Cofiant Dafydd Rolant, Pennal/Yn Ymuno a'r Methodistiaid
← Boreu Oes | Cofiant Dafydd Rolant, Pennal gan Robert Owen, Pennal |
Yn Mysg Ardalwyr Pennal → |
PENOD III.—YN YMUNO A'R METHODISTIAID.
CYNWYSIAD—Yr hyn a barodd iddo fod yn Fethodist—William Rowland ei Ewythr—Diwygiad 1819—gorfoledd yn nhy Peter Jones a Sian William—Y Diwygiad Dirwestol yn 1836— Sign y Black Crow yn cael ei thynu i lawr—Hanes D. Rolant yn d'od yn Ddirwestwr—Llythyr y Parch. D. Cadvan Jones—Yn dyfod i'r Seiat yn 1838—Yn talu y casgliad misol cyntaf Yn cyfodi'r allor deuluaidd—Yn llafurio am wybodaeth—Yn cael ei ddewis yn flaenor yn 1850.
ANWYD a magwyd fi." ebe ef ei hun, "mewn ty pryd yr oedd ewythr i mi yn un o ddynion ieuainc y Diwygiad 1819. Yr oeddwn i yr adeg ryfedd hono tua naw oed, ac i fy ewythr, a'm dwy chwaer, yr wyf yn ddyledus am fy mod yn Fethodist. Eglwyswr oedd fy nhad, selog a lled ddeallus, a thalentog iawn i siarad, ac o duedd erlidgar. Canoedd o weithiau y clywais ddadleu brwd rhwng fy nhad a fy ewythr. Ond yr oedd fy nghydwybod wedi ei henill o du fy ewythr, a diolch am hyny. Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddai fy nhad yn defnyddio geiriau yr Epistolau am y gau-athrawon, ac yn eu cymhwyso at y Methodistiaid."
Yr ewythr y cyfeirir ato oedd William Rowland, brawd i'w dad, yr hwn fel yr ymddengys oedd gryn dipyn yn ieuengach na'i dad. Yr oedd y ddau o'r un alwedigaeth. Preswyliai y ddau yn yr un ty, a gweithient gyda'u gilydd ar hyd tai y wlad. A chlywai Dafydd Rolant y dadleuon ar faterion crefyddol pan yn gweithio yn y tai gyda hwynt, yn gystal ag yn ei gartref. Daeth William Rowland yn ddyn rhagorol o dda. Symudodd i fyw i'r Deheudir, a bu yn flaenor defnyddiol yn y Blaenau.
Y Diwygiad y crybwyllir am dano yn y paragraff uchod oedd Diwygiad Beddgelert. Rhyfedd y cyfnewidiad a barodd y Diwygiad hwnw trwy holl siroedd Cymru. Treblodd nifer yr aelodau eglwysig trwy y wlad. Ar ei ol, daeth cyfnod euraidd yr Ysgol Sabbothol, a'i goleuni hi, yn nghyda'r ffaith i nifer y crefyddwyr amlhau, a fu yn foddion i wasgaru adar y tywyllwch, ac i beri marwolaeth hen ofergoelion ac arferion annuwiol y trigolion. Nid oedd nifer y crefyddwyr yn Mhennal ond bychan iawn yn flaenorol i'r Diwygiad hwn. Nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel. Mewn ty bychan yn nghanol y pentra—dan yr un tô a'r hen Bost Office, wrth ymyl porth y Fynwent, yr addolent, a byddai oferwyr, a segurwyr, a rhai Eglwyswyr selog, yn ymgasglu yn fintai o amgylch porth y Fynwent, i ddisgwyl y Methodistiaid allan o'r moddion a gedwid yn y ty hwn, er mwyn cael cyfle i'w gwatwar a'u gwawdio. Ond gorchfygwyd yr ardal gan grefydd y Diwygiad. Cryfhaodd y crefyddwyr, ac yn fuan wedi hyn yr adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Mhennal. Dengys y rhybudd canlynol oddiwrth Arthur Evan, y blaenor, i Cadben Thruston, perchenog Ystad Talgarth Hall, y dyddiad yr oeddynt yn ymadael o'r ty yr arferent ymgynull, i fyned i'r capel cyntaf i addoli:—
"To Captain Thruston.
