Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Y Coleg Cerddorol
← Abertawe | Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans |
Eisteddfod Merthyr: Y Beirniad → |
XIII. Y Coleg Cerddorol
(The Musical College of Wales—M.C.W.).
YR wythnos olaf yn Ebrill, 1881, cynhaliwyd cyfarfod A yn yr Agricultural Hall, Abertawe, i groesawu Dr. Parry, ac i roddi cychwyniad i'r coleg cerddorol. Daeth nifer da o bobl ynghyd, ond nid cymaint ag a ellid ddisgwyl, a hynny, meddir, am na chymerwyd trafferth i hysbysebu r cyfarfod yn briodol.
Gan fod y maer yn analluog i fod yn bresennol cymerwyd y gadair gan Dr. Rees, ac ar ol gwrando ar anerchiad Dr. Parry, pasiwyd penderfyniad: " Gan fod Dr. Parry wedi datgan ei fwriad i sefydlu Coleg Cerddorol Cymru yn Abertawe, fod y cyfarfod yn ymrwymo i roddi iddo bob cynhorthwy yn ei allu, ac yn dymuno yn galonnog bob llwyddiant iddo," ac etholwyd pwyllgor o wŷr blaenllaw Abertawe i hyrwyddo sefydlu'r coleg yn y dref.
Ond gorwedd prif ddiddordeb y cyfarfod i ni yn awr yn anerchiad Dr. Parry, ei syniad ynghylch yr angen am goleg, a'r hyn a amcanai drwyddo. Gan nad yw yr anerchiad ond parhad o'i sylwadau wrth gychwyn ei academi yn Aberystwyth, ni a ddechreuwn gyda'r rheiny.
"Heddyw," meddai'r Doctor, "y mae fy efrydwyr a minnau yn mynd dan gyfnewidiad mawr. Am bum mlynedd buom yn myfyrio o fewn muriau y coleg, ac o dan nawdd y cyngor; ond heddyw dyma ni yn ail-ddechreu myfyrio y tu allan i'r sefydliad agsydd wedi bod, ac a fydd eto, yn agos iawn at ein calon." Yna, wedi galw sylw at ddawn gerddorol Cymru, a'r angen am ei diwyllio, terfynodd drwy ddywedyd: " Yr wyf yn gobeithio fod yr hyn a wnawn yma heddyw yn gam cyntaf tuag at gael coleg cerddorol i Gymru, ac y cynhydda y myfyrwyr mor fawr, fel y gallwyf gael nifer o athrawon galluog mewn lleisio, cyfansoddi, a chwarae'r delyn."
Yn ei anerchiad yn Abertawe dechreuodd ar nodyn o ddwyster drwy ddywedyd ei fod o wir ddifrif am ganolbwyntio ei ymdrechion i ddyrchafu y gelfyddyd gerddorol yng Nghymru. Meddai gwledydd eraill golegau cerddorol, y rhai a droai allan nid yn unig gerddorion dysgedig, ond rhai yn meddu ar allu creol. Yna meddai: "Y mae'r un angen am goleg cerddorol ag y sydd am brifysgol ar Gymru. Y mae cenhedloedd eraill wedi ffurfio arddull neu 'ysgol' genedlaethol, ac yr ydwyf yn clywed ar brydiau fod ein nodweddion cenedlaethol ni yn mynd i golli dan ddylanwadau tramor, yn lle cael eu datblygu. Y mae cerddoriaeth yn gyffredinol, mae'n wir, ac y mae astudiaeth o'i holl arddulliau yn fanteisiol, a hyd yn oed yn angenrheidiol; eto, os cyfrennir yr addysg yn ein gwlad ein hunain, a than ddylanwadau cenedlaethol, ac os argreffir arni ein nodweddion cenedlaethol, y mae'n bosibl cynhyrchu arddull neu ysgol gerddorol fyddo yn sylfaenedig ar y [1]teithi teimladol, addolgar, barddonol, ac uchel—ddramayddol hynny a esyd arbenigrwydd a gwerth ar ein natur. Ni fedraf wneuthur hynny fy hunan—y mae ffrwyth o'r fath yn gynnyrch oesoedd. Dymunaf yn unig daro'r cyweirnod, fel petai, neu ynteu osod i lawr garreg gyntaf yr adeilad. Y mae yn gorffwys arnoch chwi, eglwysi, eisteddfodau, a cherddgarwyr, i wneuthur y fath goleg yn llwyddiant, ac i ddanfon y nifer o efrydwyr iddo, ag a fyddo'n galw am ychwanegiad cyfatebol yn rhif yr athrawon." Yna daw y cyfeiriad at Goleg Aberystwyth a ddyfynnwyd eisoes, a chynhygia ei "wasanaeth gostyngedig" i gwblhau y gwaith—yn ddechreuol. Terfyna trwy bwysleisio mai y prif angen yn bresennol yw'r angen am athrawon disgybledig, a chyfeirio at natur a manylion yr addysg yn y coleg —y byddai arholiadau blynyddol, gwobrwyon a thlysau, tair ysgoloriaeth yn flynyddol mewn canu, offerynnu, a chyfansoddi. Ynglŷn â hyn, gobeithiai y byddai corau blaenaf y dywysogaeth yn cynnyg ysgoloriaethau i gystadlu amdanynt gan brif aelodau o'r corau'n unig, ac y byddai'r eisteddfodau yn dilyn yn yr un llwybr.
