Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Caerdydd
← "Virginia," "Nebuchadnezzar," "Arianwen" | Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans |
Storm Biwritanaidd → |
Cartref, Penarth
XIX. Caerdydd.
Hunan-gofiant:
1888: Cwyd y llen i ddwyn gerbron olygfeydd eraill fy mywyd. Apwyntir fi'n ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd. Caf yma gylch ehangach eto o ddefnyddioldeb. Am dair blynedd arweiniaf y Cardiff Orchestral Society. Rhoddaf amryw ddarlithiau gerbron Cymdeithas y Cymrodorion ar amryw destunau cerddorol—y meistri, eu ffurfiau, eu harddulliau, a'u nodweddion.
GAN fod y lle a rydd Parry yn ei hunanfywgraffiad i'w gysylltiad ag Abertawe yn fach ac annigonol iawn, ychwanegwn a ganlyn o ysgrif o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News," ar ei ymadawiad a'r dref:
"Y mae siwrnai bywyd yn un hir, ac i rai ohonom yn amrywiol a diorffwys iawn, llawn cyfnewidiadau sydd yn cario gyda hwy ddigwyddiadau beichiog o atgofion a lŷn wrthym drwy fywyd. Yn Abertawe cefais ran helaeth o bleserau, bendithion, a chyfeillion, sydd yn llonni a llanw'r galon â theimladau o fwynhad a diolchgarwch na fedr amser mo'u dileu'n hawdd-mewn cyngerdd, a chysegr, a dosbarth.
"Gobeithiaf i'm hymdrechion cyngherddol dueddu i'r cyfeiriad iawn o ddiwylliant cerddorol uchel. "Ac am y cysegr yn Ebenezer ac aelodau traserchus y côr, hyderaf yn gryf y bydd i'r oriau dedwydd lawer i ganu a chyd-offrymu ein moliant gael eu cofio'n hir gan yr aelodau, y côr, a minnau. Yr oedd cyfeillgarwch y côr a minnau'n gadwyn ddidor o gydsain felys a brawdoliaeth Gristnogol. Teimlaf fod yna resymau teg dros gredu i lawer o dda gael ei wneuthur drwy ddyrchafu cerddoriaeth ddefosiynnol o'r dosbarth uchaf yn y cysegr, a thrwy ein hymdrech i ddwyn yr anthem i'r gwasanaeth, fel ag i ehangu cylch cerddoriaeth gysegredig capeli ymneilltuol Cymru; canys arferem ganu anthem bob nos Sul drwy'r flwyddyn, gan roddi i'r math yma ar gerddoriaeth, a chanu yn y capel, yr holl oriau oedd gennym i ragbartoi, yn lle eu rhoddi i ymdrechfeydd cystadleuol, fel y mae arfer cymaint o gorau'n capeli.
Cofiaf, hefyd, am lawer o oriau hapus gyda'r efrydwyr yn y tŷ ac yn y gwahanol ddosbarthau, pryd y mwyn- haem ysbrydoliaeth nefol y prif feistri o bob ysgol a chened!, ac yr archwiliem eu gweithiau, a'u helfennu. Yn y ffordd hon arweinid meddyliau ieuainc yn raddol ond yn gyson i fyny at uchelfeydd eu celfyddyd.
"Caerdydd yw fy maes nesaf: hoffwn wybod am ba hyd."
Nid hawdd gweld beth barodd i Parry, ac efe yn awr yn ŵr hanner canmlwydd ymron, i adael Abertawe am Gaerdydd. Yr oedd wedi gwreiddio'n dra dwfn yno erbyn hyn, ac yn ymganghennu'n llydan dros derfynau'r dref. Heblaw'r ffyniant yn ei gylch addysgol, yr oedd. ganddo gymdeithas gorawl ddisgybledig a chyfarwydd erbyn hyn at ei wasanaeth. Nid mewn dydd na blwyddyn y gellir gwneuthur côr felly, ac wele ef yn awr, ar ol blynyddoedd o ymarfer a pherffeithio, yn ei adael. Ai tybed fod y swydd o ddarlithydd cerddorol yng Ngholeg Caerdydd, gyda thâl o £100 y flwyddyn, yn ddigon o atyniad? Neu ynteu a oedd unrhyw fath ar gysylltiad â Choleg Prifysgol, a'r math ar status sydd ynglŷn â hynny, yn werthfawr yn ei olwg? Yn sicr, nid oedd rhaid i Joseph wrth ffyn baglau felly.
