyddol union-gred; a phan ymadawont a'r Athrofa, cânt ddewis eu plaid grefyddol i lafurio yn eu plith.
Pan ymadawodd Mr. Williams a'r Athrofa, yr oedd 14 o wyr ienainc dan ei ofal; o ba rai nid oes yn fyw (medd Mr. Kemp,) ond hyn, sef y Parch. Timothy Wildbore, Penryn; y Parch. John Bickerdike, Kentish Town; y Parch John Davies, o Reading; y Parch Robert Bradley, Offeiriad yn Manchester; y Parch. Thomas Smith, o Lundain a'r Parch. David Ralph, o Gaerodor.
Gwedi i Mr. Williams symud i Bant-y-celyn, ymroddodd i waith y weinidogaeth yn mhlith y Methodistiaid CaIfinaidd; yn sir Frycheiniog yn fwyaf neillduol; er mai Llanddyfri, yn sir Gaerfyrddin, a gafodd y fraint o gael ei enw ef yn ei plith, fel aelod eglwysig. Yr oedd efe er hyny yn ystyried ei hun, ac yn cael ei ystyried gan ei frodyr, yn aelod o Gymdeithas a chyfarfod Misol sir Frycheiniog, hyd ddydd ei farwolaeth. Ni bu y Parch. John Williams erioed yn gymaint o deithiwr a'i dad, ac a llawer eraill o'r hen bobl yn moreu y diwygiad; ond cyfyngai efe ei lafur gan mwyaf o fewn swydd Frycheiniog, a rhan o swydd Gaerfyrddin. Eto, bu amryw weithiau yn ymweled a'r holl eglwysi yn y Deheubarth, a bu ddwy waith hefyd yn y Gogledd. Y tro cyntaf y bu trwy Wynedd oedd, yn 1800; a'i gyfaill ar ei daith y tro hwnw oedd, Mr. John Prytherch, o'r Defynog. Gwedi dychwelyd o'r daith hono, mae yn ysgrifenu at ei frawd fel hyn:—"Yr ydwyf newydd ddychwelyd o daith, o 600 o filldiroedd o leiaf. Pan ysgrifenasoch chwi eich llythyr diweddaf, yr oeddwn yn Dolgellau, yn sir Feirionydd, mewn Cymmanfa. Yn y daith hon yr oeddwn yn llefaru yn gyffredin, dair gwaith yn y dydd, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd ddwy waith; ac yn trafaelu tua phymtheg milldir, y naill ddiwrnod gyda'r llall. Yn fy holl daith, ni chlywais am gymaint ag un gweinidog effro yn yr Eglwys Sefydledig! O mor drwm ydyw, pan mae yr Arglwydd yn dywedyd, "Yr Offeiriaid a ddywedant, Pa le mae yr Arglwydd? a'r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi." Ond mae yr Arglwydd yn cyfodi iddo ei hun fugeiliaid o blith y crefftwyr a'r ffarmwyr, y rhai sydd yn ei law ef, yn afonyddu y byd. Nid yw satan yn cynhyrfu dim wrth bregethu moesoldeb, a rhinweddau da; iechydwriaeth Iesu sydd yn ei gynhyrfu ef; dyna sydd yn cloddio ei allorau i lawr, yn gwaredu y caethion, yn datod gweithredoedd y diafol, &c. Nid rhyfedd i'r apostol ddywedyd, "Nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Nid oedd arno gywilydd i'w chredu fel dyn, i'w phroffesu fel cristion, i'w chyhoeddi fel apostol, nac i farw ynm i hachos fel merthyr."
Yn 1802, aeth drachefn i Ogledd Cymru: ei gyfaill y tro hwn oedd, Mr. William Bevan, Trecastell. Wedi dychwelyd, mae yn ysgrifenu eilwaith at ei frawd fel hyn:—" Teithiasom trwy holl siroedd Gogledd Cymru, a rhan helaeth o siroedd Amwythig a Chaerlleon. Yn Nghaer, cyfarfuom a'r Parch, Mr. Charles, o'r Bala: mae yn ddrwg genyf ddywedyd, fod y chwydd gwyn yn ei law ef, ac mae y Llaw-feddygon yn barnu bydd rhaid ei thori ymaith. Yr achlysur o hono oedd, cael anwyd wrth groesi un o fynyddoedd sir Feirionydd, Yr ydwyf yn ofni y bydd i'r gwas ffyddlon hwn i Grist, farw yn ferthyr, o herwydd ei fawr ymdrech yn yr achos goreu. Er gwaned oedd, darllenodd y gwasanaeth ddwy waith o fy mlaen i yn Nghaer. Pan glywoch fy mod i wedi bod ar daith mor fawr trwy Wynedd, diau y disgwyliwch i mi ddywedyd rhyw beth am y mynyddoedd gwylltwedd, a'r golygiadau anhygoel sydd yno; ond y gwirionedd yw, yr oedd pwysfawrogrwydd y gwaith, a lludded corphorol, yn marweiddio yn llwyr, bob ymofyniad ysgafn-fryd, (curious,) ac sydd mor naturiol i chwi a minau wrth natur. Er bod llawer o fynyddoedd yn y Gogledd, eto y mae yno lawer o wlad dda odiaeth; ac mae y trigolion yn bobl lanwaith, lettygar, ac o ymddygiadau rhagorol."
"Yn sir Fôn, creffais ar y lle a elwir y Plas Newydd; lle y bu Owen Tudur gynt yn byw, yr hwn a ymbriododd a Chatherine, gweddw Harri y V: y mae cof-arwydd am dano yno hyd heddyw. Owen Tudur oedd y dyn glanaf yn ei oes; ond nid oedd o waedoliaeth uchel. Dywedir bod ei fam yn cadw geifr gydâ hi yn y tŷ, yn gyfeillesau, yn lle pendefigesau; ac ei bod yn wastad yn ciniawa oddi ar ddisgl bren ar ei gliniau. Nis gwyddwn i o'r blaen fod breninoedd Lloegr yn hanu o Mona Antiqua, ond y mae'n debyg mai felly y mae ; ac y mae pobl sir Fôn yn hynod o debyg yn eu gwynebpryd i lun Ilarri VIII. Ond y mae yr efengyl wedi peri iddynt ragori yn mhell mewn ffyddlondeb a serchawgrwydd ar y tywysog hwnw; oblegid, gallwch deithio o Ddyfnaint i Fôn, heb gyfarfod a phobl mor serchog i ddieithriaid."
Mewn llythyr at ei frawd, 1808, ar ol coffau gydâ galar dwys am farwolaeth William Lloyd, Ysw., o Gaio, mae yn dywedyd fel hyn:—"Amser nithio yw hwn, ac y mae pob peth yn galw arnom i wylio a gweddio. Mae yr Arglwydd wedi digio, mae y cleddyf wedi ei dynu allan mewn amryw ffyrdd, ac nid oes dim ond gweddi daer a bair iddo fyned yn ol i'r wain. Ond yn nghanol rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; efe a edwyn y rhai sydd eiddo ef, ac y mae pob peth yn cyd weithio er daioni iddynt hwy. Mae dyben dynion yn un peth, a dyben Duw yn beth arall: ond cyngor yr Arglwydd hwnw a saif."
Mewn llythyr arall at ei frawd, 1812, y dywed, "Nid oes un Offeiriad yn perthyn i gorph y Methodistiaid yn y sir hon (Brycheiniog,) ond fy hunan, mae y pellder rhyngom ni a'r Eglwys Sefydledig yn ymledanu bob dydd; ac mae y bobl ieuainc yn cymmeryd yn ganiatâol, nad yw yr Eglwys ond math o gristionogrwydd gwladol: mae yr hen bobl o hyd yn meddu gradd fawr o ragfarn o blaid yr Eglwys, ond nis gwaeth gan y dosparth ieuainc o honom pe byddai yr holl Offeiriaid wedi eu halldudio i'r ochr draw i'r Ganges. Ond er hyn i gyd nid yw yr Offeiriaid yn Neheudir Cymru wedi cyhoeddi dim yn erbyn ein corph ni, ac nid oes neb o honom ninau yn ddirgel nac yn gyhoedd, yn beiddio dywedyd dim yn anmharchus am yr Eglwys wladol.
Yr oedd iechyd Mr. Williams yn adfeilio er ys blynyddoedd, o herwydd yn Hydref 14, 1814, mae yn ysgrifenu at ei frawd; ac wedi coffau yn hiraethlawn am farwolaeth y Parch. Mr. Charles, o'r Bala, mae yn dywedyd fel hyn:—"Mawr y golled a gafodd Cymru oll, ac yn enwedig corph y Methodistiaid yr oedd ef yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer ffordd ; cyhoeddodd amryw o lyfrau rhagorol. Efe a gyhoeddod ar fy nymuniad i hanes bywyd ein tad: myfi a roddais yr ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgoedd a chroen; myfi a ddanfonais. y defnyddiau, ac yntau a gododd yr adeilad. Pan gofiwyf am ei ddefnyddioldeb yn ein plith, a'n bod wedi cael ein hamddifadu o hono; yr wyf yn dychymmygu nad oes genyf ond dywedyd, "Arbed dy bobl, O Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth." Ni chaniatâ fy iechyd i mi fyned nemawr oddi cartref i bregethu yr efengyl, yr hyn sydd ofid mawr i mi: ac yr wyf yn esgeuluso ambell i Gyfarfod Misol, o herwydd nas gallaf nacâu fy nghyhoeddiad, gan daerineb y cyfeillion, a minau yn gwybod fy mod yn analluogi fyned ato. Nid yw gwiw i mi ddywedyd wrth fy mrodyr anwylaf am fy afiechyd, ni wnant ond chwerthin am fy mhen, gan feddwl nad oes dim ond yr hip yn fy mlino, canys felly y galwant hwy bob peth nad ydynt hwy yn ei ddeall, ac ni chredant fod un clefyd ar bregethwr ond yr hip, nes clywed ei fod wedi marw; yna dywedant wrth ei gilydd, "Mae yn debyg ei fod ef yn afiach er ys blynyddoedd, er nad oeddem ni yn ei gredu." Pan fyddwyf fi gartref, yr wyf yn treulio y rhan fwyaf o'm hamser yn darllen y Beibl, a sylwadau y Dr. Gill arno. Yr wyf wedi darllen y rhan fwyaf o'r naw llyfr un plyg, (9 vol. folio.) Yr wyf yn hoffi canlyn y Doctor i bob man ond i'r afon, er ei fod efallai, wedi dywedyd rhai pethau fel uwch gwympiedydd,[4] a milflwyddiedydd,[5] y buasai cystal iddo beidio. Eto, pwy bynag a gymero y boen i ddarllen, gwaith y Doctor, caiff ei wobrwyo yn gyflawi am ei lafur, ac i'm tyb i, a gaiff gymaint o wybodaeth ddefnyddiol, a phe darllenai yr holl lyfrau a ysgrifenwyd."
