Coffawn yn llawen gyda pharch
Gwedd
← Sancteiddrwydd im yw'r Oen di-nam | Coffawn yn llawen gyda pharch gan Isaac Watts wedi'i gyfieithu gan Dafydd Jones o Gaeo |
Duw ymddangosodd yn y cnawd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
125[1] Archoffeiriad Trugarog.
M. S.
1 COFFAWN yn llawen gyda pharch
Am ras ein Harchoffeiriad;
Un yw o galon dyner iawn,
A mynwes lawn o gariad.
2 Ni ddiffydd lin fo'n mygu byth,
Yn fflam fe'i chwyth yn hytrach;
Y gorsen ysig byth nis tyr;
Y gwan, fe'i gyr yn gryfach.
3 Am hynny, yn ei nerth a'i nawdd
Rhown ninnau'n hawdd ein hyder;
Cawn waredigaeth ganddo Fo
Mewn amser o gyfyngder.
Isaac Watts, Cyf. Dafydd Jones o Gaeo
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 125, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930