Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau/Helyntion boreuol, o'i febyd hyd ei ordinhad yn Nolgellau, yn 1811

Oddi ar Wicidestun
At y Darllenwyr Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau

gan Robert Thomas (Ap Vychan)

Agwedd crefydd yn y Gogledd ar ddechreuad ei weinidogaeth


COFIANT.

PENNOD I.

Ei Fro Enedigol—Ei Rieni—Helyntion boreuol—Pennantlliw—Arferion yr Ardal—Abraham Tibbot—Dr. Lewis—Ei Ddychweliad at Grefydd— Dechreuad yr Achos yn Llanuwchllyn—Lewis Rees—Gweinidogaeth y Dr. Lewis—Pugh, o'r Brithdir; Williams, wedi hyny o'r Wern; Jones, Trawsfynydd; Robert Roberts, Tyddynfelin, ac eraill—Ei godiad i bregethu gan y Dr. Lewis a'r Eglwys yn Llanuwchllyn—Llanuwchllyn yn Fagwrfa Pregethwyr—Ei fynediad i'r Athrofa—Ei Gydfyfyrwyr—Marwolaeth y Parch. H. Pugh o'r Brithdir—Ei Alwad fel olynydd Mr. Pugh—Ei Urddiad, &c.

BRODOR o Benllyn, yn Meirionydd, oedd yr Hybarch Cadwaladr Jones. Ei rieni oeddynt John a Dorothy Cadwaladr, o'r Deildref Uchaf, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn. Tyddyn prydferth ar lan y Lliw yw y Deildref Uchaf, a lle digon cysurus i deulu bychan i fyw arno. Mae yno amrywiaeth o fryndir, rhosdir, a doldir; ac addurnir y cyfan gan y gwahanol fathau o goed a dyfant yn y gymmydogaeth. Saif y tyddyndŷ mewn llanerch ddymunol, a rhed ffrwd gref o "ddwfr glan gloyw" heibio iddo, i'r brif afon. Gyferbyn, ar yr ochr arall i'r cwm, y mae llechweddau heirddion Pennantlliw Fawr. I'r gorllewin, y mae mynyddoedd uchel, a chreigiau danneddog; ac yn eu mysg, Carn Dochan. Ar ben y garn hon y mae hen gastell, yr hwn a fu, oesoedd maith yn ol, yn breswylfod, ac yn amddiffynfa gadarn i ryw deuluoedd o fri, a gyfaneddent ynddo; dylanwad y rhai oedd y pryd hwnw, yn ddiau, yn cael ei deimlo yn yr ardal: ond aethant oll i "dir anghof," ac nid oes yn aros, er ys canrifoedd bellach, ond adfeilion eu cartrefle diogel gynt.

Ychydig o'r neilldu i Garn Dochan y mae Rhaiadr Mwy, yn rhuo yn ddiseibiant, ac yn seinio ei udgorn rhybuddiol yn uwch nag arferol o flaen gwlawogydd. Mae yr ardal yn dryfrith o'r ffynnonau oerion goreu sydd yn y byd, ac yn cael ei dosranu gan rifedi mawr o aberoedd iachus, a ymdreiglant o'r bryniau a'r mynyddoedd, i'r Lliw. Tra y mae y fangre y saif y Deildrefi arno yn dir diwylliedig a chynyrchiol, mae y lleoedd sydd yn uwch i fyny yn y cwm, yn aros etto fel cynt, yn eu gwylltedd naturiol; a digon tebyg mai felly y parhant, yn drigfanau rhedyn, brwyn, a grugoedd, perthi a byrlwyni, ceryg a charneddau, yn yr oesoedd dyfodol; ac na ellir gwneyd o honynt ond porfaoedd i ychain a defaid, a noddfeydd i'r ychydig o greaduriaid gwylltion a berthynant i'r fath anialdiroedd. Dyna arddull y ewm y ganwyd ac y magwyd gwrthddrych y cofiant hwn ynddo. Dyna y golygfeydd y syllai efe arnynt, bedwar ugain mlynedd yn ol, pan yn dechreu codi allan, gyda ei dad, i'r mynydd-dir i edrych a fyddai y gwartheg yn eu rhifedi, a'r defaid yn cadw yn eu manau priodol.

Yr oedd tad a mam Cadwaladr Jones yn byw yn y Deildref Uchaf er cyn ei enedigaeth ef, ac yno y treuliasant weddill eu hoes faith, a thawel. Pobl wledig a dirodres oeddynt, ac yn byw yn gyfiawn yn eu cysylltiad â'r byd hwn. Talent yn fanwl i bawb yr eiddo. Gwnaent gymwynas i gymmydog wrth angen. Buont fyw yn gariadus yn mhlith eu hardalwyr, ac ni chlywid gair isel ac anmharchus am danynt. gan neb. Yr oedd John Cadwaladr dipyn yn wyllt o ran ei dymher naturiol, a thaflai profedigaeth ddisymwth ef oddiar ei echel, am ychydig o funudau; ond ni ddaliai ddigofaint, a byddai yr helynt drosodd gyda iddi ddechreu bron. Yr oedd Dorothy Cadwaladr, o'r ochr arall, yn araf a phwyllog, ac yn wastadol yn llywodraethu ei thymherau a'i nwydau, i berffeithrwydd. Yr oedd pwyll ac amynedd yn ei holl symudiadau, ei geiriau a'i gweithredoedd. Rhagorai ar y rhan fwyaf o'i chymmydogion mewn synwyr cyffredin cryf, a byddai ei sylwadau ar wahanol bethau yn hynod o finiog a chyrhaeddgar. Yr oedd rhyw fawredd gwledig yn perthyn iddi, a barai i un deimlo wrth ymddiddan â hi, ei fod yn siarad â gwraig synwyrol iawn, a thra annghyffredin o ran sylw a chraffder. Yr oedd yn ei gwr dueddfryd cryf at hela, a soniai yn ddifyr am helyntion ei helwriaethau. Cadwai ddaeargi a bytheiad at y gorchwyl iachus a difyrus hwnw: ond gyda y buchod a'r lloi, y llaeth, yr ymenyn, a'r caws, a chyda ei hosan yn yr hwyrau, y byddai hi. Anfynych y gwelid hi yn mhell oddiwrth ei thŷ. Yr oedd trefn ar bob peth a wnai, a glanweithdra yn hynodi ei pherson a'i hannedd.