Hysbysebid yn ddiweddarach y byddai wyth dosbarth yng ngwahanol ganghennau cerddoriaeth— Cynghanedd, Gwrthbwynt, Cerddorfaäeth, etc.; y byddai pedair gwers yn wythnosol yn yr oll o'r dosbarthiadau yn costio chwe gini, a llai yn ol y nifer; y byddai evening classes, a postal lessons yn nodweddion arbennig.
Wrth ddarllen yr anerchiadau hyn, teimlwn fod Parry yn llygad ei le pan yn pwysleisio'r angen am ddysg i ddatganu'n iawn, i ddehongli'r prif weithiau a bod yn alluog i arwain côr a cherddorfa'n ddeallus, ac yn olaf i gyfansoddi; ond teimlwn ei fod yn mynd braidd ymhell tuag at anwybyddu arloeswyr y gorffennol, pan yn sôn am osod i lawr garreg gyntaf yr adeilad. Ond y mae yn amlwg nad hyn a olygai yng ngoleuni yr hyn a ddywed ychydig yn ddiweddarach yn ei ddarlith o flaen aelodau y Royal Institution, Abertawe, ar ein dyled i'n cerddorion ymadawedig: " Yr wyf yn ofni y dichon fod tuedd ym meddyliau cerddorion ieuainc y dyddiau hyn i ddibrisio gwasanaeth ein cerddorion ymadawedig, a'r rhan a gymerasant yn natblygiad cerddoriaeth Gymreig. Yr ydym yn dra dyledus i'n lleiswyr, ein harweinyddion, a'n cyfansoddwyr ymadawedig; ac yr wyf wedi teimlo'n fynych y byddai'n resyn ac yn gywilydd mawr i ni fel cerddorion y cyfnod presennol adael i'w henwau a'u gwasanaeth amhrisiadwy fynd i ebargofiant, heb gofiant priodol a ffyddlon. A byddai'n dda iawn gennyf weld rhyw eisteddfod yn cynnyg gwobr dda am draethawd teilwng yn rhoddi braslun o'u bywydau a'u ffyrdd gwledig. Yr wyf yn meddwl y dylai pob cerddor Gymreig gael y cyfryw lyfr, yn ffurfio cyfran o'i lyfrgell."
Gan y datgana ei ofn—gerbron y Royal Institution—fod tuedd mewn "cerddorion ieuainc y dyddiau hyn i ddibrisio gwasanaeth ein cerddorion ymadawedig a'r rhan a gymerasant yn natblygiad cerddoriaeth Gymreig," y mae'n amlwg mai'r garreg "gyntaf" mewn adeilad o addysg gerddorol gyfundrefnol a olygir uchod; addysg a fyddai'n pwysleisio a datblygu'r nodweddion cenedlaethol a noda, ac yn ffurfio "ysgol" o gerddoriaeth gydnabyddedig.
