Cofiant Dafydd Rolant, Pennal/Dafydd Rolant a Mari Rolant
← Yn Mysg Ardalwyr Pennal | Cofiant Dafydd Rolant, Pennal gan Robert Owen, Pennal |
Dywediadau Ffraeth, a Hanesion Hynod → |
PENOD V.—DAFYDD ROLANT A MARI ROLANT.
CYNWYSIAD.—Rhagluniaeth yn clirio y ffordd iddo briodi—Yn dyfod a gwraig i Bennal—Teulu Mary Rowland—Y lle y cyfarfyddasant gyntaf—Y Rhagbarotoad—Ymgynghori â'r teulu—Y trafaeliwr yn dyfod heibio—Sylw Mr. Humphreys a Mr. Thruston—Bys bach y cloc o'i le—Beth fydd swper y pregethwr—Galw arno o'r ardd—Yn cymeryd meddyginiaeth y naill yn lle y llall—Yn barod i briodi yn gynt y tro nesaf—Ar lan y môr yn y Borth—Yn anghytuno oherwydd myned i goncert yn Llandrindod— Dull y ddau o gario busnes ymlaen—Darluniad y Parch. Griffith Williams o garedigrwydd y ddau—Y ty yn llawn o fis Mai i fis Medi—Cân Dafydd a Mari, gan R. J. Derfel
MSER cofiadwy yn oes Dafydd Rolant oedd yr amser y daeth yn wr priod. Ni byddai hanes ei fywyd yn haner cyflawn heb grybwyllion gweddol helaeth am yr amgylchiad oll-bwysig hwn. Crybwyllion am y pryd a'r modd y cymerodd yr undeb le, yn gystal ag am ddyddiau bywyd y ddau o hyny allan.
Arhosodd un o'i ddwy chwaer—Mary, i'r hon yr oedd ganddo barch mawr gartref i edrych ar ol y ty a'r siop i'w thad a'i brawd, tra yr elent hwy allan i weithio. Felly y buont flynyddau lawer—hwy eu dau, a hithau yn gofalu am eu cartref Wedi i'r hen wr heneiddio, yr oedd bywoliaeth y teulu i fesur mawr yn dibynu ar y mab. Bu hyn yn rhwystr iddo i wneuthur cartref iddo ei hun, fel yr arferai ddweyd, hyd nes yr oedd yn llawn deugain mlwydd oed, pryd y mae synwyr a doethineb dyn yn y man goreu. Yr oedd merch ieuanc, modd bynag, yn aros yn y Fronfelen, palasdy wrth ymyl pentref Corris, yr hon yr oedd ef wedi ei gweled er's deunaw mlynedd, ac yr oedd wedi meddwl am dani yn wraig er's deunaw mlynedd. Pan y cliriodd Rhagluniaeth y ffordd, hyny ydyw, yn mhen rhyw nifer o fisoedd wedi marw y chwaer a gadwai y ty, ac a ofalai am gartref ei dad ac yntau, sef yn mis Mai, 1852, daeth ef a'r ferch ieuanc hon yn wraig iddo ei hun i Bennal, ac wedi cyraedd y ty, dywedai wrth ei dad, "Dyma Mari, nhad." "Ho," ebe yr hen wr Hugh Rolant,—"Let Mary live long." Mis Mai eto y dechreuodd y cyfnod hwn ar ei oes, a pharhaodd heulwen Mai i dywynu ar babell y ddau trwy ystod hir eu bywyd.
Genedigol o Ddolgellau ydoedd Mary Edwards—dyna oedd ei henw cyn priodi—a dilynai grefydd er pan yn bymtheg oed. Gadawodd gartref yn bur ieuanc. Bu yn aros i ddechreu yn Machynlleth, dros dymor byr, ac wedi hyny, fel y dywedwyd am ddeunaw mlynedd yn y Fronfelen, gerllaw Corris. Y meddyg adnabyddus, Dr. Evans, a breswyliai yn y Fronfelen yr holl flynyddau hyn. Chwiorydd iddi hi oeddynt Miss Ann Edwards, Bont Fawr, a Mrs. Robert Pugh, Plascoch, Dolgellau, a Mrs. Evan Owen, Braichcoch, Corris, y rhai sydd wedi gadael y fuchedd hon. Brawd iddi hi oedd y diweddar John Edwards, Corris, yr hwn a fu yn wr amlwg a blaenllaw gyda chrefydd, yn mysg Cyfundeb y Wesleyaid, am oes faith. Chwaer iddi hi ydyw Mrs. Griffith Ellis, sydd yn byw yn awr yn Bro Aran, Dolgellau. Y teulu oll yn barchus a chrefyddol, ac yn nodedig am eu caredigrwydd.
