Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Nodweddau Pregethwrol Ein Gwrthddrych, Gan Dri o Dystion

Oddi ar Wicidestun
Nodiadau ar Athrylith Ein Gwrthddrych Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Nodiadau Cyffredinol Ac Amrywiol

PENNOD XVIII.

NODWEDDAU PREGETHWROL EIN GWRTHDDRYCH, GAN DRI O DYSTION.

Y CYNWYSIAD.—Ysgrif y Parch. David Morgan, Llanfyllin— Anerchiad y Proff. H. Griffith, F.G.S., Barnet—Nodiad gan Dr. David Roberts (Dewi Ogwen), Wrexham

NIS gallwn ymatal heb roddi yma yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch. David Morgan, Llanfyllin, am ein gwrthddrych, allan o Hanes Ymneillduaeth, tudalen 551—555—"Ymdrechwn daflu ychydig berarogl ar allor coffadwriaeth ein cyfaill ymadawedig; oblegid nid oes neb yn bresenol (1855) a gyddeithiodd fwy gydag ef drwy Gymru a Lloegr na ni. Cawsom gyfle i adnabod ysgogiadau a gweithrediadau dirgel ei feddwl, a gwahanol dueddiadau a theimladau ei galon, yn ngwyneb gwahanol amgylchiadau a'i cyfarfyddodd. Nid oedd Mr. Williams yn un anhawdd ei adnabod; oblegid yr oedd yn ddyn syml, ac yn Gristion unplyg. Nid oedd unrhyw dwyll na hoced yn perthyn iddo, ond byddai ei olwg, ei eiriau, a'i ymddygiad, yn arddangosiad gwir o egwyddorion ei galon. Yr oedd ei hynawsedd, ei addfwynder, ei ffyddlondeb, a'i gydymdeimlad parod, ac yn enwedig tynerwch ei gydwybod, a'i ofal mawr rhag pechu yn erbyn yr Arglwydd, yn ei wneud yn gyfaill hoffus a rhagorol. Hoffai gyfeillgarwch yn fawr, ac yr oedd mor barod i dderbyn cynghor daionus ag ydoedd i gyfranu. Gallai un ymddiried ynddo, a thywallt ei holl deimladau i'w fynwes, heb ofni unrhyw niwed mewn canlyniad. Yr oedd yn fawr ei ofal am fod yn un â'i air. Yr oedd ei feddwl mor doreithiog o bethau daionus, fel yr oedd ei gyfeillach yn fuddiol, adeiladol, a hyfryd, i'r Cristion profiadol. Cydgyfarfyddai y fath amrywiaeth o ragoriaethau yn ei nodweddiad fel Cristion a phregethwr, fel mai annichonadwy yw tynu darlun cywir o hono. Yr oedd yn un gwir fawr a boneddigaidd, heb ddim coegni, mursendod, na hunanoldeb yn perthyn iddo. Arferai fyw yn dduwiol iawn, ac agos at Dduw, heb wneud ymddangosiad ffugiol o hyny. Yr oedd yn siriol, heb fod yn ysgafn a chellweirus. Ceryddai yn llym yr hyn a farnai yn feius, a hyny heb fod yn sarug a chwerw. Daliai i'w godi a'i fawrhau heb ymchwyddo ac ymddyrchafu yn ei olwg ei hun. Pan y byddai tyrfaoedd mawrion yn ymdyru i wrando arno, hyd na annent yn yr addoldai helaethaf, a phan y caffai yntau hwylusdod i draethu y genadwri nes y byddai yn gwneud yr argraff ddwysaf ar feddyliau y gwrandawyr, ni chlywid byth mo hono yn clochdar ar ol hyny. A phan y cyfeirid at hyny mewn ymddyddan, byddai mor bell o ymddyrchafu, fel y byddai yn ymsuddo i'r llwch, gan ddywedyd, "Pwy ydym ni pan y gwneid felly â ni? Nid i ni, nid i ni, ond i arall y mae y mawl yn ddyledus." Nid oedd Mr. Williams mor helaeth darllenwr ar weithiau dynion a llawer; ond yr oedd yn astudiwr mawr ar naturiaeth, anianyddiaeth, Rhagluniaeth a'r Beibl; ac yr oedd o feddwl mor fywiog, cyflym, a gweithgar, fel y medrai sugno gwybodaeth o bob peth a'i hamgylchynai. Pa destun bynag yr ymaflai ynddo, treiddiai iddo yn gyflym nes ei ddeall, trwy ryw ddarluniau neu gilydd, a hyny yn lled ddiboen a didrafferth i olwg eraill. Er fod Mr. Williams yn Ymneillduwr cydwybodol, ac yn bleidiwr gwresog i egwyddorion Annibyniaeth mewn trefn a llywodraeth eglwysig; eto yr oedd yn mhell o fod o ysbryd cul a rhagfarnllyd tuag