Ni bu John Cadwaladr a'i wraig erioed yn perthyn i'r Ymneillduwyr. Tueddu at yr Eglwys Sefydledig yr oeddynt hwy. Nid yn aml y gwelid hwy mewn capel. Pa mor ddiwyd oeddynt yn eu hymarferiad a moddion gras yn y llan, y mae yn anhawdd gwybod yn bresenol i sicrwydd. Yr oeddynt yn tynu i gryn oedran pan oedd ysgrifenydd y llinellau hyn yn ieuangc: ond nid yn aml y gwelid hwy mewn cynnulleidfaoedd cyhoeddus y pryd hwnw. Buont fyw i oedran teg, a buont feirw, ill dau, oddeutu deg a phedwar ugain oed. Os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd Dorothy Cadwaladr yn unarddeg a phedwar ugain pan fu farw. Claddwyd hwy yn Llanuwchllyn, gyda y torfeydd a gladdesid yno o'u blaenau. Heddwch i lwch y pâr gonest a dihoced hwn. Mae yn hawddach o lawer cael eu gwaeth na'u gwell mewn cymmydogaeth, ac yn mysg proffeswyr crefydd, hefyd, gyda gwahanol enwadau. Pe na ddaethent hwy i'r byd i ddim ond i fagu gwrthddrych y cofiant hwn, ni buasai eu dyfodiad yma yn ddiennill i'r ddaear; ond gobeithiwn am danynt "bethau gwell, a phethau yn nglyn wrth iachawdwriaeth."

Ganwyd Cadwaladr Jones yn y Deildref Uchaf, yn mis Mai, 1783, a bedyddiwyd ef ar y dydd cyntaf o Fehefin, yn y flwyddyn hono, yn eglwys Llanuwchllyn, gan y Parchedig Mr. Jones, o'r Ddolfawr, wedi hyny o Wyddelwern.

Gan mai efe oedd unig blentyn ei rieni, gallwn fod yn dra sicr fod eu serch tuag ato, a'u gofal gwastadol am dano, yn fawr iawn. Canwyll eu llygaid, yn ddiau, oedd yr unig blentyn hwn. Yr oedd dau feddwl, dwy galon, a phob dymuniad am ei les a'i lwyddiant, yn cydgyfarfod ynddo, ar bob awr o'r dydd. Yr oedd ei rieni yn gysurus o ran eu sefyllfa yn y byd, yn fwy felly na llawer o'u cymmydogion, a diau na arbedasant ddim a ystyrient yn angenrheidiol i ddwyn Cadwaladr bach i fyny yn deilwng, yn ol eu golygiadau hwy ar y pwnge hwnw. Cafodd gartref clyd; ymborth iachus y wlad hono; gwisgoedd priodol i'r haf a'r gauaf, "Sul, a gwyl, a gwaith ;" gofal serchus a thyner; llawer o sirioldeb chwarëus gan ei dad a chynghorion, cyfarwyddiadau, a rhybuddion, gan ei fam feddylgar, fanylgraff, a synwyrol. Felly, wrth fwynhau pob peth angenrheidiol iddo dan gronglwyd ei rieni, golygfeydd amrywiaethol yr ardal, ac awelon bywiol Pennantlliw, cynnyddodd, a daeth yn fachgen heinyf, a chwimwth anarferol ar ei droed, a dechreuodd henuriaid y gymmydogaeth feddwl yn uchel am dano; a diau fod hyny yn foddlonrwydd iddo ef ei hun, ac i'w rieni hefyd, er na ddywedent hwy nemawr ddim ar faterion o'r fath hyny. Nid oes neb yn awr yn fyw yn yr ardal hono, mae yn debyg, a "gyd-chwareuai âg e'n fachgen," nac, yn sicr, neb oedd mewn oedran i sylwi arno yn y tymhor hwnw o'i oes, i roddi i ni unrhyw sylwadau ar ei foes a'i arferion yn ei ddygiad i fyny; gan hyny, nid oes genym ond dyfalu ei fod, yn y rhan fwyaf o bethau, yn gyffelyb i fechgyn eraill y fro fynyddig hono, yn yr oes ddilynol i'r eiddo ef.

Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd. teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar làn y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Lliw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i'r tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn ymlithro ar hyd eu rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael ei geryddu gan ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu, pan wlychai ei draed, oblegid tori o'r rhew o dan ei bwysau, a dyfod i'r tŷ, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel eraill, oedd dyddiau dasu y mawn, golchi y defaid a'u cneifio; dyddiau cael y gwair a'r yd'; "ffair Llan yr haf;" a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel." Gallwn feddwl y chwareuodd lawer tua "Chwrt y Person," wrth ddychwelyd yn y prydnawniau, gydag eraill, o ysgol ddyddiol Rhosyfedwen; a'i fod yn aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y llif ychydig dros y ceryg, ac wedi cyflawni y gamp hono, yn neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hyny o beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac yn Medi, yn chwilio am y cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos, yn dyfal wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i'r tŷ yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w wely, pan fyddai cymmydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau hosanan, i dŷ ei rieni. Bu yn gwrandaw eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y rhyfel â Ffraingc, helwriaeth, ymddangosiad ysbrydion, dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yn nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel." Nid llawer o'r dosbarth olaf a geid ychwaith yn y Deildref Uchaf, oblegid nad oedd John a Dorothy Cadwaladr yn aelodau yno; a diau mai cynil a gofalus y siaradai hen bobl Pennantlliw ar faterion eglwysig, ar aelwyd "pobl o'r byd." Gallwn feddwl yn hawdd fod areithyddiaeth Abraham Tibbott yn synu peth ar y bachgen ieuange, a bod yr addoliad cyhoeddus yn dechreu denu ei fryd. Y mae hyny hefyd yn berffaith gyson a bod ganddo hyfrydwch, yn yr oedran yr oedd ynddo y pryd hwnw, yn mân gampiau y gymmydogaeth, megys, ymaflyd codymau, ymryson rhedeg, taflu maen a throsol, a'r cyffelyb. Clywsom lawer gwaith yn yr ardal hono, fod Cadwaladr Jones, o'r Deildref, pan oedd yn laslangc, yn fuan fel hydd ar ei droed, ac nad oedd neb yn y wlad a'i curai mewn gyrfa. Yr oedd yn gryf, yn ysgafn, yn chwimwth, yn ystwyth fel yr helygen, a'i anadl yn hir ac yn gref. Er. hyn oll, nid yn hir y bu ef heb gael ei ennill trwy yr efengyl i ymhyfrydu mewn pethau mwy pwysig na'r pethau a nodwyd, ac yn fuan tröes ei gefn arnynt oll.

Pan oedd gwrthddrych ein cofiant yn unarddeg oed, ymadawodd y diweddar Barchedig George Lewis, D.D., a Chaernarfon, ac ymsefydlodd yn weinidog yn Llanuwchllyn; a bu yn llafurio yn ddyfal yn yr ardal hono am dros ddwy flynedd ar bymtheg. I wrandaw arno ef y byddai pobl Pennantlliw, agos oll, yn myned y pryd hwnw; ac yn eu plith yr oedd Cadwaladr Jones yn wrandawwr cyson arno, ac yn mawr hoffi ei weinidogaeth. Y mae amrywiaeth barn yn mysg dynion deallus a chrefyddol am rai pyngciau yn nuwinyddiaeth y Doctor Lewis; ond nid oes dim ond un farn yn mysg y rhai a'i hadwaenent ef oreu, yn ei gylch ef ei hunan, am dano fel dysgawdwr crefydd i'w gynnulleidfa. Yr oedd yn fanwl, yn rymus, ac yn ysgrythyrol, a bu yn dra llwyddianus yn Llanuwchllyn. Ni feddyliodd y Dr. Lewis erioed am ddwyn dynion i gysylltiad ag eglwys Dduw trwy rinwedd "sebon meddal" a gweniaith, ond trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; ac am hyny yr oedd yn yr eglwys oedd dan ei ofal, ddynion. yn meddu dirnadaeth ysbrydol, yn saint wedi eu cymhwyso i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Yr oedd yno lawer o'r cyfryw bobl. Dyna y bobl a fyddent yn cydfyned i'r capel, ac yn cyd-ddychwelyd o hono, gyda Chadwaladr Jones; gwyddys fod eu hymddiddanion a'u hymddygiadau wedi bod iddo ef, ac i eraill hefyd, o ddirfawr les. Ni wyddom pa fodd yr ennillwyd ef i roddi ei hunan yn gwbl i Iesu Grist, ac i'w bobl, yn ol ei ewyllys ef; hyny yw, ni wyddom pa foddion a arferwyd yn bennodol yn ei achos ef. Gwyddom pwy sydd yn brif ysgogydd yn mhob gwir ddychweliad. Diau iddo ef, fel eraill, fod am dymhor yn y gyfeillach grefyddol ar brawf, cyn ei dderbyniad yn gyflawn aelod; a phur debyg hefyd yw, iddo fyned drwy arholiad manwl a difrifol cyn iddo gael ei dderbyn, yn ol arfer y gweithiwr difefl oedd yn weinidog yn y lle. Y cwbl a wyddys yn ddilys yn awr ydyw hyn: fod Cadwaladr Jones wedi cael ei dderbyn yn aelod cyflawn o'r eglwys a ymgyfarfyddai yn yr Hen Gapel, yn mis Mai, 1803, pan oedd efe yn ugain mlwydd oed.

O'I DDERBYNIAD YN AELOD EGLWYSIG HYD EI FYNEDIAD I'R ATHROFA.

