Cofiant Hwfa Môn/Rhagarweiniad

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Cofiant Hwfa Môn

gan Evan Rees (Dyfed)


golygwyd gan William John Parry
Pennod I


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Evan Rees (Dyfed)
ar Wicipedia





RHAGARWEINIAD.

GAN Y PARCH. E. REES, "DYFED," CAERDYDD.

PARCH E REES
YR ARCHDDERWYDD

Bu dda genyf glywed fod Cofiant y diweddar Hwfa Môn i'w gyhoeddi yn ddiymdroi. Buasai oedi yn hir yn anfantais ar lawer cyfrif. Y mae yr adgofion am dano eto yn iraidd, a'i barch yn ddwfn yn mynwes y wlad, a chylch ei hen gydnabod yn eang ac yn gynhes, fel nad oes y petrusder lleiaf yn nglyn a'r anturiaeth. Fel rheol, cyhoeddir llyfrau Cymreig mewn ofn a dychryn, a cheir achos i edifarhau mewn llwch a lludw. Ond diau genyf y ca'r Cofiant hwn dderbyniad helaeth, gan fod cymeriad y gwrthddrych yn un mor ddyddorol, ac mor llawn o addysg. Yn ychwanegol at ddyddordeb yr hanes, bydd amrywiaeth dawn yr ysgrifenwyr yn fantais i ddwyn allan holl amrywiaeth y cymeriad, fel y ceir golwg gywir ar Hwfa o bob safle ar ei fywyd. Y mae Cofiantau teilwng yn fendith i fyd. Taflant oleuni ar frwydrau peryglus bywyd, a dysgant y ffordd i esgyn i wynfyd ac anfarwoldeb. Cawn olwg ar egwyddorion yn ymddadblygu, ac yn rhoi ffurf ar gymeriad, ac arweinir y darllenydd i gasgliadau cywir am yr hyn sydd yn gwneud dyn, ac yn rhoi gwerth ar ei hanes. A dyma ddull Cymru o anrhydeddu coffadwriaeth ei phlant. Y mae ei chofgolofnau marmor yn brin, ond ei cholofnau llenyddol yn dra lluosog. Peth cyffredin yn mhlith cenhedloedd eraill yw cerfio enwau eu henwogion a phin o haiarn ac a phlwm yn y graig, a chodi cerfddelwau mewn dinasoedd a phentrefi, i gadw côf o'u tadau gerbron y byd. Ond nid yw Cymru yn enwog yn hyn, ac efallai mai prinder manteision yn y gelfyddyd yw y prif reswm am hyny. Boddlon yw ar gareg fedd, pe na byddai arni ond dwy llythyren. Bu cryn son yn ddiweddar am golofn i "Llewelyn ein Llyw olaf," ond ni enillwyd clust na chalon y genedl, oherwydd paham, aeth y drychfeddwl teilwng yn fethiant. Diau fod digon o genedlgarwch yn y wlad, ond ni fyn ddyfod i'r golwg yn y cyfeiriad hwn. Y mae ei chwaeth yn gryfach at gofgolofnau llenyddol—at ddarluniau o fywyd, yn fwy nag at ddelwau cerfiedig.