Yn ei bapur o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yn 1888, cyfeiria at "Gadair Gerddorol ymhob Coleg" fel un o amodau ffyniant cerddorol Cymru, a diau gennyf yr edrychai ef ar y swydd o ddarlithydd fel y cam cyntaf tuag at hynny.[1] Tra y bu ef yn athro yn Aberystwyth, ni fu eisiau iddo fynegi ei ddelfryd mewn cynifer o eiriau, gan y tybiai ei fod eisoes, a Chymru hefyd, ar linell ei sylweddoliad. Ond yn ei anerchiad cyntaf wrth gychwyn ei academi yno, cawn ef yn cyfeirio at goleg cerddorol i Gymru, a'r un modd wrth gychwyn ei goleg cerddorol yn Abertawe. Gwelsom hefyd yr ymgais a wnaed ganddo i osod y coleg hwn ar "sylfaen changach." Etholwyd pwyllgor ac is-bwyllgor i dreio dwyn hyn oddiamgylch. Y mae y teitl uwchben hanes un o'r cyfarfodydd hyn yn awgrymiadol nid "Musical College of Wales" mwyach, ond "Musical College for Wales." Yr oedd yna anhawster yn ddiau i wneuthur coleg cenedlaethol a choleg Dr. Parry'n un o'r ddau yr oedd yn llai posibl na'i Lyfr Tonau Cenedlaethol. Rhwydd gennym gredu felly ei fod yn edrych ar y swydd ddistadl yng Ngholeg Caerdydd fel drws agored, os bychan, i gyfeiriad ei ddelfryd-os llwybr troed ydoedd, addawai arwain i'r briffordd fawr. Am yr un rheswm nid ydym yn rhyfeddu iddo geisio am yr un swydd, pan sefydlwyd hi, yn 1883, oblegid y pryd hwnnw prin yr ydoedd wedi dechreu bwrw gwraidd yn naear Abertawe. Y mae hanes yr ymgais hwnnw'n boenus ddiddorol i ni yn hytrach ar gyfrif y camwri a wnaeth y Cyngor â dau o feibion glewaf Cymru yn ffafr un o genedl arall, na feddai gymwysterau cyfartal o lawer i'r eiddynt hwy. Y mac cynghorau colegau Cymru wedi bod yn euog o lawer anfadwaith—hollol gydwybodol wrth gwrsyn eu hamser, ond yn sicr ni wnaed dim mwy agored haerllug ac wyneb—galed na'r tro hwnnw. Allan o un ar ddeg o ymgeiswyr, gofynnwyd i bedwar, ac yn eu plith y ddau Gymro Dr. Joseph Parry a Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., ymddangos o flaen y cyngor, ond un arall o'r pedwar, yr hwn a eilw "Cerddor y Cymry"" yr efrydydd Templeton a etholwyd. Yn y bleidlais olaf, cafodd Mr. Jenkins naw fôt, a Templeton ddeuddeg. Yr oedd yr olaf yn ysgolor, ac yn B.A. o Gaergrawnt, wedi bod yn astudio ryw gymaint o amser yn y Leipsic Conservatoire, ac yn awr yn athro yn Harrow. "Gwelir felly," meddai'r "Gronicl," "nad yw Mr. Templeton ar y goreu ond yr hyn a elwir yn amateur cerddorol, ac o'i gymharu â'r ddau Gymro ag oedd yn cyd—gystadlu ag ef, y mae'n beth i synnu ato iddo gael ei apwyntio. Ond dywedir ei fod yn ddyn o amgylchiadau da, ac am ei fod wedi cael cefnogaeth rhai personau neilltuol, ac eraill o ddylanwad, llwyddodd." Un o gyfeillion Arglwydd Aberdâr," meddai Mr. Jenkins wrth adrodd yr hanes.