Dyna ni wedi dilyn ein diweddar frawd nes y daeth yn aelod yn eglwys Dduw, mewn ardal oedd wedi ei breintio yn helaeth â manteision crefyddol. Dechreuasid yr achos crefyddol yn Llanuwchllyn trwy ymdrechion hunanymwadol yr Hybarch Lewis Rees, pan ydoedd yn gweinidogaethu yn Llanbrynmair. Daeth i bregethu i dŷ yn y plwyf o'r enw Gweirglodd Gilfach, drwy anogaeth gwr y tŷ, a pherchenog y lle. Mae hanes yr oedfa hono yn ddigon hysbys, fel na raid ei adrodd yma. Bu Mr. Rees yn dyfod i Lanuwchllyn yn rheolaidd am dro, i bregethu yr efengyl, ac yn achlysurol am flynyddoedd lawer wedi hyny. Adeiladwyd capel yn yr ardal hono yn y flwyddyn 1746, rhyw wyth neu naw mlynedd wedi i Mr. Rees fod yn pregethu am y tro cyntaf yn Ngweirglodd Gilfach. Bu yn Llanuwchllyn, o leiaf, BUMP o weinidogion cyn i'r Dr. Lewis ymsefydlu yno; ond dan ei weinidogaeth ef y cyfodwyd yr Hen Gapel i'r bri a berthynai iddo yn y deuddeng mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Gwyddys fod gwrthddrych y nodiadau hyn yn mawrygu gweinidogaeth y Dr. Lewis, megys agos bawb a gawsant ei mwynhau yn Llanuwchllyn. Bu yn addysgiadol iawn iddo; ac er na bu ef erioed yn gaeth-ddilynwr i'r gwr enwog hwnw yn ei olygiadau neillduol, nac yn gaeth-ddilynwr i neb arall yn eu golygiadau neillduol, mwy nag yntau; etto, bu pregethau a llyfrau ei weinidog llafurus yn foddion effeithiol i sefydlu ei olygiadau ar y rhan fwyaf o byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Bu gweinidogaeth a chyfeillach Mr. Pugh, o'r Brithdir; Mr. Williams, wedi hyny o'r Wern; Mr. Jones, o Drawsfynydd; a'r Hybarch Robert Roberts, Tyddynyfelin; ac Ellis Thomas, Tymawr, un o'i gymmydogion agosaf, o gryn adeiladaeth iddo yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd crefyddol. Ond ei weinidog ei hun oedd ei brif hyfforddwr ef, a gair Duw, at yr hwn y cyfeiriai gweinidogaeth sefydlog "yr Hen Gapel" ef bob amser. Wedi i Mr. Jones fod am dair blynedd yn aelod dichlynaidd, diwyd, a defnyddiol yn yr eglwys y perthynai iddi, ac i'w gydaelodau gael prawf o hono, a boddlonrwydd ynddo, fel gwr ieuange sobr a chrefyddol, deallgar a gwybodus, ac awyddus am gael ei gyd-bechaduriaid at yr Arglwydd Iesu, ac i fwynhad o'r un grefydd ag a roddasai dawelwch i'w gydwybod euog ef ei hun, anogwyd ef i ymarfer y ddawn a roddasai yr Arglwydd iddo i bregethu yr efengyl, yn ol fel y byddai amser a chyfleusdra yn caniatau iddo wneuthur. Mewn ufudd-dod i'r anogaeth hono, dechreuodd draethu ychydig o'i syniadau ar ranau o'r ysgrythyrau, megys ar brawf yn y cyfeillachau neillduol. Yn mis Gorphenaf, 1806, y dechreuodd efe arfer ei dalent yn y ffordd hono yn yr eglwys. Y canlyniad o'r prawf hwn o hono ydoedd, pasio penderfyniad unfrydol gan yr holl frodyr a'r chwiorydd: "Fod rhyddid i Cadwaladr Jones i lefaru yn gyhoeddus, pa le bynag a pha bryd bynag y gelwid arno i wneuthur hyny." Dyna ef wedi ei osod yn rheolaidd yn ei swydd fel pregethwr trwy unol lais y gynnulleidfa. Yr oedd hyny, yn ddiau, yn galondid mawr iddo i ymaflyd yn y gwaith pwysig a gymerasai i'w gyflawni. Ni ddylai dyn dan amgylchiadau cyffredin ruthro i bregethu yr efengyl yn ol ei fympwy ei hun, ac heb ei alw yn rheolaidd at y gwaith gan eglwys Dduw. Gwaith yr eglwys, dan arweiniad ei blaenoriaid ac yn ofn yr Arglwydd, yw cyfodi pregethwyr. Nis gellir llai na chymeradwyo y dull y cyfodwyd Cadwaladr Jones i bregethu gan y Dr. Lewis a'r eglwys barchus oedd y pryd hwnw dan ei ofal.

