Neidio i'r cynnwys

Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Y Llenor

Oddi ar Wicidestun
Yr Arweinydd Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Y Llyfr Tonau Cenedlaethol

XVI. Y Llenor.

Y MAE nifer o'r prif gerddorion wedi bod yn hyddysg mewn meysydd eraill, megis Athroniaeth a Hanesiaeth, er enghraifft Gounod a Wagner; y mae eraill, megis Mozart a Mendelssohn, wedi bod yn llythyrwyr da; ac ychydig yn llenorion gwych, megis Schumann a Berlioz. Ond hyd yn oed pan feddant ddawn a medr i hyn, anaml y bydd eu calon yn y gwaith; fel y dengys y ffrwydriad a ganlyn o eiddo'r olaf: "Gadewch i mi sefyll drwy'r dydd â'r batwn yn fy llaw, yn disgyblu corws, yn canu'r rhannau fy hunan, a churo'r mesur nes poeri gwaed, ac ymaflyd o'r cramp yn fy mraich; gadewch i mi gario cistfyrddau, double basses, telynau, symud llwyfannau, hoelio ystyllod fel gweithiwr cyffredin neu saer, ac yna dreulio'r nos i gywiro gwallau cerfwyr a chopïwyr. Bûm yn gwneuthur hyn; yr wyf yn ei wneuthur yn bresennol; mi a'i gwnaf eto. Y mae hyn yn rhan o'm bywyd cerddorol, a goddefaf ef heb feddwl amdano, fel y dwg heliwr fil blinderau'r helfa. Ond am sgriblo'n dragwyddol i ennill bywioliaeth!"

Anodd i'r rhai fu'n carlamu gyda'r gwŷr meirch yw arafu a chydgerdded gyda'r gwŷr traed!

Yr oedd Parry'n fwy tebyg i Schubert nac i un o'r gwŷr uchod, heb nemor ddiddordeb mewn dim ond cerddoriaeth, nac amynedd i lythyru, na hamdden na hwyl i ysgrifennu. Ni allwn feddwl amdano'n eistedd i lawr i ohebu: pe byddai ganddo ohebiaeth fawr y byddai'n rhaid rhoddi sylw iddi, yr unig ffordd iddo ef fyddai cael gwasanaeth pin ysgrifennydd buan i gymryd i lawr ei eiriau a'i frawddegau blith-draphlith, ac yntau'n cerdded i fyny ac i lawr yr ystafell.

Pan sylweddolwn hyn, rhyfeddwn iddo ysgrifennu cymaint; ond rhyfeddwn lai pan sylwn fod y cwbl yn troi oddeutu ychydig bwyntiau a phynciau cerddorol ag y teimlai ef ddiddordeb arbennig ynddynt, fel athro a cherddor, megis, yr angen am ddisgyblaeth fwy ar ddatganwyr, arweinyddion, a chyfansoddwyr; yr angen am gerddorfäu, a disgyblaeth offerynnol; yn ddiweddarach, yr angen am astudiaeth galed a thawel yn y tŷ, yn lle canu, canu o hyd; ac yn arbennig yr wyl a'r gymdeithas gerddorol.

Dechreuodd Dr. Parry fwy nag un gyfres o ysgrifau ar y pynciau a nodwyd uchod yn "Yr Ysgol Gerddorol," ac yn ddiweddarach yng "Nghronicl y Cymry"; ond ni wnaeth lawer mwy na'u dechreu. Ni pharhaodd y cyfnodolion yn hir, mae'n wir, eto buont yn fwy hirhoedlog na'i ysgrifau ef. Ni cheir dim yn ei ysgrifau na chafwyd eisoes yn ei anerchiadau ar yr angen am ddisgyblaeth gerddorol; ond cawn sylwadau gwerthfawr ar le astudiaeth yn y fath ddisgyblaeth. Cyffyrdda â'r mater mor bell yn ol a Chwefrol, 1879, yn "Yr Ysgol Gerddorol": "Dymunol iawn," meddai " fyddai gallu troi y diwydrwydd a'r sel a geir yn ein gwlad gyda cherddoriaeth er astudio elfennau y gelfyddyd: gormod o ganu a rhy ychydig o ymgyfarwyddo a'r wyddor sydd yn gyffredin."