Parhaodd undeb agos rhwng Pennal a Dolgellau, byth er amser y briodas hon, bedair blynedd a deugain yn ol. Yn mis Mai, 1885, yr oedd Cynhadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Nolgellau. Ar ei diwedd, galwyd ar David Rowland i dalu diolch i'r ladies am eu ffyddlondeb yn darparu lluniaeth, ac yn ymdrafferthu ar hyd y dydd, gyda lliaws mawr o gynrychiolwyr a dieithriaid. "Yr ydw i," meddai, "yn hoff iawn o bobl Dolgellau. Mae yma quality da ynoch chwi i gyd. Yn Nolgellau y cefais i wraig; a phe digwyddai i mi fod mewn angen am un eto, yma y denwn i chwilio am dani."
Er mwyn rhoddi yr hanes gywired y gellir, defnyddir yn lled fynych ei eiriau a'i ymadroddion ef ei hun. Mynych y clywyd ef yn adrodd y troion hynod ynglyn a'i fynediad i'r stad briodasol. Yn nhy nain y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, Ellin Humphreys, Penybont, Corris, y gwelodd y ddau eu gilydd y tro cyntaf. Aeth blynyddau lawer heibio heb i ddim gymeryd lle ond cyfarfyddiad yn awr a phryd arall yn ddamweiniol. Pan y gofynid iddo paham y gadawodd i dymor mor faith a deunaw mlynedd fyned heibio heb ddwyn y mater i derfyniad, ac hyd yn nod heb gymeryd yr un cam o gwbl tuag at i hyny gymeryd lle—heb ofyn unwaith yr un cwestiwn iddi hi—ei ateb bob amser fyddai, y buasai wrth wneuthur felly yu chwalu cartref ei dad a'i chwaer, ac yn hytrach na gwneuthur hyny gwell oedd ganddo ymddiried yn nhrefn Rhagluniaeth. Agorodd Rhagluniaeth y drws, modd bynag, iddo ddyfod a gwraig i'w gartref. Gyda bod hyn yn cymeryd lle, anfonodd lythyr i Fronfelen, a dywedai ynddo, fod y llythyr yn dyfod ar yr un neges a gwas Abraham, gyda'r gwahaniaeth fod y neges yn eisieu iddo ef ei hun, ac nid i fab ei feistr. Wyth milldir oedd y pellder o Bennal i Fronfelen, ac nid oedd hyny ond ychydig o ffordd iddo ef, yn ol a blaen, am yr ychydig fisoedd y bu yr ohebiaeth yn cael ei chario ymlaen. Clywai y cloc yn taro yn y Fronfelen ar un o'r ymweliadau hyn, ac meddai, "Dear me, ydi'ch cloc chwi yma ddim yn myn'd yn ffestach na chlociau cyffredin?"
Aml i dro y dywedodd, "Pe buaswn i yn gweled gwagen a llwyth o goed yn pasio trwy Bennal, a phe buaswn yn gwybod fod y coed hyny yn dyfod o goed Fronfelen, buaswn yn para i edrych ar y llwyth yn myn'd i lawr tuag Aberdyfi, nes y buasai wedi myned o'r golwg." "True to Nature," ddywedasai Will Bryan, pe clywsai Dafydd Rolant yn gwneyd y sylw hwn. Mater pwysig ydyw y mater o ymgynghori â'r teulu. Aeth Mary Edwards i Ddolgellau gyda'r amcan hwn. Mae yn fwy anhawdd, medda nhw, wneuthur cytundeb â'r teulu na gwneuthur cytundeb a'r ferch ei hun. Llawer undeb gwir a ataliwyd, a llawer priodas ddedwydd a ddyryswyd, pan ddygwyd yr achos o flaen Papa a Mamma, ac ewythr a modryb. Mewn llawer teulu, o ddyddiau Adda ac Efa hyd y dydd heddyw, wrth eistedd mewn cyngor ar y mater hwn, gyrwyd Rhagluniaeth allan dros y drws, gan fentro'r byd, a'i ffawd, a'i siawns, hebddi.
