Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Yr Awdur Epiliog Hwn
← "Blodwen" ac "Emmanuel" | Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans |
Gwrthdarawiadau → |
IX. "Yr Awdur Epiliog Hwn,"
"Y MAE yn syn meddwl," meddai'r Athro David Jenkins, "gymaint o waith yr aeth Dr. Parry drwyddo yng nghanol y fath brysurdeb, a'r nifer fawr o gyfansoddiadau a gynhyrchodd yn Aberystwyth. Yma y cyfansoddodd "Codwn Hwyl," "Y Ddau Forwr," "Y Bachgen Dewr," "Y Gardotes Fach," "Yr Eos," "Yr Ystorm," Cantata "Joseph," "Emmanuel," "Blodwen," llawer o "Saul o Tarsus," "Cytgan y Mynachod," "Nebuchadnezzar," a llawer o rai eraill."
Yn 1878 ysgrifennai Mr. Levi:"Mae ei athrylith yn nodedig o gynhyrchiol. Gwyddom ei fod eisoes wedi cyfansoddi dros gant o ganeuon (songs); llawn trigain o anthemau a chytganau; hanner cant o donau cynulleidfaol; nifer mawr o quartettes, trios, duets, glees, a darnau at wasanaeth yr organ ac at wasanaeth offer tannau; pedair o overtures for full orchestra; tair o sonatas i'r piano; ac un grand symphony; pump cantata ac un opera Gymreig."
Dyna doreth rhyfeddol o weithiau amrywiol, mawr a bach! Ond y mae inni gofio fod Dr. Parry yn gyfansoddwr cyflym, fel y dengys y paragraff canlynol o"Musical Opinion"(Mehefin, 1900):"Y mae gan yr anturiaeth ddiweddaraf mewn newyddiaduriaeth ddimai mewn colofn o'r papur dan y teitl, 'The world over,' baragraff ar 'The lightning composer.' Y boneddwr a anrhydeddir â'r disgrifiad hwn yw Dr. Joseph Parry, yr hwn a gyflawnodd y gorchestwaith cerddorol a ganlyn. Pan oedd y Doctor dysgedig yn arwain rehearsal mewn lle o'r enw Briton Ferry awgrymwyd iddo gyfansoddi tôn i'w galw ar enw y lle. Gydag, efallai, ryw bum neu chwe awr i'w athrylith flodeuo a dwyn ffrwyth, llwyddodd Dr. Parry yr un hwyr i gynhyrchu tôn wreiddiol o'i ymennydd; nid y felodi'n unig, ond y rhannau alto, tenor, a bass yn ogystal. Nid rhyfedd bod yr ysgrifennydd talentog yn y 'Daily Express' yn cyfeirio at hyn fel gorchest gerddorol Ar yr un pryd, efallai, y caniateir i ni ymholi a glywodd y newyddiadur crybwylledig sôn erioed am rai enwogion blaenorol, fel Mozart, Schubert, Rossini, a Handel, ac am yr hanesion ynghylch Overture 'Don Juan' y gân a enwir yr 'Erl König' 'Gweddi' enwog, a'r oratorio fwyaf mewn bod." Cyfeirir yma at rai o gampau y cyfansoddwyr uchod mewn cyfansoddi cyflym. Cyfansoddodd Mozart overture "Don Giovanni" mewn llai na chwech awr. Gadawodd un o gyfeillion Schubert y cerddor yn darllen pryddest Goethe, yr "Erl König," am y waith gyntaf; a phan ddaeth yn ei ol mewn llai nag awr, yr oedd y cerddor wedi gorffen ei gân fyd-enwog yn ei ben, ac yn ei phrysur osod i lawr ar bapur. Cyfansoddwyd ei "Serenade" mewn modd cyffelyb, ond fod yr amgylchoedd yn fwy anffafriol, sef tafarndy budr yn Vienna—yno yng nghlindarddach cwpanau a gwydrau a brawl diotwyr, y daeth y gân anfarwol i'r ddaear, yn ei holl ledneisrwydd nefol, fel y daw'r dragon fly allan a'i hedyn heb frycheuyn na chrychni, o ganol budreddi y pwll lleidiog.
