Neidio i'r cynnwys

Cofiant Hwfa Môn/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Darlun III Cofiant Hwfa Môn

gan Thomas Roberts, Yr Wyddgrug


golygwyd gan William John Parry
Darlun IV


Pennod VI.

FEL BUGAIL.

GAN Y PARCH. T. ROBERTS, WYDDGRUG.

WRTH yr enw Hwfa Mon, ei enw barddol, yr adnabyddidef gan ei gydgenedl; fel bardd yn gyntaf y meddylid am dano. Ac yr oedd yn fardd, doedd dim dadl; gan nad beth arall ydoedd Hwfa Mon, yr oedd yn fardd bob modfedd o hono. Yr oedd tri anhebgorion bardd wedi cydgyfarfod ynddo yn amlwg, sef "llygaid i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder i gydfyned ag anian." Yr oedd y bardd yn amlwg yn ei holl osgo, ei edrychiad, ei ymddangosiad, ei gerddediad; yr oedd yn meddwl fel bardd, yn siarad fel bardd, yn cerdded fel bardd, yn gweithredu fel bardd. Ofer oedd meddwl am ei gaethiwo dan unrhyw ddeddf, ond deddfau caeth Dafydd Ap Edmwnt. Ond nid bardd yn unig ydoedd Hwfa Mon, yr oedd hefyd yn bregethwr dihafal, yn weinidog da i Iesu Grist, yn ddarlithiwr hyawdl, ac yn llenor Cymreig coeth. Ond yn yr ysgrif hon ni bydd a fynom ag ef ond fel bugail neu weinidog yr efengyl. Gyda ni fel Annibynwyr, y gweinidog yw y bugail, a'r bugail yw y gweinidog; dysgwylir iddo wneud gwaith y ddau. Mae yr enw gweinidog yn ei olygu yn fwyaf arbenig yn ei gymeriad fel pregethwr, ac athraw, ac arweinydd ei eglwys; mae yr enw bugail yn ei olygu yn ei gymeriad bugeiliol o fwrw golwg dros braidd Duw, o gysuro y drallodedig, o geisio y darfedig, o ymgeleddu y glwyfedig. Yr oedd Iesu Grist yn llanw y ddau gymeriad. Fel Gweinidog Duw byddai ef yn pregethu, ac yn athrawiaethu wrth y bobl; fel Bugail mawr y defaid byddai yn eu harwain i'r porfeydd gwelltog, yn ceisio y golledig, yn dychwelyd y darfedig, yn rhwymo y friwedig, ac yn cryfhau y lesg. Efe yw "Gweinidog y cysegrfa a'r gwir dabernacl," ac efe hefyd yw "Bugail mawr y defaid." Ac wrth feddwl am dano ef, y Pen Bugail, a'r modd perffaith y cyflawnai ei waith, byddwn yn barod i ofyn yn aml, "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" "Eithr ein digonedd ni sydd o Dduw." "Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y Testament Newydd."

FY NGHYFARFYDDIAD CYNTAF AG EF.