"At the Expiration of my present year's holding, I shall quit and deliver up to you the possession of that house or tenement now used as a chapel, situate in the Village of Pennal, in the County of Merioneth, which I now hold under you. As witness my hand this 22nd day of September, 1820.——A. E."
Cafodd William Rowland, a rhai o ieuenctyd eraill Pennal, eu trwytho yn drwyadl yn y Diwygiad mawr y blynyddoedd hyn. Cerddodd y tan trwy wlad a thref, ac ychwanegwyd beunydd at rif y crefyddwyr. Felly yn yr ardal hon. Ail enynwyd hefyd sel yr hen grefyddwyr, a chryfhawyd eu ffydd yn fawr. Byddai llawer o orfoleddu a neidio yn y Diwygiad hwn. Nid oedd Peter Jones yn flaenor yn Mhennal, ond bu ef, a Sian William, ei wraig, yn golofnau o tan yr achos. Bu gorfoledd mawr un tro yn eu ty, yn amser Diwygiad Beddgelert, a chan fod y tân ar lawr, yr oedd gwreichion o'r tân naturiol wedi eu lluchio ar hyd y ty, oherwydd fod y gorfoleddwyr yn neidio mor afreolus, hyd nes y dygwyd y ty a'r preswylwyr i ymylon dinystr. Mawr oedd gofal Sian William gyda'r merched a'r gwragedd, ar ol i'r gorfoledd fyned heibio, yn rhoddi eu hetiau a'u gwisgoedd yn eu lle, ac felly yn mlaen. Cymerai y chwaer hon lawer o boen i wneuthur y pregethwyr yn gysurus; pan y troent i'w thy (yr oedd yn byw yn agos i'r capel) ar ol y dychwelent o Maethlon y Sabbath, ni chaent fyned i'r capel at yr hwyr heb iddi hi dynu pob ysbotyn o lwch a baw oddiar eu hesgidiau. Byddai Peter Jones a Sian William ar flaenau eu traed ar ben y drws, y noson y byddai y blaenoriaid gyda'u gilydd yn gwneuthur cyfrifon y capel ar ddiwedd y flwyddyn, yn disgwyl clywed am lwyddiant yr achos, gan fawr obeithio eu bod wedi cael dau pen y llinyn yn nghyd.
Yr oedd William Rowland, yr Ewythr, yn un o'r rhai oedd yn gorfoleddu ac yn neidio yn y Diwygiad. Yr oedd gwrthddrych y Cofiant hwn yn llygad-dyst o'r pethau hyn. Ac er ei fod yn rhy ieuanc ei hun i ymwneyd a phethau crefydd, diameu ddarfod i awelon y Diwygiad, ynghyd, a'r dadleuon ar bynciau crefydd rhwng ei dad a'i Ewythr, a duwioldeb Peter Jones a Sian William, ac Arthur Evan, y Crydd, y rhai a breswylient gerllaw ty ei dad, adael argraff ddaionus ar ei feddwl. a thueddai yr awyrgylch y troai ynddi y pryd hwn, yn y gwrthwyneb i'r hyn a welsai yn nyddiau ei febyd, i beri iddo ogwyddo at grefydd y capel.