Galwyd y teulu ynghyd yn Nolgellau i ymgynghori, a mawr oedd yr holi a'r cwestiyno, ynghylch y darpar ŵr—pwy oedd o, sut un oedd o, beth oedd ei amgylchiadau o. Yr oedd yno Ewythr yn y cynghor, pur wybodus a hir ei ben; ac meddai yr Ewythr, "Fe all o fod yn eitha dyn, o ran hyny, ond myn di wybod gynddo fo, Mari, a ydi o mewn dyled." A chytunasant oll fod iddi bwyso arno am atebiad i'r cwestiwn hwn.
Y tro cyntaf yr aeth David Rowland i Fronfelen ar ol hyn, adroddodd hi wrtho yr hanes am yr ymgynghoriad yn Nolgellau, ac meddai, "Y maent wedi fy rhoddi fi dan fy siars i ofyn i chwi, a ydych mewn dyled. Mae'n gas genyf ofyn hefyd." Chwerthin, a chymeryd y peth yn chwareus a wnaeth ef ar y pryd. Ac wedi myned adref i Bennal, ysgrifenodd lythyr ati, yn yr hwn y dywedai, "Yr wyf wedi meddwl llawer am yr hyn a ofynasoch i mi, sef, a ydwyf mewn dyled. Yr ydw i mewn dyled fawr, ond mae genyf Feichia iawn, fe dâl Ef y cwbl drosof, y mae wedi dweyd hyny." Deallodd hi ei feddwl yn y ddameg hon, ac ni fu dim gofyn cwestiynau mwy.
Cyfarfu y teulu o Ddolgellau unwaith yn rhagor i ymgynghori, a'r tro hwn yn Nhyrnpac Cefneclodd, yn agos i haner y ffordd rhwng Corris a Dolgellau; a'r prydnhawn hwn cynhaliwyd gwledd o de pwysig yn Cefneclodd ar yr achlysur, Digwyddodd rhyw gymaint o ddamwain hefyd i'r anifail a gludai y parti i fyny o Ddolgellau. Ebe Dafydd Rolant wrth adrodd hanes yr amgylchiadau hyn, "Ni welsoch chwi 'rioed ffasiwn Court Martial oedd yno."
Ymhen diwrnod neu ddau wedi iddynt setlo i lawr yn Mhennal, dywedodd wrth ei wraig am iddi ddal ei ffedog, a thywalltodd lon'd ei ddau ddwrn o aur iddi. "Wel, wir," ebe hithau wrthi ei hun, "'does yma ddim lle llwm iawn." "I be 'rydach chi yn cadw cymaint o arian yn y ty?" Ond cyn pen ychydig ddyddiau, daeth y trafaeliwr heibio, ac aeth a'r aur gydag ef yn ei logell ei hun. Ychydig a wyddai hi fod yr arian wedi eu casglu a'u cadw erbyn dyfodiad y gwr rheibus hwnw.
Yn awr dechreuant fyw eu hoes gyda'u gilydd. Peth lled anhawdd yn yr amgylchiad hwn ydyw ysgrifenu hanes y penteulu, heb ddweyd llawer am y wraig hefyd. Yn un y buont yn eu bywyd; yn un y maent yn nghof eu holl gydnabod; ac yn un y gellir, trwy chware teg, adrodd hanes eu pererindod. Pwy sydd yn cofio am Dafydd Rolant, heb gofio hefyd am Mari Rolant? Pwy fu yn ei gymdeithas ef, y deugain mlynedd olaf o'i fywyd, am awr o amser, heb ei glywed yn son am Mari? Ni bu dau erioed yn fwy o help, y naill i'r llall, i fyned trwy y byd.