Y tro cyntaf i mi weled a chlywed Hwfa Mon oedd yn hen bwlpud Salem, hen "Gapel Ty-du," plwyf Llanbedr-y-Cenin, y pryd hwnw dan weinidogaeth yr hen efengylydd llariaidd John Williams, Caecoch. Yr oedd hyny yn Mehefin 1862. Cyfarfod pregethu blynyddol oedd yno. Nid oedd cylch y dewisedigion i gyfarfod Salem y pryd hwnw yn un mawr; fel rheol byddent yn cael eu dewis o blith Gweinidogion cymydogaethol.—Ap Vychan; Y Go Bach, Tanymarian; Roberts, Caernarfon; Edwards, Ebenezer; Griffiths, Bethel; J.R., fel rheol fyddai cylch yr etholedigion. Yr oedd Hwfa ar y pryd yn Brymbo a Gwrecsam; anaml y meddylid am fyned mor bell a hyny i geisio pregethwr i gyfarfod Salem, rhaid felly fod ei enw wedi dod yn lled adnabyddus fel pregethwr poblogaidd. Testyn un o'i bregethau yn y cyfarfod hwnw, ar unig un wyf yn gofio, oedd Es. 4, 5, "A'r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Sion, ac ar ei gymmanfaoedd, gwmmwl a mwg y dydd, a llewyrch tan fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn." Nid oes genyf yr adgof lleiaf am un testyn na phregeth arall a glywais yn y cyfarfod hwnw, ond yr wyf yn cofio Hwfa a'i destyn. Yr oedd y son am dano fel bardd wedi creu dysgwyliadau ynom ni fel bechgyn ieuainc—oedd y pryd hwnw yn ceisio rhigymu tipyn ein hunain; ac yr oedd yr olwg arno yn y pwlpud, ei safiad talgryf, ei wallt llaes yn gorwedd ar ei ysgwyddau llydain, a'i wyneb llyfn, diflew, yn tynu sylw pawb. Beth yw hwn? gofynem; mae hwn yn rhywun, nid yw yr un fath a neb a welsom o'r blaen. Pan ddechreuodd lefaru teimlem ei fod yn ddawn newydd, ar ei ben ei hun. Dechreua yn ddistaw ac araf, gan fesur ei gamrau fel yr elai yn mlaen, parablai yn glir a chroew, gan dori ei eiriau yn berffaith. Meddyliem na chlywsom erioed Gymraeg mor seingar a pherffaith, a'r fath gyfoeth diderfyn o eiriau, a phob gair yn disgyn yn naturiol i'w le. Fel yr elai yn mlaen mae yn cyflymu ei leferydd, yn amlhau ei eiriau; ac fel y mae yn gwresogi, a hen saint cynes Salem yn ei borthi, mae y chwys mawr yn dechreu diferu ar y Beibl, ac erbyn hyn mae ei eiriau a'r ansodd—eiriau yn llifo allan yn rhaffau hirion fel defaid o gorlan, gan wasgu eu gilydd yn eu brys i ddod allan. Toc bloeddiai, a dyrchafai ei lais cryf fel udgorn. Chwareuai yn hir ar y gair "creu"—"gair bychan, crwn, cryno, cryf a grea—a gr—e—a—a. Gwaith Duw yw creu— neb greu ond Duw." Clywais y bregeth hono rai gweithiau ar ol hyny, yr oedd yn un o'i ddewisolion, a chlywais ef dan arddeliad amlwg; ond i mi dim tebyg i'r tro cyntaf hwnw yn hen gapel anwyl Salem.

GYDAG EF YN WRECSAM.

Yn fuan ar ol hyn, ac mewn canlyniad i anogaeth garedig ganddo ef, aethum i a'm cyfaill y Parch. J. Arfon Davies, i Wrecsam i weithio, er mwyn gweled ychydig o'r byd, ac, fel y meddyliem, er mwyn ymgydnabyddu ychydig a'r iaith Saesneg. Hon oedd ein taith gyntaf oddi cartref, ac yr oedd yn un i'w chofio. Cychwynasom yn blygeiniol iawn i'n taith ar foreu hafaidd yn Mehefin, gan feddwl cerdded bob cam. Croesasom afon Conwy mewn cwch yn agos i'r Abbey, yn Maenan. Dringasom i fyny, ochr sir Ddinbych i Langerniw, Meddyliem wrth basio am, "Uchel gwrnad cloch Llangerniw," yn nghan Jac Glan y Gors, i'r teulu a gollasant rifedi yr wythnos. Ond nid oedd amser i weled y gloch, cyfeiriasom yn mlaen i Lansanan, gan adael y Caedu, hen gartref y Salisbury a gyfieithodd y Testament Newydd, a'r Chwibren, hen gartref Hiraethog a Tango y ci, dros afon Aled, "Afon fach y bardd," gan olchi ein traed yn hono fel pererinion defosiynol; aethom hefyd heibio i'r Nant, lle bu Twm yn dechreu rhigymu cerddi, a'i fam yn "rhincian "canwyll frwynen iddo. Cyraeddasom Dinbych tua dau o'r gloch, yn flinedig iawn. Wedi cael tamaid o rywbeth i dori ein newyn, a gorphwys ychydig, penderfynasom fyned gyda'r trên oddi yno i Rhuthyn. Gadawsom Rhuthyn am Llanarmon. Erbyn cyraedd yno, a bron yn methu symud gan flinder, nid oedd llety i'w gael. O'r diwedd cawsom letty noswaith gan un Nuttal yn Rhydtalog, gwr caredig a lletygar, a gwr y daethom ein dau yn gydnabyddus iawn ag ef ar ol hyny. Yr oeddym erbyn hyn wedi teithio o ddeg i ddeuddeg ar hugain o filldiroedd, ac mor flinedig ag yr oedd yn hosibl i ni fod. Boreu dranoeth Cyfeiriasom dros y Bwlchgwyn, i lawr i'r Coedpoeth, trwy Adwy'r Clawdd, ac i Wrecsam erbyn tua dau o'r gloch. Wedi holi ychydig cawsom hyd i dy Mr. Williams, ac nid anghofiwn yn fuan y modd caredig a chynes y derbyniodd ef a Mrs. Williams ni i mewn. Yr oedd wedi rhoi siars i ni alw yn ei dy ef, ac y gwnai ei oreu drosom. Ac felly y gwnaeth. Wedi cael cwpanaid o de, a gorphwys ychydig, daeth gyda ni allan, a rhoddodd ni yn ngofal ein cyfaill calon byth wedi hyny, Mr. Joseph Edwards. Yr oedd eisoes wedi gofalu am waith i ni gyda y diweddar Mr. Charles Griffiths, King's Mill, un o hen ddisgyblion Williams o'r Wern, a'r hwn oedd ar y pryd yn teyrnasu ar bron holl felinau y wlad, a llu mawr o fasnachwyr blodiau. Yn y gyfeillach, cyflwynodd Hwfa ni yn garedig dros ben i'r eglwys; yr oeddym wedi gofalu am ein llythyrau aelodaeth. Rhoddodd gynghorion tadol i ni ar pa fodd i ymddwyn mewn lle dieithr, ac i fod ar ein gwyliadwriaeth rhag temtasiynau tref wyllt ac annuwiol. Anogodd yr aelodau i fod yn garedig wrthym, a gwneud sylw o honon fel dau fachgen ieuainc dieithr a dibrofiad o'r wlad. Ond yn wir prin yr oedd angen yr anogaeth, nid wyf hyd heddyw wedi gweled eglwys mor anwyl o'u gilydd, ac mor groesawus o ddieithriaid, a'r eglwys fechan hono yn hen gapel diaddurn Pentrefelin. Bu i ni yn gartref oddi cartref; a bu y gweinidog a'i briod i ni fel tad a mam. Nid oeddym ein dau ond crefyddwyr ieuanc, wedi cychwyn yn ngwres diwygiad mawr 59 a 60; ac yr oedd byw oddi cartref, ac mewn tref, yn fywyd hollol newydd i ni. Ac yr oedd cael cyfeillion caredig a gofalus fel hyn ini ar y cyfryw adeg ar ein hanes, ac yn y fath le, yn beth nas gallwn ei brisio.