Mr. Joseph Chamberlain, onide, a ddywedai nad yw mwyafrif aelodau pob pwyllgor fel rheol wedi cymryd trafferth i ffurfio syniadau pendant ar y materion sydd i'w trafod, ac nad ydynt o ganlyniad namyn cŵyr parod i dderbyn argraff barn y lleiafrif pendant a phenderfynol, neu ddeunydd hyblyg i'w drin a'i drafod a'i redeg i fold eu hamcanion hwy. Ar gyngor coleg peth rhwydd oedd i ddau neu dri o fedr a phenderfyniad wneuthur llawer o berthynas Mr. Templeton à Chaergrawnt, ac yna â Leipsic (y dyddiau hynny), a llawer—i gyfeiriad arall o brinder manteision addysg bore oes y gweithiwr haearn o Ferthyr a Danville. Nid yw cynghorau o'r fath uwchlaw taro islaw'r belt"—yn ddeheuig, wrth gwrs; ac y mae gennym le i gasglu fod awgrymiadau ac ensyniadau ynghylch cysylltiad Parry ag Aberystwyth, a'i lwyddiant fel athro'n cael eu gwneuthur. Yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o hyn, a dyna'n ddiau paham y cafodd gan Brifathro Aberystwyth, a dau o aelodau'r cyngor (naill ai yn awr, neu ynteu yn 1888 ac 1896) i wneuthur cyfeiriad at hyn. Fel hyn y rhed tystysgrif Mr. Stephen Evans, cyn-drysorydd Coleg Aberystwyth:[2]
"Annwyl Dr. Parry,
Drwg gennyf na chynhaliwyd cyfarfod Cyngor Coleg Aberystwyth i'w gwneuthur yn bosibl i basio penderfyniad o'ch plaid fel ymgeisydd am y swydd o ddarlithydd cerddorol yng Nghaerdydd. Teimlaf yn sicr na fyddai unrhyw anhawster i sicrhau y fath benderfyniad. Yr wyf yn ofni hefyd y byddai teimlad o ledneisrwydd yn rhwystr i Arglwydd Aberdâr a Mr. Lewis Morris i uno â mi i roddi tystysgrif i chwi, gan eu bod yn aelodau o Gyngor Caerdydd. Dan yr amgylchiadau hyn, teimlaf nad yw allan o le i mi gymryd arnaf fy hun y cyfrifoldeb o fynegi i chwi deimladau ffafriol Cyngor Coleg Aberystwyth tuag atoch chwi. Gallaf ychwanegu i'r penderfyniad i beidio a pharhau yr adran gerddorol godi o ddiffyg arian, a bod gan y Cyngor, yn ystod y saith (pum) mlynedd y buoch chwi yn athro bob rheswm dros fod yn fodlon ar eich ynni, a'ch medr rhagorol fel cerddor, ac ar gynnydd llwyddiannus y myfyrwyr dan eich addysgiaeth. Yn bersonol, gallaf ddywedyd fy mod i, fel y rhan fwyaf o Gymry, wedi gwylio'ch cwrs fel artist a chyfansoddwr gyda diddordeb dwfn, a'm bod yn credu y gwna Cyngor Caerdydd adlewyrchu anrhydedd ar eu coleg drwy'ch apwyntio chwi i'r swydd yr ydych yn ymgeisydd amdani.
- Yr eiddoch yn ffyddlon.
- STEPHEN EVANS."
- Yr eiddoch yn ffyddlon.
Beth bynnag, a phwy bynnag, oedd y tu cefn, yr oedd dewis estron o flaen dau Gymro a feddai ar gymwysterau gwell i'r swydd yn sarhad ar y genedl. Gesyd tystysgrif ei gyd-gerddorion Cymreig bwyslais neilltuol ar yr arwedd genedlaethol i'r mater.