Mewn llythyr arall at ei frawd, y mae yn ysgrifenu yn y dull syml a hunan-ymwadol hyn:—"O mor druenus yw i ni yn anad neb dynion, drysori i ni ein hunain drysorau ar y ddaear, a ninau yn anog eraill i dysori iddynt drysorau yn y nef! Ond cofiwch hyn, pa le bynag y byddo eich trysor, yno bydd eich calon hefyd. Yr wyf fi yn ei gweled yn ddyledswydd arnaf, i weddio dros yr holl fyd; yn enwedig dros fy mherthynasau yn ol y cnawd: ond fy unig gyfeillion ar y ddaear yw pobl grefyddol, yr wyf yn caru y rhai hyn gyda pha blaid bynag o gristionogion y byddont. Ar yr un pryd, yr wyf yn teimlo mwy o anwyldeb at fy mrodyr y Methodistiaid na thuag at neb arall; nid am fy mod yn meddwl eu bod hwy yn fwy duwiol nac eraill, ond am fy mod i wedi arfer mwy a hwynt, a chael cymaint prawf o'u ffyddlondeb. Yr wyf fi mor ddall i'm camsynadau fy hunan, fel ag ydwyf yn ei chyfrif yn fraint fy mod gyda chorph o bobl a ddywedant am fy ngholled wrthyf, ac ni oddefant bechod ynof." Mewn llythyr at ei frawd mae yn ysgrifenu fel hyn: "Yr oeddwn i yn adnabod un gwr boneddig a fyddai yn arfer dywedyd yn ei fywyd, nad oedd yr un uffern; ond wrth farw, gwnaeth ei lw ei fod ef yn myned yno! Cysgod yw y cwbl yr ochr hyn, ond sylwedd yw pob peth yr ochr draw.[6]. Byddai yn dda genyf glywed a ddarllenasoch chwi Ail Adroddiad Blynyddol, y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor. Casglodd y Methodistiaid tlodion yn Nghymru, ddwy fil a phum cant o bunau! ac enwau eraill yn ffyddlon yn ol eu gallu. Mae Esgobion Llundain, Durham, Exeter, a Thy-ddewi, yn Rhaglywyddion y Gymdeithas; ond y mae yn ddrwg genyf weled cyn lleied o enwau yr offeiriaid wrth res y cyfroddwyr; mae hyn yn dangos nad ydynt hwy am i wybodaeth ysbrydol ymdaenu; a chan nad ydynt yn darllen dim o'r Beibl eu hunain, ond yr hyn sydd raid iddynt ei ddarllen, nid ydynt am i neb arall ei ddarllen. Maddeuwch fy mod i mor eon ar fy hen frodyr yr offeiriaid; cariad atynt, ac eiddigedd drostynt yw yr achos fy mod yn dywedyd fel hyn. Na thybied neb fy mod i yn elyn i fy Mam-eglwys; ond nid wyf yn ddall i'r pethau beius sydd ynddi. Gellwch ddeall fod genyf fi barch mawr, nid yn unig i bersonau yn yr Eglwys Sefydlelig, ond hefyd i'w chyfansoddiad, pan y dywedwyf wrthych, fy mod yn darllen bob dydd, y peth cyntaf yn y boreu, y Salmau gosodedig gan yr Eglwys "
Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn ddibaid mewn gweddi; ac yn ymwrthod yn hollawl â'i gyfiawnder ei hun, fel sail am gymeradwyaeth gydâ Duw: ni allai oddef clywed son am ddim o'r holl ddaioni a wnaethai yn ei oes. "Gwas anfuddiol" oedd ei iaith yn wastad; ond er hyny, yr oedd yn hyderu yn ddiysgog am fywyd tragywyddol yn rhad ac yn rhodd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Y tro diweddaf y gwelodd yr ysgrifenydd ef, galwodd arnaf yn ol, wedi i mi fyned allan o'r tŷ. Rhyfeddais am hyny, a minau wedi canu yn iach iddo yn y Parlawr. Mi droais yn fy ol, a gofynais "A oeddech chwi yn galw arnaf, syr?" 'Dim', ebe yntau, 'ond hysbysu i chwi, na chewch fy ngweled i ar y ddaear hon byth mwy.' 'Caf, gobeithio,' ebe finau, lawer gwaith etto.' 'Na ddywedwch felly,' ebai yntau; a chan edrych yn ddifrifol yn fy wyneb, gwelodd fy ngwedd yn newidio, ac ar yr unwaith edrychodd yn nodedig o siriol arnaf, gan ddywedyd, "Y cwbl wyf yn geisio genych yw, gweddio drosof am i mi gael myned trwy y dyfroedd mewn tawelwch, heb ymollwng dan ddyrnod angeu. Ond yr wyf yn dra sicr, pwy bynag a gofio am danaf, a phwy bynag a'm hanghofio, y mae Un na anghofia 'mohonof: a chaf weled yr Arch, a Josua yr Archoffeiriad, pan fyddwyf yn colli fy ngolwg ar bob peth arall."
Yr oedd hyn tua haner blwyddyn cyn iddo farw, ac-fel y dywedodd efe, nis gwelais ac nis gwelaf fi ef byth mwy ar y ddaear hon, ond yr wyf yn gobeithio cael ei weled yn y dydd hwnw, pan y delo Mab Duw i ymofyn am ei berlau o lwch y bedd; acy caiff ef a minau, gydâ holl dyrfa fawr y gwaredigion, gyd fwynhau a chyd glodfori yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun. Bu yn felus genym ei gyd bregethu ef lawer gwaith yma, er maint ein gwaeledd; a pha faint mwy melus y bydd genym ei gyd folianu ef fry, heb waeledd o un math yn ei flino ef na ninau.
Clywais na bu dim llawer o gyfnewidiad arno er pan y gwelaswn i ef; ond ei fod yn myned wanach wanach yn raddol bob dydd: ond er llygru y dyn oddi allan, eto yr oedd y dyn oddi mewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd. Y testun olaf y pregethodd efe arno oedd, Job xlii. 5, 6. "Myfi a glywais a'm clustiau son am danat ti, &c." Ar geiriau diweddaf a ysgrifenodd efe yn ei ddydd-lyfr oedd, "I'th law diy gorchymynaf fy ysbryd." Yr oedd hyny ar yr unfed-ar-ddeg o fis Mai, 1828; ac ar y pumed o Fehefin, llai na mis o amser ar ol hyny, gwrandawyd ei weddi, cafodd ei ddymuniad, ac ehedodd ei enaid sanctaidd yn ddiamau, i fwynâu dedwyddwch tragywyddol yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Er ei fod yn gwaelu yn raddol fel y dywedwyd, am rai misoedd, eto ni bu ond y tri diwrnod olaf o'i fywyd yn cadw ei wely. Yn hyn hefyd cafodd ei ddymuniad, sef "myned trwy y dyfroedd mewn tawelwch." "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." "Efe a â i dangnefedd, hwy a orphwysant bob un yn ei hystafelloedd."
Ar y degfed o Fehefin, ymgynullodd torf fawr o'i gymydogion, a phelledigion hefyd, i hebrwng y rhan farwol o hono i'r tŷ thag-derfynedig i bob dyn byw. Yr oedd Mr. Williams wedi dymuno am i ddau o'i hen frodyr a'i gyd-weithwyr yn Mrycheiniog, y Parch. William Havard, a'r Parch. Maurice Davies, lefaru yn ei gladdedigaeth ef, ar Exodus xv. 16, ond gan nas gallwyd danfon gwybodaeth iddynt hwy mewn pryd, methwyd a chyflawni y rhan hono o ddeisyfiad ein hen frawd trancedig. Gan fod dau frawd o Sir Gaerfyrddin, sef Mrd. John Jones, o Landdeusant, a Josuah Phillips, o Bank-y-felin, ac hefyd y Parch. William Griffiths o Frowyr, yn Morganwg, yn dygwydd bod yn y gymydogaeth ar y pryd hwnw; buont hwy mor garedig a gweini ar yr achlysur galarus yn y drefn ganlynol:—Darllenodd a gweddiodd y brawd John Jones, yna llafarodd y brawd Josuah Phillips ar Phil. i. 21, yn gymraeg; ac ar ei o!, llafarodd y braw1 William Griffiths, yn saesoneg, ar Ioan x. 9. ac felly y terfynodd y gwasanaeth yn y tŷ, cyn cychwyn y corph tu a hen gladdfa gyssegredig ei dad a'i fam, yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn. Afraid yw sylwi, iddo gael ei gladdu yno, yn ol dull yr Eglwys Sefydledig o gladdu pawb; "mewn gwir ddiogel obaith i adgyfodiad i fuchedd dragwyddol, &c," a thybiwn nad oedd dim yn groes gan yr un ymneillduwr a'i hadwaenai, ac a oedd yno yn bresenol, glywed darllen y cyfryw eiriau uwch ben ei feddrod ef. O mor addas a phrydferth yw holl wasanaeth y claddedigaeth yn Eglwys Loegr, i'w ddarllen wrth gladdu dyn duwiol.