Cafodd y gwahanol enwadau crefyddol sydd yn ein plith, o bryd i bryd, lawer o bregethwyr defnyddiol o ardal Llanuwchllyn. Cafodd yr Eglwys Sefydledig y diweddar Barch. Henry Parry, Llanasa, oddiyno; y Parch. Lewis Anwyl, o Lanllyn; a'r Parch. Mr. Jones, o'r Ddolfawr. Cafodd y Bedyddwyr John R. Jones, Ramoth; Joseph a Dafydd Richards; Dafydd Roberts, o'r Hendref; Thomas Edwards, o'r Ty'nyfedw; Edward Humphreys; ac Ellis Evans, D.D. Llanuwchllyn a roddodd i'r Methodistiaid Calfinaidd yr Hybarch Evan Foulk, a'i feibion; Foulk Evans; a Robert Evans; a brawd i Evan Foulk, o'r enw Edward Foulk; Dafydd Rowlands, Llidiardau; John Jones, Afonfechan; Robert Williams, Wernddu; Dafydd Edwards, Brynmawr, Mynwy; Foulk Parry, Croesoswallt; William Pugh, Llandrillo, ac eraill, feallai, nad ydym yn ddigon cydnabyddus â hwynt i nodi y manylion yn eu cylch. Gwyddom fod y rhai a ganlyn o bregethwyr yr Annibynwyr wedi dyfod allan o'r un ardal:—Robert Lloyd, Porthmadog; Rowland Roberts, Pen-rhiw-dwrch; Robert Roberts, Tyddynyfelin; John Evans, Penyffridd; John Lewis, Hafod-yr-haidd, gynt o'r Bala; Dafydd Davies, Bryncaled; Llewelyn Howell, Utica; Dafydd Jones, Treffynnon; ei nai John Jones, Ty'nywern; Morris Roberts, Remsen; Ellis Thomas Davies, Abergele; Michael D. Jones, Bala; R. Thomas, Bangor; Edward Roberts, Coedpoeth; John Williams, gynt o'r Bryniau; Cadwaladr W. Evan, Awstralia; Lewis Jones, Tynycoed, yn nghyd ag eraill feallai.

Nid ydym yn proffesu rhoddi rhestr gyflawn o'r pregethwyr a ddaethant o ardal Llanuwchllyn. Nis gallwn wneuthur hyny; ond yn ddiamheu, y mwyaf yn eu mysg mewn amryw ystyriaethau oedd y diweddar Barchedig foneddwr Cristionogol Cadwaladr Jones, o Ddolgellau. Magodd Llanuwchllyn ddau bregethwr i'r Wesleyaid-Robert Jones, Maltford Hill; a Robert Jones, Merthyr.

Wedi i Mr. Jones ddechreu pregethu yn gyhoeddus, bu yn ddiwyd, ymroddgar, ac egnïol iawn yn y gwaith pwysig yr ymafaelasai ynddo. Pregethai ar y Sabbothau yn agos ac yn mhell, fel y byddai galwad am ei wasanaeth. Pregethai lawer ar nosweithiau gwaith yn ardaloedd y plwyf eang y ganesid ef ynddo, a Chwm-glan-llafar. Nid oedd braidd dŷ yn mhlwyf Llanuwchllyn na bu ef ynddo yn pregethu, yn ystod y tymhor, o'r flwyddyn 1806 hyd 1811; ac yr oedd ei weinidogaeth yn dderbyniol a chymeradwy gan bob gradd. Yr oedd amryw bethau yn dra ffafriol iddo fel pregethwr. Ni chawsai nemawr o anogaeth i fyned i'r weinidogaeth gan ei rieni. Yr oedd yn wr ieuange glândeg a lluniaidd, a hynod o serchus yn ei holl ymwneyd â'i gymmydogion. Yr oedd yn sobr a siriol, a'i ymddygiadau yn mhob peth yn addas i'r efengyl. Yr oedd yn bwyllus a synwyrol, ac yn deall ei Feibl yn dda. Yr oedd ei lais yn beraidd a swynol iawn, ac ni flinai ei wrandawyr â phregethau afresymol o feithion. Yr oedd yn agos at bawb heb fod yn rhy agos at neb, ac yn byw yn ddirodres fel ei gymmydogion yn gyffredinol.

EI DDERBYNIAD I'R ATHROFA.

Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, dechreuodd Mr. Jones deimlo ei angen am ychwaneg o ddysg mewn trefn i fod yn weinidog defnyddiol yn eglwys Dduw, ac aeth i'r Athrofa oedd y pryd hwnw dan ofaly Parch. Jenkyn Lewis yn Ngwrexham. Derbyniwyd ef fel myfyriwr yno Tachwedd 30, 1806. Treuliodd dros bedair blynedd, weithiau yn yr Athrofa ac weithiau gartref gyda ei dad yn gweithio ar y tyddyn. Treuliai y gauaf yn Ngwrexham, a'r haf yn y Deildref; a bu yn ddyfal iawn yn casglu gwybodaeth yn y Coleg, ac yn pregethu o gylch ei gartref bob yn ail, y blynyddau hyn. Ar ei draul ei hun yr oedd efe yn yr Athrofa, os nad ydym yn camgofio; ac felly, rhanai ei amser rhwng ei hawliau meddyliol a'i oruchwylion tymhorol. Yr oedd yr enwog Williams o'r Wern yn y Coleg ar unwaith ag ef ar y cyntaf, a'r galluog Michael Jones wedi dyfod yno cyn iddo ef ganu yn iach i Wrexham. Bu yn gydfyfyriwr a'r ddau am dro, a mawr oedd ei barch iddynt tra fu byw.