Deuai yr Hybarch Richard Humphreys i'w ty un diwrnod, pan oedd yn byw yn yr ardal, a dywedai, "Wyddoch chwi beth oeddwn yn wneyd wrth ddyfod at y ty yma heddyw? Ceisio penderfynu, pa un oreu ydi Dafydd i Mari, ynte Mari i Dafydd." Pan yn cadw y siop yn eu ty eu hunain, arferai y ddau fod un o bob tu i'r counter, ac meddai ef wrth unrhyw un a ddeuai i mewn, "Os oes arnoch eisiau rhywbeth i'w fwyta, ewch at Mari; os oes arnoch eisiau rhywbeth i'w wisgo, dowch at Dafydd," Pan fyddai y siop yn llawn o gwsmeriaid, yn enwedig ar nos Sadyrnau, byddai ef yn sicr o ddweyd rhyw bethau i roddi pawb yn y lle mewn tymer dda, ac felly yn ddigon boddlawn i ddisgwyl eu tro am eu neges. "Mae yn haws i mi werthu yn rhad na neb yn y wlad," dywedai. "Y mae tri pheth yn peri iddi fod felly, 'does gen' i ddim rhent i'w thalu; 'does gen' i ddim plant i'w magu; 'does gen' i ddim gwraig anodd ei chadw." Dro arall, pan fyddai mewn prysurdeb wedi methu gyda rhyw bethau bach, dywedai, "O, nid yw hyn fawr o bwys, gyda phethau bach y byddaf fi yn methu; y pethau mawr a wnes i 'rioed, yr oeddynt i gyd yn iawn. Mi briodais yn iawn, beth bynag!" Gwnelai hyn bawb yn y siop yn llawen, a'r wraig, yr hon oedd yr ochr arall i'r counter, yn cael ei boddhau gan y sylw, a atebai, "Ond ydi Dafydd yn ddigri."
Mewn Cyfarfodydd Cyhoeddus a gynhelid yn yr ardal, yn y cyffredin, llywyddid gan y boneddwr a breswyliai yn Talgarth Hall, gerllaw pentref Pennal, C. F. Thruston, Ysw. Gelwid Dafydd Rolant bob amser i'r platform i siarad, ac mor sicr a hyny, byddai ef yn siwr o ddweyd rhywbeth yn ystod ei araeth am Mari. "There," ebe Mr. Thruston, y llywydd, "David is in his element when he begins to speak of Mary."
Gellid adrodd nifer hirfaith o hanesion, a digwyddiadau, a dywediadau, er dangos fel yr oedd pob un o'r ddau yn ffitio ei le, a'r modd y byddent yn rhoddi difyrwch yn eu cartref, yn gystal ag yn mysg dieithriaid. Ond rhaid cadw o fewn terfynau yn y benod hon, rhag y byddis yn gorfod cyfyngu ar ranau eraill o'r Cofiant. Yr oedd ef yn hynod o barod i wneuthur cymwynasau i'r cymydogion, ac yn neillduol gyda phob peth y capel a'r achos. Yr un pryd, perthynai iddo lawer o ddiofalwch, ac yn ddigon aml gadawai waith ar y canol, neu ynte gwnelai ef o chwith. Yr oedd un bore Sul yn myn'd i'r capel i osod y cloc yn ei le, gan y gwyddis ei fod wedi sefyll yr wythnos flaenorol. Daeth i'r ty yn ol o'r capel, a dywedai, "Mae'r cloc wedi ei roi i'r dim yn ei le; mae hi o fewn chwe' munyd i ddeg y 'rwan." Erbyn i'r pregethwr fyn'd i'r capel ac edrych ar y cloc, yr oedd o fewn munyd neu ddau i naw o'r gloch, er mai deg oedd y gwir amser. Pryd cinio, gofynodd y wraig iddo, pa'm na fuasai y cloc yn ei le ac yntau wedi bod yn y capel yn ei osod yn ei le. "Wel," meddai, "Mi roddais y bys mawr yn ei le. Mae'n debyg mai gadael y bys bach a wnes heb ei roi yn ei le. O ran hyny, yr oedd yn ddigon tebyg yn y capel fel y mai hi yn y ty yma yn amal iawn—y bys mawr yn ei le, a'r bys bach o'i le."
