Neidio i'r cynnwys

Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar/Rhan II

Oddi ar Wicidestun
Rhan I Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar

gan John Davies, Llandysul

Rhan III

RHAN II.

FEL DUWINYDD, BARDD, A LLENOR.

Wedi darllen y Bibl—Barn a chrebwyll—Y prif lyfrau a ddarllenodd— Duwinyddiaeth yn unig destun ei fyfyrdod a sylwedd ei bregethau—Pregethwr poblogaidd B'le 'roedd cuddfa ei gryfder? nid yn ei lais, na chyflymder ei ddywediad, na phrydferthwch ei iaith, na thlysni ei frawddegau-Desgrifiad o hono fel pregethwr-Ei ymddangosiad yn yr areithfa—Arddull ei bregethau—Ei draddodiad—Ei ffigyrau—Ei athrylith—Ei dduwiol—frydedd wrth draddodi—Ei gyfansoddiadau barddonol—Yn adnabyddus â theithi barddoniaeth—Yn meddu gradd helaeth o ddarfelydd ac awen—Ei gynyrchion llenyddol.

Yr oedd y Bibl yn llyfr cyfarwydd gan ein brawd ; yr oedd hyn yn amlwg yn ei rwyddineb yn gwneyd cyfeiriadau at wahanol ranau o'r llyfr sanctaidd. Y gwir yw, yr oedd cleddyf yr Ysbryd yn arf wrth ei law. Nid yn aml y clywid pregethwyr yn gallu dyfynu cynnifer o adnodau wrth bregethu a gwrthddrych ein cofiant, a byddai bob amser yn geirio yr adnodau yn ol y geiriad Ysgrythyrol. Peth annaturiol a gwrthun i'r graddau eithaf yw clywed dynion cyhoeddus yn geirio yr adnodau yn eu hiaith eu hunain, a chyflwr mwy truenus fyth yw fod pregethwyr yn anghyfarwydd yn y llyfr hwnw a broffesant eu bod yn ei ddysgu i eraill.

Yr oedd Mr. Williams yn meddu barn a chrebwyll. Yr oedd yn deall yr hyn a ddarllenai; medrai gloddio i ddyfnderoedd y gloddfa ysbrydol. Y gwir yw, yr oedd ganddo agoriadau teyrnas Dduw. Nid yn unig yr oedd yn deall, ond medrai bregethu ac ymresymu ger bron ei gynulleidfa fawrion bethau Duw yn eglurhad yr Ysbryd a chyda nerth mawr. Yr oedd

ei bregethau fel maelfa wedi ei llwytho â nwyddau trugaredd. Buom yn siarad â'i wrandawyr cartrefol lawer gwaith-dynion o farn a phwyll—a byddent oll yn dwyn tystiolaeth i'r un gwirionedd.

Yr oedd ein brawd yn ddarllenwr mawr trwy gyfnod boreuol ei fywyd, ac yn adnabyddus â'r prif lyfrau ar Dduwinyddiaeth, megys Dr. Owen, Henry, Scott, Adams, Howe, &c., &c.

Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith mai yr awdwr olaf a roddodd yr agoriadau mwyaf trylwyr i'w feddwl i ystafelloedd y cysegr. Gellir dweyd mai duwinyddiaeth fu maes mawr ei fyfyrdodau; dyma yr hoel ar ba un y crogai ei holl bregethau. Efengylwr oedd ein brawd, ac yno yr oedd ei brif ddedwyddwch. Ni chlywid ef byth yn pregethu seryddiaeth, daearyddiaeth, morwriaeth, nac athroniaeth; ei aeth fawr ef oedd "fod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau."

Yr oedd Mr. Williams yn bregethwr poblogaidd, ac yn un o brif bregethwyr y Gymmanfa, a byddai yn aml yn cael ei alw i gyfarfodydd mawrion; a gellir dweyd, heb arfer gormodiaeth, lle bynag y byddai, fod hoff ddyn y bobl yno; yr oedd ei enw yn adnabyddus fel y cyfryw trwy Gymru. Naturiol gwneyd ymchwiliad am guddfa ei gryfder fel y cyfryw.