Pan yn preswylio gyda ei rieni yn Llanuwchllyn, pregethai Mr. Jones yn fynych yn Rhydymain, y Brithdir, Dolgellau, Llanelltyd, a'r Cutiau, y lleoedd yn mha rai yr ydoedd "Pugh o'r Brithdir yn ei flodau" yn gweinidogaethu, gan lafurio yn galed a diflino mewn amser ac allan o amser. Brodor o'r Brithdir oedd Mr. Pugh. Ei gartref cyn iddo briodi oedd y Perthi-llwydion. Dywed un pur gymhwys i farnu am dano fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr hyawdl a galluog, yn serchog o ran ei deimladau, ac yn gyfaddas iawn yn mhob ystyr i fod yn efengylwr ei fro enedigol." Yr oedd cylch gweinidogaeth Mr. Pugh yn cyrhaeddyd o'r Garneddwen i'r Abermaw, ac o Fwlch-oer- ddrws i ucheldiroedd y Ganllwyd; darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd wrth ddeuddeg o led. Nid am ryw lawer o flynyddoedd y bu y pregethwr ieuangc hyawdl a gwlithog hwnw ar y maes; ond bu yn dra llwyddianus a chymeradwy gan bawb yn ei dymhor byr. Efe oedd y gweinidog cyntaf a fu yn llafurio gyda yr Annibynwyr yn sefydlog, yn yr ardaloedd o amgylch Dolgellau. Pregethai yn mhob man lle yr agorai Rhagluniaeth ddrws iddo. Yn ei amser ef y derbyniwyd y personau canlynol yn aelodau eg- lwysig:—yn Llanelltyd Mr. Thomas Davies, Trefeiliau; y Parch. Edward Davies, Trawsfynydd; Evan James, Cylchwr; Richard Roberts, o Felin y Ganllwyd, a'i wraig; Rees Griffith, Farchynys, a'i wraig; Cathrine Jones, o'r Sylfaen; Margaret Jones, o'r Faner, ac eraill llai adnabyddus. Derbyniwyd yn y Brithdir o gymmydogaethau Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evan, Talywaun, a'i wraig; Evan Dafydd, Gellilwyd, a'i wraig; Ann Jones, Pant-y-piod; William Vincent; Morris Dafydd, (Meurig Ebrill); Evan Owen, Gyllestra; Cathrine Thomas, Dolrisglog; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis; John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yr ydym yn enwi y rhai uchod am fod Mr. Jones wedi eu nodi fel rhai oeddynt yn ei wahodd ef i weinidogaethu i'r ardaloedd hyny, fel olynydd i Mr. Pugh. Gallai hefyd na fydd yn ddrwg gan gymmydogion iddynt a adwaenent rai o honynt, a disgynyddion oddiwrthynt, weled eu henwau yn Nghofiant yr Hybarch Cadwaladr Jones.

Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo, am £500; a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymhwys iddynt i addoli ynddo.

Un waith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull ysgrythyrol o ymarfer a'r ordinhad o swper yr Arglwydd, a dybenion. sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion; ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.

Nid hir y bu Mr. Pugh yn llafurio gyda ei hyfryd waith wedi sefydliad yr eglwys yn Nolgellau; oblegid bu farw o'r clefyd coch, Hydref 28, 1809, er mawr alar i'r holl fân eglwysi oedd dan ei ofal, a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

EI ALWAD YN OLYNYDD I'R PARCH. H. PUGH.

Yn y flwyddyn ganlynol, 1810, dechreuwyd meddwl am gael olynydd teilwng i Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i'r diweddar Barch. D. Morgan, o Lanegryn y pryd hwnw, a thueddid eraill i roddi galwad i Cadwaladr Jones, o Lanuwchllyn. Clywsom fod etholiad tỳn wedi cymeryd lle ar yr amgylchiad, ac mai Cadwaladr Jones a ennillodd, neu yn hytrach y dosbarth oedd drosto, o ryw ychydig iawn. Ymostyngodd y lleiafrif i'r mwyafrif; rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Jones, a chydsyniodd yntau â hi. Clywsom mai un peth a barodd i Mr. Jones gael mwy o enwau drosto na Mr. Morgan ydoedd, fod rhywbeth yn ei lais yn debyg i'r eiddo Mr. Pugh, tra yr oedd Mr. Morgan y pryd hwnw, yn enwedig, yn llefaru yn gyflym iawn, ac yn annealladwy i lawer. Yr oedd yr holl eglwysi a fuasent dan ofal Mr. Pugh yn cyduno yn ngalwad Mr. Jones i fod yn fugail arnynt; sef, Rhydymain, Brithdir, Dolgellau, a'r Cutiau. Yr oedd Llanelltyd a'r Ganllwyd wedi sefydliad yr eglwys yn y dref, yn dyfod yno i gymundeb, yn nghyd ag Islaw'r-dref.

Er fod dymuniad cryf yn y gwahanol gynnulleidfaoedd hyn, ar i'r gweinidog dewisedig ganddynt ddyfod i'w plith yn ddioed, etto, llwyddodd ef i gael ganddynt adael iddo aros am rai misoedd yn hwy yn yr Athrofa, i yfed ychydig yn ychwaneg o ffrydiau melus dysgcidiaeth, cyn dechreu o hono ar ei waith pwysig yn ei gylch newydd. Yn mysg papurau Mr. Jones cawsom lythyr a ysgrifenodd efe yn y cyfwng hwnw at Robert Pugh, Perthi-llwydion, Brithdir; a chan ei fod yn dangos ychydig o agwedd meddwl ei ysgrifenydd ar y pryd, ni a'i rhoddwn ef yma.

WREXHAM, Hydref 27, 1810.

