Neidio i'r cynnwys

Cofia ddilyn y medelwyr

Oddi ar Wicidestun

Mae Cofia ddilyn y medelwyr yn emyn gan Ann Griffiths (1776-1805)

Cofia ddilyn y medelwyr,
Ymhlith 'r ysgubau treulia dy oes;
Pan fo mynydd Sinai'n danllyd,
Gwlych dy damaid wrth y groes;
Gwêl ddirgelwch mawr duwioldeb,
Cafwyd allor wrth dy droed,
Duw a dyndod arno yn diodde',
Llef am ole' i ganu ei glod. (1776-1805)

Ffynhonnell

[golygu]

Angelfire