Rhoddwyd maen hardd ar fedd Mr. Williams, yn mhen ychydig ar ol ei gladdu; a'r ysgrif addas a ganlyn yn gerfiedig arno: a sylwer, mai ar ei ddeisyfiad ef ei hun y rhoddwyd y geiriau olaf, yr hyn a ddengys ei feddwl isel am dano ei hun hyd ei ddiwedd, yn nghyd a'r ysbryd diolchgar oedd yn llanw ei enaid am yr hyn a wnaethai yr Arglwydd erddo.
SACRED
TO THE MEMORY
OF THE
REV. JOHN WILLIAMS,
PANT-Y-CELYN,
IN THIS PARISH,
IN WHOM
LEARNING, PIETY, & BENEVOLENCE,
WERE UNITED.
HE DEVOTED A CONSIDERABLE PART OF HIS
WEALTH TO THE TRANSMISSION OF THE
GLORIOUS GOSPEL TO ALL LANDS.
He died June 5th, 1828.
AGED 74 YEARS.
STRANGER! should'st thou approach this awful shrine,
The merits of the honoured dead to seek;
The friend, the son, the christian, the divine,
Let those who knew him, those who lov'd him speak.
"A SINNER SAVED."
BEDD-ARGRAFF, (cyfieithad.)
CYSSEGREDIG
I GOFFADWRIAETH
Y
PARCH. JOHN WILLIAMS,
PANT-Y-CELYN,
YN Y PLWYF HWN,
YN MHA UN YR OEDD
DYSGEIDIAETH, DUWIOLDEB, A CHYMMWYNASGARWCH
WEDI YMUNO.
EFE A GYFLWNODD RAN FAWR O'I GYFOETH
I DDANFON YR EFENGYL OGONEDDUS
I'R HOLL FYD.
Bu farw Mehefin 5ed, 1828,
YN 74 MLWYDD OED.
ESTRON! Os bydd i ti nesu, at y greir-gell ddifrif hon,
I ymholi am y marw, a rhinweddau pur ei fron;
Cyfaill ydoedd, mab, a christion, a duwinydd enwog iawn,
I bawb a'i 'nabu, pawb a'i càrai tystiant hwy am dano'n llawn,
"PECHADUR WEDI EI ACHUB"
ADGOFION 'CHWANEGOL.
Yr oedd Mr. Williams mewn amgylchiadau pur cysurus o ran pethau y byd hwn; ac wedi marwolaeth ei frawd, gellir dywedyd ei fod yn oludog Ni bu erioed yn briod; (na'i frawd ychwaith,) gan hyny nid oedd ganddo deulu, namyn chwïorydd, a phlant y rhai hyny, felly yr oedd ganddo lawer mwy o gyfoeth nag a allasai dreulio arno ei hun. Yr oedd efe yn mhell iawn o fod yn grintachus ar y naill law, ac o fod yn afradus ar y llaw arall. Yr oedd wedi cael ei ddysgu gan yr efengyl sanctaidd, ac o naturiaeth hefyd, i gadw llwybr canol rhwng y ddau eithafion hyny, y rhai sydd mor wrthun a phechadurus yn mhob dyn crefyddol, ac yn enwedig yn mhob gweinidog yr efengyl.
Yr oedd ei dy ef yn agored yn wastad i bregethwyr teithiol o ba le bynag y deuent, a rhoddai ef yn ewyllysgar iawn, bob croesaw ac ymgeledd, i'r dyn ac i'w anifail hefyd, fel nad oedd hyny yn costio dim i eglwysi gweinion y gymydogaeth. Anaml hefyd y byddai yr un pregethwr tlawd yn troi ymaith i'w daith y boreu dranoeth, na byddai i Mr. Williams roddi rhyw swmyn o arian yn ei law, fel anrheg elusengar wrth ymadael. Teimlir y golled am dano yn ddiau yn hyn, fel mewn llawer o bethau eraill, gan y tô presenol o bregethwyr isel eu hamgylchiadau, a arferent ddod i Bant-y-celyn.
Pell iawn oedd Mr. Williams o geisio clod iddo ei hun yn ei elusenau a'i weithredoedd da: gochelai yn fanwl rhag ei gwneuthur yn ngwydd dynion; a braidd y gwypai ei law aswy pa beth a wnelai ei law ddeau, o herwydd y dirgeleidd-dra gofalus hyn, nid hawdd yw gwybod pa faint oedd ef yn roddi mewn elusenau i'r tlodion, ac mewn cyfraniadau at achos Duw. Gellir casglu oddiwrth bethau a gafwyd yn ysgrifenedig yn mhlith ei bapurau ar ol iddo farw, ei fod yn rhoddi yn gyffredin at achos yr Arglwydd, ac mewn elusenau, o gant i ddau cant o bunau bob blwyddyn, am y deng mlynedd diweddaf o'i oes, a rhai blynyddoedd, gymaint a dau cant a haner-o bunau! Pe gwnelai pawb yn ol ei gallu a'i sefyllfa yn gyfatebol i'r gwr duwiol a hael-fryd hwn, byddai yn hawdd danfon Cenadau a Beiblau dros y byd; byddai yn hawdd sefydlu ysgolion sabbathawl yn mhob man lle nad ydynt, byddai yn hawdd cynal achos Duw mewn eglwysi gweiniaid; a gwnelid i galon y wraig weddw lawenychu mewn llawer man, lle mae yn awr yn galaru gan dlodi ac angen.
Heblaw ei gyfraniadau blynyddawl ac achlysurawl yn ei fywyd, nid anghofiodd efe achos Duw a'r tlodion yn ei ewyllys ddiweddaf, fel gellir gweled wrth yr hyn a ganlyn:
I gymdeithas genhadol Llundain..........................................£100
I'r gymdeithas genhadol eglwysig........................................£100
I gymdeithas yr ysgol sabbathol yn yr Iwerddon..........................£100
At dalu dyledion capelydd y Methodistiaid Calfinaidd, yn Mrycheiniog....£100
At gynal yr achos yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanddyfri, rhoddodd bum' punt y flwyddyn, tra fyddo byw ei nại Mr. William Powel, yn awr o Bant-y-celyn. Ar ol talu amryw gymmynion (legacies,) eraill: traul ei gladdedigaeth, a phob man ofynion; mae y gweddill[7] o'i dda symudol, sef ei arian i gael ei rhanu yn gyfartal rhwng Cymdeithas Genhadol Llundain; Cymdeithas Genhadol yr Eglwys; a'r Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor: oddigerth rhyw symiau bychain sydd i gael eu rhanu rhwng tlodion y gymydogaeth, yn ol fel y gwelo y cymmyn-weinydd yn angenrheidiol.
Mewn hen lyfr ysgrifen o eiddo Mr. Williams, gwelir cofnodiad fel hyn mewn un man, "Mary Bartlet wedi bod lawer o sabbathau heb fara i'w fwyta, &c." Gellid meddwl mai rhyw gymydoges. dlawd iddo oedd y wraig uchod, a'i fod yntau fel Job yn chwilio allan y cwyn ni wyddai, gan ei nodi yn ei gof-lyfr i'r dyben o'i chynorthwyo yn ei thlodi. "Y cyfiawn a ystyria fatter y tlodion, ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod." Felly yn amlwg y gwnai y gwr duwiol hwn, yn ei oes ac wrth farw hefyd; a diamau iddo brofi cyflawniad o'r addewid hono. "Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd."[8]
Crefydd Enoc, a Noa, ydoedd crefydd Mr. Williams, diamau y byddai yn rhodio llawer gydâ Duw, fel hwythau: ac hefyd yn mynych gyflwyno ei hunan i Dduw a'i wasanaeth, fel yr ymddengys wrth yr hyn a ganlyn, yr hyn a gyfieithwyd o bapyryn Saesoneg, a gafwyd wedi ei wthio i gongl ddirgel yn un o'i lyfrau llogell ef:—"Yr wyf yn awr yn cael y fraint rasol o ddechreu blwyddyn newydd: pa un a gaf fi byth weled ei diwedd hi a'i peidio, nis gwn; pa un bynag am hyny, bydded yr amser a ganiataer i mi ychydig neu lawer, ond i'r Arglwydd roddi gras i mi i fod yn ffyddlon. Mae arnaf eisiau help a chymorth, ac yr wyf yn eu gofyn gan y nef ei hun, i dreulio yr hyn sydd yn ol o'm dyddiau yn fwy nag erioed er gogoniant y gwaredwr bendigedig hwnw, yr hwn a wnaed yn felldith dros fyd melldigedig. Nerth i gyflwyno fy hunan yn hollawl, gorph ag enaid, ac oll sydd ynof, i'w ogoniant ef. Ac yr wyf fel hyn yn addaw ac yn addunedu, i gyssegru gweddill fy nyddiau i Dduw ac i'w ewyllys ef, tra parhawyf i dynnu yr anadl fywiol hon. Nid wyf yn beiddio meddwl y cyflawnaf yr addunedau hyn gan ymddiried yn fy nigonoldeb fy hun; ond gan weddio ar i Dduw, o’i helaeth a'i anfeidrol ras, fy nghynorthwyo i, i redeg yr yrfa a osodwyd o'm blaen, ar iddo ef fy nerthu i'w ofni yn wastadol â pharchedig ofn: fy nerthu i'w garu ef, ac ef yn unig, tra byddwyf yn ymdaith yn y byd daearol hwn: ac yn y diwedd, cael o honof ei ogoniant tragywyddol ef, trwy Alpha ac Omega iachawdwriaeth dynion, Fel prawf o'm cyd-syniad a'r pethau uchod, yr wyf yn ewyllysgar jawn yn gosod fy enw wrth yr ysgrif hon."
"JOHN WILLIAMS."