Un o gedyrn Mon oedd Hwfa, ac nid y lleiaf o ardderchog lu yr ynys. Y mae y llecyn neillduedig hwn yn hynod yn hanes Cymru— llecyn llawn o draddodiadau, ac o adgofion cysegredig. Magodd dywysogion mewn tyddynod digon distadl, ac y mae llewyrch athrylith fyw yn aros ar eu henwau. Gall Mon ymffrostio yn ei phroffwydi, ac ymfawrhau yn ei beirdd. Yno y dechreuodd Hwfa broffwydo, ac yno y dechreuodd freuddwydio ar ddihun. Cyfeillachodd lawer a natur, ac aeth i fewn yn mhell i'w chyfrinach. Dysgodd ei gwersi yn awyddus, i beidio. 'u gollwng yn anghof byth. Ei goleuni hi dynodd ei dalent i'r golwg, cyn i haul arall dywynu ar ei amgylchiadau. Dyna ysbrydolodd egnion cyntaf ei awen, ac a roddodd flas iddo ar erlid ysbrydion. Teimlodd yn gynar fod rhywbeth cydnaws a natur yn gyfaredd dirgel yn ei ysbryd, ac ymroddodd i'w ddadblygu er difyrwch iddo ei hun. Carai yr encilion, a hoffai unigedd, a chlywai swn drychiolaethau yn ymsymud o'i gwmpas, nes peri iddo anghofio ei hun wrth geisio deongli eu cenadwri. Digon prin fu ei fanteision, ond nid anffawd i gyd oedd hyny. Cafodd rhai o'r tueddiadau cryfaf oedd o'r golwg yn ei feddwl lonydd i dyfu yn naturiol, heb i drais allanol mewn un modd eu gwyrdroi o'i anfodd. Unwaith y ceir allan gyfeiriad meddwl, gwyn ei fyd wedyn os gall droi pob ffrwd i'w felin ei hun. Diffyg manteision ddaeth i'r golwg a rhai o'r cymeriadau mwyaf gwreiddiol mewn cymdeithas—cymeriadau digaboliad, heb rodres na mursendod yn andwyo'u natur. Y mae yn iechyd i fyd daro wrthynt am dro, a threulio awr yn eu cysgod; a gresyn eu bod yn darfod o'r wlad, i roi eu lle i'w salach. Dynion wedi tyfu fel derw ar gloddiau, heb olion bwyell ar eu gwraidd na'u brig. Ni aflonyddwyd ar dueddiadau naturiol meddwl Hwfa, a thyfodd yn fardd yn ddiarwybod iddo ei hun Ceir trem ar ei fywyd borenol mewn lle arall yn y gyfrol hon.

Yr oedd Hwfa yn gymeriad eithriadol yn inhob ystyr—yn ei allanolion, yn ei ddull o feddwl, yn ei barabl, ac yn ei gymdeithas. Yr oedd yn y cwbl fel efe ei hun, ac nid fel neb arall. Y fath bersonoliaeth urddasol! Yr oedd yn amlwg yn mhlith mil, ac nis gallai efe fod yn guddiedig. Tra yr ymgollai y lluaws yn nghysgod eu gilydd, fel rhedyn ar fynydd, yr oedd Hwfa yn tynu sylw pawb, a'i bersonoliaeth hardd yn cymhell edmygedd. Gofynid yn ddystaw wrth ei weled yn agoshau, "Pwy yw hwn?" "Beth all hwn fod?" "Nid yw hwn yr un fath a phawb." Yr oedd ei wyneb llawn, ei drem feddylgar, ei osgo weddus, ac urddas ei holl ymddangosiad, yn gwneud i'r hwn a'i pasiai edrych yn ol dros ei ysgwydd i gael ail olwg arno. Y mae dynion felly yn brin, ac amheuthyn yw taro wrthynt i dori ar unffurfiaeth cymdeithas. Yr oedd yn addurn yn mhob cylch, a'i wyneb yn llefaru, pan fyddai ei enau yn fud. Eithriad oedd cyfarfod a pherson a chymaint o fawrhydi o'i gwmpas, ac yr oedd ei harddwch allanol yn gynrychioliad teg o'r dyn oddi mewn. Nid felly y mae gyda phawb. Y mae y bodau duaf, weithiau, yn ymrithio ar lun engyl. Dyna ystyr y cyngor hwnw, "Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn." Gwyddom fod llawer yn y byd yn ddim amgen na beddau wedi eu gwynu. Ond yr oedd dynoliaeth Hwfa yn hardd fel ei wyneb. Argyhoeddid ni yn ei gymdeithas, ei fod yn foneddigaidd, ac yn hawdd ei drin. Gallai daro ei droed i lawr yn drwm pan fyddai angen, ond hyd y gwelais i, ymladdwr sal iawn ydoedd, a thristwch i'w galon oedd swn cyflafan. Gallai ruo fel llew, a gwneud taranau a'i lais, heb newyn am waed, na chynddaredd yn ei gymhell. Mab tangnefedd ydoedd, yn hollol ddiddichell, a difeddwl drwg. I'w gydnabod, yr oen, a'r golomen, oedd amlycaf yn ei gymeriad. Anaml y gwelwyd y fath gorfforiad o ddiniweidrwydd. Yr oedd mor llednais a gwyryf, ac mor dyner a chariad mam. Hawdd dylanwadu ar ddyn felly, a hawdd ei arwain i brofedigaeth yn ddiarwybod iddo ei hun. Ymhyfrydai mewn caredigrwydd, a gwnai gymwynas dan ganu. Yr wyf yn rhoddi arbenigrwydd ar y pethau hyn, am fod syniad llawer yn y wlad am dano yn wahanol. Nid oes dim yn cyfrif am hyny, ond diffyg adnabyddiaeth o hono.