Gwelir llawer o Parry, a'i anallu i ddewis a dethol, yn y cynghasgliad amrywiol o bersonau a gafodd i roddi tystysgrifau iddo. Ymddengys ei fod yn credu—os ffurfiodd farn ar y mater o gwbl—mai "trwy lu" yr oedd i orchfygu yng Nghaerdydd; oblegid tra yr ymddengys Mr. Jenkins fel capten catrawd fechan, ond trefnus ac effeithiol, y mae Parry fel arweinydd rabble—rabble respectable efallai—ond rabble serch hynny. Ai tybed ei fod yn credu fod Y.H., neu A.S., neu D.D. ar ol enw, neu Parch., neu Syr, a hyd yn oed Arglwydd o'i flaen yn rhoddi hawl i un i siarad ar gerddoriaeth? Ai ynteu credu yr oedd y byddai show fawr, os nad yn dychrynu, o leiaf yn taro dychymyg aelodau'r cyngor, fel yr hen laird Ysgotaidd hwnnw a ai i'r frwydr
With five-and-twenty men-at-arms,
And five-and-forty pipers.
Codwyd ei dad yn sŵn y stori am laniad y Ffrancod yn
Abergwaun, ac efallai ei fod yntau wedi etifeddu'r gred y
gwnaiff unrhyw hen wragedd mewn gwlanenni coch y tro
i ddychrynu'r Ffrancody prif beth yw'r wlanen goch!
Ar ymddiswyddiad Mr. Templeton yn 1888 gwnaeth adran o'r cyngor ymgais i wneuthur i ffwrdd â'r swydd, yng nghysgod yr hen esgus cyfleus fod y cyllid yn isel, ac ymddangosai unwaith eu bod wedi llwyddo yn eu hamcan; ond cafwyd mewn ail ymgyrch fod y mwyafrif, dan arweiniad Mr. Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd), Dr. Saunders, ac eraill, o blaid y swydd, ac yn haf 1888 etholwyd Dr. Parry iddi. A chan ei fod yn awr dan adain y coleg, ac nad oes le i stŵr ym mhalas dysg, aeth yno heb na sŵn utgorn na sain cornet, na chwrdd croeso trefol, ac ymsefydlodd yn ei lawn waith fel darlithydd yn y coleg, ac yn fuan fel organnydd Ebenezer ar y Sul, ac fel meistr y "South Wales School of Music" ac arweinydd yr "Orchestral Society." Gwelwn fod cylchoedd ei weithgarwch agos yr un ag yn Abertawe, yn unig fod Coleg y Brifysgol yn cymryd lle ei goleg cerddorol ei hun yn y bore, a'r Orchestral Society" eiddo y "Choral Festival Society."
Yr oedd gwaith Coleg y Brifysgol mewn cerddoriaeth y pryd hwnnw'n ysgafn iawn—rhyw bum awr yr wythnos, hyd y gwelaf yn ol yr adroddiad, a'r rheiny'n gyfyngedig i ddyddiau Iau a Gwener. Yn ddiweddarach, ynglŷn â'r graddau cerddorol, trymhaodd y gwaith yn fawr, fel y dengys adroddiad y Coleg.
Heblaw gwaith Coleg y Brifysgol, sefydlodd ef a Mr. Mendelssohn Parry ysgol eu hunain dan yr enw Ysgol Gerddorol y De, a'i thrigfan leol yn y Beethoven Chambers, ar gyfer y Coleg, ac yn ei "Gartref" ym Mhenarth.
Ym Mai, 1889, dewiswyd ef yn arweinydd yr "Orchestral Society" yng Nghaerdydd, swydd a ddaliodd hyd 1892, pan fu farw ei fab ieuengaf, Willie. Dan ei arweinyddiaeth ef, bu'r gymdeithas yn dra llewyrchus, enillodd wobrwyon pwysig yn y prif eisteddfodau (Porthcawl, Aberhonddu, Abertawe,[3] etc.), a bu'r cyngherddau blynyddol, yn y rhai y canai Mesdames Patti, Albani, a Nordica, yn eithriadol lwyddiannus ymhob ystyr.