Aeth cyfnod o amser heibio ar ol hyn, hyd nes yn nghwrs y blynyddoedd y daeth diwygiad arall, yr hwn a barodd chwyldroad trwyadl yn yr ardal, yn gystal ag yn y wlad yn gyffredinol—y Diwygiad Dirwestol. Daeth hwn yma o gymydogaethau eraill, sef o Gorris a Machynlleth. Cymerodd Corris dân yn un o'r manau cyntaf yn Nghymru, a thân poeth a dorodd allan yno. Daeth y tân o Gorris i lawr i Fachynlleth, a cherddodd trwy yr ardaloedd cylchynol, nes goddeithio pob cwr o'r wlad gyda chyflymdra digyffelyb. Buasai yn anhawdd credu y fath oruchafiaeth lwyr a gafodd y diwygiad hwn ar feddwdod y wlad, oni bai fod y ffeithiau wedi eu cofnodi, a'r ffigyrau am y nifer a ardystiodd Ddirwest wedi eu hargraffu ar y pryd. Yn y Diwygiad Dirwestol gan y Parch. Dr. John Thomas, Liverpool, dywedir fod 492 wedi ardystio Dirwest yn Mhennal, erbyn mis Ebrill, 1837, ac yn Pantperthog yn yr un plwyf, 121,—rhwng y ddau le, 613. Nis gallai yr holl boblogaeth yr adeg hon fod ond ychydig iawn yn fwy na hyn. Dywed hen bobl hynaf yr ardal, fod gwaith Dr. Charles yn llosgi alcohol yn un o'r pethau cryfaf i argyhoeddi y bobl o'r niweidiau sydd yn y ddiod feddwol. Yr oedd dwy dafarn yn Mhennal cyn hyn. Enw un o honynt oedd Black Crow, ar sign yr hon yr oedd llun brân ddu, a chedwid y dafarn gan wr blaenllaw perthynol i enwad yr Annibynwyr. Yr oedd y sel ddirwestol, modd bynag, mor boeth, fel erbyn rhyw fore yr oedd sign y Frân Ddu wedi ei thynu i lawr yn ddiarwybod i bawb, ac ni welwyd mor frân ddu hono byth mwy, ac ni fu ond un dafarn yn Mhennal o'r pryd hwnw hyd y dydd heddyw.
Yn ystod saldra diweddaf David Rowland cafwyd yr hanesyn canlynol ganddo mewn rhan yn ddamweiniol. Yr oedd ysgrifenydd yr hanes hwn yn darllen llythyr iddo tra yr oedd yn ei wely. Llythyr ydoedd oddiwrth y Parch, D. Cadvan Jones, Caerfyrddin. Dyma fel y darllena rhanau o'r llythyr:—
"Pan yr oeddwn yn dilyn fy ngalwedigaeth yn Machynlleth, yn llencyn ieuanc iawn, yr oedd y doniol-ffraeth John Lewis, Felingerig, o fythol goffadwriaeth, wedi ei lyncu i fyny a'i drwytho mewn sel ddirwestol, ac wedi casglu o'i gwmpas gylch o wyr ieuainc, y rhai oeddynt o dan ddisgyblaeth ganddo, ac at ei wasanaeth ar ymweliadau â gwahanol leoedd yn y cylch. Coffa da am y noson ryfedd yn Mhennal, pan dorwyd y Parch. J. Foulkes Jones, B.A., a minau i mewn ganddo y tro cyntaf i ni ein dau siarad yn gyhoeddus. Y mae adgofion byw ar gof a chadw o'r noson hono ar fy nheimlad, ac erys byth. Yr oeddym ein dau yn hwyrfrydig iawn i fyned, ac ni buasem mae'n debyg, yn meddwl myned onibai cwmni yr hen dad doniol a digrif, ysbrydiaeth yr hwn oedd yn ddigon i eneinio ysbryd y mwyaf dideimlad. Yr oedd y noson yn oer, gwlyb, ac anfanteisiol, ond yr oedd y ddau brentis wrth siarad â'u gilydd yn rhyw led dybied iddynt fyned trwy eu gorchwyl heb beri llawer o boen i'r hen flaenor, a chaed prawf o hyny trwy iddo geisio ein gwasanaeth yn aml wed'yn. Bernir na byddai y nodyn bychan hwn yn annerbyniol genych, gan mai yn eich pentref chwi, yn hen 'Gapel y Sentars,' yr agorodd yr anwyl Mr. J. Foulkes—Jones ei enau mewn ffordd gyhoeddus y tro cyntaf erioed."[1]
Wedi darllen y llythyr uchod yn ei glywedigaeth, ebe David Rowland, "Dirwest a'm hachubodd inau. Yr oeddwn yn dechreu myn'd yr un ffordd a bechgyn ieuainc gwyllt y wlad y pryd hwnw. Yr oedd amryw o gefnderwyr i mi yn Machynlleth yna, a byddent yn fy hudo inau. Yr oeddwn yn rhy ffeind fy natur—yn eu tretio hwy â diod. Un tro, yr oedd bechgyn y dref, Huwcyn Arthur yn un o honynt, yn pasio trwy Bennal, wedi bod yn danfon dillad yn y Gogarth (yr oedd genyf feddwl mawr o fechgyn y dref), aethum a hwy i'r dafarn, ac 'rwy'n cofio yn dda fod genyf dri swllt yn fy mhoced, a gweriais hwy bob dimai, trwy roi diod iddynt.