Maddened y darllenydd i mi am ymdroi gyda chymaint a hyn o hunangofiant yn nghofiant Hwfa Mon, ni fuaswn yn gwneud oni bae ei fod yn rhoi mantais i mi i ddangos Hwfa fel bugail yn fy adnabyddiaeth cyntaf ag ef. Profodd ei hun i ni ein dau yn fugail yn gwir ofalu am ei braidd. Nis gallwn anghofio ei garedigrwydd, na pheidio teimlo ein rhwymedigaeth iddo. Er y byddai lawer oddi cartref y pryd hwnw, ac er fod gofal yr eglwys yn Brymbo ar ei law, eto ni byddai yn anghofio y ddiadell fechan yn Pentrefelin, yr hon oedd yn agos iawn at ei galon.

HWFA A'R YMFUDWYR AMERICANAIDD.

Tra yn paratoi at hyn o ysgrif tynwyd fy sylw gan ysgrif yn y Drych Americanaidd, a chan ei bod yn ddyddorol dros ben, ac yn rhoi golwg brydferth ar gymeriad Hwfa, ac arno yn ei gymeriad bugeiliol, cymerwn ein rhyddid i'ddodi dyfyniad o honi i mewn yn y fan hon. Y penawd yw.—ADGOFION AMI BAGILLT A HWFA MON"; Gan y Parch. J. A. Jones, Dartford, Wis.

"Pan yn morio i America yn 1851 mewn llong hwyliau o Aberystwyth, arosodd y llong wrth angor yn Bagillt, Swydd Fflint, nos Sadwrn, i ddadlwytho. Gwelsom wr bucheddol yn myned i'r capel oedd gerllaw ar foreu y dydd Sabboth. Dywedasom wrtho fod arnom awydd dod i'r cyfarfod, ein bod ar ein ffordd i'r America, a bod ein dillad goreu yn rhwym yn y cistiau yn y llong. "O, nid gwiw i chwi chwalu y rhai hyny," meddai, yr ydych yn eithaf da fel yr ydych chwi, deuwch gyda fi i'r bregeth." Aeth a ni yn mlaen i'r fainc at y pwlpud.

Ysgolfeistr o nodweddiad coeth a boneddigaidd oedd yn pregethu yn absenoldeb y gweinidog oedd yn glaf. Nefoedd fechan i ni oedd clywed y saint yn adrodd eu profiadau aeddfed yn y gyfeillach. Porth y nefoedd i mi oedd cael bod yn y fath le o dan yr amgylchiadau pan oedd y galon yn glaf wrth gefnu ar Gymru fendigedig, a gwagle ydoedd y dyfodol i gyd o'n blaenau.