Pan roddwyd "Moses" Rossini y waith gyntaf, aeth y perfformiad ymlaen yn llwyddiannus nes dod at groesi'r Môr Coch, pan dorrodd y gwyddfodolion allan mewn chwerthin gwawdus, fel ag i ddinistrio effeithiau cerddorol a llwyddiant y gwaith. Ni wyddai'r rhiolydd beth i'w wneuthur nes i Tottola, y librettist, awgrymu gweddi cyn croesi ac eilwaith yr ochr draw. Ymaflodd y syniad yn Rossini, neidiodd allan o'i wely yn ei wisg nos, a chyda chyflymder anhygoel ysgrifennodd y weddi odidog, heb roddi ond prin amser i'r manager a'r librettist synnu! Rhoddwyd y gwaith ynghyd â'r weddi yr un nos—yr oedd y bobl yn paratoi eu hunain i chwerthin fel arfer, ond gyda bod "Moses" yn dechreu canu a'r côr yn dilyn, trodd yr ysbryd chwerthin yn gywreinrwydd, yna yn astudrwydd, ac wedyn yn gymeradwyaeth byddarol.
Yn ol yr hanes, dechreuodd Handel ysgrifennu'r "Messiah" Awst 22ain, 1741, gan ei gorffen Medi 14eg—mewn tri diwrnod ar hugain!
Daeth Parry dan ddylanwad Rossini yn fawr un adeg yn ei hanes, a hynny'n ddiau am fod yna gydnawsedd ysbryd ac awen rhyngddynt. Ymddengys ei fod yn ymdebygu i Rossini hefyd, yn ei ddull o gyfansoddi, ond ei fod yn meddu ar fwy o hunan-reolaeth, ac yn rhoddi ei hun i fyny'n llai i hunanfoddhad. Cyfansoddodd Rossini ei Opera,"Barbwr Seville" mewn tri diwrnod ar ddeg, heb fynd allan o'r tŷ o gwbl, a heb eillio chwaith! "Rhyfedd," meddai cyfaill wrtho, "i chwi fynd trwy y 'Barbwr' heb eillio." "Pe eillid fi, oedd yr ateb, "buasai'n rhaid i mi fynd allan; a phe awn allan ni ddeuwn yn fy ol mewn pryd." A dywedir wrthym am Parry, pan ddeuai'r divinus afflatus arno, yr arferai "fynd at ei lyfr-rwymydd, gan orchymyn rhwymo nifer o gyfrolau o bapur cerdd, a'i fod wedyn yn brysio i'w llanw i fyny, y rhan offerynnol yn ogystal, gan roddi popeth i mewn fel y deuai, hen a newydd, gwreiddiol neu ddyfynedig, gyda'r canlyniad fod yna lawer o waith medrus a thalentog, ond anghyfartal, ac nid y goreu o'r hyn allasai ac a ddylasai gynhyrchu." Rhydd Cynonfardd yr enghraifft a ganlyn:
"Pan oedd Dr. Parry a minnau yn croesi y Werydd tua New York ar yr agerlong Campania yn Awst, 1898, ceisiodd ef gennyf gyfansoddi geiriau cân iddo allu ei chanu yng nghyngerdd y llong nos drannoeth. Felly bu; rhoddais y geiriau iddo yn y bore, ac yr oedd y gerddoriaeth yn barod erbyn yr hwyr. Awgrymodd ef y mesur."
Nodir "Aberystwyth" ambell i waith fel enghraifft o gyfansoddi cyflym yr awdur: yn ol yr hanes galwodd un o wŷr Hughes & Son, Wrecsam, gyda Parry y Sul gyda chais oddiwrth Tanymarian am dôn ar y geiriau "Beth sydd imi yn y byd?"ac erbyn dydd Mercher yr oedd y dôn yn barod iddo. Yn anffodus, y dyddiad uwchben y dôn yw 1877 (a dywed Parry yn ei Hunangofiant iddo'i chyfansoddi yn 1876), tra na chyhoeddwyd Atodiad Tanymarian cyn 1879, ac yn ol yr hanes yr oedd ar fin dod allan, heb ond eisiau tôn ar y geiriau "Beth sydd imi, etc." pan ddigwyddodd yr uchod. Y tebygrwydd gan hynny yw fod y dôn eisoes yn bod, ac na wnaeth y awdur ond ei chaboli, neu ynteu ei chyfaddasu i'r geiriau.