Nis gwyddis pa bryd yr ysgrifenodd efe y papyryn uchod, gan nad oes yr un amseriad wrtho; ond mewn un arall o'i lyfrau mae ysgrif debyg i'r un uchod i'w chael a dyddiad wrthi. Gan nad yw ond bèr, ac yn dangos agwedd meddwl y gwr duwiol hwn yn oleu ac yn hyfryd iawn, dodwn gyfieithad o honi fel hyn:
"Ionawr 1af, 1790.
"Trwy fawr drugaredd a daioni Duw, cefais y fraint unwaith eto, o weled dechreu blwyddyn arall. Yr wyf yn ostyngeiddiaf yn attolygu, ac yn y modd taeraf yn crefu, ar i Dduw o'i anfeidrol drugaredd a'i ras, gyfranu i mi y cynnorthwyon dwyfol a neillduol hyny, mae efe yn eu cyfranu i'w bobl fel y galluoger fi i gyssegru fy hunan iddo yn fwy diragrith a ffyddlawn nac erioed."
"JOHN WILLIAMS."
Fel hyn y byddai y gwr Duw' hwn yn mynych ‘gyfrif ei ddyddiau;' yn mynych gyflwyno ei hun i'r Arglwydd; yn ymwadu â'i nerth ac a'i gyfiawnder ei hun; yn hollawl ymorphwys ar Berson a gwaith yr hwn sydd yn Alpha ac yn Omega yn iachawdwriaeth dyn; ac yn taer weddio am nerthoedd a doniau yr Ysbryd Glân, i gyflawni ei weinidogaeth, i gadw ei le, ac i harddu athrawiaeth Duw ei Iach, awdwr yn mhob peth. Y fraint a gaffom ninnau oll, o fod yn ddilynwyr iddo ef, megis y bu yntau i Grist.
Ryw yspaid o amser cyn ei farw, danfonodd y llythyr canlynol at hen gyfaill[9] anwyl iddo; a diammau ei fod yn werth ei gyfieithu a'i argraffu yn mhlith yr adgofion hyn.
"Am fy iechyd i, go ganolig yw, yr wyf yn gweddio Duw yn ddifrifol, ar iddo fy ngwneuthur yn ymostyngar i'w ewyllys ef, a pheidio mewn un modd a bod yn anfoddlawn i'w driniaethau ef. O pa fath bechod mawr yw, bod yn anoddefgar dan wialen Tad nefol! Yr wyf fi yn gwbl analluog i fyned i unman oddi cartref yn awr; ond yr wyf yn parâu i bregethu ychydig yn fy nhŷ fy hun, ac ac mae fy nghymydogion yn dyfod yn nghyd ́ac yn ei lenwi yn dda."
"Byddwch cystal a'm cofio i yn garedig iawn at y bobl yn eich eglwys chwi, ac erchwch iddynt yn mlaenaf o bob peth, i arfer pob diwydrwydd i wneuthur eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth yn sicr, o blegid y mae yn sicr yn Nuw. Yn ail, i wneuthur Duw a'i air yn unig sylfaen i adeiladu arni. Yn drydydd, pa le bynag y byddont dywedwch wrthynt am gario eu crefydd gydâ hwynt. Yn bedwerydd, i ochelyd pob pechod, yn fwy nac unrhyw wawd, neu air du a daflo'r byd arnynt. Yn bummed, i ymgais llawer am ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw o fawr werth. Yn chwechfed, bydded iddynt ymgais am wneuthur rhyw ddaioni yn wyneb pob croes a thrallod · a'i cyfarfyddo. Yn saithfed, bydded iddynt weddio llawer, ar i esiampl Crist fod o'u blaen yn mhob amgylchiad a sefyllfa."
"JOHN WILLIAMS."
Llawer iawn o ddywediadau byrion, ond geirwir a gwerthfawr, sydd ganddo wedi eu hysgrifenu yn ei 'sgrif-lyfrau; ond y mae yn anhawdd gwybod am lawer o honynt, pa un a'i yr eiddo ef ei hun ydynt, ai yntau eu cymeryd o ryw lyfrau eraill a wnaeth. Am y byr weddiau canlynol, mae yn sicr mai efe ei hun oedd yn ei hucheneidio i'r nef, fel hen Jacob gynt, (Gen. 49. 18.) yn nghanol pob trafferthion a gorchwylion eraill, dodwn y tair ganlynol i lawr yma.
Chwefror 26, 1827.
- "O Arglwydd dyro i mi ddoethineb i ymddwyn yn addas yn mhob peth."
Tachwedd 8fed.
- "Cynnorthwya fi, O Dduw, i ymgadw oddi wrth bob peth drwg!"
- "Nertha fi, O Dduw, i ymgadw oddi wrth bob rhith ddrygioni!"
Mae y sylwad canlynol ar baganiaeth a christionogaeth yn gymraeg ganddo; mae yn debyg maj yr eiddo ef ei hun yw, ac mae yn cynnwys llawer o wir, hyd yn nod y dydd heddyw:
"Mae rhywbeth rhyfedd iawn yn ymddangosiad paganiaeth a christionogaeth; mae cristionogaeth yn ymddangos fel pe byddai yn teyrnasu, ac eto mae ei sylwedd wedi myned ymaith: a phaganiaeth fel pe byddai wedi ffoi, ac eto ei sylwedd yn aros." Mae y dywediadau canlynol hefyd wedi eu hysgrifenu yn gymraeg ganddo, ac am hyny yn fwy tebyg i fod yn eiddo ef ei hun:—"Nid oes dim yn fwy anwadal, gwammal, ac ansafadwy, na pharch dynion." "Y dywediad arall yw hwn :—"Barn y byd yn gyffredinol yw, bod y da sydd ynddynt, eu haelioni, a'i rhinweddau, yn fwy na'u drwg; ac y pwysa eu da y drwg i lawr yn y dydd mawr." Ac mae y dywediad hwn o eiddo ei dad, yn deilwng iawn hefyd o'i gadw mewn coffadwriaeth, ac o sylw pawb yn y weinidogaeth:—"Mae pregethwr heb eondra fel durlif heb ddannedd, fel cyllell heb awch, ac fel milwr heb galon." Nid eondra dynol, yn tarddu oddi ar gryfder tymherau naturiol, yr hyn nid yw ddim ond digywilydd-dra, oedd yr hen wr duwiol yn ei feddwl yn ddiau; eithr yr eondra sanctaidd hwnw mae yr Arglwydd yn ei roddi yn eneidiau ei holl weision anfonedig, pan mae yn gosod gair y cymod ynddynt, pan mae cariad Crist yn eu cymhell, pan maent yn ofn yr Arglwydd yn perswadio dynion, a phan y maent yn cael eu gwisgo â nerth o'r uchelder. Yn yr ystyr yna o'r gair eondra, mae y dywediad yn wir iawn; mae yn hollawl angenrheidiol i waith mawr y weinidogaeth. Ar y naill law nid oes dim yn fwy gwrthun i'w weled na dyn cryf hunanol, yn ymruthro i ymdrin a phethau Duw yn ei hyfdra digywilydd ei hunan; ac ar y llaw arall, nid oes dim yn fwy prydferth a hardd, na gweled y dyn gwylaidd, duwiol, a chrynedig, yn cael ei godi gan ddylanwadau yr Ysbryd Glân uwchlaw iddo ei hun a'i holl ofnau, ac yn agoryd ei enau yn hyf, i draethu gwirioneddau Duw fel y perthyn ac y gweddai eu traethu. Rhyfedd fel mae y Duw grasol wedi gwneud hyn â llawer o'i genadon gweiniaid lawer gwaith. Yna y gallant ddywedyd gydâ'r prophwyd Mica, Pen. 3.8. "Yn ddiau llawn wyf fi o rym gan Ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel." Yna y gallant ddywedyd gyda'r apostol, "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r llawr." 2 Cor. 10. 4. Mae y nerth hwn o'r uchelder yn angenrheidiol i'r pregethwr enwog, doniol, a mwyaf dysgedig; hebddo nis gall efe wneuthur dim: ac mae y nerth hwn yn ddigon i'r cynghorwr isel-fryd, bychan ei ddawn, a llai ei ddysgeidiaeth, er mor grynedig ac ofnus ydyw, wrth deimlo ei wendid, a'i annigonoldeb ynddo ei hun, i fod yn genad Arglwydd y lluoedd at bechaduriaid.
Gwr iach, cadarn a goleu yn yr athrawiaeth, ydoedd Mr. Williams. Er nas galwai efe neb yn dad iddo ar y ddaear; eto, yr hyn a elwir Calfinistiaeth, yn yr ystyr gywiraf o'r gair, oedd ei gredo diysgog ef. Yr oedd yn berffaith gyson a bannau ffydd yr Eglwys Sefydledig, yn yr hon y dechreuodd ei weinidogaeth; ac hefyd a Chyffes Ffydd[10] y Methodistiaid Calfinaidd, yn mhlith pa rai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ond, yr hyn sydd fwy na'r cwbl, yr oedd yr hyn oll a gredai ac a bregethai efe, yn hollawl gyd-gordiol ag anffaeledig wirionedd Duw, wedi ei sylfaenu a'i oruwch-adeiladu ar sail yr apostolion a'r prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen; yn bob peth ac yn mhob peth, yn ei athrawiaeth, ei weinidogaeth, ei brofiad a'i holl ymarweddiad ef. Pell iawn ydoedd efe oddi wrth ddeddfoldeb ar y naill law, ac oddi wrth anneddfoldeb (antinomianism,) ar y llaw arall. Am Arminiaeth neu ddeddfoldeb, mae yr hyn a ganlyn yn ysgrifenedig yn un o'i lyfrau, "Esgusoder fi, os credaf dystiolaeth Crist yn hytrach na dadleuon cecrus Arminiaeth-yn hytrach na gwysia yr Hollalluog i gael ei brofi ger bron gorsedd-faingc ein syniadau ni, a gosod ein hunain i fynu yn farnwyr y Duwdod." Eto, "nid yw arfaeth Duw fel ceiliog gwynt, i gyfnewid, a throi o amgylch, fel y dygwyddo i awel ewyllys rydd dyn chwythu." Am anneddfoldeb, yr oedd ei bregethau, ac yn enwedig manylrwvdd ei fuchedd sanctaidd, yn brofion digon amlwg i bawb, ei fod yn ffieiddio â châs cyflawn, y ffos leidiog hono.