"Yr oedd Dr. Edwards, y Bala, yn areithio ar ddirwest yn Machynlleth tua'r pryd hwnw. Ac 'rwy'n cofio'n dda, fy mod yn gweithio yn Pant Perthog, ac yn dweyd ar fy eistedd wrth weithio, gan daro fy nwrn ar y bwrdd, 'Nid wyf yn gweled fod gan Dduw na dyn ddim yn fy erbyn trwy yfed ambell i lasiad, os byddaf yn gymedrol! Wir, wn i ddim,' ebe William Hughes, Pant Perthog, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc yr adeg hon, yr oedd Mr. Edwards, y Bala, yn dweyd wrth areithio, yn y dref yna (Machynlleth), fod goleuni newydd wedi dyfod 'rwan ar ddirwest, a bod yfed un glasiad bellach yn bechod yn erbyn Duw.' Mi credais o. Yr oedd genyf gymaint o feddwl o Mr. Edwards, ei fod y fath ddyn cywir a da—mi credais o; ac mi signiais Ddirwest, ac ni thorais byth mo'r ardystiad."
Ni wyddis yn sicr pa flwyddyn, na pha ddydd o'r mis y darfu iddo ardystio. Ac nid ydyw hyny o fawr o bwys. Mae y ffaith iddo wneuthur hyny yn ddigon pendant, ac y mae y dull y gwnaeth yn debyg iawn iddo ef ei hun. Mae yn lled sicr i hyn gymeryd lle yn mhoethder y diwygiad dirwestol, oblegid ardystiodd ei dad y pryd hwnw, a'r meddwon penaf, a bron holl drigolion yr ardal, a byddai yntau gyda llawer o foddhad trwy ei oes yn adrodd am orchestion y Gymdeithas Ddirwestol ar ei dyfodiad cyntaf i'r wlad. Mae yn bur sicr hefyd ddarfod i'w sel gyda dirwest barotoi y ffordd iddo ddyfod at grefydd.
Yn y flwyddyn 1838, yr oedd y Parchn. Ebenezer Davies, Llanerchymedd, ac Owen Rowland, o Sir Fon, ar daith trwy y wlad i bregethu, ac ar y 14eg o fis Rhagfyr, yr oeddynt yn cadw odfa ganol dydd ddydd gwaith yn Mhennal, ac yn cynal seiat ar ol yr odfa, a'r diwrnod hwnw y cyflwynodd David Rowland ei hun yn aelod o eglwys Dduw gyda'r Methodistiaid. Aeth Owen Rowland ato yn y seiat, gan ei holi am y ddeddf, a Sinai, a'i tharanau, ond ni theimlai fawr o ollyngdod i'w feddwl trwy y dull hwnw o ymddiddan. Ar ei ol, aeth Ebenezer Davies, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc hynaws, ato, a gofynai iddo a wyddai of rywbeth am diriondeb yr Arglwydd, ac am ei dosturi, a'i drugaredd faddeuol yn Nghrist. "Hwn yw fy noctor i," meddai yntau wrtho ei hun. Tyner oedd ei natur ef bob amser, ac yr oedd Ebenezer Davies, trwy dynerwch, wedi taro ar y ffordd i fyned at ei deimlad.