Ond pan y sonia am ddiogelu ein nodweddion cenedlaethol, y mae'n naturiol i ni ofyn a oedd Parry'n teimlo'r perigl ynddo ei hunan, oblegid yn ystod y cyfnod hwn yr oedd i raddau mawr—i raddau gormodol meddai rhai beirniaid—dan ddylanwad Wagner? Y mae hefyd yn anodd gweld sut yr oedd y nodweddion hyn i gael eu hamddiffyn a'u datblygu, a'r " Ysgol " Gymreig i gael ei chynhyrchu. A oedd yn ddigon bod yng Nghymru, yn Abertawe? A yw'r nodweddion hyn yn awyr yr hen wlad dim ond eu cael oddiyno, fel y defnyddir planhigion i gymhathu nitrogen o'r awyr? Gofynnwn hyn am fod yna gwyno na roddai Parry ond ychydig le i gerddoriaeth Cymru yn ei gwrs na'i gyngherddau, ag eithrio'i weithiau ei hun. Gwelsom o'r blaen fod yna gwyno oblegid hyn ynglŷn â chyngherddau Aberystwyth, ac eto yn Abertawe yn y Grand Concert cyntaf a roddwyd yn yr Albert Hall, ni chanwyd gymaint ag un darn Cymreig, neu hyd yn oed o waith Cymro, ag eithrio rhyw Ballads newydd o'i waith ei hun. Cyhoeddwyd "Nebuchadnezzar" yn fuan wedi ei ddyfod i Abertawe heb hyd yn oed eiriau Cymraeg. Wrth gwrs, nid mater o eiriau yw teithi cerddorol; eto diau fod yna berthynas rhwng iaith gwlad a'r hyn sy'n genedlaethol yn ei chân. Canai Edith Wynne, Megan Watts, Mary Davies, Eos Morlais, a James Sauvage ganeuon Cymreig ar eiriau Cymraeg, ond yr unig gydnabyddiaeth ymron a dalai Parry i gerddorion Cymru ynglŷn â'i goleg oedd gofyn i rai ohonynt, megis Pencerdd Gwalia, Tanymarian, Emlyn, etc. i ddod yno ddiwedd y tymor i arholi.
Darllenwn gyda diddordeb, bid siwr, am y cyngherddau a'r cystadleuaethau Cymreig a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd ac yn Abertawe dan nawdd Arglwyddes Llanover ac Ardalydd Bute, gyda Dr. Parry'n beirniadu ac yn arwain, pryd y rhoddid gwobrwyon o £40 am ganu'r delyn, a phryd y canwyd—yn y cyngerdd—"Ar hyd y nos," a "Hob y Deri Dando" gan gôr Cymreig Dr. Parry, a'r holl delynorion Cymreig, gydag effaith gwefreiddiol.[2]
Diau gennym na adawai y delfryd o goleg cerddorol cenedlaethol mo'i afael ar ddychymyg nac ymdrechion Parry, oblegid cawn iddo yn ddiweddarach yrru cylchlythyr i alw ei gyfeillion ynghyd i gydymgynghori ar y mater, am, meddai "Cerddor y Cymry", y teimlai y gallai yr ysgol fod o fwy o wasanaeth i gerddorion Cymru drwy ei gosod ar dir ehangach." "Y mae y sefydliad hwn, hyd yma, wedi bod yn un personol, ac nid yw y Doctor eto yn 'mofyn i neb fynd o dan un cyfrifoldeb ariannol, ond y mae am gyngor neu fwrdd i lywodraethu ac i gynghori, a diau y talai y cyhoedd fwy o sylw iddo pe yn cael ei lywodraethu ar y cynllun hwn." Cynhaliwyd y gynhadledd yn y Guild Hall, Abertawe, dan lywyddiaeth Syr Hussey Vivian, pryd y daeth nifer o wŷr dylanwadol ynghyd, megis Maer Abertawe, y Mri. J. T. D. Llewelyn, T. Freeman, R. Martin, etc., a'r Parchn. Dr. Rees, A. J. Parry, Gomer Lewis, Emlyn Jones, etc. Tybiai Parry fod cryn lawer o deimlad dros gael coleg o'r fath. Yr oedd ieuenctid Cymru'n meddu talent naturiol at gerddoriaeth, a byddai'n beth mawr rhoddi pob cyfleustra iddynt i'w gwrteithio. Dywedai hefyd fod Arglwyddes Llanover (Gwenynen Gwent) yn mynd i sefydlu ysgoloriaeth i'r delyn Gymreig yn y coleg, a bod y diweddar Mr. Powell, o Nanteos, Aberystwyth, wedi gadael gwerth £900 o lyfrau cerddorol i'r sefydliad.
Nid ymddengys fod llawer o ddim wedi dod o'r ymgais hwn i osod y coleg "ar dir ehangach." Gwir mai Parry ei hun a alwodd y gynhadledd, ond y mae n gwestiwn—a diau ei fod felly i'r rhai oedd yn bresennol—a wnai ef drosglwyddo'r coleg a'i hunnan i'r "bwrdd." Tebyg mai ei duedd fuasai eistedd ar y "bwrdd" yn hytrach nag wrtho, neu yn wir y gwnai fabwysiadu (gyda gwahaniaeth) eiriau' Emprwr Ffrengig, "Myfi yw y coleg."