Yr oedd Parry hefyd yn weithiwr heb ei fath: dywed Mr. Jenkins nad adnabu erioed weithiwr caletach. Mewn beirniadaeth o'i eiddo ar un o weithiau Alaw Ddu, fe ddywed Parry,"Y mae yr awdur yn adnabyddus yn neilltuol yn y Polyphonic (amryw-leisiol) style o gyfansoddi sydd yn fwy o gynnyrch llafur, dysg, ac ymarferiad mawr, na'r Monophonic (melodic) style, sydd yn gynnyrch awen naturiol. "Meddai yntau ystor o ynni ac egni diball i roddi'r wisg i'w feddylddrychau ag y rhaid wrth "lafur, dysg, ac ymarferiad mawr" i'w gwau.
Yr oedd hefyd yn alluog i gynhyrchu mwy o fater am na roddai ond ychydig sylw i gaboli a pherffeithio yr hyn a gyfansoddasai: y mae hyn yn cymryd amser mawr, ond fel rheol y mae'n angenrheidiol, gan mai yn anaml y cwyd cân—llai fyth gyfanwaith—o'r dyfnder fel Minerva o'r môr yn ei llawn arfogaeth. Ag eithrio Mozart, dyna hanes y prif feistri fel arfer. Er fod Haydn yn gyfansoddwr cyflym, eto treuliodd dair blynedd i gyfansoddi ei "Greadigaeth," am, meddai ef, y golygai iddi fyw yn hir. Ymdrafferthodd Gluck yn ddirfawr gyda'i "Armida," ac am y rheswm hwnnw credai fod y gerddoriaeth yn gyfryw nad äi byth yn hen. Dengys notebooks Beethoven yr un peth. Gwyddom fod gan Milton ymdeimlad fod ei "Goll Gwynfa" i barhau, ac am hynny cymerai boen i fod yn ffyddlon i ofynion a sibrydion y tragwyddol perffaith. Ond pan gyd-lafuriai Dewi Môn a Parry ar y "Cambrian Minstrelsie." cwynai y blaenaf wrth gyfaill na fedrai gyd-gerdded—neu gyd-redeg—â Parry, a'i fod yn ofni mai "slap-dash work" a gynhyrchai. Tebyg nad oedd sail i'r ofn hwn, er yn ddiau y buasai'r gwaith yn llawer gwell gyda mwy o ofal.
Eto, nid yn unig yr oedd Parry yn gyfansoddwr cyflym, ac yn weithiwr caled (er nad yn ddigon llym tuag ato'i hun), ond yr oedd hefyd yn gynhyrchydd cyson, a hynny yng nghanol amgylchiadau anffafriol. "Yr oedd mor ddiwyd," meddai ei ferch, "fel nad ydym yn gallu cofio fod unrhyw ran arbennig o'i ddydd yn cael ei rhoddi i gyfansoddi. Meddyliai allan ei destun wrth gerdded a theithio, etc., a throsglwyddai ei gynhyrchion i bapur pan ddeuai cyfleustra." Yr oedd ei allu i "gau ei ddrws" ar bethau allanol, y cyfeiria Mr. J. T. Rees ato, yn help i wneuthur hyn yn bosibl, ac yn angenrheidiol pan fyddai'n ysgrifennu cerddoriaeth. Ond hyd yn oed ar adegau eraill äi y gwaith creol ymlaen yn y gweithdy is-ymwybodol. Gellir deffinio athrylith fel drws agored i'r delfrydol, fel y synhwyrau i'r materol; ac yr oedd yn ei natur ddrws felly oedd agos yn gyson a llydan agored i fodau disglair (chwedl Bunyan) o wledydd pell.