Mae yn amlwg nad yn ei lais y gorweddai. Ceir nerth ambell un yn ei lais, megys rhyw ariangloch nefol; cryged neu fethed hwnw, dyna hi yn llongddrylliad ar y pregethwr. Yn hytrach i'r ochr aflafar yr oedd ganddo ef, eto nid oedd yn boenus i'r glust. Rhwydd adnabod wrth ei wrandaw nad astudiodd elfenau sain i fod yn agoriad calonau y bobl; bloeddiadau afreolaidd fyddai ganddo yma a thraw.

Nid yn nghyflymder ei ddywediad yr oedd ei boblogrwydd i'r ochr araf y byddai yn tueddu—ac hefyd nid yn ngodidogrwydd ei ymadrodd, na thlysni ei frawddegau.

Yr oedd Mr. Williams yn gwybod teithi iaith yn dda, ac yn gyfoethog o drysorau iaith. Gallai, fel Paul, arfer "godidogrwydd ymadrodd"; eithr yr oedd yn ymwadu â hyny, "fel na wnelid croes Crist yn ofer." Yn ol ein barn ni, yr oedd dylanwad neillduol ein brawd yn gorwedd yn yr hyn a ganlyn:—

1af—Ei ymddangosiad ger bron y gynulleidfa.—Pan safai o flaen y bobl, hawdd gellid gweled fod yno un ag oedd wedi dianc yn lladradaidd i gysegr sancteiddiaf eu serch; byddent yn gwenu ac yn llygad loni y naill ar y llall. Y rhan fynychaf gwnai roddi pesychiad cryf, a dichon ysgydwad afreolaidd i'w ben nes i'w wallt dalsythu yn annhrefnus. Yr oedd y bobl bob amser yn cael hwyl wrth weled ei agweddau felly, a diau fod ei bresenoldeb enillgar yn rhoddi mantais fawr i'w ddylanwad.

2il.—Arddull ei bregethau.—Ei arddull ydoedd rhanu ac adranu, a'r oll yn tarddu yn naturiol o'r testun. Yr oedd yn hynod ddedwydd yn nghynllun ei bregethau, a'r holl gyfansoddiad drwyddodraw yn cael ei nodweddu gan eglurdeb, fel nad oedd eisieu i un gradd o feddwl yn y gynulleidfa deimlo yn annedwydd am nad oeddynt yn deall yr hyn a bregethid ganddo.

3ydd.—Ei draddodiad.—Diammheu fod Mr. Williams yn teimlo ei gryfder wrth bregethu, a gwnai i eraill deimlo fod yno feistr ar y gynulleidfa uwch eu penau. Yr oedd ei lais yn gryf a nerthol, er nad oedd yn soniarus; clywid ef o draw ar y cae fel pe byddid yn ei ymyl. Nis gellir dweyd ei fod yn orator ac yn areithydd hyawdl fel Jones o Ferthyr, neu Jones, Caerfyrddin; eto yr oedd yn ddywedwr hapus, ac yn gallu sicrhau pob llygad wrth ei wefus; pe buasai wedi talu sylw dyladwy i areithyddiaeth, diau y gallasai ragori llawer yn yr ystyr hwn.

4ydd.—Ei ffigyrau.—Yn hyn diammheu yr oedd prif nerth ei boblogrwydd; y rhan fynychaf byddent yn tueddu at yr ysgafn a'r digrifol, eto yn naturiol. Rhoddwn ychydig engreifftiau pan yn pregethu ar y testun hwnw yn Efengyl Ioan, “Yr wyf yn myned at fy Nhad, ymgysurwch," &c. "Dywediad hynod iawn," meddai, "iddynt ymgysuro pan oedd eu cyfaill goreu yn myned, ac na fuasent yn gweled ei wyneb ef mwy. Y gwaith oedd ar ben, bobl nid oedd eisieu iddo ef ddyfod yn ol. Mae dynion yn gorfod dyfod yn ol yn aml am nad ydynt wedi gorphen eu gwaith yn iawn. Dyna Dafydd Edward, y saer, wedi gwneyd contract i adeiladu ty; gorphenodd ef, a rhoddodd yr agoriad i fyny; ond yn mhen ychydig ddyddiau, dyna genad ar ol Dafydd yn ei gyrchu yn ol. 'Roedd y drws yn pallu cau; nid oedd y gwaith wedi ei orphen yn iawn, am hyny 'roedd angen gweled ei wyneb ef drachefn; ond yr Iesu anwyl pob peth gydag ef wedi ei orphen; nid oedd angen iddo ddyfod yn ol i wella dim : ymgysurwch," &c.