at eraill o wahanol olygiadau iddo, a gallasai ddweyd yn hyf, "Cyfaill wyf fi i'r rhai oll a'th ofnant." Dangosodd hyn yn eglur yn ei barodrwydd i fenthyca ei ddoniau, ei dalentau, a'i amser, i wasanaethu enwadau eraill pan alwent am danynt. Ni adwaenem un yr oedd achos y Gwaredwr, ac achubiaeth eneidiau yn gorphwys yn ddwysach ar ei feddwl na'n cyfaill ymadawedig; na neb parotach i aberthu ei gysuron, ei esmwythder, ei elw, a'i lesiant personol, i ddwyn yn mlaen yr amcanion hyny. Amlygodd hyn drwy ei ymglymiad gwirfoddol â'r achos goreu yn gyffredinol; oblegid teithiodd lawer, a llafuriodd yn ddibaid i'w ddwyn yn mlaen, nid yn unig yn y lleoedd hyny oedd dan ei ofal neillduol, ond yn mhob man y gelwid am ei gymhorth, yn enwedig yn Ngogledd Cymru. Pan yn teithio o'r naill le i'r llall, nid teithio fel pregethwr yn unig y byddai, ond byddai mewn llafur am lwyddiant yr achos yn y lleoedd yr ymwelai â hwynt, fel y gwnai ei hun yn bobpeth i hyny. Un parod i bob gweithred dda ydoedd, er y byddai y cyflawniad yn aml yn gofyn aberth lled fawr oddiwrtho. Y mae y nifer mawr o addoldai y bu ganddo law mewn cysylltiad âg eraill i'w hadeiladu, a'r canoedd punau a dalwyd o'u dyledion trwy ei offerynoliaeth ef, yn brawf eglur o hyn. Y mae lluaws yn teithio llawer yn mhell ac agos i bregethu, ond dangosent yn eglur mai traddodi y bregeth ydyw y cwbl; nid oes ynddynt na phryder na gofal, ac ni wnant unrhyw ymdrech i godi achos crefydd mewn lleoedd gweiniaid, na dangos y parodrwydd lleiaf i anturio i unrhyw draul ac ymrwymiad personol i adeiladu addoldai, na rhoddi dim help mewn lleoedd y byddo gwir eisieu cymhorth. Nid un felly oedd ein cyfaill ymadawedig. Aeth yn mlaen drwy lafur caled, a thros fynyddau o rwystrau, heb un golwg am na thâl na gwobr oddi—wrth ddynion am ei wasanaeth; ond gweithredai mewn ffydd, gan ymwroli fel un yn gweled yr Anweledig. Llawer gwaith y dywedodd pan y clywai fod rhyw gwmwl tywyll wedi ei ddwyn ar yr achos trwy gamymddygiad, "Y mae y fath beth, meddai, "Yn ddigon i achosi na byddo yr un wên ar ein hwyneb tra byddom byw." Bod Mr. Williams yn bregethwr rhagorol iawn a addefir gan bawb a'i clywsant, ond anhawdd iawn ydyw darlunio ei ragoriaethau yn gywir, na'u holrhain i'w gwir achosion. Diau fod ei ffraethder a'i hyawdledd fel ymadroddwr, grym a pheroriaeth ei lais, y cyflawnder geiriau a feddianai, a'r ystwythder gyda pha un y traddodai bob amser, yn gwasanaethu er iddo fod yn bregethwr mawr a phoblogaidd; ond nid hyn yn unig oedd yn ei wneuthur felly; ond rhaid priodoli ei ragoroldeb penaf i'r pethau canlynol:—Ei nodweddiad dysglaer a digwmwl, ei wybodaeth o egwyddorion pethau yn gyffredinol, fel yr oedd ganddo gyflawnder o ddefnyddiau priodol wrth law i osod ei feddyliau allan yn eglur a tharawiadol—ac i'r modd y byddai yn deall yn drwyadl y mater a ymdriniai âg ef, fel y byddai yn gallu traddodi ei sylwadau yn oleu a grymus ger bron ei wrandawyr. Gwnai ddefnydd o bob peth o'i amgylch, ac o bob amgylchiad a'i cyfarfyddai, er cyfoethogi a galluogi ei feddwl i osod allan ei feddylddrychau mewn modd eglur a nerthol. Yr oedd ei sylwadau yn bethau ag oedd yn ymyl pawb o honom, a byddem yn synu na buasem wedi eu gweled a'u defnyddio o'i flaen. Yr oeddynt yn llawn o sylweddau, yn rhoddi goleuni i'r deall, a theimladau bywiog i'r galon. Yr oedd yn fedrus yn holl ranau gwaith yr areithle. Yr oedd yn fedrus yn nghyfansoddiad ei bregethau—safai ar brif bwnc ei destun, ac elai i mewn i ysbryd