Edrydd y Parch. D. G. Williams, St. Clears, amdano'n mynd i'w ymrwymiad yn Ferndale un prynhawn, ac wedi gadael Caerdydd yn dechreu cyfansoddi tôn, gyda'r canlyniad iddo anghofio newid yn y Porth a gorfod cael cerbyd i'w nol dros y mynydd o ben uchaf y Rhondda. Penderfynwyd galw'r dôn honno'n "Pererin."
Daeth "Llangristiolus" i fod ac yntau o ran y corff mewn gardd yn Llangristiolus, Môn, ac aml i dôn, a chân, a chorawd arall mewn modd cyffelyb.
Help arall iddo yn hyn oedd ei gof cerddorol rhyfedd, fel eiddo llawer cerddor arall o fri. Medd Mr. Levi:"Gellir nodi fod ganddo gof digyffelyb, ag sydd yn nodedig o wasanaethgar iddo. Mae yn cyfansoddi yn barhaus- yn ei wely, yn y gornel, ar hyd y ffordd, ac yn y trains; ac nid oes perigl iddo anghofio yr un frawddeg na nodyn. Nid yw un amser yn dechreu ysgrifennu yr un dôn na chân nes bydd wedi ei gorffen yn ei feddwl. Ni fydd byth yn defnyddio copi i ganu na chwarae mewn cyngherddau, nac yn mynd â hwy oddicartref. Dywedwyd wrthym iddo, ychydig amser yn ol, chwarae ei opera, yr hon a gymerai dair awr i fynd drosti, bob nodyn heb gopi yn ei olwg, a dau neu dri o gerddorion enwog â'r copi ganddynt ar y bwrdd yn dilyn y chwareuwr. Mae hyn bron yn anghredadwy. Dywedai wrthym ryw dro nad yw ef yn hawlio un credyd iddo ei hun am hyn, oblegid 'na all oddiwrtho.' Nid yw cofio yn un orchest iddo. Unwaith y daw i'w feddwl yno y bydd, ac ni all llafur nac amser beri iddo ei anghofio. Dechreuodd arfer ei hun gyda hyn wrth weithio yn y felin. Wrth ei waith o flaen y rolls y cyfansoddai yr oll, ac wedi gorffen cyfansoddi, äi adref wedi gorffen ei waith i'w ysgrifennu.
Tra yr ydym yn gyfarwydd â hanes cof mawr Macaulay, ac eraill, prin y mae y cof cerddorol yn wybyddus i ni, nac yn wrthrych syndod. Meddylier am gof Mozart ieuanc, ac efe eto ond tair ar ddeg oed yn mynd i'r Capel Sistine yn Rhufain i wrando Mass Allegri, y "Miserere" glodus, yr hon nid cyfreithlon ei chopïo, ac yntau yn ei thrysori i gyd yn ei gof! Neu meddylier am Berlioz pan yn ymgeisydd am le yng nghorws opera yn ateb y cwestiwn, tl Pa le mae eich miwsig?" drwy ddywedyd, "Nid yw gennyf, ond medraf ganu popeth a roddwch i mi ar yr olwg gyntaf." "Ond nid oes gennym un llyfr canu yma?" "Wel, beth a fynnwch? Medraf ganu o'm cof bob nodyn o operau Gluck, Piccini, Salieri, Rameau, Spontini, Gretry, Mozart, a Cimarosa." Eto y Berlioz hwn a edrydd gydag edmygedd sut yr arferai fynd pan allan o hwyl (yr hyn a ddigwyddai'n aml) i geisio Mendelssohn i'w gysuro â'i ganu. "Gyda pherffaith dymer dda," meddai "gosodai ei ysgrifbin o'r neilltu wrth weld fy sefyllfa druenus, gan eistedd wrth y piano, a chyda rhwyddineb rhyfeddol i gofio'r scores mwyaf cymhleth, a ganai beth bynnag a ofynnwn iddo."