Boreu dranoeth cyn myned i ffordd, arweiniodd ni i wyddfod Mr. Williams, gweinidog Annibynol eglwys Bagillt, oedd ar ei glaf wely, ond nid yn beryglus felly. Ni wyddem ar y pryd mai ei "nom de plume" ydoedd Hwfa Mon. Dyn ieuanc hardd, dymunol yr olwg arno ydoedd, oddeutu deg ar hugain oed, gallasem feddwl, gyda llygaid llawn a threiddgar, cyflym a bywiog, yn edrych arnom gyda dyddordeb a difrifoldeb. "Wel," meddai, "yr ydych chwi eich dau yn myned i America, mae'n debyg." Ydym Syr. Wel, cofiwch chwi eich dau fod yn blant da. A ydych yn addaw bod." Ydym, Syr. "O'r goreu."

Edrychai arnom ein dau gyda theimlad tad tyner, a dywedai drosodd a throsodd "Cofiwch fod yn blant da yn America." Cododd ei ddwylaw fel pe yn yr agwedd o'n bendithio a gollyngodd ni cefnfor ymaith gan ddymuno nawdd y nefoedd drosom ar y tymestlog ac yn yr Unol Dalaethau. Synasom yr amser hwnw ac yr ydym yn synu eto wrth weled dyn dyeithr o agwedd mor bur a defosiynol yn dymuno ein llwyddiant tymorol a thragwyddol, a hyny o eigion ei galon. Y mae yn agos i bum deg a phump o flynyddoedd er hyny, ond eto y mae cyngorion ac edrychiad difrifol Hwfa Mon mor fyw a ffres i mi heddyw a phe buasai'r cyfryw wedi dygwydd y ddoe.

Anfonasom adref o Utica yr aethai llawer o bethau yn angof, ond nad aethai pobl urddasol Bagillt a chyngorion difrifol Mr. Williams y gweinidog byth yn angof!"

Ond i ddychwelyd at Hwfa yn Wrecsam a Brymbo. Tybiaf mai y cyfnod y llafuriodd yn y cylch hwn oedd yr un mwyaf llafurus, a dichon y mwyaf llwyddianus, yn ei hanes fel gweinidog. Yr oedd yr adeg hon yn mlodau ei ddyddiau, yn ddyn ieuanc cryf a golygus, a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd yn dechreu fflachio dros y wlad. Am dano yn y cyfnod hwn ysgrifena ei gyfaill Rhuddenfab yn Ngheninen Gwyl Dewi fel hyn :-"Yn ystod y tair blynedd y bùm yn byw yn Ngwrecsam cefais y fraint o fwynhau cyfeillgarwch diffuant Hwfa Mon a'i anwyl briod, yr hon oedd yn un o'r boneddigesau mwyaf caredig a welais erioed. Yn y blynyddoedd hyny yr oedd Hwfa Mon yn enill nerth fel pregethwr o Sabboth'i Sabboth, fel y tyfodd ar unwaith yn ffefryn yr eglwysi trwy Gymru, fel y profai y galwadau parhaus o hob cyfeiriad am ei wasanaeth. Yr oedd hyny yn peri iddo fod oddi cartref yn fynych, er gofid mawr i'w wrandawyr; a'r hybarch Ishmael Jones y Rhos yn gyffredin fyddai ei giwrad. Byddem weithiau yn cael cyfarfod ysgol yn ei absenoldeb. Ond pa un bynag ai pregeth gan arall, ai cyfarfod ysgol, fyddai genym, byddai Hwfa Mon y Sul canlynol yn gwneud iawn am y golled; a byddai y gynulleidfa yn gwirioni ar ei ddawn, ac yn meddwl mwy o hono nag erioed."