Anwyl Frawd,
Yr wyf yn anfon atoch hyn o linellau, gan obeithio eich bod yn iach fel yr wyf finnau yn bresenol. Bu dda genyf dderbyn y llythyr a anfonasoch ataf. Yr wyf wedi bod yn y cyfarfod yn Llanfyllin. Ni a gawsom gyfarfod cysurus iawn yno, ac yr wyf yn hyderu ei fod o les i fy enaid. Nid oes genyf ddim rhyfedd i'w fynegu i chwi. Mae y dref a'r wlad o'i chylch yn gyffredin o iach; etto yr wyf yn parhau i weled amryw o'm cyd-ddynion yn cael eu cludo i'r bedd er pan ydwyf yma. Bu yn chwith hynod genyf glywed am farwolaeth Hugh Edwards, o Lanyrafon, yn ymyl Towyn. Ond er mor aml y rhybuddir fi, etto, teimlo fy hun yr ydwyf yn gwisgo pob effeithiau dymunol oddiar fy meddwl yn fuan. O wythnos i wythnos mae yr, amser yn nesáu i mi ddyfod tuag adref os byddaf byw. Byddaf yn rhyfeddu yn fawr weithiau, os gwelir fi yn ceisio cadw lle fy anwyl frawd (gynt) Hugh Pugh. Gallaf ddywedyd yn hawdd, fy mod yn ystyried fy hun yn analluog iawn i'r gorchwyl mawr ei bwys. "Un a gymerir a'r llall a adewir." Nid oedd yr Arglwydd, yn ddiau, heb olwg ar un i ddyfod i'ch plith fel eglwysi, pan yn ei gymeryd ef ymaith. Nid oes genyf yn awr ond gorchymyn fy hunan i ofal eich gweddïau. Pan yn absenol oddiwrth ein gilydd gallwn anfon gweddïau tua'r nef dros ein gilydd. Dywedwch wrth fy mrodyr yn eich amgylchoedd, fy mod yn cofio atynt i gyd, ac yn dymuno cael fy nghofio ganddynt o flaen gorseddfaingc y gras. Peidiwch ag addaw byd da ar grefydd trwy fy nyfodiad i atoch, os caf fyw i ddyfod, rhag i chwi gael eich siomi. Mae'r llwyddiant yn llaw Duw yn unig. Bellach frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fyddo gyda chwi.

Hyn oddiwrth eich brawd a'ch cyfaill,

CADWALADER JONES, Llanuwchllyn.

Robert Pugh, Perthi-llwydion.

EI URDDIAD YN NOLGELLAU.

Yn nechreu y flwyddyn 1811, gadawodd Mr. Jones yr Athrofa, dychwelodd i'r Deildref-uchaf, ac yn nechreu y gwanwyn hwnw dechreuodd lafurio yn Nolgellau a'r amgylchoedd; a phan ddaeth dydd Iau Dyrchafael, Mai 23, 1811, neillduwyd ef yn gyhoeddus i'r weinidogaeth yn Nolgellau. Dewiswyd Dolgellau i gynnal y cyfarfod pwysig hwnw am fod y dref yn ganolog i'r gwahanol gynnulleidfaoedd ymgasglu yn nghyd. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth, neu a oeddynt yn bresenol ar yr achlysur, oedd y rhai canlynol:—George Lewis, Llanuwchllyn; Benjamin Jones, Pwllheli; John Roberts, Llanbrynmair; James Griffiths, Machynlleth; William Hughes, Dinas; William Jones, Trawsfynydd; John Lewis, Bala; David Roberts, Llanfyllin; James. Davies, Aberhafhesp; William Williams, Wern; a Jonathan Powell, Rhosymeirch. Ni lwyddasom i gael manylion y cyfarfod, a pha ran o'r gwaith a gyflawnai y naill a'r llall o'r brodyr enwog a ddaethant iddo. Ond gallwn fod yn dra sicr fod presenoldeb y fath Henuriaid yn llawer o galondid i Mr. Jones y diwrnod hwnw ac wedi hyny hefyd, yn nghyflawniad. ei swydd anrhydeddus yn mysg y cynnulleidfaoedd bychain y gweinyddai iddynt. Bychain a ddywedasom? Ie, bychain. Dyma rif yr aelodau pan ddaeth Mr. Jones i Ddolgellau:— Rhydymain, 23; Brithdir, 34; Dolgellau, yn cynnwys Islaw'r dre, Llanelltyd, a'r Ganllwyd, 39; Cutiau, 17; y cyfan gyda eu gilydd, 113. Dyna sefyllfa yr eglwysi pan gyflwynodd gwrthddrych y cofiant hwn ei hun i waith y weinidogaeth yn eu plith. Mae ger ein bron y drwydded a gafodd efe i bregethu yr efengyl mewn llys agored yn y Bala, ar yr unfed dydd a'r bymtheg o Orphenaf, 1807, wedi ei harwyddo gan ysgrifenydd yr heddwch yn y llys; ond nid yw o bwys debygem ei dodi i mewn yma. Y mae hefyd ger ein bron y dystysgrif a arwyddwyd gan y gweinidogion oeddynt yn ei urddiad, wedi ei hysgrifenu yn ddestlus iawn gan y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli. Mae hon yn werth ei rhoddi i mewn. Dyma hi:

DOLGELLEY, 23rd of May 1811.

This is to certify to all whom it may concern that the Rev. Cadwaladr Jones was publickly and solemnly set apart and ordained by prayer and imposition of hands, as a Protestant Dissenting Minister of the Congregational order at Brithdir, Dolgelley, &c., on Thursday, 23 day of May, one thousand eight hundred and eleven. Witness our hands the day and year above written.