Ymgymysgodd â bywyd Cymreig ac ymneilltuol y dref yn fuan. Cyn diwedd 1888, cawn ef yn traddodi ei ddarlith ar y prif feistri, gydag eglurebau cerddorol, ger bron y Cymrodorion. Wener y Groglith, 1889, efe oedd arweinydd cymanfa ganu'r Methodistiaid, at yr hon y cyfeirir yn nês ymlaen. Ynddi awgrymodd y dymunoldeb o gael sasiwn ganu undebol—hedyn gafodd ddaear i dyfu ynddi yn y ddinas. Ychydig yn ddiweddarach bu'n arwain cymanfa ganu'r Annibynwyr yno; tra yn niwedd Mai, rhoddodd Undeb Corawl Ebenezer ddatganiad o'r gantawd "Joseph" yn y Park Hall.
Nid hir y bu ei boblogrwydd cyn ennyn cenfigen rhywrai. Gwnawd ymosodiadau bryntion a dialw—amdanynt arno ym mhapurau Caerdydd. Condemniwyd ei gantawd a'r datganiad ohoni; ac yr oedd yn rhaid i ryw ohebydd sarrug lusgo ffrwydriad o'i eiddo yn eisteddfod Towyn i un o bapurau ei dref ei hun, dan y teit! "Y Beirniad mwyaf anffodus yng Nghymru" mewn llythrennau mor fras a'r rhagfarn y tu cefn. Yn lle dyfynnu'r pethau maleisus hyn, da gennym allu cyflwyno hanes awdurdodedig a theg o'i gysylltiad ag Ebenezer, Caerdydd, gan Mr. Gronow, i'r darllenydd:
DR. JOSEPH PARRY YN ORGANNYDD EBENEZER, CAERDYDD.
"Pan ddaeth Dr. Parry i Gaerdydd fel athro mewn cerddoriaeth i Goleg y Brifysgol, yr oedd rhamant o gylch ei enw a'i bersonoliaeth fel un o gerddorion mwyaf Cymru, os nad y mwyaf oll. Ac nid hir y bu yn y dref cyn i eglwys Ebenezer feddwl am ei gael fel organnydd ac arweinydd canu.
"Hyd yma nid oeddis wedi talu i neb am chwarae yr harmonium, a phan soniwyd gyntaf am roddi cyflog am y gwaith hwn, bu cryn lawer o siarad cryf, ac o feirniadu llym gan rai o'r hen frodyr piwritanaidd. Ond gan fod yr elfen ieuanc a radicalaidd yn yr eglwys wedi gosod eu bryd ar Dr. Parry, penderfynwyd gyda mwyafrif mawr i ofyn iddo gymryd at ei waith, a chychwynnodd fel organnydd yn nechreu Rhagfyr, 1888. Wrth feddwl am ei safle uchel fel cerddor, nid oedd deugain punt o gyflog yn un fawr iawn, ond o'r ochr arall pan gofiwn nad oedd yn bresennol ond mewn un cyfarfod ar y Sul, ac yn danfon ei fab Mendelssohn yn ei le y rhan arall, yr oedd yn gyflog rhesymol, yn enwedig pan ystyriwn mai experiment oedd, cyn belled ag oedd yr eglwys yn y cwestiwn.
"Pan gymerodd Dr. Parry at yr harmonium, yr oedd Ebenezer heb weinidog, canys yr oedd y Parch. J. Alun Roberts, B.D. newydd roddi yr eglwys i fyny ym mis Hydref, er galar mawr i'r holl frawdoliaeth.
"I ddathlu ei ddyfodiad i'n plith, gwnaeth y chwiorydd dê croeso i'r Pencerdd, na fuasai ei debyg yn y lle hyd hynny, a thaflwyd brwdfrydedd a gweithgarwch eithriadol i'r holl amgylchiadau.