Pan y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod, yr oedd wedi bod yn y seiat chwe mis. Y noswaith y derbyniwyd ef yn gyflawn aeth at y blaenoriaid o hono ei hun, heb i neb grybwyll dim wrtho, a rhoddodd chwe' swllt, sef swllt y mis, yn y casgliad misol, tuag at gynal y weinidogaeth.
"Y mae Dafydd Rolant wedi dyfod atom ni i'r capel, ac yr ydym yn disgwyl y gwaniff o ddyn da i ni," ebe Peter Jones, wrth ŵr blaenllaw yn yr ardal, perthynol i enwad arall. Gwiriwyd proffwydoliaeth yr hen Gristion, oblegid gwr rhagorol a ddaeth o'r dydd cyntaf yr ymunodd â'r Methodistiaid. Rhoddodd esiampl dda i broffeswyr ieuainc trwy gyfranu at y weinidogaeth cyn bod yn gyflawn aelod; ac yr oedd swllt y mis yr amser hwnw yn swm haelionus. Nid oedd yn cael heddwch i'w feddwl heb gynal dyledswydd deuluaidd yn y teulu. Torodd trwodd i wneuthur hyn eto o hono ei hun, yn ngwyneb cryn dipyn o anhawaderau, o leiaf, heb gael dim cefnogaeth, a rhyw fore dywedodd, "Oni fyddai yn well i ni ddarllen ychydig o adnodau gyda'n gilydd?" A chymerodd y Beibl, a darllenodd. Yn mhen peth amser dywedodd drachefn, "Oni fyddai yn well i ni fyned ychydig ar ein gliniau?" A phob yn dipyn gorchfygodd bob rhwystrau a roddid ar ei ffordd. Gwnaeth ddefnydd da o'i amser, y blynyddoedd cyntaf wedi iddo ddyfod at grefydd, i drysori i'w feddwl wybodaeth o bethau crefydd. Ysgrifenai yn ei ddull ei hun, y tymor hwn yn lled gyson, ranau helaeth o bregethau a wrandawai, gartref ac oddicartref, y rhai sydd yn awr i'w gweled mewn hen lyfrau ar ei ol. Darllenodd Lyfr Gurnal, "Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth," a meistrolodd ef yn dda. Byddai ganddo sylwadau o Gurnal i'w hadrodd yn y cyfarfod eglwysig hyd ddiwedd ei oes. Pob llyfr o gyffelyb natur y deuai o hyd iddo, ni throai mo hono o'r neilldu nes ei ddarllen drwyddo, ac felly cyfoethogodd ei feddwl yn fawr â'r hyn oedd bur ac adeiladol. Hyn, yn nghyda'r duedd reddfol oedd ynddo i sylwi ar bobl a phethau, a'i gwnaeth yn ŵr parod ei sylw pan y gelwid arno i siarad ar fyr rybudd.
Yn mis Chwefror, 1850, ar y 26ain o'r mis, pan oedd yn ddeuddeg oed o broffeswr, a dwy fynedd cyn priodi, derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, fel blaenor yn eglwys Pennal. Yn ei gartref ei hun, yn Mhennal, y cynhelid y Cyfarfod Misol hwnw, ac yn yr un cyfarfod derbyniwyd dau flaenor eraill gydag ef, sef Richard Hughes, a Lewis William, Aberdyfi. Y tri erbyn hyn wedi ymuno â'r dyrfa ddedwydd, fry yn y nefoedd. Bu ef yn gwasanaethu swydd blaenor dros dair blynedd a deugain a haner.
- ↑ Yr hyn a achlysurodd i Mr. Cadvan Jones ysgrifenu y llythyr hwn ydoedd, iddo daro yn ddamweiniol ar Gofiant Mr. Foulkes-Jones, tra yn aros yn y Borth, Sir Aberteifi, ac iddo gael hyfrydwch mawr iddo ei hun wrth ei ddarllen.