Mynych yr adroddai wrth y pregethwyr, gyda llawer o ddifyrwch, ei fod ef wedi cael cast ar Mari. Pan byddai y pregethwyr yn aros yn eu ty, arferai hi ofyn iddynt beth a gymerent i swper. Ac ar y mater hwn yr oedd ef yn ddamweiniol wedi cael cast ynddi. "Bydd Mari," meddai, "yn gofyn yn ofalus iawn i'r pregethwyr beth gymerant i swper, ond bydd yn dweyd rhywheth bach wrth gwt hyny. Fel hyn y bydd yn gwneyd. Te ydi'r favourite yma pryd swper. Bydd hi yn parotoi yn ofalus iawn ar gyfer y pregethwr, a bydd yn gofyn iddo wrth fyn'd i barotoi, beth gymerwch chwi i swper—tê ynte coffee?—tê m'ranta', cyn i'r pregethwr gael amser i ateb."
Mae yn eithaf gwybyddus fod y naill a'r llall yn dra medrus mewn siarad, ond pob un yn ei ffordd ei hun. "Fydd neb yn ffeindio dim pall ar Mari mewn siarad," meddai. "Pan fydd yma rywun dieithr yn y ty ar ymweliad weithiau, mi fyddaf fi yn myn'd allan, ac yn dweyd wrthynt, rydw i yn myn'd allan i roi tro i'r ardd; os bydd Mari wedi myn'd heb ddim i'w ddweyd, dowch i alw arnaf fi.' Ond welais i neb erioed eto wedi dyfod i alw arnaf."
Y mae un ffaith yn eu hanes yn profi yn ddigon sicr, eu bod yn un ymhob ystyr. Bu tipyn o saldra ar y ddau ar unwaith un tro. Nid oedd hwnw yn saldra pwysig, mae'n wir, nac o hir barhad. Ond yr oedd y ddau yn analluog i ddilyn eu goruchwylion, a'r meddyg wedi ei alw atynt. Rhoddodd y meddyg botelaid o feddyginiaeth i bob un, a'u henwau ar y poteli. Ymhen diwrnod neu ddau, aeth y naill i gymeryd o botelaid y llall, a'r canlyniad oedd, i'r ddau wella rhag blaen.
Laweroedd o weithiau clywyd ef yn dweyd fel hyn,—"Y mae dosbarth o athronwyr yn dweyd, fod rhyw gyfnod i ddyfod ar y byd yma yn mhell, bell, draw, y bydd pawb yn dyfod yn ol eto i fyw ar y ddaear yma. Os bydd hyny yn bod, mi 'rydw i yn sicr mai Mari a briodaf fi, ac mi priodaf hi yn gynt y tro nesaf." Droion eraill dywedai, "Mae yn biti fod Mari yn myn'd yn hen. Mi fuaswaiyn rhoi mil o bunau pe buasai bosibl ei chael yn ifanc eto, dros i mi fyn'd allan i werthu matches i gasglu yr arian."
Yr oedd pregethwr gyda'r ddau i swper un nos Sadwrn. Gyda'u bod wedi dechreu swpera, troes ef at y pregethwr mewn ffordd ddefosiynol iawn, a gofynai, "A oes son fod y siwgr yn codi y ffordd acw y dyddiau hyn?" Atebodd y pregethwr ei fod wedi clywed hyny. "Mae son ffordd yma hefyd," ebe yntau, "ac y mae Mari wedi eu coelio nhw." "Wedi cael rhy fychan o siwgr yn ei dê y mae o," ebe Mrs. Rowland, ac fe rois dri lwmp i chwi hefyd, Dafydd." "Wel ie, ond sut rai oeddynt. Nid yw tri pisin tair ddim ond naw ceiniog." Estynodd hi ychwaneg iddo, gyda'r sylw, "Ond ydi Dafydd yn ddigri."
Bu y ddau gyda'u gilydd un haf yn treulio wythnos ar lan y mor yn y Borth, ger Aberystwyth. Er nad ydyw y Borth ymhell o Bennal, yr oedd y lle yn bur ddieithr iddynt hwy— pobl y lle yn ddieithr, a'r ymwelwyr yn ddieithr. Tra yr oeddynt yno, ar ryw fin nos teg, eisteddai y ddau ar un o'r meinciau yn y Station. Yr oedd gyda hwy ddwy wraig o Lanidloes, ac un o'u cymydogion o Bennal. Nid oeddynt hwy yn adnabod y gwragedd o Lanidloes, na'r gwragedd yn eu hadnabod hwythau. Yr oedd yno hefyd eneth ieuanc yn y cwmni. Siaradai y gwragedd yn fan ac yn fuan gyda'n gilydd Chwareuai Dafydd Rolant gyda'r eneth fach. Toc, aeth y chwareu yn rhywbeth mwy; dechreuodd yr eneth a gwneuthur swn crio.