Er bod Mr. Williams yn ysgolhaig rhagorol, ac yn dra hyddysg yn yr ieithoedd dysgedig, ac yn enwedig yn ieithoedd gwreiddiol yr Hen Destament a'r Newydd; eto, nid oedd yn wr ymadroddus, nac yn meddu llawer o hyawdledd areithyddol, o leiaf, nid oedd yn ymgais am ddangos hyny yn ei bregethau cyhoeddus. Ei lwybr mwyaf hoff a mwyaf arferedig ef wrth bregethu oedd, egluro ei destun yn fanwl; ac yr oedd ganddo lawer o gymmwysiadau i hyny o herwydd ei wybodaeth o'r ieithoedd gwreiddiol, defodau ac arferion gwledydd y dwyrain, &c.
Ar ol agor ei destun, sylwai ar yr athrawiaeth a gynnwysai, a dybenai gydâg ychydig o addysgiadau cymmwysiadol. Byrion fyddai ei bregethau ef yn gyffredin, anaml y parâai dros haner awr, ond yr oeddent yn addysgiadol iawn, ac yn fywiog, nid hawdd oedd i neb ei wrando ef yn ddiofal, na myned o'r oedfa heb gael rhyw oleuni ar y gwirionedd nad oedd ganddo o'r blaen.[11]
Yn nghymdeithas yr eglwys, sef y cyfarfodydd profiad, ychydig a ddywedai efe ar y tro. Codai i fynu, a dywedai ychydig eiriau, yn addas a pherthynol iawn i'r matter a fyddai dan sylw, ac yna eisteddai i lawr hyd oni ddelai rhyw beth ar ei feddwl drachefn. Yn nghyfarfodydd misol y Sir, hefyd yr un fath bedd efe; ychydig a ddywedai efe ar y tro ar unrhyw bwnc; ond hyny a ddywedai byddai mór brïodol ac addas i'r perwyl, fel y byddai ei holl frodyr, llafarwyr a blaenoriaid, yn ymostwng iddo, ac yn cydnabod uniondeb ei sylwadau. Gostyngedig a hunan ymwadol iawn oedd efe yn y cyfarfodydd hyn, er bod ei ddysgeidiaeth a'i wybodaeth am bethau duwinyddol, yn rhagori ar bawb o'i frodyr, a phawb o honynt yn rhoddi y flaenoriaeth iddo; eto, wrth draed pawb y mynai efe fod. Ar yr un pryd, os dangosai neb ryw arwydd o anmharch neu ddirmyg arno, efe a welai ac a deimlai hyny mor fuan a rhywun arall; ond yr oedd yn meddu doethineb, a gras digonol hefyd, i beidio dangos i neb ei fod wedi cael ei gythruddo; tangnefeddus oedd efe ei hun, a charai dangnefedd yn mhob màn, ac yn enwedig yn mhlith ei frodyr crefyddol. Mae y sylw canlynol ganddo ar y mater hwn, yn ysgrifenedig yn un o lyfrau:—"Mae tymher gwerylgar mewn perygl mawr o gynnyddu yn arferiad drwg iawn ; ac yn fynych yn gwneud cyfeillach dyn yn dra annymunol. Heblaw y surni mae yn genedlu mewn cyd-ymddiddanion, mae yn aml yn creu annghymeradwyaeth, ie, a chasineb, rhwng dynion, i ba rai mae cyfeillgarwch yn anhepgorol angenrheidiol."
Mewn cyfeillach bersonol, ymddiddanai Mr. Williams yn rhydd iawn, ac wrth ei fodd, tra y cedwid at ryw bethau ysgrythyrol. Hoffai yn fawr egluro ac agor rhyw adnodau a fyddai yn dywyll ac yn ddyrus i'w gyd-ymddiddanydd, ond cyn gynted ag y tawai ei gyfaill, a pheidio gofyn rhywbeth yn ychwaneg iddo, ymddangosai yn anesmwyth ac aflonydd, codai ar ei draed, ac âi allan o'r ystafell:nid oedd ynddo ef ei hun, nemawr o ddawn cymdeithasu, ond fel yr holid ef, ac y tynid ef yn y blaen mewn cyfeillach.
Pan fyddai yn disgwyl rhyw gyfaill, megis pregethwr neu rywun arall, i'w dŷ, byddai yn ysgrifenu amryw holiadau a fyddai ar ei feddwl ofyn iddo, ar ddarn o bapyr cyn ei ddyfod; ac yna pan ddeuai, cymerai ei bapyr yn ei law, a gofynai yr holiad cyntaf; gwedi cael atteb i hwnw, âi allan, odid, ac yn y màn deuai yn ei ol, a gofynai'rail holiad, ac felly hyd onid elai dros y cwbl. Gan y byddai ei feddwl yn wastad yn myfyrio ar ryw bethau eraill, byddai yn gwneyd hyn, mae'n debyg ar ryw fynyd lonydd, i gynnorthwyo ei gof, erbyn y delai y gwr dïeithr i'w dŷ. Byddai ganddo ryw bobl dlodion agos yn mhob cwr o Sir Frycheiniog, y rhai a dderbynient ryw gyfran o elusen ganddo am flynyddoedd ; a llawer o'r holiadau uchod a fyddai yn nghylch y rhai hyny, yn nghyd ag agwedd achos Duw yn nghyrau pellaf y Sir. Arferai hyn yn enwedig yn ei flynyddoedd diweddaf, ar ol iddo fethu teithio, ac ymweled a'r eglwysi ei hun.
Mae yn debyg na chyhoeddodd Mr. Williams ddim drwy yrargraffwasg, namyn Hymnau gwerthfawr a melusion ei dad; ac hefyd cyfieithad o lyfryn Saesoneg ar Athrawiaeth y Drindod. Nid yw yn hysbys i'r ysgrifenydd chwaith a oedd dawn pryd yddu ganddo ef, yr hon oedd mor helaeth a godidog gan ei dad. Wrth y cyfieithad a wnaeth o'r hymn Saesoneg felus hono, O'er the gloomy hills of darkness, &c, (gwel argraffiad 1811, tu dal. 410.) gellir meddwl bod y ddawn ganddo, ac yr ysbryd hefyd, yn debyg iawn i'w dad; ond wrth edrych ar amryw bennillion sydd ganddo draw ac yma ar hyd ei ysgrif-lyfrau, gellid meddwl nad oedd y ddawn brydyddol ganddo, nid yw y rhai hyny ond lled anmherffaith a chlogyrnaidd,. Dywed un o'i berthynasau, bod yn ei feddiant ef ysgrif-lyfr go fawr o hymnau a ganodd efe, a thybia mai cyfieithiadau ydynt o hymnau Mr. Cennic, pregethwr oedd yn cyd-oesi a'r Parch. G. Whitfield, ac yn pregethu yn nghyfundeb y gwr enwog hwnw. Bob amser y gofynai ysgrifenydd y cofiant hwn iddo pa ham na chyfansoddai hymnau, ei ateb oedd, "Bod ei dad wedi canu digon." Mae ganddo ar ei ol lawer iawn o bregethau, efallai tua mil, wedi eu hysgrifenu, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesoneg:ond y rhai Saesoneg sydd wedi eu hysgrifenu helaethaf, a manylaf o lawer.
Bu Mr. Williams yn y weinidogaeth o gwbl yr yspaid hirfaith o 49 o flynyddoedd. Urddwyd ef yn Offeiriad yn y flwyddyn 1779, sef pan oedd yn 25 oed. Gadawodd yr Eglwys Sefydledig yn y flwyddyn 1786, gwedi bod yn llafurio ynddi saith mlynedd. Bu yn athraw yr ysgol yn Nhrefeca o Ionawr 1786, hyd Ebrill 1791, sef tua phum mlynedd a hanner, rhwng y tri mis y buasai yno o'r blaen, yn lle Mr. Phillips. Gadawodd yr ysgol hono fel y dywedwyd yn 1791, a llafuriodd yn ffyddlon ac yn dderbyniol iawn yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, o hyny hyd ddiwedd ei oes, sef 37 o flynyddoedd. Bu farw mewn oedran teg, (74 o flynyddoedd,) digonwyd ef â hir ddyddiau, a chafodd weled iachawdwriaeth Duw. Bu amryw o Offeiriaid duwiol Eglwys Loegr yn llafurus ac yn ddefnyddiol iawn yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd o'u dechreuad; nid oes yn awr ond ychydig iawn o honynt, heb gael eu symud i'r wlad ddedwydd hòno, lle nad oes gwahaniaeth rhwng enwau na phleidiau, ond pawb yn un corph yn Nghrist.
Wele yn canlyn ychydig eto o'i ddywediadau, a gafwyd yn ysgrifenedig yn tnhlith ei bapyrau. Addas iawn, debygai yr ysgrifenydd, yw ei sylw canlynol ar fedydd babanod:—
"Gweinyddu bedydd i blant rhïeni annuwiol, sydd foddion effeithiol i'w caledu mewn pechod; mae yn ddirmyg mawr ar yr ordinhâd, ac yn cryfâu breichiau y rhai a wrthwynebant fedydd babanod. Pe byddai pawb ag sydd o blaid bedyddio plant, yn cadw o fewn cylch gair Duw, ac yn peidio bedyddio neb ond had y ffyddloniaid, gan eu magu yn yr eglwys, a'u meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd yn ol cyngor yr apostol, ac yn ol arfer eglwysi Bohemia; ni chlywem son am ail-fedyddio yn mhen ychydig flynyddoedd.' Tebyg iawn i hyna y sylwodd Matthew Henry; ebai efe, "Pe iawn ddefnyddid bedydd babanod yn fwy cydwybodol, byddai llai o ddadleu yn ei erbyn."