Benjamin Jones, P.D. M, Pwllheli.
George Lewis, Llanuwchllyn.
John Roberts, Llanbrynmair.
James Griffiths, Machynlleth.
William Hughes, Dinas.
William Jones, Trawsfynydd.
David Roberts, Llanfyllin.
James Davies, Aberhavesp.
John Lewis, Bala.
William Williams, Wern.
Jonathan Powel, Rhosymeirch.

Y cwbl a allasom ni gael allan am waith y cyfarfod ydyw, mai Dr. Lewis a bregethodd ar ddyledswydd y gweinidog. Ni ddywedir wrthym pa destyn a gymerodd. Heblaw hyny, dywedir mewn nodyn o eiddo y gweinidog ieuange, fod Dr. Lewis; William Jones, Penstreet; a John Lewis, Bala, wedi ymadael a'r dref cyn i Mr. Jones, Pwllheli, gael y dystysgrif yn barod i'w harwyddo y dydd hwnw. Nid ydym yn rhy- feddu fod y Doctor Lewis yn prysuro tuag adref wedi gorphen ei waith; na bod Mr. Jones, Trawsfynydd, yn cychwyn yn gynar i'w ffordd faith, lechweddog, a throm; ond pa brysur- deb, tybed, oedd ar Mr. John Lewis, o'r Bala, y diwrnod hwnw, mwy na rhyw ddydd arall? Byddai ef ar ol bob amser yn mhob man; a phe buasai yn byw yn ein dyddiau ni, ni chawsai afael byth ar y gerbydres. Cwmni y Duwinydd o Lanuwchllyn, mae yn debyg a'i denodd i droi adref mor gynarol. Wedi y cwbl, odid fawr nad oedd efe ryw hyd rhaff ar ol y Doctor yn myned dros y bont o'r dref.

Buasai yn ddymunol iawn genym pe gallasem godi y llen a daenodd amser dros amryw o bethau cysylltiedig â chyfarfod urddiad Mr. Jones, heblaw manylion gwasanaeth y cwrdd ei hun; megy's Pwy o wyr Pennantlliw oedd yn bresenol ynddo? A oedd Harri Rowlands, y Deildref Isaf; Ellis Thomas, Tymawr; Cadwaladr Williams, Wernddu; John Williams, Ty'nybryn; Thomas Cadwaladr, y Wern, &c., yn bresenol fel hen gymmydogion, a brodyr crefyddol, i roddi ychydig of galondid i'w brawd ieuange ar ddechreuad ei weinidogaeth? A oedd Jane Howell; Elizabeth Thomas; ac Ellen Jones, y chwiorydd deallus oeddynt ar y pryd yn Llanuwchllyn, wedi anturio dros y Garneddwen i'r cyfarfod? Beth oedd barn doethion ei hen ardal am ragolygon y gweinidog ieuange? A oedd ei dad, neu ei fam, neu y ddau, yn y cwrdd dyddorol hwnw? Buasai yn dda iawn genym wybod a welodd cu llygaid hwy eu hunig fab, a'u hunig blentyn, yn wir, yn cael ei neillduo i'r weinidogaeth; ac a glywodd eu clustiau yr oll a ddywedwyd wrth yr Arglwydd, ac wrth ddynion yn ngwas- anaeth dydd yr urddiad; a pha beth oeddynt yn feddwl, a pha fodd y teimlent ar y pryd. Ond y mae llai na thri-ugain mlynedd wedi symud y posiblrwydd o wybod y pethau hyn, a'u cyffelyb o'n cyrhaedd, mor drylwyr, agos, a phe buasent wedi cymeryd lle cyn y diluw. Clywsom lawer gwaith, nad oedd John Cadwaladr yn golygu fod ei fab yn ymddwyn yn ddoeth wrth ymgymeryd a gwaith y weinidogaeth. Digwydd- odd unwaith pan oedd Cadwaladr Jones gartref yn y tymhor haf, wedi iddo dreulio y gauaf cyn hyny yn yr Athrofa, i'w dad ymddiried iddo y gorchwyl o wneyd y ddås-wair; ond pan ddaeth ef o'r cae i'r weirlan i edrych pa fodd yr oedd Cadwaladr yn cyflawni ei orchwyl, gwelai fod y ddas yn gwyro tipyn i un ochr, pan y dylasai fod yn wastad. Galwai y daswr i gyfrif, a dywedai wrtho, braidd yn wyllt ei dymher, "Os na fedri di wneyd pregeth yn well nag y medri wneyd das o wair, ni thali di mo'r baw." Mae y pethau a glywsom o bryd i bryd ar y mater hwn, yn codi rhyw awydd ynom am wybod yn gywir beth oedd syniadau a theimladau y rhieni, pan welsant eu mab yn rhoddi y cam, dialw yn ol, i gyflawn. waith y weinidogaeth; ond nis gallwn ond dyfalu eu bod yn meddwl cryn lawer, ac yn dyweyd ond ychydig; a bod y gwas crefyddol a defnyddiol iawn oedd ganddynt, Cadwaladr Richards, a chefnder i Cadwaladr Jones, yn digaregu y ffordd o'u blaenau, gan gyfiawnhau penderfyniad y gweinidog ieuangc; a bod y cymmydogion yn gwneyd yr un peth; a bod John a Dorothy Cadwaladr yn ymfoddloni i'r drefn.