Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth VII

Oddi ar Wicidestun
Pregeth VI Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Pregeth VIII

PREGETH VII.

"PARHAD MEWN GRAS."

"Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig," Mat. xxiv. 13.

Y PWNC y sylwn arno yw, Parhad mewn gras, neu os dewisir yn hytrach, parhad mewn sancteiddrwydd.

I. Y MAE TYSTIOLAETH Y BEIBL YN SICRHAU EI BARHAD.

1. Dyma ni yn awr yn groes i drefn ymresymu, yn dwyn y rheswm cryfaf yn mlaenaf. Gwneir rhyw—beth tebyg i hyn weithiau. Wedi rhoddi ergyd mor drom i'r gareg nes ei chracio drwyddi, gwna ergyd ysgafnach y tro er ei chwalu oddiwrth ei gilydd.

2. Nid oes dim yn natur y gwaith a ddechreuwyd, yn sicrhau ei barhad heb ddylanwad yr Ysbryd Glan.

3. Mae ei barhad yn gysylltiedig â diwyd ymarferiad â moddion gras.

4. Nid yw dylanwad yr Ysbryd Glan wrth sicrhau ei barhad yn dinystrio dim ar ryddid dyn.

5. Yn y parhad mewn gras y ceir y prawf cryfaf o wirionedd gras.

6. Y mae parhau mewn gras yn angenrheidiol er sichau ein cadwedigaeth.

7. Mae yr athrawiaeth hon yn gymhelliad i ddiwydrwydd, ac yn galondid i'r gweiniaid.

Nodiadau[golygu]