Meddai ar dalent ffrwythlawn, ac yr oedd ei holl gnwd yn gynyrch ei feusydd ei hun. Nid oedd lloffa yn brofedigaeth iddo, ac ni ddysgodd fyw ar lafur pobl eraill. Yr oedd yn Hwfa yn mhob peth a wnai. Meddyliai yn eang, ac ni thalodd fawr sylw i'r gelfyddyd o roi llawer mewn ychydig. Ymhelaethu oedd ei brofedigaeth. Pan godai ar ei draed, yr oedd fel dyn yn ymwregysu i deithio cyfandiroedd, a cherddai yn gryf ei anadl wedi i feidrolion eraill ddiffygio ar y daith. Sylwai ar bobpeth ar y ffordd, a gwelai dwmpathau yn tyfu yn fynyddoedd. Cymerai amser i gyfarch pob blodeuyn, ac ymgomiai a'r grug a'r ysgall ar ei lwybr. Diystyrai bob llwybr byr at ei nod, ac ymddifyrai yn hamddenol ar hyd y rhodfeydd mwyaf cwmpasog, heb ofyn cyfarwyddyd neb. Er hyny, yr oedd ei nod yn y golwg o hyd a'i gyfeiriad yntau ato, ond ni frysiai i'w gyrhaedd tra y tywynai haul ar ei feddwl. Ni theimlai un anhawsder i siarad, a'i gamp oedd tewi wedi cychwyn. Daliai ati yn hir, ac weithiau, yn "ofnadwy hwy na hir," am fod manylion distadlaf ei bwnc yn tynu ei sylw. Gallu arbenig yw hwn, a thra bendithiol yn aml; ond nid yw yn fantais i gyd mewn oes mor ddiamynedd. Oes y darluniau ydyw, a'r rhai hyny yn ddarluniau parod. Y mae edrych arnynt yn cael eu tynu, allan o'r cwestiwn. Digon yw trem frysiog ar un, ac heibio at y llall, a goreu po leiaf o egni meddwl ofynir i'w cymeryd i fewn. Anogir byrder ar bob llaw, a phethau byrion sydd yn boblogaidd yn mhob cylch. Clywsom ddywedyd gan y rhai gynt, fod y fath beth yn bod a "phleser boen"—ymgodymu a gwirioneddau cyndyn, nes eu gorchfygu a'u darostwng. Ond y mae y pleser boen, wedi rhoddi ffordd i bleser iach, hawdd ei gael, a haws ei golli. Dyna ysbryd yr Ond nis gallai Hwfa fod yn fyr, na meddwl am gefnu ar ei "dragwyddol heol." Creulondeb ag ef ei hun, ac a'i gynulleidfa, oedd ei drefnu i bregethu yn un o ddau, gan fod ei bregeth ef ei hun, fel rheol, yn ddigon i dri chyffredin. Fe'i magwyd yn nghyfnod y cewri, ac yn swn pregethau hirion nad oedd neb yn blino arnynt, a meddianwyd yntau gan yr un ysbrydoliaeth. Aeth i fewn i linell y goreuon o'r tadau, a chredai mai cam a'r efengyl oedd troi pregeth yn bwt o anerchiad, a ffwrdd a hi. "Mesur da, dwysedig, ac yn llifo drosodd," oedd rheol Hwfa, ac nid ymgynghorai a chig a gwaed yn ei swydd.