Awgryma i arweinwyr canu y cynllun o roddi awr a hanner yr wythnos i ddysgu darllen cerddoriaeth yn yr hen nodiant; ac i'r eisteddfod y cynllun o bartoi papurau cerddorol i'w hateb gan yr ymgeiswyr. Yn ei anerchiad ar ddiwedd tymor 1884 geilw sylw'r myfyrwyr at yr angen am fwy o "astudiaeth dawel"; a hyn yw testun tair ysgrif o'i eiddo yn y " Cronicl" am Rhagfyr, 1883, Mawrth ac Awst, 1884. Wedi cyfarch ei ddarllenwyr fel "Annwyl gerddorion ieuainc," a datgan ei dymuniad am eu llwyddiant fel un sydd yn rhoddi ei holl lafur i gerddoriaeth a cherddorion Cymru," ä ymlaen: "Nid oes ynnof yr amheuaeth lleiaf nad ydych yn rhoddi rhy ychydig o'ch oriau i efrydiaeth gartrefol, a dymunaf awgrymu y fantais, a'r angenrheidrwydd, o gael ystafell fechan yn eich cartrefleoedd yn fyfyrgell,' lle y gellwch, o sŵn y byd, ymddiddan ac ymgyfeillachu ag awduron yng ngwahanol ganghennau celfyddyd . . . Yr ydych yn eich amddifadrwydd o athrawon, yn anocheladwy yn cerdded yr un llwybrau, ac yn ymborthi ar yr un ffrwythau gan eich amddifadu eich hunain o'r ffrwythau blasus eraill; a'r canlyniad pwysig yw eich bod yn cyd—dyfu i'r un cyfeiriad ac nid ydych yn cyfoethogi ein gwlad fel cerddorion ieuainc a gobeithiol yn ein gwahanol anghenion."

Dywed fod ganddo "adnoddau" ar gyfer cyfres of "lyfrau addysgol yn Gymraeg yn barod ers amser, ond oherwydd nad oes gennym fel cenedl argraffydd i'r cyfryw," ca ei "amddifadu o'r pleser o fod yn wasanaethagar fel y carai. Ond gan fod yna lyfrau da a rhad yn y Saesneg, dymuna eu cyfeirio at y goreuon, gan eu cymeradwyo i'w hefrydiaeth yn eu "myfyrgell" ac addawa awgrymiadau ychwanegol o'r eiddo'i hun.

Y mae yr ysgrif gyntaf ar "Ddatganu," a chyflawna ei addewid o gymeradwyo'r llyfrau goreu a rhoddi awgrym— iadau pwysig ei hun. Anodd credu fod ei drydedd ysgrif —(a'i olaf "o'r Fyfyrgell" "i'r "Cerddor ") ar Gynghanedd, Gwrthbwynt, a'r Ehelgan, o help ymarferol ychwanegol at gymeradwyo'r llyfrau goreu. Cynhwysa sylwadau cyffredinol tra gwerthfawr, er enghraifft: "Y mae dealltwriaeth drwyadl o gynghanedd o fewn cyrraedd pawb, ac heb angen o'r dalent leiaf. . . . Cyfrwng yw y wybodaeth hon, a swydd athrylith yw creu a defnyddio'r wybodaeth hon er lliwio'r gerddoriaeth. Ni wna unrhyw gymaint o wybodaeth ddyn yn athrylithgar, eithr rhaid i'r athrylithgar wrth wybodaeth o'r cyfryngau hyn er rhoddi bodolaeth a ffurf i'w feddyliau bywiol ac ysbrydoledig."

Wedi brasgamu drwy y "meysydd cyfoethog," tyr allan "Gresyn na bai ein hieuenctid yn treulio eu nosweithiau i ymborthi ar y braster meddyliol hyn. Carwn allu eu hargyhoeddi fod mil mwy o bleser yn y meysydd cyfoethog hyn nag mewn canu eu hunain bob nos i wyneb— gochni a chrygni." Yna awgryma gynnal dosbarthiadau hwyrol i bartoi ar gyfer arholiadau colegau Llundain. Er fod yr "adnoddau " 'n barod ar gyfer y "llyfrau addysgol yn 1883, ni chyhoeddwyd y cyntaf ohonynt cyn 1888. Y flwyddyn honno dechreuwyd eu cyhoeddi dan yr enw, "The Cambrian Series ""Cyfres o lyfrau cerddorol addysgiadol," gan y Meistri Duncan & Sons, Caerdydd.