Sylwai Mr. Williams ar hyfdra dynion yn pechu fel hyn:—"Mae dynion yn pechu fel pe byddent yn meddwl y bydd porth uffern wedi ei gauad i fynu cyn yr elont hwy yno."
Nid yw hunan-ymwadiad, a hunan-ffieiddiad, dyn duwiol, yn beth anghyson a thawelwch ei gydwybod, yn yr olwg ar ei ddiniweidrwydd:ni bu neb braidd yn fwy hunan-ymwadol na Mr. Williams; ac eto ni a'i cawn yn gwneyd y sylw canlynol am dano ei hun:-"Mae yn gysur genyf feddwl, na bûm i trwy wybod i mi, yn achos o ofid am un mynyd i neb erioed. Naddo, mwy nag y bûm yn achos o'r diffyg diweddar a fu ar y lleuad; ac ni bûm yn euog o un dichell-dro brwnt, yn holl ystod fy mywyd."
Mae yn debyg mai ychydig cyn ei ddiwedd yr ysgrifenodd y llinellau canlynol, pan oedd y dyn oddi allan yn gwaelu ac yn adfeilio, a'r enaid yn hiraethu am y tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd. "O na byddai fy enaid mor debyg i'r nef ag yw fy nghorph i'r ddaear; nid yw yr hen babell briddlyd yn ateb dim dyben i mi y dyddiau hyn, ond i fod yn hîn-ddangosydd, (Barometer,) i arwyddo cyfnewidiad y tywydd. Ond y mae rhyw beth o dynfa yn fy ysbryd at y rhai sydd wedi eu perffeithio."
Yn mhlith pethau eraill, mae y cofnodiad canlynol ganddo yn un o'i ysgrif-lyfrau, am ryw hen ŵr duwiol, adnabyddus iddo ef, ag oedd wedi marw:-"Mae yr hen —— o ——wedi gorphen ei yrfa! Dywedodd ar ei wely angeu, "Yr wyf yn cofio yr amser pe dywedasid wrthyf nad oedd ond un dyn o blwyf —— i fyned i uffern, buaswn yn sicr mai myfi oedd hwnw; ond yn awr trwy drugaredd, pe dywedid wrthyf nad oes ond un i fyned i'r nefoedd, gwn mai myfi yw efe."
Llawer o bethau eraill a allesid ei ychwanegu mewn perthynas i'r gwas fyddlon hwn i Grist, ond rhag chwyddo y llyfr i ormod o faintioli, ac mewn canlyniad i fwy o bris; mi gaf ddiweddu hyn o hanes gyda'r penillion canlynol, yn nghyd ag ychydig o sylwadau ar y geiriau a ddymunodd efe i fod yn destun, ar ddydd ei gladdedigaeth.
YCHYDIG BENILLION,
PERTHYNAWL I'R COFIANT BLAENOROL.
[Teithiwr yn Mynwent Llanfair-ar-y-bryn.]
BETH yw enw y fynwent yma?
Mynwent Llanfair-ar-y-bryn,
O mor llonydd lle yw'r gladdfa!
Beth yw'r argraffiadau hyn?
William Williams, Pant-y-celyn!
Ow, a'i dyma ei feddrod ef?
Sant a fedrai chwarae ei delyn,
Braidd fel angel yn y nef!
Gwr o ddysg, a dawn, ac ysbryd,
Digyffelyb yn ei oes,
Do, fe ganodd odlau hyfryd,
Hymnau mawl am waed y groes;
Gwelodd deyrnas y Messiah,
Canodd am ei llwyddiant hi;
Theomemphus, ow, a'i dyma
'R fan lle rhoddes angeu di!
Nid oes ond y briddell yma,
Fry mae'r enaid heb ddim poen,
Yn derchafu'r haleluia
Beraidd byth am waed yr Oen;
Gydâ Rowlands o Langeitho,
Harris hen, a Jones Langàn:—
Mi gaf finnau, rwy'n gobeithio,
Ddyfod attoch yn y man.
Pwy sydd yma eto'n gorwedd,
Dan y garreg lydan hon,
Wrth dy ymyl yn y ceu-fedd? [12]
Beth yw'r enw cyntaf? John!
Ië, yn wir, John Williams ydyw,
Mab yr hen ganiedydd per,
Mae ei enaid yntau heddyw,
'N iach a siriol uwch y ser.
Gwr dysgedig iawn a doniol, [13]
Ydoedd yntau fel ei dad,
Nid oedd undyn mwy rhinweddol,
Nag efe o fewn y wlad;
Tyst ei ddichlyn, sanctaidd fywyd,
Tyst ei bur athrawiaeth ef,
Tyst ei elusenau hefyd,
I dylodion gwlad a thref. [14]
Cafodd urddau llawn, Esgobaidd,
Pan yn bump-ar-hugain oed:
Urddau gwell a mwy nefolaidd,
Gydâ hyny iddo rhoed;
Dawn yr Ysbryd o'r uchelder,
Oedd yr urdd a gafodd ef,
I draddodi mewn eglurder,
Genadwri fawr y nef.
Dysg, a dawn, ac aur, ac arian,
Corph, ac iechyd, tra fu byw,
A gyssegrodd ef yn gyfan,
At wasanaeth eglwys Dduw;
Ac wrth farw nid anghofiodd
Achos Duw, nac angen dyn,
Wrth ymadaw fe gyfranodd,
Yn haelionus i bob un.
Gorphwys, anwyl frawd, a huna,
Yn y beddrod tawel hwn,
Gydâ'th dad a'th fam gorwedda,
Ti gai lonydd yma, gwn;
Gydâ bloeddiad yr arch-angel,
Yn yr adgyfodiad mawr,
O dy wely priddlyd, tawel,
Cai gyfodi fel y wawr.
Wele, bellach mi adawaf,
Fynwent Llanfair-ar-y-bryn,
Trwy Frycheiniog mi dramwyaf,—
Beth yw'r holl wylofain hyn!
"Darfu, darfu, am y cyfiawn!
"Do, collasom ni ein tad,
"Colled fawr yw colli'r uniawn,
"Colled eglwys, colled gwlad!"
Arglwydd Ior cysura Seion,
Sydd yn athrist iawn ei gwedd,
Herwydd bod ei hen athrawon,
Anwyl wedi myn'd i'r bedd;
Os collasom ein hoffeiriaid,
Gynt fu'n enwog yn y Dê,
Byth na âd y Methodistiaid,
Cyfod eraill yn eu lle.
Mae yr Ysbryd Glan a'i ddoniau,
Eto'n weddill genyt ti,
Er nad oes na chymmwysderau,
Na dysgeidiaeth genym ni;
Gwladaidd yw ein Gweinidogion,
Eto grymus yn eu Duw,
Presenoldeb Brenin Seion,
Fydd ein harddwch tra fo'm byw.
Deunaw cant a deunaw mlynedd,
Tair-ar-ddeg yn ol yn awr,
Pan y daethum i gyfanedd,
Yn Mrycheiniog, nid yw fawr
Un llafarwr oedd pryd hwnw,
Yno'n ie'ngach na myfi,
Jeffrey Davies wrth ei enw,
Goreu frawd a gwr o fri.
Deg a phed war oedd yn hynach,
O rai enwog wrth y llyw,
O'r rhai hyny nid oes mwyach,
Onid chwech ar dir y byw;
Wyth o honynt aeth i huno,
Yn y distaw tywyll fedd,
A'u heneidiau sy'n gorphwyso,
Gyda'r Oen yn ngwlad yr hedd.
Ond er marw ein gweinidogion,
Byw yw'r weinidogaeth fawr,
Amlach ydyw ein cenadon
Yma, nac erioed yn awr;
Coll'som wyth mewn deuddeng mlynedd,
Cawsom bymtheg yn eu lle,
Diolch byth i Dduw'r gwirionedd,
Pethau mawr a wnaeth efe.
Ac heblaw chwanegu nifer
Y cenadon yn ein plith,
Cawsom hefyd o'r uchelder,
Ar ein gwlad wyrenig wlith;
Hen Frycheiniog a grechwenodd,
Pan esgorodd ar ei phlant,
Mewn tair blynedd fer 'chwanegodd
Iesu iddi lawn pum cant!
Onid ydyw hyn i'n hanog,
Frodyr oll, mewn ysbryd ffydd,
I lafurio yn galonog?
Dowch, a gweithiwn tra mae'n ddydd;
Ber yw'r einioes, bererinion,
Buan iawn yr awn i roi
Cyfrif am ein goruchwylion,
Nid yw angeu yn ymdroi.
Llwydd a fydd i'r Trefnyddion,—weis cydwedd,
Os cadwant orch'mynion,
Dianwych eu Duw union,
O ddiwael frwd dduwiol fron.
𝙿𝚁𝙴𝙶𝙴𝚃𝙷,
AR
EXODUS 15. 16.
Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.