Yr oedd ei bregeth yn gyfuniad o feddwl, ac o ddawn; a'r naill yn gweddu i'r llall, a'r ddau yn gweddu i Hwfa. Symudai yn mlaen yn araf, yn ddystaw, ac yn hollol hunan feddianol. Parablai yn groew, a'i Gymraeg yn soniarus, a theimlid cyn hir fod blas awen ar rai o'i frawddegau. Deuai ambell air aruthrol i'r golwg, nad oes hawl gan neb ond beirdd i'w ddefnyddio-gair fuasai yn berygl i beirianau llafar dyn cyffredin. Erbyn hyn, gwelid y gynulleidfa yn ymfywiogi, ac yn rhoi ei hun mewn trefn i fwynhau. Cyn hir, torid ar lyfnder ei leferydd gan ysbonge uchel ar air, a thawelai yn ol eilwaith, wedi taro'r gwamal a rhyw haner dychryn. Cynyddai'r dyddordeb fel y cynyddai'r hwyl, ac yn sydyn, dyna floedd ddieithr arall yn diweddu mewn sibrwd. Byddai yn foddfa o chwys erbyn hyn, ac ysgydwai ei wallt bir, fel llew yn ysgwyd y gwlith oddiar ei fwng; ac wedi hir fygwth, gollyngai ei dymhestloedd yn rhydd. Ond po fwyaf y taranai, anhawddaf ei ddeall, am ei fod yn taranu yn wahanol i bawb eraill. Ymgollai ambell air yn y cynhwrf, gan ein gadael i ddyfalu beth allasai fod. Yr oedd yn ddifyr ei glywed yn bloeddio geiriau trisill, gan eu gorphen ar dri chynyg; ac fel rheol, cadwai y sill olaf bron yn llwyr iddo ei hun. Ni chlywsom neb arall yn ynganu geiriau yr un fath, ac ni chlywodd yntau ychwaith. Yr oedd yn wreiddiol hollol iddo ei hun, a champ i neb ei efelychu gydag un mesur o lwyddiant.

Y mae ei gynyrchion barddonol, gan mwyaf, o flaen y wlad, yn ddwy gyfrol daclus; a gwnaeth yn ddoeth iawn eu cyhoeddi yn ei fywyd. Nis gallai neb arall ar ei oreu, wneud hyny fel yr awdwrei hun. Y mae pob bardd o fri yn cyfansoddi milltiroedd o bethau na ddymunai iddynt fod mewn casgliad o'i weithiau, ac i farnu ei deilyngdod wrthynt. Cynyrchion difyfyr i gael llonydd gan gyfeillion, a dyna ddiwedd am danynt. Ond cyhoeddwyd y rhan fwyaf o weithiau Hwfa dan ei olygiaeth ef ei hun. Ni pherthyn i mi roi barn arnynt ar hyn o bryd, gan y ceir arall yn gwneud hyny yn y Cofiant hwn. Barddonodd lawer, a bu yn dra llwyddianus mewn ymgyrchoedd peryglus. Cafodd farn uchel llenorion goreu'r genedl yn ei ddydd, ar ei allu llenyddol, ac yr oedd hyny yn dawelwch meddwl iddo, yn wyneb pob ymosodiad oddiwrth y rhai na welent ragoriaeth, ond yn yr eiddynt eu hunain a'u cyfeillion. Ei brofedigaeth yma eto oedd meithder. Canai yn hir ac yn gwmpasog, a darostyngai bobpeth at ei wasanaeth. Yr oedd ei gynllun, fel rheol, yn dra eang, a gellid cerdded drwy ganol ei faes heb weled ei derfynau. Gan ei fod yn cau cymaint o dir i fewn, prin y gallesid dysgwyl iddo ei droi i gyd yn dir gwenith, Cerddai drosto i gyd, a gwnai ei hun yn gynefin a'i holl lwybrau; ond y perygl oedd i arall dori ei galon wrth geisio ei ddilyn, a throi yn ei ol. Ar destyn a'i derfynau wedi eu nodi allan gan arall, yr oedd dan anfantais fawr, oblegid byddai ei gynllun ef yn ymestyn yn mhell dros y terfynau ar bob llaw. Cam ag ef oedd ei gyfyngu, gan fod y greadigaeth yn rhy gul iddo.