Cofus genyf ei glywed yn pregethu un tro mewn perthynas i gyfaddasrwydd yr Efengyl fel unig foddion i wella cyflwr y byd moesol, ac nad oedd angen ei newid. Yr oedd y gydmariaeth yn wir hapus fel y canlyn:—"Yr oedd pregethwr bach yn byw mewn pentref bychan y drws nesaf i fferyllydd, yr hwn oedd anffyddiwr. Un diwrnod gwnaeth wawdio y pregethwr trwy ddweyd, 'Pa synwyr sydd yn y pregethu yna sydd genych o hyd? dweyd am Iesu Grist, y groes, a rhyw gyfiawnhau byth a hefyd! newidiwch, rhoddwch amrywiaeth i'r bobl; yr un hen stori oedd gan eich tad o'ch blaen.' Ar hyn cymerodd y pregethwr bach galon, a dywedodd, 'Wel, syr, yr wyf finau yn eich adnabod chwithau a'ch tad o'ch blaen, a'r un moddion yr ydych yn ei roddi i'r bobl-rhyw bills a phowdrach. Paham na newidiwch chwithau?' Ie,' meddai yr anffyddiwr, 'yr un ydyw clefyd y bobl, gan hyny nid oes angen ei newid.' Very good, meddai y pregethwr, 'yr un yw clefyd ysbrydol y bobl; gan hyny nid oes eisieu newid y cyfferi." Pan oedd yn arfer illustrations felly, byddai ei ddylanwad yn annhraethol ar y gynulleidfa.

Brydiau eraill byddai ei ffigyrau yn tynu at y difrifol. Clywsom ef unwaith yn dweyd un o'r nodwedd hyn nes oedd pob grudd yn y gynulleidfa yn foddfa o ddagrau. Y pwnc oedd ganddo yn cael ei osod allan ydoedd "Cyflawn faddeuant pechod."

"Yr oedd gan dad fachgen drwg iawn; ac er mwyn dylanwadu arno i weled ei bechodau, gosododd y tad astell ar y wal yn y ty, a phob trosedd a gyflawnai pwyai hoel iddi. Yn mhen tymhor llanwodd yn hollol; wedi hyny meddiannwyd y bachgen gan bryder neillduol. Gofynodd y tad y rheswm o hyny? Atebodd yntau, mai hoelion yr astell, trwy ddangos ei droseddau, oedd yn tori ei galon. 'Dere di,' ebai y tad, y mae lle i wella; fe dynaf hoel ymaith am bob gweithred dda a wnei.' Felly y bu nes iddynt gael eu tynu oll, eto pryderus oedd y bachgen o hyd. 'Ymgysura bellach,' ebai y tad. 'Na, 'nhad,' meddai y llanc, ' y mae ol yr hoelion yn aros o hyd.' 'Ond fe gliria Gwaed y Groes,' meddai Mr. Williams, 'ol yr hoelion.'"

Y mae yn briodol i ni nodi yn y fan hon nid yn unig ei fod yn hapus yn ei ffigyrau, ond yn ffraethbert wrth bregethu; yr oedd hyny yn chwanegu llawer at ei boblogrwydd. Yr oedd yn pregethu mewn cwrdd mawr yn Nghwmaman un tro, ac yn dwyn i sylw, yn mysg pethau eraill, y gwelliannau rhyfeddol oedd yn cymeryd lle yn y byd celfyddydol. 'Ond," meddai, gyda chroch-floedd nerthol, “yr wyf yn gweled wedi dyfod i'r lle hwn fod un peth yn eithriad-Y mae bonneti y menywod yma yn myned yn ol." Yr oedd y ffasiwn y pryd hwnw fod y pen orchudd i fod yn hollol ar y wegil.