ei destun. Yr oedd yn fedrus ac yn dlws yn ei frawddegau a dewisiad ei eiriau; ac ymdrechai ar fod ysbryd ei bwnc, a theimladau ei galon, yn cydlewyrchu â'i ymadroddion, fel y byddent yn danllyd ac yn enynol i feddyliau eraill. Dywedai yn fynych, "mai pregethau diwaed byw ynddynt oedd pregethau amddifad o'r peth hwn.' Byddai ganddo nôd neillduol i gyrchu ato yn mhob pregeth, ac ymgadwai at un llinell o ymdrafodiad er cyrhaedd y nôd hwnw. Dywedai yn aml ei fod yn gofidio yn fawr wrth glywed pregethwyr yn pentyru geiriau mawreddog ar eu gilydd, na wyddai neb pa nôd a fyddai ganddynt mewn golwg, na pha deimlad daionus a amcanent gynyrchu drwyddynt. Cyffelybai efe bregethu o'r natur yma i "ddyn mewn llestr ar y môr, heb yr un llyw, nac aber mewn golwg yn unman; ac er ei holl ymdrech a'i orchest yn wyneb y tònau, nid oedd fawr o debygrwydd y byddai y fordaith hono o fawr o elw nac o gysur i neb; felly yn neillduol y mae pregethau diamcan." Er fod ein cyfaill yn traddodi ei bregethau yn frwdfrydig, ac yn llawn o deimladau bywiog a thanllyd; eto, yr oedd ganddo feddiant a llywodraeth gyflawn arno ei hun yn ei holl eiriau, ei ddull, a'i ysgogiadau. Pregethai oddiar adnabyddiaeth helaeth o hono ei hun, o bla ei galon, o druenusrwydd ei gyflwr wrth naturiaeth, ac o dueddiadau ei natur anmherffaith ei hun, fel yr oedd yn alluog i bregethu i eraill yr hyn a deimlent yn brofiadol. Prif ganolbwynt ei bregethau oedd "Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Dygai allan ei holl athrylith, a holl drysorau ei wybodaeth, i osod allan Iesu Grist yn mawredd ei berson fel digonol Geidwad i bechaduriaid. Gwnai yr Arglwydd Iesu yn bobpeth yn nghadwedigaeth pechaduriaid. Gosodai allan nad oedd cyflawniad o unrhyw ddyledswydd o un gwir lesâd i neb, oni byddent yn seiliedig arno Ef a'i aberth; ac mai y peth cyntaf oedd i bechadur wneud oedd ei dderbyn, a ffoi ato am ei fywyd. Nid yn unig yr oedd ei fedrusrwydd fel pregethwr yn dyfod i'r golwg yn ei ddull yn medru pregethu athrawiaethau dyfnaf yr efengyl mewn eglurdeb, ond hefyd yr oedd yn gallu eu pregethu yn eu cysylltiad â rhwymedigaeth i fywyd santaidd, ac ymarferiadau crefyddol, a'u dylanwad bywiol i gynyrchu y pethau hyn yn mhawb a'i hadwaenent. Nid oedd graslonrwydd athrawiaethau yr efengyl yn cael eu cuddio o'r golwg ganddo wrth osod i fyny rwymedigaeth dynion i'r dyledswyddau gorchymynedig; ac ni theflid o'r neilldu ddyledswyddau crefydd, er i raslonrwydd y nef ymddysgleirio; ond cydlewyrchent yn hardd yn ei weinidogaeth bob amser. Ni adwaenem neb yn medru pregethu y ddeddf yn ei hundeb â'r efengyl yn fwy goleu, na phregethu yr efengyl yn fwy gogoneddus mewn cysylltiad â deddfau y nef. Un hynod o fawr ydoedd mewn gweddi. Er na byddai ond byr yn ei weddiau cyhoeddus, fel y byddai yn gyffredin yn ei holl gyflawniadau crefyddol; eto, yr oedd ddifrifol ac yn gymhwysiadol iawn ynddynt bob amser. Yr oedd braidd uwchlaw neb a wyddom am fedru dweyd llawer mewn ychydig eiriau, ac mewn ychydig o amser. Yr oedd fel pe buasai yn pregethu gyda phelydr y goleuni a gwres yr haul. ....... Dywedir am Mari, brenhines Lloegr, ei bod yn dweyd cyn marw, pe byddai iddynt edrych ar ei chalon ar ol ei marwolaeth, y caent weled Calais yn argraffedig arni. Gellir dywedyd fel hyn am Mr. Williams, ond gyda mwy o sicrwydd, fod llwyddiant ac achubiaeth eneidiau yn argraffedig yn ddwfn ar ei galon, oblegid hyny oedd yn llenwi ei holl feddyliau wrth fyw, a'i holl ymddyddanion wrth farw."