"Peidiwch Dafydd," ebe Mrs. Rowland, "peidiwch; gadewch lonydd i'r eneth fach." "O, gadewch iddo," ebe y gwragedd dieithr, "Wedi cael tropyn y mae o." "Dafydd wedi cael tropyn!" ebe Mrs. Rowland, gyda chryn dipyn o ysbrydiaeth, "Dafydd wedi cael tropyn! Naddo, chafodd Dafydd erioed dropyn, ond tropyn o dê." Ni ddangosodd neb un amser, fwy o anwybodaeth na'r gwragedd hyny o Lanidloes, pwy bynag oeddynt. Arferent bob haf er's llawer o flynyddoedd ymweled a Llandrindod. Un yn aros gartref i ofalu am y siop, tra buont yn cario y business ymlaen, ac yn myned yno pan ddychwelai y llall adref, ond y ddau gyda'u gilydd bob amser ar ol rhoddi y fasnach i fyny. Da y gwyr yr ymwelwyr a fynychent Landrindod am y difyrwch a'r mwynhad a gaent tra byddent hwy yno. Darfu i'r ddau ffurfio cyfeillgarwch â llu mawr o gyfeillion trwy eu hymweliadau, o dro i dro, a Llandrindod. Arferai ef gyda'i ddoniau parablus ddifyru y cwmpeini yno mewn llawer ffordd. Yr haf diweddaf y bu y ddau yno, sef yn mis Awst, 1893, aeth D. Rolant trwy un o'i branciau mwyaf chwareus, yr hyn a dynodd sylw ymwelwyr y tai agosaf, yn gystal a'r rhai oedd yn y ty lle yr arosent. Un noswaith cynhelid concert cyhoeddus yn y lle, ac yr oedd Mrs. Rowland yn awyddus i fyned iddo gyda rhai gwragedd eraill. Ceisiai Dafydd Rolant ei pherswadio i beidio, a dywedai nad oedd yn beth gweddus iddi hi oedd mewn oedran i fyned i le felly; ac ychwanegai, rhwng difri a chwareu, na chai ddim dyfod i'w ganlyn ef os elai i ddilyn cyfarfodydd o'r fath. Ond penderfynu myn'd a wnaeth y gwragedd. Dychwelodd Mrs. Rowland, modd bynag, yn lled fuan, wedi cael llwyr ddigon ar y cyfarfod. Ar ol pryd swper y noson hono, slipiodd Dafydd Rolant yn ddistaw bach, wrtho ei hun, i'w ystafell wely, a chlodd y drws. Erbyn i'r wraig fyn'd i fyny, nid oedd dim caniatad i agor y drws. Dywedai yr hwn oedd o'r tu mewn, nad oedd yn beth gweddus i un yn dilyn concerts a chyfarfodydd amheus ei ganlyn ef. Ac nid oedd wiw curo, a chrefu am gael myu'd i mewn, o'r tu allan y bu raid iddi aros am ysbaid o amser. Tra 'roedd y curo oddiallan yn myn'd ymlaen, a'r ateb oddimewn yn gwrthod, ymgasglai yr ymwelwyr yn y ty, a'r tai agosaf, i edrych beth oedd yn bod. O'r diwedd, dywedai hi, "Dafydd bach, wnes i 'rioed mo hyn â chwi." Aeth y gair hwn, meddai ef, at ei galon, ac ar hyny agorodd y drws.