Bu dyfodiad Hwfa Mon i Brymbo yn fywyd o feirw i'r achos Cymreig yn Wrecsam. Y pryd hwnw yr oedd yr eglwys Annibynol yno fel llin yn mygu, a bron wedi diffoddi. Yr oedd golwg salw a digalon ar yr hen gapel, ac yr oedd ei amgylchoedd yn waeth na hyny. Fel yr eglwys yn Pergamus, trigai yr eglwys fechan "lle yr oedd gorsedd-fainc satan." Yr oedd Pentrefelin y pryd hwnw yn cael ei adnabod fel Bedlam Gwrecsam, trigfan y Gwyddelod, enwog am ei meddwdod a'i hymladdfeydd. Ond yr oedd yno "ychydig enwau, y rhai ni halogasant eu dillad," rhai o "heddychol ffyddloniaid Israel." Aeth dau o'r rhai hyn i Frymbo, i osod eu hachos gerbron yr eglwys yno. Dywedent, yn ol geiriau Rhuddenfab yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, "fod yr achos yn Wrecsam, yn ol pob arwydd yn sicr o farw, os na ddeuai ymwared o rywle yn bur fuan." Wedi gwrando eu cwyn cyfododd Hwfa Mon a dywedodd, "Os bydd hyny yn foddhaol gan yr eglwys yma, yr wyf yn barod i roddi oedfa iddynt yn Ngwrecsam bob Sabboth am ddau o'r gloch, ac i gadw y gyfeillach ganol yr wythnos, am dymor, i edrych beth allwn wneud." Aeth y gynrychiolaeth adref yn galonog ryfeddol, ac fe ddechreuodd yntau gyflawni ei addewid ar unwaith; ac yn wyrthiol rywfodd dechreuodd yr achos yn Ngwrecsam ymfywiogi o hyny allan. Yr oedd pregethau Hwfa Mon y pryd hyny yn angerddol; tynai lonaid y capel bob Sabboth i'w wrando; a chwanegwyd lluaws at rifedi yr eglwys cyn pen ychydig amser. Erbyn hyn saif yr achos Annibynol yn Ngwrecsam yn gof-golofn oesol i lafur cariad gweinidog Brynseion. Mewn tair blynedd yr oedd yr achos oedd yn marw' wedi dyfod yn allu cryf yn Ngwrecsam, trwy weinidogaeth ddi-dal y llafurus a'r duwiolfrydig Hwfa Mon. Yr oedd ef wrth fodd ei galon tra fyddai achos ei Feistr mawr yn llwyddo dan ei ofal."

Ond ni chafodd Hwfa, mwy nag eraill o weinidogion Crist, ddianc heb gael ei boeni gan y rhai anhywaith a ymlusgant i'r eglwysi. Cyfarfu yntau, fel Hiraethog, a'r Ddafad ungorn gas," a chafodd aml i gorniad ganddi. Yr oedd yn aelod yn Pentrefelin tua'r adeg yma rhyw deiliwr, yn wr anfoddog a brwnt ei yspryd, a brathog ei dafod, a gwnaeth ymosodiad diachos ar y gweinidog un noson seiat. Ni chlywsom ei enw, dae waeth. Nid oedd yn ddyn iach iawn mae'n debyg, a dywedai y brawd a roddes ei hanes i ni fod ei flinder yn codi o natur ei afiechyd. Ond barn cariad oedd hon. Parodd y gwr hwnw boen calon i Hwfa, poen nas gallodd ei anghofio yn fuan. Er ei fod o duedd faddeugar a thosturiol, clywsom mai prin y gallodd faddeu i'r teiliwr hwnw, yr hwn cyn hir a alwyd i wyneb ei Farnwr. Yr oedd Hwfa Mon yn ddyn o deimladau cryfion a byw, teimlai yn angerddol oddiwrth fryntwch brodyr, suddai eu geiriau miniog i ddyfnder ei galon, ac nid hawdd yr anghofiai hwy. Fel cyfaill yr oedd yn ffyddlawn fel Jonathan i Dafydd; ond os cai dro gwael, digiai trwyddo, a dangosai hyny, ond nid trwy ddial. Yr oedd yn ormod o gristion i ddial, ac yn ormod o foneddwr i redeg neb i lawr yn ei gefn. Gwyddai Hwfa fod rhai yn ei fychanu ef yn ei gefn, yn ei feirniadu yn angharedig, yn hystyng pethau bryntion am dano, &'r rhai hyny weithiau yn frodyr, ond ni chlywid ef byth yn bychanu yn ol, nac yn enllibio ei gymydog yn ddirgel. Os na allai ganmol, gwell ganddo oedd tewi, ac yr oedd tewi Hwfa yn awgrymiadol. Weithiai difriid ef trwy y wasg, dan gysgod cowardaidd ffug enw, wrth gwrs, a phan welai beth felly cynhyrfai ei holl natur mewn digofaint at yr ymddygiad iselwael, ond ni ysgrifenai air yn ol. Llawer gwaith y tystiai yn ein gwydd na roddodd ei law erioed bin ar bapyr i ddifrio neb yn ei gefn. Y dystiolaeth hon oedd wir.

HWFA FEL DISGYBLWR.