Trwy ganiatad parod y Parch. Owen Jones, M.A., gynt o'r Drefnewydd, ond yn awr o Oakland, Cal., U.S.A., rhoddwn yma y dyfyniad canlynol allan o "Some of the Great Preachers of Wales," tudalen 344—351. Da genym allu cyflwyno i'r darllenydd y dyfyniad a ganlyn o araeth a draddodwyd gan y Parch. Athraw Henry Griffith, yn nghyfarfod yr haf, 1882, yn Ngholeg Cheshunt, "Drwy gysylltiadau teuluaidd pur ffodus, dygwyddodd i mi yn fy mywyd boreuol weled cryn lawer ar yr enwog Williams o'r Wern, enw llai adnabyddus yn Lloegr nag allesid ddymuno, ond enw teuluaidd drwy hyd a lled y Dywysogaeth, ac yn fy marn ostyngedig i, yr oedd yn anghymharol fwy effeithiol ac uwchraddol ei arddull nag unrhyw bregethwr y cefais erioed. y fraint o'i wrando! Yn fuan wedi fy sefydliad fel gweinidog yn East Cowes, cefais yr anrhydedd o'i groesawu i'm ty, a'i letya am ragor i bymthegnos, ac yn yr ysbaid hwn o amser pregethodd yn agos yr oll o'r capelau Cynulleidfaol yn Ynys Wyth (Isle of Wight). Prin y rhaid dweyd fod ei Saesonaeg yn bur derfynedig, ac yn dra thoredig ar y goreu, er hyny, cynyrchai y fath argraff yn mhob lle, nes dal a chadwyno, a pherswyno y gweinidogion a'r bobl fel eu gilydd. Hyd y dydd hwn, er fod yn agos i haner canrif er hyny, cofir ei bregethau yn dda, ac adroddir llawer o'i sylwadau a'i gymhariaethau air am air, gyda hoffder a brwdfrydedd nas gwelais ei gyffelyb yn un man! Y mae hyn yn fwy hynod o gymaint nad oedd dim o'r dynwaredol yn ei ddull o draddodi nac o'r gwrthatebol yn ei ddull o frawddegu. Ni byddai byth yn rhwygo nwyd yn garpiau' er mwyn effaith. I'r gwrthwyneb yr oedd ymdeimlad dwys—dawel o nerth yn yr oll a ddywedai o'r dechreu i'r diwedd. Fel rheol, er yn cael eu dwysbigo yn eu calonau, ni byddai ei wrandawyr yn ymwybyddol o unrhyw gyffroad anghyffredin, ac eto rywfodd, teimlent fel pe buasai am ryw enyd wedi cymeryd meddiant personol o honynt, ac yna yn eu hanfon ymaith i'w cartrefi gryn lawer yn ddoethach, ac yn fwy parod yn mhob modd i amcanu ac ymdrechu am 'ba bethau bynag sydd ganmoladwy.' Clywais eich Robert Hall, Chalmers, Irving, McAll, Melville, James Parsons, a'ch tanllyd Billy Dawson, a thro ar ol tro y bu'm yn crynu ac yn ymnyddu dan eu hyawdledd, ond yr wyf yn ystyriol argyhoeddedig fod effaith pregethau Mr. Williams yn llawer dyfnach, yn llawer mwy parhaol, ac yn gyfangwbl o nodwedd fwy dwyfol! Ond er mor hoff genyf feddwl a siarad am dano, nid yw fy mwriad i geisio rhoddi portreiad llawn o hono ar yr achlysur presenol; gofynai hyny ddetholiad gofalus a chydbwysiad ansoddeiriau sydd yn anfesurol tuhwnt i'm gallu mewn araeth o'r fath hon. Yr oedd mor berffaith naturiol, ac yn ddieithriad felly, fel nad hawdd yw cyfleu syniad cywir am ei arddull ar fyr eiriau; natur ei hunan ydoedd yn llefaru yn yr ymadroddion mwyaf eglur, er hyny ymadroddion llawn o oleu a thân y nef ei hun! Gyda'ch caniatad, pa fodd bynag, hoffwn alw sylw ein cyfeillion ieuainc sydd yn parotoi am y weinidogaeth at yr hyn a ystyriwyf fi oedd ei brif arbenigrwydd, ac yn wir ddirgelwch ei gyflawniadau mwyaf gorchestol. Wrth gwrs, yr oedd ei ymddangosiad yn ddymunol, a'i lais yn ddeniadol, yr oedd yn feistr ar ymadroddi, a chyfunai ynddo ei hun holl hanfodion gwir areithyddiaeth. Ond yr oedd ynddo rywbeth tuhwnt ac uwchlaw i hyn oll, rhywbeth nad oes neb o'i gofiantwyr, hyd yr ymddengys i mi, wedi gwneud llawn gyfiawnder âg ef. Y mae hyn i'w ofidio