Cofia, Arglwydd, dy ddyweddi

Oddi ar Wicidestun

Mae Cofia, Arglwydd, dy ddyweddi yn emyn gan Ann Griffiths (1776-1805)


Cofia, Arglwydd, dy ddyweddi,
Llama ati fel yr hŷdd;
Ac na âd i'w holl elynion,
Arni'n hollol gael y dydd:
O dadgudddia y colofnau,
Wnaed i'w chynnal yn y nos,
Addewidion diammodol,
Duw, ar gyfrif gwaed y groes.


Bod yn fyw sy fawr ryfeddod,
Mewn ffwrneisiau sy mor boeth;
Ond rhyfeddach, wedi 'mhrofi,
Dod o'r cystudd fel aur coeth:
Amser cànu, diwrnod nithio,
Etto'n dawel heb ddim braw,
Y gwr sydd imi yn ymguddfa,
Sydd â'r wyntyll yn ei law.


O, am dynu o'r anialwch
Fynu fel colofnau mwg,
'N union-gyrchol at ei orsedd,
Nid oes yn ei wedd ef ŵg;
Alpha, Omega, Tyst ffyddlonaf,
Yw ein IOR, â'i air yn un;
Dysglaer yw gogoniant TRINDOD,
Yn achubiaeth marwol ddyn.


Mae'r dydd yn d'od i'r had breninol,
I gael mordwyo tu a'u gwlad;
O gaethiwed y priddfeini,
I deyrnasu gyd â'u Tad:
Eu ffydd yno a dry'n olwg,
A'u gobaith eiddil yn fwynhâd;
Annherfynol fydd yr anthem,
Derchafu'r Oen a'i werthfawr waed.


Bererin llesg gan rym 'stormydd,
Cyfod d'olwg gwêl y wawr;
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol,
Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr:
Gwregys euraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odre, clychau'n llawn;
Llwyr faddeuant i bechadur,
Ar gyfrif ei anfeidrol iawn.


Ffynhonnell[golygu]

Angelfire