Nid oes dim yn fwy difyrus i'w ddarllen na hanesyddiaeth, ac o bob hanesyddiaeth nid oes un yn deilwng i'w gydmaru a hanesyddiaeth y Beibl:yma y mae gwirionedd wedi ei ysgrifenu a bys Duw, a'r rhan amlaf yn cynwys meddwl ysbrydol yn gystal a llythyrenol, ac yn dwyn perthynas amlwg ag Eglwys Duw, yr hon a bwrcasodd efe a'i briod waed. Yr oedd Exodus yr Israeliaid o'r Aipht; eu gwaredigaeth o dan law Pharao, a'u mynediad trwy y mor coch, yn gysgodau neillduol o brynedigaeth pechaduriaid trwy Iesu Grist. Geiriau y testun ydynt ran o'r gân a ganodd Moses a meibion Israel ar lan y môr coch, yn wyneb eu bod wedi myned trwyddo yn diogel, a'u gelynion llidiog yr Aiphtiaid wedi eu boddi ynddo. Y mae'r gân hon oll yn hynod deilwng o'n sylw, o herwydd dyma'r gân gyntaf y mae genym hanes am dani erioed, ac nid yn unig y mae y gân hon yn haeddu sylw a pharch o herwydd ei hynafiaeth, ond yn benaf o herwydd ei chynhwysder a'i hysbrydolrwydd. Y mae yn berthynol nid yn yn unig i amgylchiad lythyrenol yr Israeliaid ar fin y mor coch, eithr hefyd mewn modd cyfriniol yn ateb i wir Eglwys Duw yn mhob oes hyd ddiwedd y byd:ac y mae ihan o honi yn cyrhaedd i dragywyddoldeb ei hun fel yr ymddengys oddi wrth y diwedd-glo, adn. 18. Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd. Y mae y rhan gyntaf o'r gân, hyd adn. 13, yn cynwys diolchgarwch am bethau wedi digwydd eisioes :gwaredigaethau wedi eu cael, a gelynion wedi eu gorchfygu; a'r rhan arall hyd y diwedd sydd mewn modd prophwydoliaethol, yn rhagfynegu am bethau i ddyfod. Heb amcanu sylwi ar bob peth cynnwysedig yn y gân anghydmarol hon, ni a allwn weled yn eglur mae prophwydoliaeth yw geiriau'r testun, o'r ofn a'r arswyd fuasai yn syrthio ar y Canaaneaid, fel na buasai ynddynt galon er cynyg atal mynediad Israel trwy yr Iorddonen i dir yr addewid "Ofn ac arswyd a syrth arnynt gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg;" ac felly y bu, Jos. 3. 15, 16, 17. a 5. 1. "A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriad, oedd yn dwyn yr arch, yn ngwr y dyfroedd, a'r Iorddonen a lanwai dros ei glanau oll, holl ddyddiau y cynhauaf.-Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr yn mhell iawn oddwrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan; a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i for y rhos, sef i'r mor heli, a ddarfuant, ac a dorwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.—A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus; a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.—Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen tu a'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y mor, sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy trwodd; yna y digalonwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel. Ac yr oedd eu mynediad tawel hwynt trwy afon yr Iorddonen yn gysgod o dawel fynediad pobl yr Arglwydd trwy afon angeu i'r Ganaan ' ysbrydol, o dragywyddol orphwysfa a dedwyddwch ̧ A chymeryd y geiriau yn y golygiad yma, ni gawn ymdrechu cadarnhau ac egluro y tri sylw can lynol, sef,
I. Bod gan Dduw ei bobl yn y byd, a'r rhai hyny yn bobl trwy enilliad 'nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.
II. Bod yn rhaid symud y bobl yma o'r byd i ogoniant trwy afon angeu, ac y cânt fyned trwyddi yn ddiogel, 'Ofn ac arswyd a syrth arnynt,—tawant fel carreg.
III. Bod diogelwch eu mynediad i'w briodoli i fawredd braich Duw, neu ei holl-alluawgrwydd, "Gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di Arglwydd."
I. Bod gan Dduw ei bobl yn y byd, a'r rhai hyny yn eiddo iddo trwy ennilliad geruwch naturiol.—1. Y maent oll wedi eu hethol yn Nghrist gan yr un cariad tragywyddol Eph. 1. 4, 5. Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad. Wedi iddo ein rhag-luniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef. Er cymaint o 'wahaniaeth a ddichon fod rhwng y naill gredadyn a'r llall yn eu gwybodaeth, eu doniau, a'u hamgylchiadau, &c., eto y maent oll yn gydradd yma, y mae yr oll o ddedwyddwch yr oll o honynt yn tarddu o'r un ffynon, ac y mae ganddynt oll yr un achos diolch i Dduw, o blegid iddo o'r dechreuad eu hethol hwynt i iachawdwriaeth.—2. Y maent wedi eu prynu a'r un gwerthfawr waed, 1 Pedr 1. 18, 19. Gan wybod nad a phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hon a gawsoch trwy draddodiad y tadau. Eithr a gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd. Dat. 5.9. A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef:o blegid ti a laddwyd, ac a'n prynaist nii Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl. Eph. 5. 25, 26. Y gwyr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti. Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr. trwy y gair. Nis gwnai neb brynu unrhyw beth er mawr gwerth, heb ei fod yn golygu cael ei feddianu, yn yr un modd ni ellir meddwl i Grist roddi ei hun yn bridwerth dros bechaduriaid, heb ei fod yn penderfynu eu gwared o'r sefyllfa bechadurus a thruenus yr oeddynt wedi myned iddo trwy bechod:'O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir.—3. Y maent wedi eu hail—eni o'r un hâd anllygredig, 1 Pedr 1. 23. Wedi eich ail eni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Iago 1. 18. O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o'i greaduriaid ef. Dyma'r cyfnewidiad mwyaf a gymer le ar y pechadur byth, a phwy bynag a'i profodd yn wirioneddol nis gall byth ei angofio. Y mae symud pechadur o gyflwr pechod i gyflwr sanctaidd o ras, yn llawer mwy na'i symud o ras i ogoniant. Yn y naill y mae yn cael cyfnewidiad cyflwr, eithr yn y llall cynnydd mewn cyflwr yn yr hon y mae eisioes. Yn yr adenedigaeth y y mae yn cael ei symud o dywyllwch i oleuni, eithr yn y llall nid ydyw ond myned o oleuni llai, i oleuni mwy, o ogoniant i ogoniant. —4. Y mae yr un ysbryd yn preswylio ynddynt, Ioan 14. 16. A mi a weddiaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gydâ chwi yn dragywyddol. Y mae'r Ysbryd Glân yn ymweled â llawer, eithr yn trigo yn unig yn y saint, 1 Ioan 3. 24. A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe ini. Yn y saint y mae yn cartrefu yn barhaus; i'r saint y mae yn ernes werthfawr o etifeddiaeth dragywyddol, ac arnynt hwy y mae yn sel a adwaenir ac a arddelir yn nydd y farn.-5. Y maent oll yn mwynhau cymdeithas felus a Duw yn Nghrist, I Ioan 1. 3. Yr hyn a welsom ac a glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni:a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyd â'r Tad, a chyd â'i Fab ef Iesu Grist. Yn y gymdeithas gyfeillachol hon y mae Duw a hwythau yn cyd ymddiddan, y naill yn mynegi ei gyfrinach i'r llall, a thrwy rinwedd y gymdeithas agos hon y mae'r saint yn cael ei newid yn raddol i ddelw eu Tad, 2 Cor. 3. 18. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.
II. Y mae yn rhaid i'r bobl yma gael eu symud o'r byd hwn trwy afon angeu i ogoniant; o'r hyn yr oedd mynediad yr Israeliaid trwy'r Iorddonen i wlad Canaan yn gysgod priodol; yma y mae yn addas i ni sylwi ar y pethau canlynol:—1. Mae mynediad trwodd yw marw, o fyd o amser i fyd o dragywyddoldeb; felly y mae yr Arglwydd Iesu yn desgrifio ei farwolaeth ei hun, Luc 22. 22. Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu:eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y bradychir ef. Ac felly y mae y gydmariaeth yma, "nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd." trwy afon yr Iorddonen i dir Canaan yn llythyrenol, trwy angeu i wlad o orphwysfa dragywyddol yn ysbrydd. 2. Y mae y mynediad yma yn anhepgorol angenrheidiol i bawb, Heb. 9. 27. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith ac wedi hynny bod barn. Gen. 47. 29. A dyddiau Israel a nesasant i farw. Y gwr disyml hwnw Jacob:y gwr nerthol a llwyddianus hwnw mewn gweddi Israel, y mae yn rhaid iddo farw fel eraill, "Eich tadau pa le y maent hwy, a'r prophwydi a ydynt hwy yn fyw byth? nag ydynt, nid ydynt, yn byw ond ychydig o amser yn y byd hwn:pan orphenont y gwaith a roddwyd, iddynt i'w wneuthur, y maent yn cael eu galw i dŷ eu Tad, i etifeddu sylwedd yr addewidion. Yr enwog William Williams o Bant-y-celyn, ni fu byw ond 74 o flynyddoedd, a'i fab haelionus John Williams a gafodd yn gymwys yr un nifer; buant meirw ill dau mewn oedran têg ac yn gyflawn o ddyddiau.—3. Y mae mynediad y duwiol trwy afon angeu bob amser yn ddiogel, ac yn fwyaf cyffredin yn dawel trwy sicrwydd tufewnol o'u buddugoliaeth, gwel y testun a Jos. 3. 17. A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen, Ni chollwyd yr un o'r Israeliaid yn yr Iorddonen, felly holl brynedigion Iesu a ant yn ddiogel trwy angeu i ogoniant; ni chollir yr un o honynt, ond byddant oll ar ddeheulaw y gwaredwr y dydd y gwnel briodoledd. Ac megis y mae eu mynediad bob amser yn ddiberygl, felly y mae yn gyffredin yn dawel ac yn dangnefeddus, Salm 37.37. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd. Pan aeth Israel o'r Aipht ni oddefwyd i un ei i symud ei dafod yn ei herbyn, a phan aethant trwy'r Jorddonen, ni ddaeth un o'r Canaaneaid i gynnyg eu rhwystro, ond "tawasant fel carreg." "A phan glywsant sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen, digalonwyd hwynt fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt." Ac felly yn gyffredin pan y bo teulu Duw yn afon angeu, ni chaniatteir idd eu gelynion ysbrydol, (sef, byd cnawd a diafol, y rhai a barodd gymaint o aflonyddwch iddynt yn y byd,) eu blino yn eu mynydau diweddaf, a llawer enaid ofnus yn ei fywyd, a glywyd yn awr angeu yn canu, 1 Cor. 15. 55. O angeu pa le mae dy golyn? O uffern pa le mae dy fuddugoliaeth.