yn fwy o gymaint a'i fod yn rhywbeth a ddibynai i raddau helaeth ar feithriniad rheolaidd a chyson, ac felly i fesur mawr yn nghyraedd eraill, o'i geisio gyda'r dyfalbarhad a'r ymroddiad priodol. Nis gallaf roddi gwell desgrifiad o hono na gallu rhyfeddol i wneud syniadau arddansoddol yn weladwy, ac i wisgo egwyddorion noethion (abstract), hyny yw, i roddi ffurf, i roddi llun a bywyd i ba beth bynag a ddelai ger ei fron, ac i beri iddo siarad drosto ei hun yn ei iaith naturiol ei hun. Nid ystordy gwybodaeth oedd ei feddwl yn gymaint ag oriel o arluniau ysbrydoledig rhyw wawl—leni ardderchog yn gosod allan y rhwystrau a'r rhagolygon ar yrfa bywyd y Cristion. Nid oedd yn honi dysg, ond yr oedd yn efrydydd dwys o foeseg; ac fel rheol, gallai ddal ei dir yn dda mewn unrhyw ddadl yn y pwnc hwnw. Ond ei hoff destun oedd duwinyddiaeth, eithr duwinyddiaeth o nodwedd eangach a mwy rhyddfrydig nag a gydnabyddid yn ei amser ef. Yn ol ei addefiad ei hun, Baxteriaeth ydoedd o ran egwyddor, ond wedi ei thymheru âg Uchanianaeth John Locke, a'r Hybarch Dr. Williams o Rotherham. Yn ei bregethau y rhai, gyda llaw, oeddynt yn wastad yn fyrion—dechreuai yn gyffredin drwy osod i lawr mewn dull tawel a syml ryw wirionedd neu athrawiaeth sylfaenol, yr hon bortreiadai ac a arliwiai mor fedrus fel nad oedd modd camgymeryd ei feddwl. Tra cyflymai ychydig fel yr elai yn mlaen gyda chyfres o gymhariaethau cartrefol, gan raddol ymgodi mewn urddas, mewn tynerwch, ac mewn dylanwad ymwybyddol ar y gynulleidfa; ac yna, gyda fflachiad llygad bythgofiadwy, a llais crynedig, treiddgar, chwyrndaflai allan ryw gymhwysiad ymarferol pwysig a gyffroai ac a barai i bob calon ddychlamu, fel sydyn sain udgorn yn galw i ryfel. Ac ar hyny, cyn i'r argyhoeddiadau gael amser i droi'n darth, a'r ystyriaethau yn niwl, gollyngai'r gynulleidfa ar unwaith, nid i feirniadu nac i ganmol, ond i ddechreu ceisio bod a gwneud yr hyn a gymhellasai efe arnynt. Nid oedd ganddo ond ychydig gred yn y teimladrwydd trystfawr, ymdaenol, a nodwedda yr hyn a elwir yn Ddiwygiad; yr oedd ei ffydd yn unig yn ngwirionedd Duw fel y'i datguddir yn a thrwy Iesu Grist. Nid oedd neb a ddeallai yn well wirionedd y gosodiad mai gwreiddyn byw iawn—gymeriad yw iawn—feddwl, ac felly y mae yn amheus genyf a ragorodd neb arno ef mewn apeliadau uniongyrchol at synwyr cyffredin a chydwybod a chalon, heblaw yr Athraw mawr ei hun. Wedi y crynodeb hwn o'i nodweddion, goddefer i mi anturio ychydig esiamplau geirwon o'i arddull gyffredin, ac yn enwedig ei ddull hapus o drafod egwyddorion. Tra yn gwneud hyny, rhaid i mi ofyn caniatad i wneud defnydd helaeth o'm nodiadau, oblegid mai dyfynu yn syml y byddaf gan mwyaf o hen ddyddiadur na fwriadwyd mo hono erioed i lygad y cyhoedd. Ar yr un pryd, hoffwn i chwi gofio mai fel 'gwreichion oddiar eingion' y bwriedir y dyfynion hyn, ac nid mewn un modd fel engreifftiau o'i gyfansoddiadau gorphenedig, oblegid ar yr achlysuron y cyfeiriwyd atynt teimlai y pregethwr ei fod mewn hualau creulawn o herwydd yr hyn a alwai efe yn 'felldith Babel' hyny yw, yr oedd yn gorfod siarad yn Saesonaeg tra yn meddwl yn Gymraeg. Dechreuwn gydag un o'i gyflawniadau cyntaf yn y Brifddinas. [1] Yr oedd i bregethu i gynulleidfa orlawn yn nghapel Dr. Fletcher yn Stepney. Ychydig eiliadau cyn i'r gwasanaeth ddechreu, daeth gwraig arw yr olwg arni i mewn, gan arwain geneth fechan bump neu chwe' mlwydd oed, a