Yr oedd ei arddull hefyd yn meddu ar arbenigrwydd—yn gref, ond braidd yn drystfawr. Myn rhai nad yw arddull felly yn gydweddol a natur. Ond yr oedd yn naturiol hollol i Hwfa. Dyna nodwedd ei feddwl, a hoffder ei awen. Nid yw natur wedi gwneud pawb i ymhyfrydu yn yr un gwrthddrychau. Mewn awelon a blodeu y mae un yn byw; mae swyn i arall mewn storm a rhaiadrau.. Swn tymhestloedd, a'rhaiadrau crychwyn sydd yn arddull Hwfa, ond yr oedd hyny mor naturiol iddo ef ag awel a heulwen i eraill. Credai fod barddoniaeth mewn geiriau, a chredai yn iawn; ond nid oedd hyny yn ei wneud yn ddibris o feddylddrychau. Y mae dynion yn gwahaniaethu mewn gwisgoedd—rhai mewn sidan a phorphor, eraill mewn nwyddau o waith cartref; ond ni feddyliai neb am luchio llaid at eu gilydd am eu bod yn anhebyg. Y mae cymaint o wahaniaeth yn y dull of feddwl, ag sydd yn y dull o'i osod allan, a phob un yn naturiol iddo ei hun. Ond arddull rhwysgfawr oedd yr eiddo Hwfa, ac ymhyfrydai mewn geiriau mawrion, weithiau, o'i greadigaeth ei hun, i dynu sylw at yr hyn fyddai ganddo mewn llaw ar y pryd. Gwnai hyny yn aml wrth areithio, yn fwy er dyddori ei gynulleidfa na dim arall. Cofus genyf pan yn hogyn, ei wrando yn darlithio, gyda llawer o nerth a hwyl. Nid oes genyf adgof am ddim o'r araeth, oddieithr ychydig eiriau nodweddiadol hollol o Hwfa; a thebyg y buasai y rhai hyny hefyd yn anghof pe'n eiriau symlach. Yr oedd yn desgrifio helfa yn rhywle, ac yn son am "y milgi yn milgieiddio, a'r ysgyfarnog yn ysgyfarnogi," nes peri i ddyn deimlo fod clust yn ymglusteiddio" yn swn yr helfa. Hawdd fuasai cael geiriau symlach i osod allan egni yr ymgyrch, ond y mae yn amheus a fuasent mor effeithiol i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg ar y pryd. Ei hofflinell oedd. y synfawr a'r cynhyrfus. Clywai storm mewn gwlithyn, a therfysg mewn dagrau. Tynai fellt o wybreni digwmwl, rhoddai liw of frawychdod ar brydferthwch, a gwnai ochenaid yn ddaeargryn. Yr ysgythrog, a r ofnadwy oedd yn naturiol iddo, a dyna'i ddull o ganu. O'm rhan fy hun, gwell genyf lyfnder diymdrech, a thlysni didrwst; ond nid yw hyny yn rheswm y dylai pawb fod yr un fath. Y mae amrywiaeth arddull yn tori llawer ar unffurfiaeth y byd llenyddol, ac i bob arddull gareg adsain mewn rhyw galon neu gilydd.

Nodwedd amlwg yn marddoniaeth Hwfa, yw ei pherthynas a'r dwyfol. Yr oedd yn gweled Duw yn mhob peth. Ni fyn rhai ei weled mewn dim, ac ystyriant ei gydnabod yn wendid. Dynion o'r ddaear, yn ddaearol, ac yn fwy na haner anffyddwyr yw y rhai hyn. Boddlon ydynt i dalu y warogaeth uchaf i dduwiau Groeg, ac i ofergoelion cenhedloedd eraill; ond na sonier am y Duw byw, nac am sylweddau mawrion y byd a ddaw. Canodd yr hen feirdd cenhedlig yn ardderchog i'w duwiau rhyfelgar; ond nid yw paganiaeth ynddi ei hun yn amod anfarwoldeb, ac nid yw awen i bara byth ac yn dragywydd i wasanaethu ar dduwiau gau. Y mae goleuni dadguddiad wedi tori'n fore ar Gymru, ac os yw ei beirdd yn canu yn yigoleuni hwnw, a llewyrch gwirionedd pur ar eu meddyliau, gwyn eu byd. Nid oes raid i ddyn aros yn bagan mewn tywyllwch i ddod o hyd i feddyliau teilwng. Yr ydym fel yr Hebreaid, yn genedl o dueddiadau crefyddol dyfnion, a gwirioneddau yr efengyl wedi cymeryd meddiant o reddfau dyfnaf ein natur-wedi dod yn rhan o honom, fel nas gallwn feddwl na gweithredu, heb gydnabod Crewr a Chynaliwr, a bendigo Ceidwad sydd a'i hanes yn ogoniant ac yn ras. Dyna'r rheswm fod gwedd mor dduwinyddol ar lenyddiaeth Cymru. Nis gallwn osgoi yr elfen hon, heb wneud cam a'n natur foesol fel cenedl; a phell fyddo'r dydd i feirdd Cymru wadu eu Duw, i foddio meddyliau sydd a mwy na'u haner yn glai. Tra fyddo'r Presenoldeb dwyfol yn y wlad, na feied neb yr offeiriaid am fod clychau'r cysegr yn crogi wrth odreu eu gwisgoedd.