III. Y mae hyn i'w briodoli i fawredd braich Duw, neu ei holl-alluawgrwydd. Diamau ei fod yn gysur mawr i feibion Israel i weled yr offeiriaid rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd yn sefyll ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus a diysgog:ac felly yr un modd, y mae yn gysur cryf i gredinwyr gweiniaid, i weled gweinidogion yr efengyl yn marw yn llawn hyder y ffydd y buont yn ei phregethu i eraill, Heb. 13.7. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Ond eu.cysur mwyaf oedd gwybod bod y Duw byw ei hunan yn eu plith, yr hyn oedd yn amlwg wrth weled y dyfroedd, oedd yn disgyn oddi uchod, yn sefyll ac yn cyfodi yn bentwr, a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i'r môr heli a ddarfuant, ac a dorwyd ymaith, ac yr oedd yn amlwg fod eu Duw gydâ hwynt, gan nad oedd neb o'i gelynion yn cynnyg attal eu mynediad: "gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg." Job 40. 9. A oes i ti fraich fel i Dduw; neu a wnei di daranau a'th lais fel yntau? Sal. 89. 13. Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. Crediniaeth o bresenoldeb Duw gyda ni wrth farw, yw y moddion mwyaf effeithiol i dynu ymaith ofn marw, Sal 23.4. Te, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed:canys yr wyt ti gyda mi:dy wialen a'th ffon a'm cysurant. Ond cael Duw gyda ni, nis rhaid ofni niwed, efe a ostega'r gelyn a'r ymddialydd. 2 Pedr 1. 11. Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Nid hwyrach na bydd i ryw gristion gwan, ddarllen y sylwadau byrion hyn, yr hwn trwy ofn marwolaeth, sydd dros ei holl fywyd dan gaethiwed, yn ymresymu yn aml ag ef ei hun, Jer. 12. 5. O rhedaist ti gyda'r gwyr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdarewi a'r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlawn, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnai yn ymchwydd yr Iorddonen. Ymddiried yn yn y Duw a barthodd y môr, ac a wnaeth i ddyfroedd yr Iorddonen sefyll yn bentwr, gan obeithio yn berffaith am y gras a ddygir i ti yn natguddiad Iesu Grist Esa. 35. 10. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.
W. ROWLANDS, ARGRAFFYDD, PONTYPOOL.
GWALLAU ARGRAFFYDDOL.
D. S. O herwydd y meithder rhyngof a'r Argraffydd y mae rhai gwallau wedi digwydd, y rhai gobeithiaf a ddiwygir gan ysgrifell y deallus. —Tu dalen 21, llinell 2, yn lle yr offeiriaid a ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd? darllen yr offeiriaid ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd.—Tu dalen 19, yn lle yn llafurio yn ddefnyddiol, darllen yn llafurio yn bresenol ac yn ddefnyddiol.—Tu dalen 17, llinell 7, yn lle ym darllen am.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cefais yr hanes uchod gan y Parch. James James, o'r Fenni.
- ↑ Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfair-yn-muallt, yw y cyntaf erioed a adeiladodd y corph hwnw yn Nghymru; am hyny galwyd ef Alpha, yn ol enw y llythyren gyntaf yn yr egwyddor Groeg.
- ↑ Kirk, yr un peth a'r gair Church, yn Gymraeg Eglwys, Kirk y gelwir Eglwys Sefydledig yr Alban, neu Scotland.
- ↑ Uwch-gwympiedydd, (Supralapsarian,) un yn dàl fod Duw wedi ethol rhai, a gwrthod y lleill, o ddynolryw, yn ei arfaeth dragywyddol, fel ei greaduriaid, yn hytrach nac fel creaduriaid syrthiedig. Tybia yr Is-gwympiedydd, (Sublapsarian,) fel arall, mai gyda golwg ar ddynion fel creaduriaid syrthiedig, yr etholodd Duw rai.
- ↑ Mil-flwyddiedydd, (Millenarian,) un yn dal y daw Crist, i deyrnasu ar y ddaear am fil o flynyddoedd.
- ↑ All, all on earth is Shadow, all beyond
Is Substance; the reverse is Folly's Creed:
How solid all, where change shall be no more?
Dr. Young's Night Thoughts, Night 1. page 5 - ↑ Y cwbl yn gwneuthur i fynu rhwng wyth a naw cant punt.
- ↑ Er bod Mr. Williams yn enwog fel dyn, fel ysgolhaig, fel cristion, ac fel gweinidog ffyddlon; eto, ei brif ragoriaeth ef oedd ei elusengarwch. Ni welodd Cymru ond ambell un cyffelyb iddo yn y rhinwedd ganmoladwy hono; ac ar ei ol nid adwaen yr ysgrifenydd yr un tebyg iddo. Mynych y dywedai air yr apostol, mai "dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." Act. 20. 35. "Yn lle fy nanfon i i'r byd i gardota," ebai efe, "mae yr Arglwydd yn rhoddi modd i mi i gyfranu cardod i bob un sydd yn galw, os na bydd i'm calon ddrwg fy lluddias. O Arglwydd, dyro ddoethineb i mi, i ddefnyddio yr holl drugareddau a roddaist i mi, fel un yn credu bod yn rhaid rhoddi cyfrif. I bwy bynag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo.' Luc 12. 48. Pa fodd y gallaf feddwl fy mod yn tebygu i ti yn sancteiddrwydd dy natur, os nad wyf yn tebygu i ti yn naioni dy natur; canys ti O Arglwydd ydwyt dda a maddeugar; ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat. Gwr da sydd gymmwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei holl achosion." Byddai geiriau yr apostol ar ei feddwl yn fawr hefyd am elusengarwch. 1 Ioan 3. 17-21. Ond yn awr mae efe yn gorphwys oddiwrth ei lafur, a'i weithredoedd sydd yn ei ganlyn.
- ↑ Mr. Jones, Llwyndewi, Llangadog.
- ↑ Mewn perthynas i'r llyfr uchod, mae y sylw canlynol ganddo wedi ei ysgrifenu yn un o'i lyfrau-Heddyw y darlenais gyffes ffydd y Methodistiaid Calfinaidd. Erioed ni chymerodd dynion llai eu dysg a llai eu rhagfarn arnynt gyfansoddi Cyffes Ffydd; ond y mae gwendid Duw yn gryfach na dynion, a ffolineb Duw yn ddoethach na dynion. Mae yr Eurgrawn Efengylaidd yn rhoddi canmoliaeth iddo; ond pe cawsai ei feirniadu gan lu y nef, mi debygwn mai eu dedfryd a fuasai, "Gwir eiriau Duw yw y rhai hyn!"
- ↑ Fel pregethwr yr oedd Mr. Williams yn hynod o barchus chymeradwy gan bawb ag oedd yn adnabod y gwirionedd ac yn ei garu mynych y meddyliai yr ysgrifenydd wrth ei wrando am eiriau Dafydd, "Agoriad dy eiriau a rydd oleuni." Salm 119. 130. Er nad oedd yn hyawdl, fel y dywedwyd uchod; eto, yr oedd ei eiriau yn addas, a'i lais yn dreiddgar. Cyn darllen ei destun dywedai bob amser, 'Gair yr Arglwydd,' yna darllenai yr adnod mewn cywair uchel a hyglyw, ddwy neu dair gwaith drosodd. A phob ysgrythyr a goffaau yn ei bregeth, dyrchafai radd ar ei lais yn uwch na phan ddefnyddiai ei ymadroddion ei hun. Da iawn fyddai i laweroedd o bregethwyr Cymru ymdebygu iddo yn hyn, ac nid darllen ei testynau mewn llais mor isel fel na chlyw mo haner y gynnulleidfa bwynt, ac yn mhen ychydig, bloeddiant eu pethau eu hunain yn ddigon uchel ag y gallo deng mil o ddynion eu clywed. Am bregethau hirion, byddai Mr. Williams yn arfer dywedyd, nad oedd yr un pregethwr braidd yn ynys Brydain wedi amser y Puritaniaid, yn meddu digon o gymmwysder i bregethu awr heb flino mwy na hanner eu gwrandawyr; ac os treulir dros ddeng munud mewn gweddi, beth bynag o hyfrydwch a gaffo y dyn ei hun, holl waith eraill fydd disgwyl iddo ddarfod.
- ↑ Dymunodd gael ei gladdu mewn bedd newydd, yr hyn a fuasai yn anmhossibl, oni buasai i hen sycamorwydden gael ei diwreiddio yn ymyl bedd ei dad.
- ↑ Darllenai ran o'r Beibl Hebraeg bob dydd yn y blynyddoedd diweddaf o'i fywyd, ac fe allai nad oedd gwell Hebrewr yn y dywysogaeth, ac eglurai y gwahaniaeth sydd mewn rhai manau ya y cyfieithad. Hefyd, yr oedd yn Gymro rhagorol ac anhawdd cwrdd ag un a allasai roddi tarddiad geiriau Cymraeg, yn nghyd ag ystyr enwau lleoedd yn well nag ef. Yr oedd ganddo luosawgrwydd mawr o lyfrau mewn amrai ieithoedd, y rhai a adawodd yn ei ewyllys i nai iddo, sef y Parch. William Powell, Curad Llanllawddog a Llanpumsaint, gwr grymus yn yr efengyl, ac sydd yn debyg o wneud defnydd da o honynt.
- ↑ Yr oedd yn deall physygwriaeth yn dda, ond nid hoff oedd ganddo ymarferyd a hyny ei hun, ond pan glywai fod rhyw un isel ei amgylchiadau yn y gymydogaeth yn glaf, danfonai am law feddyg yn ddioed, a thalai iddo.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.