Cawn, fodd bynnag, i'r coleg droi allan yn llwyddiant. Ni wyddom pa gynhorthwy fu "nawdd" nifer o arglwyddi iddo; yr oedd gan yr Ianci oedd yn Parry gryn lawer o dynfa at bethau o'r fath, neu efallai y credai ynddynt fel moddion i dynnu y sylw cyhoeddus y cyfeiria ato uchod. Ond yr oedd yn alluog i hysbysebu yn fuan fod yna gant o fyfyrwyr yn y coleg. Ac er methu sylweddoli ei uchelgais ynglŷn ag ef, ceisiai ei wneuthur yn boblogaidd a gwasanaethgar mewn gwahanol ffyrdd. Ar derfyn un o'i ysgrifau dywed: "Carwn symbylu ein hieuenctid i bartoi ar gyfer arholiadau lleol blynyddol yn ein gwlad gan golegau Llundain. Gan fod gini o draul i'r holl arholiadau uchod, tybed y cawn gefnogaeth gan gerddorion Cymru pe bawn yn ffurfio arholiadau ynglŷn â'r coleg hwn, a hynny am brisoedd iselach-cael y papurau a'r gwersi yn Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg, fel y gallo pob Cymro bartoi a sefyll yr arholiadau hyn ym mhrif bentrefi a threfi Cymru. . . . A oes rhyw un a ddywed ei farn, a yw yr awgrym hwn yn deilwng o sylw a mabwysiad"? Ond nid yw'n gwneuthur y peiriant addysgol a sylw'r cyhoedd yn brif bethau, gan anghofio ansawdd a gwir effeithiolrwydd. Yn ei anerchiad yn un o gyngherddau y myfyrwyr yn yr Albert Hall cawn ef yn rhoddi pwyslais arbennig ar efrydiaeth dawel. Wedi dywedyd fod " nosweithiau cerddorol " yn fanteisiol i efrydwyr ieuainc, am eu bod yn eu dysgu i fagu ymddiried ynddynt eu hunain, i " glywed ei gilydd, a bod yn dystion i ragoriaethau ei gilydd yn eu gorymdaith gerddorol "; i ennyn " ymddiried y cyhoedd fel ag i ennill eu cydymdeimlad a'u hymdrechion "; am eu bod hefyd "yn foddion i'w hegwyddori yn y gwahanol arddulliau sydd yn nodweddiadol o wahanol genhedloedd a gwledydd"; ac "yn peri i efrydwyr gymryd mwy o boen i feistroli yr anawsterau celfyddydol sydd yn perthyn i weithiau da ac uchel; gan felly helpu y dehonglydd i fod yn gyfrwng cywir rhwng cyfansoddwr a gwrandawr"; ychwanega, "ar yr un pryd ni charwn i chwi fy nghamddeall; tra yn mawr gymeradwyo yr ymddangosiadau cyhoeddus hyn . . . carwn ddywedyd yn bendant a difrifol, na ddylai hyn gymryd lle ond ar ol astudiaeth hir a dyfal. Y mae pob cynnydd gwirioneddol yn cymryd lle yn dawel gartref, ar ol ennill goruchafiaeth ar anawsterau celfyddydol trwy gyfrwng astudiaeth gydwybodol a chaled; oblegid nid yw yr ymddangosiadau cyhoeddus hyn ond rhoddi mantais i'r efrydwyr i arddangos ffrwyth eu llafur yn y gorffennol. Byddai yn dda i ni gofio fod pob gwaith gwirioneddol yn cael ei ddwyn ymlaen yn dawel: y mae cynnydd iachus gyda cherddoriaeth yn cymryd lle yn dawel ac yn araf, ac y mae pob gweithiwr gonest a gwirioneddol yn mynd yn y blaen yn dawel: dygwyd pob gwaith mawr i fod mewn neilltuedd a thawelwch."
Nodiadau
[golygu]- ↑ ''Gems" yw'r gwreiddiol: mentrais ei gyfieithu fel uchod er mwyn osgoi'r hyn a eilw'r beirdd yn gymysgu flugrau; ond efallai mai Datguddiad xxi, 19 oedd ym meddwl yr awdur.
- ↑ Yr oedd Promenade Concerts Mr. Haydn Parry hefyd yn dra Chymreig gyda "Chôr Cymreig Dr. Parry" 'n cynorthwyo. Y Coleg Cerddorol