"Cyn gynted ag y cymerodd ei le fel arweinydd y gân, cafwyd gwelliant sylweddol yn y canu, ac yn fuan iawn ad-drefnwyd a chafwyd ychwanegiad mawr at y côr. Yn naturiol ddigon yr oedd amryw o ddisgyblion y Doctor (y rhai a dderbyniai eu haddysg gerddorol ganddo yn y Coleg) yn dyfod i'r cyfarfodydd ar y Sul, ac yn cynorthwyo gyda'r gerddoriaeth.
Blin gennym ddywedyd mai dim ond blwyddyn yr arosodd yn ei swydd, am y rheswm ei fod yn teimlo gwaith y Sul yn mynd yn feichus, ac fel y dengys y llythyr canlynol, ei fod yn dechreu sylweddoli nad oedd mor ieuanc ag a fu.
"Dear Mr Gronow
I did not reply to your letter, because I was seriously thinking of resigning my post as organist and choir master at Ebenezer Chapel. I have now done so, having sent my resignation to Mr. Rees. I find my Sunday's work is really too much a strain upon me, and I also find that I cannot now do what I could twenty years ago. I am very sorry to do this, as I have derived much pleasure from the chapel, especially so from the choir during my connection with them.
I beg to remain,
- Cordially yours,
- (Signed), JOSEPH PARRY."
Pan ddeellwyd ei fod yn ymddiswyddo o ddifri' yr oedd gofid mawr ymhlith y cantorion yn arbennig, ac hefyd ymysg gweddill yr eglwys.
"Yn ystod tymor byr ei arweinyddiaeth, rhoddodd y côr ddatganiad canmoladwy o'r gantawd 'Joseph' yn y Park Hall, a gwnaed elw i'r eglwys o dros wyth bunt ar hugain.
Wrth fwrw golwg yn ol dros ddeuddeng mlynedd ar hugain, anodd mesur ei ddylanwad, a datgan barn oleuedig am ei gymeriad. Gellir meddwl amdano yn naturiol o dan yr adrannau (a) cyfansoddwr, (b) organnydd, (c) arweinydd, ond nid fy nhiriogaeth i ydyw ceisio gwneuthur hynny yn ffurfiol, pe medrwn. Carwn er hynny daflu fy nghyfran (er mor ddistadl ydyw) i'r drysorfa,
"Ni cheisiaf ddywedyd dim amdano fel cyfansoddwr, ond yn unig hyn y mae rhywbeth yn ei gerddoriaeth sydd yn gafaelyd yn ddifeth yn ysbryd ac anianawd y Cymro, ac y mae y ffaith fod ei dôn 'Aberystwyth' wedi cael ei chipio bron yn gyfangwbl gan y Saeson, yn profi ei fod wedi treiddio i galon y Sais hefyd.
"Fel organnydd yr oedd yn effeithiol iawn. Un peth nodweddiadol ohono oedd y rhannau offerynnol a chwareuai rhwng penhillion yr emyn. Rhoddai hyn awgrym i'r côr sut i ganu y pennill dilynol o hyd, ac yr oedd yn dra chynorthwyol. Wrth ganu yr emyn 'Yn y llwch, Waredwr hael' deuai y nodwedd yma i'r golwg yn arbennig iawn. Ni fentraf ei gymharu ag organyddion eraill (gwaith rhywun profiadol yw hynny), ond gwn ei fod yn gallu taflu rhyw nwyf ac ysbrydiaeth rhyfedd i'r canu trwy gyfrwng offeryn digon gwael, a thynnu allan ohono bob nodyn o gerddoriaeth er cynorthwyo mawl y gynulleidfa. Y peth cyntaf a ddywedodd wrthym yn Ebenezer oedd, y dylem gael pipe organ tu ol i'r pulpud, ond nid am ryw ddwy flynedd ar ol hynny y daeth hynny i ben.