Llanwodd Hwfa le amlwg yn nghylchoedd cyhoeddus Cymru. Yr oedd ei genedlgarwch yn angerddol, a charai ei wlad fel ei enaid ei hun. Soniai lawer am ei genedl, a dyma un o'r geiriau cynhesaf ar ei wefus. Canmolai lawer ar ei wlad, a braidd na chredai fod y ffordd i'r nefoedd yn nes o Gymru nag o un man arall. Yn ngwasanaeth ei wlad y bu fyw, ac yn ei chariad y bu farw. Ymffrostiai yn ei dadau, a dygai fawr sel dros eu defion. Yn Ngorsedd y Beirdd, yr oedd fel brenin yn mhlith llu, a phawb yn foddlon iddo deyrnasu mewn heddwch. Gallesid meddwl yno iddo gael ei greu o bwrpas i fod yn Archdderwydd, a rhoddai addurn ar y swydd, ac ar ei holl gysylltiadau. Pwy mor olygus ar ben y maen? Yr oedd ei wyneb llydan fel codiad haul ar y cylch. Edrychai y cenhedloedd arno gyda'r dyddordeb mwyaf, a chredent ei fod yn gorfforiad o gyfrinion yr oesoedd gynt. Erbyn hyn, sefydlir gorseddau llenyddol mewn gwledydd eraill, ac efelychir Cymru yn y cyfeiriad hwn, i gadw ysbrydiaeth genedlaethol yn fyw. Y mae yr holl lwythau Celtaidd, bellach, wedi deffro ar bob llaw, ac yn agoshau at eu gilydd mewn. brawdgarwch a chydymdeimlad; a chydnabyddant yn rhwydd fod y deffroad cyffredinol hwn yn gynyrch Gwyl genedlaethol Cymru. O'i llwyfan hi, ac o gylch ei meini, yr aeth y tân allan, ac y mae yn llosgi yn genedlgarwch cynhes ar allorau cenhedloedd eraill. Dylai hyn enyn parch a chariad dyfnach at yr hen Sefydliad, a chreu awydd am ei wneud yn allu cryfach nag erioed i gyrhaedd yr amcanion uchaf. Glynai Hwfa wrth yr Orsedd am ei fod yn credu fod iddi genhadaeth er daioni; a gall fod o wasanaeth pwysig i'r Eisteddfod gydag ychydig undeb a chydweithrediad. Gan nad pa ddiffygion a berthyn iddi, y mae yn drwyadl Gymreig, ac nis goddef i unrhyw ddylanwad gyfyngu ar hawliau yr iaith. Y mae hyn yn rheswm dros i bob Cymro roi ei anadl o'i phlaid, a gwneud ei oreu i eangu cylch ei dylanwad. Gwyddom fod yr Eisteddfod ei hun, er's talm, wedi syrthio oddi wrth y gras hwn, ac wedi anghofio ei Chymraeg bron yn llwyr; a gresyn fod yr hen iaith mor ddiystyr o dan ei chronglwyd ei hun. Arwyddair sydd yn dod yn boblogaidd y dyddiau hyn yw. "Dim iaith, dim cenedl." Efallai mai darn o wirionedd yw hyny; ond y mae yn ddarn mawr iawn, oblegid y mae iaith yn rhan bwysig o fywyd cenedl, ac yn un o'r llinynau cryfaf i'w dal wrth ei gilydd. Heblaw hyny, y mae yn etifeddiaeth y tadau i'w plant ar eu hol.