Ystyrir disgyblu a cheryddu yr afreolus yn rhan bwysig, os nad y brif ran yn ngolwg rhai, o waith y gweinidog. Edrychir arno fel dyn llac a diofal am anrhydedd yr achos, os na fydd o hyd yn clecian y chwip, ac yn plycio yr efrau. Ond ni fuasai neb yn meddwl am Hwfa yn y cymeriad hwnw; nid oedd yn ei line. Gwell oedd ganddo adael i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf, rhag ofn y buasai wrth ddiwrieiddio yr efrau yn diwrieiddio y gwenith gyda hwynt. Os oes ddisgyblu a cheryddu i fod, gwneler hyny gan y swyddogion, a gwneler hyny gan y rhai mwyaf ysprydol, ac mewn yspryd addfwynder, a chyda'r amcan o adgyweirio. A'r unig ffordd effeithiol i ddisgyblu a cheryddu yr afreolus, ydyw i'r eglwys ddangos y fath ymarweddiad pur a santaidd ag a'i gwnelo yn rhy boeth i rai felly deimlo yn esmwyth ynddi. Pan ofynwyd i Moody beth fuasai yn ei wneud â liquor merchant, pe buasai yn aelod yn ei eglwys, yn ddyn o gymeriad diargyhoedd, ac yn haelionus at yr achos, a fuasai yn ei ddiarddel? "No," meddai yn benderfynol, but I would make my church too hot for him." Dyna yr unig ffordd ddiogel ac effeithiol i ni ddisgyblu—gwneud ein heglwysi yn rhy boeth iddynt. Pan mae yr eglwys yn ei lle, mae dychryn yn dal y rhagrithwyr yn Seion. Ond medrai Hwfa ddisgyblu a cheryddu yn llym, os gwelai achos amlwg yn galw am hyny. Gwelsom ef yn ceryddu o'r pwlpud ragor nag unwaith. Yr oedd yn eiddigeddus dros anrhydedd ac urddas y pwlpud; os gwelai ysgafnder neu gamymddygiad wrth wrando cenadwri yr efengyl, teimlai fod rhwymedigaeth arno i arfer ei awdurdod i geryddu y pryd hwnw, ac ni phetrusai nodi allan ar gyhoedd y personau fyddai yn camymddwyn, a rhoddai iddynt wers nad anghofient yn fuan. Gwelsom unwaith frawd a eisteddai yn union o flaen ei lygaid yn lle edrych arno yn troi dalenau ei lyfr emynau. Nid oedd y brawd hwnw yn meddwl ei fod yn gwneud dim yn anfoesgar, llawer llai ddiystyru y pregethwr, ond felly yr arferai fod yn aml, er poen i rai. Safodd y pregethwr yn fud am eiliad yn y pwlpud, setiodd ddau lygaid bychain treiddgar dan eiliau trymion ar y dyn, pointiodd ef allan a'i fys, a gorchymynodd ef i gau y llyfr, a dywedodd mai arwydd o ddiffyg synwyr, neu ddiffyg crefydd, neu anfoesgarwch, oedd i ddyn ddarllen ei lyfr emynau yn ei set yn lle gwrando. Dychrynodd y brawd, ac nid anghofiodd y cerydd, ac nid anghofiodd y gynulleidfa hono. Dywedir am y diweddar Barch. R. Humphreys y Dyffryn, pan y byddai ef yn cael ei anfon gan y Cyfarfod Misol i ryw eglwys i drafod mater o ddisgyblaeth, y byddai y cymydogion yn arfer dyweyd, wedi deall pwy fyddai y llysgenadwr. "Ni bydd eisiau yr un crogbren y tro hwn." Nid llawer o waith i'r crogbren a wnaetli Hwfa yn ei oes. Y llinellau amlycaf yn ei gymeriad ef oedd caredigrwydd a thynerwch; camgymerai rhai hyn yn feddalwch, ond nid y rhai a'i hadwaenent oreu.

A OEDD HWFA YN YMWELWR?

Gofynais i chwaer graff, ddeallus, oedd yn aelod yn Brynseion, Brymbo, pan oedd Hwfa Mon yn weinidog yno, ac un sydd yn parhau yn aelod ffyddlon yno hyd heddyw, sef Mrs. Price, sut un oedd Hwfa fel ymwelwr a'i bobl. "Ni byddai byth," meddai, "yn galw yn ein tai ond pan y byddai achos am hyny. Yr oedd yn rhy brysur i dreulio ei amser i chwedleua yn ein tai. Ond os byddai afiechyd, neu rhyw drallod mewn teulu, ac iddo gael gwybod, byddai yno ar draws pobpeth, ac nid oedd neb y cerid ei weled yn fwy. Darllenai a gweddiai gyda'r claf, a chynghorai a diddanai y rhai mewn trallod; ac os gwelai fod eisiau, nid a'i allan o'r ty heb adael rhyw ddarn arian ar ei ol yno." "Yr oeddym ni," meddai Mrs. Price yn mhellach, "yn hoff iawn o Hwfa, a Mrs. Williams, a cholled fawr i ni oedd ei ymadawiad oddi yma. Ond nis gallem ei feio, gan ei fod yn cael gwell lle."