Heb ymhelaethu gyda hanesion o'r fath, mae y pethau a ddywedwyd yn dangos yn eglur fod ddau yn gymwys iawn i dreulio eu hoes gyda'u gilydd. Ni fu cyfryngiad Rhagluniaeth nemawr erioed, mae'n debyg, yn amlycach nag yn ffurfiad yr undeb rhyngddynt. Y mae Mrs. Rowland yn aros hyd yr awr hon, onide gallesid dweyd ychwaneg am dani. Ond mae yn bur sicr na ddaethai ef y peth y daeth onibai hi. Eto, byddai ef arferol a dweyd, mai deugain gwialenod ond un a fyddai y gosb am bob trosedd o bob natur a maint. Ni bu dau erioed gyda'u gilydd mor gymwys i gario ymlaen fasnach. Yr oedd y ddau wedi deall yr egwyddor o gymeryd a rhoi yn drwyadl. Ac y mae hyn yn dra angenrheidiol er llwyddiaut wrth drin y byd. Medrai y naill fel y llall ddenu pobl; a gwnelai y naill fel y liall hefyd gymwynasau fwy na mwy, hyd at anghysur a cholled iddynt eu hunain ar y pryd, er mwyn y fantais a gyrhaeddid yn y pen draw. Yn eu caredigrwydd i achos crefydd, ac i weision yr Arglwydd, yr oeddynt yn hollol unol. Mae yr hyn a wnaeth y ddau yn yr ystyr hwn tu hwnt i bob cyfrif. Credent eu dau fod eu haelioni a'u gwasanaethgarwch gydag achos y Gwaredwr, yn enwedig eu caredigrwydd tnag at weision yr Arglwydd, wedi bod yn elfen arbenig tuag at iddynt lwyddo mewn pethau tymhorol.
"Cofus genyf," ebe y diweddar Barch. Griffith William, Talsarnau, yn ei Gofiant i'r Parch. Richard Humphreys, "fy mod yn myned un bore Sabboth, o Gwerniago i Bennal, a Mr. Humphreys yn dyfod gyda mi, ac yn ol ei arfer trodd i mewn at David a Mary Rowland; ac ar ei fynediad i'r ty, dyma y ddau ar eu traed yn barod i weini arno; a thra yr oedd un yn datod ei gôt fawr, yr oedd y llall yn dad fotymu ei overalls; ac ar ol iddo eistedd, dywedais, Y mae y cyfeillion hyn yn ymddangos yn hynod o'r caredig i chwi, Mr. Humphreys.' ' Ydynt,' ebe yntau, fel hyn y maent er pan wyf yn y gymydogaeth, a byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau, am ba hyd y bydd i'w caredigrwydd barhau.' Ond nid oedd un perygl iddo ddarfod, gan fod y ddau yn cael y fath fwynhad yn ei groesawu."
Gofynodd Mr, Humphreys un diwrnod wedi dyfod i'r ty, "Sut mas eich temper heddyw, Mari bach?"
"Gwelais hi yn well lawer gwaith," ebe Dafydd.
"Dim anair am Mair i mi,"
ebe yntau.
Bu eu ty dros ddeugain mlynedd o amser yn llety croesawgar i weinidogion y Gair ac i fforddolion. Llety llon a llawen y cafodd nifer mawr ef, o'r rhai sydd wedi croesi at y mwyarif, ac hefyd o'r rhai sydd yn aros byd yr awr hon. Y blynyddoedd diweddaf, wedi iddynt ymneillduo i fyw i Llwynteg, byddai eu ty o fis Mai i fis Medi, yn fynych yn haner llawn o ymwelwyr, sef perthynasau a ffryndiau. Lletyai gweinidog yno dros y Sabboth y tymor hwn unwaith, pryd yr oedd yno amryw o ymwelwyr, a gwnaeth y gweinidog y sylw wrth D. Rolant, "Dear me, mae y ty yma yn llawn iawn; ydych chwi yn cadw Hotel yma?" "Nac ydym ni," atebai yntau, "nac ydym ni; rhad rhoddion sydd yma." "O," meddai y gweinidog drachefn, "'Sicr drugareddau Dafydd' sydd yma felly." "Ie," oedd yr ateb parod, "ond fod eisiau rhoddi chwanegiad at yr adnod 'Sicr drugareddau Dafydd,' A MARI."