Hawdd cyfrifam ymlyniad diollwng Hwfa wrth yr Eisteddfod—yr oedd yn un o'i phlant. Urddwyd ef ar ei maen hi ganol y ganrif ddiweddaf, a bu yn ffyddlon ac yn wresog o'i phlaid drwy ei oes. Yr oedd yn ddyledus iddi am ei nawdd, ac y mae hithau yn ddyledus iddo yntau am ei wasanaeth. Hen Sefydliad ardderchog yw yr Eisteddfod, ac y mae ynddi rywbeth sydd yn gydnaws iawn ag anianawd y genedl. Gwelodd lawer tro ar fyd, ac odid na wêl lawer tro eto cyn y bydd farw. Y mae oesoedd yn cyfnewid, ac yn ein dwyn yn ddarostyngedig i amgylchiadau newyddion, a chyfleusterau gwell. Y mae manteision addysg erbyn hyn, yn trawsnewid llawer ar bethau, ac yn creu y chwyldröadau mwyaf bendithiol yn holl gylchoedd bywyd. Er hyny, y mae i'r Eisteddfod ei lle ei hun, a gall fod o wasanaeth pwysig i'r wlad, heb ei llyncu i fyny gan sefydliadau diweddarach. Yn wir, y mae manteision addysg uwchraddol y wlad yn ddyledus iawn i'r Eisteddfod ei hun. Hon gadwodd y tân yn fyw nes i genedlgarwch diweddar ddeffro o gwsg, a chodi llef dros hawliau Cymru. Dyma'r Sefydliad addysgol goreu feddem yn yr hen amseroedd, pan oedd manteision addysg mor brin yn mhlith y werin. Chwerddir am ben y syniad o alw'r Eisteddfod yn goleg; ond y mae hyny yn codi o gulni meddwl y rhai nas gwyddant beth yw ymladd ag anghenion. Os nad yw yn goleg yn ystyr Prifysgolion y dyddiau hyn, fe brofodd ei hun yn goleg i lawer yn y dyddiau gynt, pan nad oedd yr un golofn arall i'n harwain trwy'r anialwch. Y mae llawer o brif enwogion y wlad yn ddyledus iddi am eu dysgu i feddwl, pan nad oedd cyfryngau eraill wrth law. Deffrodd dalentau a galluoedd fuasent wedi cysgu eu hunain i farwolaeth pe cawsent lonydd. Y mae deffro meddwl o'i gysgadrwydd, a rhoi cyfeiriad iddo mewn ymchwil am anfarwoldeb, o fendith fawr iddo ei hun, ac o wasanaeth mawr i gymdeithas. Mewn llafur y mae nerth a bywyd meddwl, ac y mae creu awydd am ragori yn gaffaeliad i fyd. Dyna mae'r Eisteddfod wedi ei wneud i lawer yn y wlad. Nid yw yn proffesu eu gwneud yn ddysgawdwyr, ond eu cynhyrfu o'u dinodedd tawel, a'u cyfeirio i dir uwch. Myn rhai gondemnio cystadleuaeth, am ei bod lawer pryd yn cynyrchu pethau digon sal. Ond os yw'r dyn ar ei oreu, tybed y gwnai yn well na'i oreu yn annibynol ar gymhellion allanol? Tybed nad yw y rhedegwr yn ymegnio yn fwy, pan yn teimlo fod arall ar ei sawdl? Cystadleuaeth sydd yn cadw'r byd yn effro yn mhob cylch, ac y mae yn ysbrydoliaeth ardderchog i'w yrru yn ei flaen.

Bydd enw Hwfa fyw yn hir, a'i glod yn uchel wedi i'r fynwent ei ollwng dros gof. Cododd ei golofn yn ei fywyd, a bydd yn amlwg i'r oesau a ddêl yn hanes Cymru. Gwelodd lawer o anhawsderau, a daliodd i ddringo drwyddynt i loewach dydd. Daeth i'r golwg yn ei nerth ei hun, heb neb i ganu udgyrn o'i flaen, ac enillodd boblogrwydd eithriadol yn ei holl gylchoedd. Y mae hyn yn brawf o gynheddfau naturiol gryfion, a bu dan orfodaeth drwy ei oes i'w cadw'n loew. Wedi ei ddigoni a hir ddyddiau i wasanaethu ei wlad, ei genedl, a'i Dduw, gorffwysed mewn hedd.

Blodeu'r dydd dan belydr da,
Gynhauafwyd gan Hwfa.

Nodiadau[golygu]