Gofynais i frawd craffus, ac un gafodd gyfle i adnabod Hwfa fel bugail, flynyddoedd yn ddiweddarach ar ei oes, beth oedd ei brofiad ef o hono. A dyma fel yr ysgrifena ei gyfaill, Mr. Richard Griffiths, Llangollen, am dano:—"Mae'n debyg pe baid yn holi aelodau a chorph yr eglwysi yn y gwahanol leoedd y bu yn gweinidogaethu, mae dyma fyddai y ddeddfryd, eu bod yn hoff iawn o Hwfa Mon fel gweinidog a boneddwr caredig ac fel cyfaill, ond mai lled anfynych y byddai yn talu ymweliad a hwynt fel teuluoedd; ond byddent oll yr un mor barod i gydnabod gwirionedd arall sef hwn, pan y byddai aelodau o'i gynulleidfa neu wrandawyr mewn afiechyd neu mewn galar neu gyfyngder——y foment y cai Hwfa Mon glywed am y cyfryw byddai yn talu ymweliad â hwy ar ei union; ac os y byddai yn cynnal moddion bychan wrth erchwyn eu gwelyau, byddai yn ddoeth iawn yn newisiad rhan o'r ysgrythyrau pwrpasol i'r amgylchiad ac yn hynod effeithol ar ei luniau yn cyflwyno y cyfryw i ofal eu tad nefol; ac os byddai yn credu y gallai fod teulu mewn angen ni byddai byth yn canu'n iach a'r cyfryw heb adael swllt neu hanner coron yn nghil dwrn y claf. Mae gweinidogion llai enwog na Hwfa Mon yn sicr o fod yn fwy blaenllaw nac y byddai ef yn talu ymweliadau rheolaidd o dy i dy gyda'u cynulleidfaoedd, ond i ddyn oedd a chymaint o waith à Hwfa Mon yr oedd yn lled anhawdd iddo hebgor amser i dalu ymweliadau rheolaidd a'r cynulleidfaoedd, pan y byddant yn mwynhau iechyd.

Yr oedd hefyd yn gwneuthur gwasanaeth neullduol yn y cyfeillachau wythnosol a'r cyfarfodydd gweddio trwy wnenthur (1) yn y cyfeillachau sylwadau byr a phwrpasol ar sylwadau yr aelodau (2) ac yn y cyfarfodydd gweddio byddai ganddo sylw byr ar ol y weddi neu yr ychydig adnodau fyddant wedi cael ei dyweyd gan y rhai fyddai yn cymeryd rhan, a byddai yn hapus neillduol ar adegau yn gwrandaw adnodau ac yn holi y plant yn y cyfarfodydd hyn. Yr oedd yn hynod o hoff o blant ac yn gallu enill eu serch a'u sylw yn yr addoldy yn gystal ac yn y tai.

Clywais sylw am y diweddar Dr. Thomas Binney, un o gewri y pwlpud yn Llundain y ganrif ddiweddaf, digwyddodd glywed fod. y gynulleidfa yn cwyno a hyny yn lled chwerw mae hynod o anfynych y byddai yn talu ymweliad a hwy yn eu tai, ond ei fod yn pregethu yn anfarwol bob Sabboth, ac ar ddiwedd y gwasanaeth boreuol y sabboth canlynodd, crybwyllodd ei fod wedi clywed y gwyn ai fod am ddiwygio yn y peth hyny, ac meddai yr wyf am dalu ymweliad a chymaint o honoch fel aelodau a chynulleidfa o boreu llun hyd nos sadwrn. A'r Sabboth canlynol ar ol myned trwy y gwasanaeth o ddechreu yr oedfa—yr hyn a wnaeth yn hynod effeithiol—sylwodd ei fod wedi mwynhau ei hunan yn ddirfawr yn talu ei ymweliadau, ond yn anffodus nad oedd wedi cael un foment o amser i barotoi pregethau gogyfer a'r Sabboth ac felly meddai byddaf heddyw borau yn eich gollwng allan ar ol canu a gweddio. A chlywais na bu neb yn cwyno ar ol hyny nad oedd yn talu ymweliad a'i gynulleidfa. Dyma y wers y mae'r hanes yn ei awgrymu, os bydd gweinidog yn gwneuthur ei ddyledswyddau yn rymus yn y pwlpud, ac hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd ynglyn ar achos, mae peth annoeth ydyw disgwyl i'r cyfryw dalu ymweliadau cyson a'r tai annedd, os na bydd afiechyd neu alar neu gyfyngderau yn cyfarfod teuluoedd."