Am y cyntaf, dywed "Cerddor y Cymry": "Nodweddir y llyfr hwn gan eglurder, yr hyn sydd yn amhosibl ei ennill ond trwy ymarferiad mawr. . . . Gallwn dystio na welsom gymaint o elfennau y wyddor gerddorol yn cael eu gosod mewn cwmpas mor fychan erioed, a hynny mor ddestlus."

Meddai Parry gryn lawer o ddyfalbarhad i lynu wrth amcan fyddai wedi gafaelyd ynddo, ac i lafurio drosto yn ei ffordd ei hun. Wedi galw sylw at y dymunoldeb of gael gŵyl gerddorol, a cherddorfa genedlaethol, cawn ef yn ysgrifennu ar y mater i'r " Ysgol Gerddorol" y flwyddyn ddilynol, gan ieuo "Cymdeithas y Cerddorion" â'r Wyl. Y pryd hwnnw yr oedd yna ŵyl i fod yn y De, ac un arall yn y Gogledd yn flynyddol; gŵyl y De i fod yn symudol ac i'w chynnal yn Abertawe, Caerdydd, ac Aberdâr, ar yn ail; gwyl y Gogledd i fod ym mhafiliwn Caernarfon, fel y lle mwyaf cyfleus.

Erbyn 1883 y mae ei gynllun dipyn yn wahanol. Yn ei bapur o flaen y Royal Institution, Abertawe,[1] dywed:

"Fe gyrhaeddid canlyniad artistig mawr trwy gyfuno ein prif adnoddau offerynnol a chorawl, ac fe berfformid gweithiau sydd yn llawer tu hwnt i allu unrhyw gymdeithas neu gôr sengl, ac fe fyddai yn foddion i beri gwelliant dirfawr ar bob côr ar wahân. Gellid gwneuthur yr ŵyl yn dairblwyddol, cydrhwng Abertawe, Caerdydd, a Merthyr. Yr wyf yn gwybod fod rhai yn ofni y byddai i'r cyfryw ŵyl filwrio yn erbyn llesiant yr eisteddfod. Ni ddymunwn hynny ar un cyfrif, ac nid wyf yn credu mai dyna fyddai y canlyniad, gan y byddai i'r ŵyl gerddorol gael ei threfnu i beidio ymyrryd â'r eisteddfod. Gallai'r cyfryw ŵyl gael ei chynnal ar yn ail, rhwng Gogledd a Deheudir Cymru, fel, pan gynhelir yr eisteddfod yn y Gogledd, bydded i'r ŵyl gerddorol gael ei chynnal yn y Deheudir, a vice versa. Yr ydym oll yn gwybod mai cerddoriaeth ydyw prif ategydd yr eisteddfod; ond ni fydd i neb honni am foment fod yr eisteddfod yn gwneuthur cymaint er dyrchafu ein celfyddyd ag a wneid gan y fath wyl gerddorol ag a gymhellir. Ni all yr eisteddfod gael yr orchestra angenrheidiol, na chynhyrchu yr amrywiaeth cyfansoddiadau ag a ellid gan ŵyl gerddorol; ac ni fyddai i gorau a wastraffa gymaint o amser gwerthfawr a brwdfrydedd, am lawer o fisoedd, gyda dim ond rhyw gorws neu ddau, dderbyn yr un adeiladaeth a phleser ag a geid wrth astudio rhyw hanner dwsin o gyfansoddiadau cyflawn ar gyfer gwyl gerddorol. A phe dygid gwaith newydd allan, ni fyddai rhaid i'r cyfryw dderbyn y driniaeth greulon a dderbyniodd y cyfryw weithiau ym Mangor, Birkenhead, a Merthyr Tydfil. Byddai i raglen gŵyl gerddorol, yn cynnwys symphony, concerto, ac amryw weithiau o safon uchel, hau hadau da yn naear feddyliol ein cerddorion Cymreig ieuainc a ddygai ffrwyth gogoneddus yn y dyfodol."