dangoswyd hwynt i eisteddle heb fod nebpell oddi—wrth y drws. Yn ystod y darllen a'r gweddio, yr oedd y plentyn mor aflonydd nes poeni'r fam o'r braidd tuhwnt i bob dyoddef. Golygfa boenus, galongaled, ydoedd. Cymerodd Mr. Williams ei destun: Geiriau Lemuel frenin, y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.' Wedi brawddeg neu ddwy o ragymadrodd, dywedodd fod y Creawdwr, yn ei awydd i brydferthu y bydysawd âg amrywiaeth, wedi penderfynu gwneud byd yn yr hwn y gellid gweled y peth rhyfedd hwnw nas clywsid ac nas dychymygasid am dano hyd yn hyn, ond a adwaenir genym ni dan yr enw mam! Ac mewn canlyniad, Efe a luniodd y morgrugyn bychan, doeth, darbodus, a serchoglawn. Parai cyflawniadau y morgrugyn gryn ddyryswch i'r angylion ar y cyntaf. Gwylient gyda dyddordeb eu dull o fagu a phorthi eu rhai bach, a theimlent nas gallent ganmol gormod yn ngwyneb yr effeithiau. Y cam nesaf oedd dangos y gallesid gwneud yr un peth yn yr awyr. Felly, efe a wnaeth yr eos, yn nghyflawniadau yr hwn aderyn y gellid gweled dirgelion yn ffurf adeiladu nythod a deoriad, yr hyn a ofynent gryn amser ac amynedd, tra y clywid y gwr yn canu yn beraidd ar y gainc, i loni'r fam a'i rhai bychain hyd nes y tyfai eu hedyn ddigon i'w galluogi i ddechreu bywyd ar eu traul eu hunain. (Erbyn hyn, yr oedd y wraig arw yr olwg arni wedi gafael yn llaw ei phlentyn afreolus a'i nesu ati ei hun). Wedi y rhyfeddodau hyn ar y ddaear, ac yn yr awyr, y mae Duw yn gweled yn dda ddangos beth allesid wneud yn y dyfroedd mawrion; ac ar hyny efe a luniodd y morfil, ac a'i gadawodd i roddi sugn i'w rhai bach, ac i'w serchog wylio yn eu chwareuon plentynaidd, ac i wneud eu goreu i'w hamddiffyn rhag y morgi (shark), a physgodyn y cledd sydd yn tramwy oddiamgylch fel llewod rhuadwy gan geisio y neb a allont eu llyncu. (Yr oedd yn dechreu poethi erbyn hyn, a'r wraig arw ei gwedd yn dechreu tyneru fel y mae yn cymeryd ei geneth fach afrywus ar ei glin). Ac yn awr, dyna'r climax wedi ei gyrhaedd. Y mae Duw yn penderfynu dangos i'r bydysawd y gallai ymddiried i'r natur famaidd hon hyd yn nod un o'i blant anfarwol ei Hun. Efe a greodd fam resymol, dduwiol; dylanwodd ei natur â greddfol serch, dododd faban digymhorth dan ei gofal i'w feithrin a'i addysgu i'r nef, anrhydedd pell tuhwnt i gyrhaedd yr angel anrhydeddusaf oll! Pa le yr oedd y wraig nad ymogoneddai yn y fath ymddiriedaeth, ac nad aberthai yn llawen unrhyw beth a phobpeth i gyfiawnhau yr ymddiriedaeth a osodasai y byth-fendigedig Dduw ynddi! (Erbyn hyn yr oedd yr eneth fach yn mreichiau ei mam arw ei gwedd, yr hon a'i tyner-wasgai i'w mynwes, tra y llifai y dagrau brwd dros ei gruddiau. Synais lawer beth ddaeth o honynt ar ol hyn; nis gallwn. ond gobeithio y goreu). Cymerir yr ail enghraifft o'm hadgofion am ei bregeth gyntaf yn fy lle yn Cowes. Y pwnc oedd, Cydweithio â Duw.' Dechreuodd gyda'r gosodiad fod yr holl ymwneud Dwyfol â'n byd ni wedi ei fwriadu fel gwrthglawdd rhag pechod, neu ynte fel moddion i adfer y difrod a achosid gan bechod. Fel prawf o hyn, cyfeiriodd yn gyntaf at hanesiaeth, at y cyfnod ag Adda, y diluw, y trefniant Lefiticaidd, y prophwydi, yr ymgnawdoliad, yr aberth ar y groes, a gweinidogaeth y Dyddanydd. Dilynid hyn gan draethiad ardderchog ar oruchwyliaethau Rhagluniaeth, galwadau yr efengyl, ac ymrysoniadau yr ysbryd, oll a'u hamcan i'n gwneud yn wŷr a gwragedd o gymeriad da. I bob un o honom, gan