Eithaf gwir a ddywed Mr. Griffiths, mae yn amhosibl i unrhyw weinidog, gan nad faint ei alluoedd, gyflawni ei waith yn effeithiol yn y pwlpud ar y Sabboth, os treulia lawer o'i amser mewn ymweliadau dianghenrhaid â thai ei bobl yn ystod yr wythnos. "A house—going pastor makes a church—going people," meddai Dr. Chalmers. Digon tebyg, but a house—going pastor makes a weak pulpit. A rhaid i'r eglwysi gymeryd eu dewis, os am "house—going pastor" rhaid iddynt foddloni ar bwlpud gwan; ond os am bwlpud cryf rhaid iddynt beidio dysgwyl i'w gweinidog dreulio ei amser i ofer siarad yn eu tai. "Peidiwch," meddai y cawr bregethwr Ap Vychan, wrth roddi siars i eglwys ar ordeiniad gweinidog, "Peidiwch a dysgwyl iddo fod lawer o'i amser yn eich tai chwi; mi ddaw mi wn pan fydd achos yn galw, ond i chwi roi gwybod iddo, ond peidiwch a dysgwyl iddo fod fel ciwrad yn trotian o dy i dy i yfed te gyda chwi ar hyd yr wythnos; neu os gwnewch chwi, rhaid i chwi foddloni ar bregeth bach fain fain, fel pregeth ciwrad, ar y Sul. Mae ar bregethwr eisiau bod yn ei study yn darllen a myfyrio, a pharatoi ei bregethau, ac nid yn chwedleua ar hyd y tai. Ac oni fydda fo yn beth digrif gweled gweinidog yn myned a gwmpas tai ei bobl bob boreu ddydd Llun, fel casglwr trethi, a gofyn yn y drws, "Oes yma rhywun yn sal heddyw," ac felly yn mlaen nes myned rownd iddyn nhw." Ac eto rhaid ymweled, yn enwedig a'r esgeuluswyr a'r trallodus. Ond y gamp yw ymweled i bwrpas. Mae rhai yn ymweled yn rhy aml, eraill yn rhy anaml. Mae ymweled rhai yn fantais i'r weinidogaeth, mae ymweled eraill yn andwyol i'r weinidogaeth. "Buaswn yn gallu gwrando yn well ar Mr——— pe buasai heb fod yma yn adrodd straeon ffol i ddifyru y plant acw y dydd o'r blaen," meddai gwraig gall a chrefyddol am ei gweinidog. Dylai ymweliad y gweinidog â thai ei bobl fod yn foddion o ras i'r teulu, nid yn sych-dduwiol chwaith, a sanctimonious, ond yn hollol rydd, agos, a naturiol; nid yn rhyw swyddogol bwysig, neu offeiriadol, ond fel cyfaill caredig. Mae yn debyg mai yr un oedd yn medru gwneud hyn berffeithiaf oedd y diweddar Parch. W. Griffiths, Caerygbi. Yr oedd ymweliad y gwr anwyl a santaidd hwnw a thai ei bobl fel ymweliad Angel Duw, bron fel ymweliad Iesu Grist. Ni byddai byth yn aros yn hir, ond digon hir hefyd i ysgwyd llaw a phob un ac i ddyweyd rhyw air yn ei amser" wrth bob un, ac ni phasiai yr eneth forwyn os gwelai hi. Yr oedd ef yn gofalu na byddai ei ymweliadau a thai ei bobl yn anfantais iddo yn y pwlpud, ond yn hytrach yn fantais. Ac onid oedd amryw o'r hen weinidogion yn enwog fel ymwelwyr doeth. Ofnir fod y to presenol o weinidogion. yn mhell ar eu hol yn hyn. Cwynir fod ambell un gafodd ei addysg ar draul yr enwad, yn ystyried ei hun yn rhy fawr (?) i ymweled. a phobl ei ofal, yn enwedig â'r aelodau cyffredin, talant rhyw social visits a'r rhai pwysicaf. Mae eraill, o ddiogi neu ddiffyg meddwl, yn gadael y gwaith i'r ficar a'i giwrad, ac felly collant eu pobl. Mae eraill yn ymwelwyr mor annoeth fel y byddai yn llawer gwell iddynt beidio. Meddai y gwr ffraith hwnw, y Parch. J. Stephens, Brychgoed, wrth gynghori cyfaill unwaith ar y mater hwn, "Peidiwch a myned yn rhy aml i dai eich aelodau, ond bydd yn rhaid i chwi ymweled a hwy weithiau hefyd. Ceisiwch gael gafael ar y man canol. Y mae un yn cario y gwair yn rhy newydd, felly mae yn fynych yn llosgi ganddo. Y mae arall yn gadael y gwair yn rhy hir heb ei gario, felly gwair llwyd sydd ganddo bob amser. Y mae man canol i gario gwair. Ac y mae man canol ar ymweliadau gweinidogaethol. Peth mawr yw i chwi gadw eich aelodau rhag llosgi mewn hyfdra gormodol arnoch, a rhag llwydo mewn dieithrwch oddi wrthych. Cofiant fod man canol arni."



Nodiadau

[golygu]