Digon posibl fod y syniad am ŵyl o'r fath yn wreiddiol i Parry; ond cafodd syniad cyffelyb agos ei sylweddoli yn 1861. Galwyd "Greal y Corau" dan yr enw hwnnw, am y tybid y byddai hynny'n help i'w wneuthur yn is—wasanaethgar i lwyddiant "Undeb Corawl Cymru." Yn un o gyfarfodydd pwyllgor yr "Undeb" hwn a gynhaliwyd yng Nghonwy, pryd yr oedd yn bresennol Ambrose Lloyd (yn y gadair), Owain Alaw, Eos Llechid, Llew Llwyfo, a Chyndeyrn—apwyntiwyd Owain Alaw yn arweinydd cyffredinol, ac Ambrose Lloyd yn arweinydd mygedol, boneddwr lleol yn llywydd, a'r Parchn. E. Stephen a J. D. Edwards (clerigwr cerddorol) yn is—lywyddion, a Mr. E. W. Thomas, Lerpwl, yn arweinydd y band. Yr oedd yr ŵyl i'w chynnal yng Nghastell Caernarfon, Medi 20, 1861, a Hallelujah Chorus" Handel, a Chorawd o "Ystorm Tiberias" i'w datganu ynddi, ynghyda hymn genedlaethol i'w hysgrifennu'n arbennig ar gyfer yr ŵyl gan Ambrose Lloyd, heblaw anthem yr un gan Lloyd, Owain Alaw, Eos Llechid, a Chyndeyrn, a hen anthemau gan J. Ellis, Llanrwst; a J. Williams, Dolgellau; wedi eu had—drefnu gan Owain Alaw. Pan ychwanegir at hyn nifer o alawon Cymreig wedi eu trefnu i bedwar llais, gwelwn ei bod yn ŵyl Gymreig o'r iawn ryw. Mynnai rhai gau hyd yn oed yr "Hallelujah Chorus " allan. Penderfynwyd gyrru cais parchus at gorau'r De i uno yn yr ymgais i godi safle cerddorol Cymru, gan awgrymu y gallai cantorion Gogledd a De gwrdd mewn rhyw fan canolog, i ymbartoi. Ni ddaeth ateb o'r De, ac ni chlywyd rhagor am yr ŵyl nes i olygydd y "Greal" ffarwelio â'i ddarllenwyr drwy ddywedyd nad oedd angen am y cyhoeddiad mwyach, gan nad oedd yr undeb corawl mewn bod.

Gogleddwyr oedd wrth wraidd y mudiad, ond gyrrwyd cais i'r De am gydweithrediad. Yn rhifyn Tachwedd o'r "Greal" cawn sôn am ffurfio undeb corawl o'r fath yn y De, gyda Merthyr ac Abertawe'n ddau ganolbwnc, a Chaerdydd yn fan cynnal y rehearsals, ond yr ŵyl i'w chynnal yn y Crystal Palace! Tebyg mai dyma ateb y De i'r Gogledd. Ni ddaeth dim o'r naill na'r llall, nac ychwaith o ymdrech Dr. Parry a'i gyfeillion; prin y gellir edrych ar Wyl Gerddorol Caerdydd fel canlyniad, ac nid yw honno ar y goreu ond gwyl yng Nghymru.

Yr oedd y gymdeithas gerddorol i helpu'r wyl, a'r eisteddfod, ac i gael ei chysgodi ganddynt; y bwriad oedd rhoddi cyfleustra i gerddorion Cymru ymgydnabyddu â'i gilydd, a chydweithio i godi safon cerddoriaeth yn y wlad. Gychwynwyd hi yn 1879, ac eto gyda mwy o benderfyniad adeg y Pasg, 1888, yn Abertawe. Sefydlwyd amryw ganghennau y rhai a elwid ar enw rhyw gerddor Cymreig ymadawedig, megis "Cangen Ambrose Lloyd yn Abertawe. Yr oedd Parry'n bresennol yn Llanelli yng Ngorffennaf, pan sefydlwyd cangen yno. Cawn hanes am gyfarfod arbennig o'r pwyllgor yn y Drill Hall, Merthyr, yn Awst, pryd y penderfynwyd, ar gynhygiad Eos Morlais, fod gwyl gerddorol flynyddol i'w chynnal ar Ddy'gwyl Dewi i ddatganu cyfansoddiadau cerddorion Cymreig a phryd y rhoddwyd sêl ar y penderfyniad am y waith honno—drwy ddatganu "Dafydd a Goliath " yn yr hwyr. Yn ystod 1887—1890 ymddangosodd cyfresi o ysgrifau o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News," y "Tyst (a'r Dydd)," a'r "Genedl Gymreig"; ond y mae'r cwbl yn troi oddeutu'r pwyntiau uchod, a'u cynnwys yn aml yr un.