"Un nos Sul, yr oedd ei drên o Benarth yn ddiweddar, a phan ddaeth y Doctor i mewn, yr oeddym yn canu yr emyn agoriadol heb yr organ. Cymerodd ei le yn dawel wrth yr offeryn cyn i ni orffen y pennill cyntaf. Gosododd ei glust wrth y nodau, ac fe ddaeth o hyd i'r cyweimod y canem ynddo, a daeth yr organ i mewn gyda'r ail bennill mor naturiol nes synnu pawb, yn enwedig y rhai na wyddai ei fod wedi cyrraedd.
"Bryd arall, yr oedd yn arwain cymanfa yr Annibynwyr yn Wood Street yn y flwyddyn 1889. Yr oedd gennym fel cyfeilydd y diwrnod hwnnw, fachgen ieuanc a ystyrrid yn organnydd da iawn. Yr oedd tôn o waith Dr. Parry ei hun, 'Ebenezer,' i'w chanu yng nghyfarfod yr hwyr, a phan ddeuwyd at hon, chwareuodd yr organnydd y ddwy linell gyntaf cyn dechreu canu fel arfer. Nid oedd hyn yn boddio y Doctor, ac amneidiodd i'r organnydd dynnu allan ragor o'r stops. Gwnaeth yntau felly, a chwareuodd drachefn. Nid oedd hyn eto yn gwneuthur y tro, ac aeth ein gwron ei hun at yr offeryn, a chan arwain y cantorion â'i ben, chwareuodd yn y fath fodd nes peri i ni feddwl mai organ arall, fwy a gogoneddusach, oedd.
Fel arweinydd, teimlaf mai anwastad oedd yn ei gyflawniadau. Yr oedd ar rai adegau yn ddiflas iawn, ond ar brydiau eraill byddai fel pe yn ysbrydoledig. Yr oedd bob amser yn dueddol i fod yn ddiamynedd, ond credaf fod hyn yn nodweddiadol o wir athrylith. Cofiaf yn dda i ni geisio dysgu ei anthem goffawdwriaethol i'r Gohebydd,' a chymryd mwy o amser nag a dybiai ef oedd eisiau. Disgwyliai i ni ganu y cyfansoddiad prydferth bron ar yr olwg gyntaf, ond nid oedd ein galluoedd fel côr i fyny â'i ddisgwyliad, a'r canlyniad fu i ni roddi yr anthem o'r neilltu.
"Gwelsom ef felly hefyd gyda'r Philharmonic Society yn y Coleg, a phan y byddai y diweddar annwyl Tom Stephens yn ein harwain, gwnaed llawer mwy o waith yn y rehearsal. Am resymau tebyg i hyn yn ddiameu, dywedid yn aml y byddai yn llawer gwell er mwyn gweithiau Dr. Parry pe ceid rhywun arall i'w harwain. Efallai fod hyn yn wir mewn rhan. Ond cofiaf ef yn gwneuthur gwrhydri ar adegau eraill. Ar y Groglith, 1889, yr oedd yn arwain cymanfa y Methodistiaid yng nghapel Pembroke Terrace, Caerdydd, ac yr oedd mewn hwyl nodedig o hapus. Mewn gair, yr oedd awyrgylch y gymanfa trwy'r dydd yn hynod o ffafriol i addoli. Yr oedd y canu yn dda iawn i gyd, ond cyrhaeddwyd y climax wrth ddatganu y dôn 'Gethsemane' (Schop) ar y geiriau Saesneg, 'Rock of Ages, cleft for me.' Ni chlywais gystal canu erioed, ac nid wyf yn disgwyl clywed ei well yn y byd hwn. Erys y canu hwnnw yn fy nghof ac yn fy enaid dros byth, mi dybiaf, ac y mae ers blynyddoedd wedi mynd yn rhan o'm profiad dyfnaf. "Er siomedigaeth fawr, rhoddodd yr hybarch Ddoctor y gwaith yn Ebenezer i fyny bron gyda dechreu, ond gadawodd ei ôl ar y canu cynulleidfaol am ysbaid hir. Heddwch i'w lwch, ym mynwent Penarth, hyd fore'r codi.
E. R. GRONOW."