Pe llosgasid symffonïau Beethoven, gallasai Wagner eu hatgynhyrchu. Yn yr un modd nid oedd eisiau i Mr. Tom Stephens anrhegu Parry a safe i ddiogelu ei weithiau ond fel amddiffyn i'r papur a'r nodau, gan eu bod i gyd gan mwyaf yng nghof yr awdur. Eto, er y darllenwn am gerddorion yn cyfansoddi gwaith cyn gosod nodyn i lawr ar bapur—fel Mendelssohn ei "Walpurgis Nacht— rhaid iddynt, fel rheol, gael amser a chyfle i dderbyn a chadw argraffiadau: gwasanaethgar yw'r cof i'w hatgynhyrchu yn ol llaw, tra nad yw'n ddigonol o gwbl i'r gwaith o ddilyn a chroniclo aneirif donnau a rhediadau gorlif awen pan ddêl; ac felly ä llawer o ddrychfeddyliau gwerthfawr ar goll oherwydd diffyg mantais i'w sicrhau mewn du a gwyn.
Daliodd Parry ati i gynhyrchu hyd y diwedd, er bod yn analluog i gyhoeddi. "Buom yn gwasgu arno," meddai Watcyn Wyn "paham na buasai yn cyhoeddi rhai pethau oeddem am weld; ond dywedai braidd yn ddiamynedd:
Nid fy ngwaith i yw cyhoeddi; fy ngwaith i yw ysgrifennu. "Beautiful, but sad," onide. Dim ond y rhai a "gâr gerdd yn angherddol" ac er ei mwyn ei hun, fedr eistedd i lawr i ysgrifennu gweithiau mawrion fel efe, a llawer cerddor[1] arall, heb obaith gweld eu cyhoeddi na'u canu gan eraill. Eto gwell hyn yma na'r hyn a edrydd Berlioz amdano'i hun: "Breuddwydiais un nos am symffoni. Pan ddeffroais gallwn alw i gof y symudiad cyntaf agos i gyd—allegro yn A leiaf, ond wrth fynd at y bwrdd i'w gosod i lawr meddyliais yn sydyn: 'Os gwnaf hyn, fe'm tynnir ymlaen i gyfansoddi'r gweddill, a chan fod fy syniadau'n wastad yn ymddatblygu aiff y cyfansoddiad yn un annhraethol faith; cymer i mi dri neu bedwar mis i'w gwblhau; ni fyddaf yn abl i yrru fy ysgrifau arferol i'r papur, a thyna ddiwedd ar fy incwm. Pan ysgrifennir y symffoni bydd i mi—mor wan ydwyf—gael rhywun i'w chopïo a mynd i ddyled felly o ryw fil neu ddeuddeg cant o ffrancs. Yna caf fy arwain i roddi cyngerdd i'w pherfformio: ni fydd y derbyniadau ond prin hanner y treuliau, a chollaf arian. Nid oes gennyf arian. Bydd fy mhriod gystuddiedig heb y cysuron angenrheidiol, a threuliau fy mab ar fwrdd y llong heb eu talu.' Gyda theimlad o ddychryn teflais fy ysgrifbin i lawr, gan ddywedyd 'Yfory byddaf wedi anghofio'r symffoni.' Ond ha! Y nos ddilynol dychwelodd y motif ystyfnig yn fwy clir na chynt—gwelwn ef wedi ei ysgrifennu allan. Neidiais i lawr yn gyffrous, gan ei hwmian—ond eto daliodd fy mhenderfyniad fi'n ol, a gwthiais y demtasiwn o'r neilltu. Syrthiais i gwsg, a'r bore dilynol, yr oedd fy symffoni wedi mynd am byth.
"'Y llwfryn!' meddai'r penboethyn ieuanc. 'beiddia'r oll, ac ysgrifenna! Dinistria dy hunan! Heria bopeth! Pa hawl sydd gennyt i wthio'n ol i anghofrwydd waith artistig sy'n estyn allan ei freichiau am dosturi a gweld goleu dydd?'
"Ah! ieuenctid, ieuenctid! ni ddioddefaist erioed fel y dioddefaf fi, onide buasit yn deall a bod yn ddistaw."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Er i Cherubini gyfansoddi dros bedwar cant o ddarnau, ni chyhoeddwyd ond tua phedwar ugain ohonynt.