Ai Parry o gylch gryn lawer i ddarlithio ar rai o'r materion a ennwyd, megis cenedlaetholdeb cerddoriaeth, ein hanghenion cerddorol presennol, addysg gerddorol, y cyfansoddwr cerddorol a datblygiad ei gelfyddyd,etc. Fel darlithydd, digon yw dywedyd ei fod fel efe ei hun, "ar don o flaen gwyntoedd" yr ysbrydiaeth fyddai'n dod yn aml, yn hollol un â'i bwnc, ambell i waith yn chwerthin yn galonnog, ac yna'n torri i wylo dan ing treialon Schumann, neu rywun cyffelyb.

Ceir cyfeiriadau aml yn ysgrifau ac anerchiadau Parry at gerddoriaeth a chaniadaeth y cysegr. Yr oedd ganddo hefyd ddarlith ar "Gerddoriaeth a Cherddorion yr Eglwys Gristnogol." Darllenodd bapur ar "Hanes Caniadaeth y Cysegr "o flaen yr Undeb Annibynnol yn 1888. Ymddangosodd o leiaf un ysgrif werthfawr o'i eiddo ar y mater, a chan fod ei wasanaeth a'i safle fel cerddor y cysegr i ddod dan ein hystyriaeth yn y bennod nesaf, defnyddiwn rai o'i sylwadau yn y fan hon i gyfeirio'n meddwl at honno. Wedi dywedyd mai "y deml, o bob lle, a deilynga'r pur, a'r coeth, a'r aruchel, a'r gelfyddyd uchaf," geilw sylw at rai pwyntiau o bwys ymarferol megis:

"Y dymunoldeb o ddwyn i ymarferiad cyffredinol ymhob cyfarfod cyhoeddus y salm—dôn, ac yn neilltuol yr anthem gynulleidfaol, fel peth hawdd ac effeithiol iawn gan yr holl gynulleidfa. Nid anthem neu gytgan i gôr yn unig a olygaf, ond anthem fer, syml, addoliadol, a pherffaith gynulleidfaol anthem o ran teimlad, tymer, ac arddull, yn hollol Gymroaidd, fel ein hen donau cynulleidfaol, yn orlawn o'r tân, y moliant, a'r arbenigrwydd hwnnw a berthyn i gerddoriaeth wir Gymreig.

"Y dymunoldeb fod cyd-ddealltwriaeth rhwng y gweinidog ac arweinydd y canu, fel y byddo i'r dôn, y salm-dôn, neu yr anthem a genir, hyd y byddo yn bosibl, gydredeg â phwnc y bregeth, er sicrhau unoliaeth i holl rannau gwasanaeth yr oedfa, nes y byddo yr un ysbryd yn rhedeg drwy y weddi, y canu, a'r bregeth, fel y byddo i'r holl gynulleidfa, drwy y naill a'r llall, gael ei chario i'r un cyfeiriad. . . . Nid yw y côr i wasanaethu yn lle Y gynulleidfa yn yr anthem, ond i gynorthwyo ac arwain." Gyda golwg ar ddatganu cytgan o oratorio "Yr unig le i wneuthur hyn yw ar ddechreu neu ddiwedd oedfa, nid yn y canol, gan y dylasai caniadaeth y cysegr fod yn gyfryw ag y gall yr holl gynulleidfa gyduno ynddo—yr hen a'r profedig gyda'u lleisiau crynedig i roddi cynhesrwydd ac ysbryd; y canol oed i roddi nerth a llawnder; a'r ieuainc i roddi yr ynni, y bywiowgrwydd, a'r deall; a thrwy y gwahanol elfennau hyn fod i'r gerddoriaeth y naws a'r addoliad priodol."

Terfyna drwy alw sylw at le cerddoriaeth ynglŷn â'n Cymanfaoedd pregethu, y Sasiwn, a chyfarfodydd Undeb Annibynwyr Cymru.

Pan yw ugeiniau o weinidogion yr Efengyl wedi cyfarfod i bregethu Efengyl y deyrnas i'r tyrfaoedd, pe yr ychwanegid effeithiau cerddoriaeth drwy ymdrech ragbartoawl gan holl gorau yr ardal yn y tonau, y salm-donau, a'r anthemau; ac i'r corau hyn, o ddau i dri chant mewn nifer, i ddechreu neu i orffen pob cyfarfod drwy ganu un o'r cytganau mawreddog allan o ryw oratorio, byddai yr effaith yn ddwys a dwfn, er cydweithio ag amcanion y bregeth; a byddem drwy hyn yn troi ac yn mabwysiadu cerddoriaeth a cherddorion y genedl yn un gytgan o fawl ar allor crefydd."

Nodiadau

[golygu]
  1. "Y Geninen," Ebrill, 1883.