nad pa mor gyffredin o ran talent neu amgylchiadau, fe gynygir yr anrhydedd o fod "yn gydweithwyr âg ef." A pha arwydd o bendefigaeth a allai fod yn uwch na hyny? Deuwch allan, ynte, o ganol tyrfa y segurwyr, a dangoswch eich colours i'r byd. Na hidiwch ddim pa un a yw y gwasanaeth y'ch gelwir iddo yn ymddangos yn fawr neu yn fach. Dyna'r plentyn claf yna y gellwch helpu i weini arno, neu yr hen wraig orweddiog y gellwch helpu i'w chysuro a'i dyddanu, neu ynte y dosbarth yn yr Ysgol Sul sydd mewn perygl difodiant o eisieu athraw. Na chollwch un awr. Ymroddwch i'r gwaith ar unwaith; dichon na chewch byth gynyg ar y fath gyfleusdra eto. Y mae Mab Duw am i chwi ymrestru yn ei fyddin, ac y mae wedi fy anfon i'ch galw wrth eich enw, John, Thomas, Jane, ac Elizabeth! Pa ateb a roddaf iddo? Y mae angen am bob math o help, a'r eiddo chwithau yn eu plith, yn yr anturiaeth bwysig hon. Yn y darlun o'r fuddugoliaeth yn Llyfr Datguddiad, cofiwch mai nid cael ei lethu i'r pydew dan bwysau mynydd mawr y mae Satan, ond ei gadwyno i'w ffau drwy gyfuniad o ddalenau aneirif, rhai o honynt mor fychain a distadl a'r mân ddalenau a wasgerir gan gymdeithas y Traethodau Crefyddol! Ië, ni a'i rhwymwn â darnau o bapyr, gweddillion a sylwedd hen garpiau, a chaiff weled i'w warth nas gall na thori na chnoi'r gadwyn drwodd mewn mil o flynyddoedd! Nac ofnwch ddim, ond ewch at eich gwaith gydag ewyllys, gan wybod y cewch gymeradwyaeth a bendith y nef arnoch! Yr wyf wedi llwyddo mor anmherffaith gyda'r ail enghraifft fel yr wyf yn ymatal mewn anobaith rhag anturio â'r drydedd enghraifft. Cysegr-ysbeiliad fuasai ceisio cyfleu ei sylwedd ond yn ei eiriau ef ei hun yn unig; ond ysywaeth, nis gallaf alw y geiriau hyny i'm cof, er fod eu miwsig eto'n adsain yn fy nghlustiau! Pwnc y bregeth hono ydoedd "Cyfryngdod Crist." O'i chymeryd oll yn oll, dyma'r bregeth fwyaf arddunol, ymresymiadol, ac anghymharol gyffrous a glywais ganddo erioed! Ar gais arbenig, traddododd hi drachefn a thrachefn mewn gwahanol ranau o'r Dywysogaeth; a chredaf nad gormodiaeth yw dweyd fod eto ganoedd, ac efallai rai miloedd o Gymry, nas gallant gyfeirio at y bregeth hono heb deimlo rhyw gynhyrfiad yn eu hysbryd nad achosid gan enw neb arall. Wrth derfynu, hoffwn gyflwyno un enghraifft arall, am yr hon nis gwn ddim ond yr hyn a adroddwyd i mi gan gyfeillion oeddynt yn bresenol ar yr achlysur. Dygwyddodd fod ciniaw yn cael ei roddi yn nglŷn â chyfarfod urddiad y diweddar Mr. Birrell o Liverpool, ac ar ol ciniaw cymerodd Dr. Raffles y gadair, a thraddodwyd amryw anerchiadau, ac er dychryn i Mr. Williams, galwodd Dr. Raffles arno ef i siarad. Yr oedd gwrid dwys gwyleidddra, a chariad at y brodyr ar ei wynebpryd pan gododd; sylwodd mai ychydig oedd ganddo i'w ddweyd, ond ei fod wrth wrando ar y siars i'r gweinidog yn methu peidio portreadu iddo ei hun y Meistr bendigedig yn y gwaith o esgyn i'r nef. Yr oedd yn dwyn i'w gof yr hyn a welsai yn fynych yn y wlad; y fam yn myned allan i dreulio'r hwyr yn nhy rhyw gymydog, ond yn gadael ei chalon ar ol yn y nursery gyda'r plant. Pan wedi cyrhaedd y glwyd fechan o flaen y ty, y mae yn rhedeg yn ol yn sydyn, yn taflu'r drws yn haner agored, ac yn galw yn uchel ar y forwyn gydag acen bwysig, serchoglawn, Mary! beth bynag wnewch chwi, gofalwch am y plant hyd nes y deuaf fi yn ol! Ac felly am galon gariadlawn y bendigedig Iesu. Yn awr ei ymadawiad nis gallasai