Terfynwn y benod hon, trwy gyflwyno y Gân boblogaidd a gyfansoddodd Mr. R. J. Derfel, i'r ddau, yn ogos i ddeugain mlynedd yn ol. Ryw ddiwrnod, tua'r flwyddyn 1860, daeth gwraig o'r pentref i'r siop, a dywedai, "Mari Rolant, mae nhw wedi eich rhoddi chwi a Dafydd Rolant yn y Papyr Newydd; mae rhyw gân ynddo heddyw am danoch eich dau; dyna fel y mae pobol, os bydd rhyw rai yn d'od dipyn ymlaen yn y byd, rhaid iddynt gael estyn bys atynt yn union deg." Wedi clywed hyn, yr oedd Mrs. Rowland mewn trallod dwfn oherwydd fod rhyw un wed cymeryd yn ei ben eu rhoddi yn y papyr newydd. Nid oedd Dafydd Rolant gartref ar y pryd, ac nis gwyddai hi yn y byd beth i'w wneyd. Ond cyn yr hwyr y diwrnod hwnw, daeth Mr. Humphreys heibio o rywle i'r ty, ac ymarllwysodd Mrs. Rowland ei thrallod iddo ef. "Beth a wnawn ni, Mr. Humphreys! Mae nhw wedi ein rhoi ni yn y Papyr Newydd, a 'dydi Dafydd ddim gartra." Gofynodd Mr. Humphreys am gael gweled beth oedd wedi ymddangos yn y papyr, ac erbyn hyn efe a ddywedodd, "Raid i chwi ddim teimlo dim am yr hyn maent wedi ei wneyd, compliment o'r fath oreu i chwi yw hyn." Bu gair Mr. Humphreys yn ddigon ar unwaith i dawelu pobpeth. Daeth y gân yn boblogaidd yn y ty. Mynych yr adroddai y penteulu hi yn nghlywedigaeth dieithriaid o ymwelwyr fyddent yno, gan roddi pwyslais o'i eiddo ei hun ar aml i air ynddi, yn enwedig ar y llinell yn y penill olaf,—"Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd." Yr oedd Mr. R. J. Derfel y blynyddoedd hyny yn trafaelio dros firm o Manchester, a thrwy hyn yr oedd yn gydnabyddus iawn a Mr. a Mrs. David Rowland. Ymddangosodd y gân hon drachefn yn Nghaneuon Min y Ffordd, un o Weithiau Barddonol Mr. R. J. Derfel.
DAFYDD A MARY.
(Cyflwynedig i Mr. a Mrs. Rowland, Pennal.)
Mae Dafydd a Mary yn ŵr ac yn wraig,
Maent wedi priodi er's tro;
Mae Dafydd fel gwr mor sefydlog a'r graig,
A Mary'n wraig oreu'n y fro.
Mae Mary yn caru Dafydd,
A Dafydd yn caru Mary;
A thrwy ein bro glau, ni welir byth ddau
Dedwyddach na Dafydd a Mary.
Mae Dafydd yn weithgar a medrus fel dyn,
Er nad yw yn llawer o 'sglaig,
Ac nid oes drwy'r pentref na'r ddinas yr un
Rhagorach na Mary fel gwraig;
Mae Mary yn helpio Dafydd,
A Dafydd yn helpio Mary;
A thrwy yr holl dir ni welir yn hir
Ddau dwtiach na Dafydd a Mary.
Mae Dafydd yn dyner a serchog bob pryd,
A Mary yn gariad diball;
Mae pelydr o serch yn eu llygaid o hyd
Yn fflachio y naill at y llall;
Mae Mary yn canmol Dafydd,
A Dafydd yn canmol Mary;
A byw yn ddiloes, heb gweryl na chroes,
Dan ganmol wna Dafydd a Mary.
Mae Dafydd yn llawen a digrif dros ben,
A Mary yn ysgafn ei bron;
Mae sain eu caniadau yn esgyn i'r nen
Bob awr ar y diwrnod o'r bron;
Chwibianu a chanu wna Dafydd,
A chwerthin a chanu wna Mary;
A thrwy eu hoes bron, chwareugar a llon!
A dedwydd yw Dafydd a Mary.
Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd
A geisio yn gywir ei gael;
Does neb yn rhy isel i enill ei bryd,
Na bwthyn rhy gyfyng a gwael.
Chwibenwch a chanwch fel Dafydd,
Canmolwch a charwch fel Mary;
A byddwch i gyd yn ddedwydd eich byd,
Ac anwyl fel Dafydd a Mary.
R. J. DERFEL.