lai na throi yn ei ol i ddweyd, Pedr! portha fy ŵyn! Pedr! uwchlaw pob peth, gofala am y plant, hyd oni ddychwelaf i'w cymeryd ataf fy hun! Dyna ddigon feddyliwyf i egluro yr hyn a olygwn wrth wneuthur gwirioneddau ysbrydol yn weladwy a chofiadwy, yn yr hon gelfyddyd y rhagorai Mr. Williams ar bawb eraill a gyfarfyddais. Pe bai hwn y lle priodol i siarad am danynt, y mae genyf adgofion dymunol, nid ychydig, am ei gydoeswyr enwog, John Elias a Christmas Evans; y cyntaf yn ymresymwr manwl, yn frawddegwr penigamp, ac yn feistr ar areithyddiaeth; a'r ail yn rhyw Boanerges ardderchog, yn ddarluniwr digyffelyb, nwydau yr hwn a gludent bobpeth o'i flaen, a dychymyg yr hwn a wawdiai derfyn lle ac amser. A'u cymeryd oll yn oll, yr oedd y tri wyr hyn yn gyfryw ag y gallai unrhyw oes a gwlad yn hawdd ymfalchio ynddynt, y tri hyn—Elias, Evans, a Williams! O'r tri hyn i'm tyb i, y mwyaf ydoedd Williams."

Gwyddom y bydd i'r dyfyniad blaenorol o eiddo y diweddar Broffeswr Griffith, F.G.S., Barnet, ychwanegu yn ddirfawr at werth y gwaith hwn fel cyfraniad llenyddol tra gwerthfawr, a rhoddi boddlonrwydd anghyffredin, yn enwedig i'r rhai hyny o'n darllenwyr na chawsant y fraint o ddarllen y gyfrol Seisonig ragorol a elwir "Some of the great preachers of Wales."

Bod yn ddefnyddiol oedd prif amcan ein gwrthddrych. Defnyddioldeb oedd arwyddair mawr ei fywyd. Er na byddai yn hoffi pregethu yn Saesonaeg, eto o herwydd ei awydd i wneuthur daioni ar raddfa eangach, ni omeddai wneuthur hyny, a byddai fel y gwelsom yn pregethu yn aml yn yr iaith hono. Hysbyswyd ni gan yr Hybarch D. Roberts, D.D. (Dewi Ogwen), Wrexham, ddarfod i Mr. Williams wrth bregethu Saesonaeg yn Nghapel Preshenlle, ddywedyd, "No one would think to compare the light of a 'ffyrling' candle with the light of the sun." Wrth fyned allan o'r capel dywedodd ei gyfaill enwog Dr. Jenkin wrtho, "You have put your foot in it again today with your English." "What did I today Jenkin?" gofynai yntau. "You said 'ffyrling' instead of farthing." "Oh! is that all, they all understand here what a 'ffyrling' is. The controversy between us is not of great importance, only a farthing." Yn un o'r rhai oedd yn gwrando ar Mr. Williams yn Preshenlle yr adeg hono, yr oedd bachgen ieuanc o ôf deallus iawn, yr hwn hefyd a gafodd y fraint y dydd hwnw o eistedd wrth yr un bwrdd a'r pregethwr enwog i gydginiawa âg ef, ac ystyriai y gwr ieuanc ei fod drwy hyny wedi ei anrhydeddu yn fawr. Daeth y bachgen ieuanc hwnw wedi hyny i gael ei adwaen drwy holl Gymru, fel y Parch. Robert Thomas (Ap Vychan), yr hwn yn ddiau, oedd yn un o bregethwyr enwocaf ein cenedl. Byddai effeithiau dwysion iawn i'w gweled ar ein brodyr y Saeson yn gyffredinol o dan ddylanwad gweinidogaeth Mr. Williams. Yr oedd rhywbeth yn swynol hyd yn oed yn ei wallau Seisonig, fel y mae yn hawdd deall oddiwrth ymofyniad rhyw foneddiges o gynulleidfa Dr. Fletcher yn Llundain wedi ei glywed y tro y cyfeiria Proffeswr Griffith ato, yr hon a ofynodd yn bryderus i'r Dr., "Where is that preacher, who in preaching on the religious instruction of the young, told us to give them good shampl"[2] Yr oedd y fath swyn yn ei weinidogaeth, fel yr hiraethai y Saeson fel y Cymry am ei glywed yn traethu iddynt eiriau y bywyd tragwyddol.

Nodiadau[golygu]

  1. Bu Mr. Williams yn pregethu yn y Brifddinas amrai droion yn flaenorol i hyn
  2. Gwel" Enwogion y Ffydd" tudalen 445.