Wrth bregethu ar y geiriau hyny, "Crist ein bywyd ni," &c., adroddai hanesyn am ddau offeiriad oedd yn ymrafaelio am hawl i fywioliaeth eglwys blwyfol mewn rhan o Sir Gaerfyrddin. Aeth y ddau yn eu gwisgoedd gwynion i gwrdd ag angladd oedd yn dyfod i'r fynwent. Gwaeddai un yn y fan hyn, Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd;" a'r llall yn ei ymyl yn dolefain, "Nage, syr, myfi ydyw ef." "Ond yr wyf finau yn dweyd," ebai Mr. Williams, "nad yr un o honynt yw yr adgyfodiad a'r bywyd, eithr Iesu Grist ydyw Ef."

Pan yn pregethu ar y geiriau hyny o eiddo ein Harglwydd Iesu, "Beth yw hyny i ti, canlyn di fi;" ei rhagymadrodd ydoedd, "Pwnc y testun ydyw—I bob un feindio busnes ei hunan."

Clywsom ef yn pregethu yn ddoniol anarferol ar wirionedd yr Efengyl. Sylwai fod tri math o wirionedd. Gwirionedd Athronyddol, Hanesyddol, a gwirionedd yr Efengyl. Gwirionedd athronyddol yw yr hyn a ganlyn. Cof genyf fod fy mam yn dweyd wrthyf, John, os rhoddi ormod o bwysau ar y cart bach, mae yn sicr o dori.' 'Os ei i'r afon, yr wyt yn sicr o foddi.' 'Os rhoddi dy fys yn y tân, mae yn sicr o losgi," &c.'

Y mae genym un sylw i'w wneyd am nodwedd Mr. Williams fel pregethwr, y byddai yn gam ag ef i'w adael allan. Er ei fod yn naturiol dueddu at y digrifol fel rheol, eto yr oedd yn amlwg fod pregethu yn waith mawr a phwysig yn ei olwg. Gwelsom ef lawer gwaith yn wylo, ac yn gorfod ymattal dan deimladau wrth gymhell pechaduriaid at Fab Duw. Yr oedd y gwaith yn pwyso ar ei galon, a chredwn, oddiar brofiad lled helaeth o'i gyfeillach, fod y gwaith yn waith ei enaid.

FEL BARDD A LLENOR.

Nid ydym yn honi y gallwn roddi darluniad a beirniadaeth gyfiawn ar wrthddrych ein cofiant o dan y gangen hon; beth bynag, gwnawn ymdrech yn ol ein gallu. Y mae tri pheth yn amlwg yn ei berthynas ag ef fel bardd.

1af—Iddo gyfansoddi nifer o bob math o ganeuon. Y mae Lloffyn y Prydydd yn cynnwys 261 heblaw ei gân orchestol ar "Ddyffryn tyfawl Teifi," ac hefyd ei gyfansoddiadau o bryd i'w gilydd a anfonodd i'r cyfnodolion misol ac wythnosol.

2il.—Yr oedd yn adnabyddus â theithi barddoniaeth, o herwydd cawn yn ei gynyrchion barddonol Awdlau, Cywyddau, Pryddestau, Englynion, Emynau, Marwnadau, a Chaneuon o bob math.

3ydd. Yr oedd yn meddu gradd helaeth o ddarfelydd ac awen. Clywsom rai yn dweyd mai "Bardd Celfyddyd" ydoedd, ond credwn fod y dywediad yn gyfeiliornus; y mae yr elfen fyw sydd yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau yn gwrthbrofi yr haeriad. Nid ydym am resu ein hoffus frawd yn y gradd uchaf o ddarfelyddion, megys Daniel Ddu, Goronwy Owain, Dewi Wyn, &c. Bardd canolradd ydoedd "I. ab Ioan." Credwn pe y buasai yn parhau i ymroddi, y buasai wedi cyrhaedd graddau llawer uwch. Am gyfnod bach yn moreuddydd bywyd y cafodd yr awen hamdden i flaguro ynddo; canys casglodd ei gynyrchion yn Lloffyn, ac argraphwyd ef yn y flwyddyn 1839, yn mhen wyth mlynedd wedi iddo sefydlu yn Aberduar. Y mae rhai darnau hynod farddonol yn y Lloffyn, megys "Cwyn Jacob ar ol ei fab Joseph" ar y mesur Tri tharawiad;" hefyd, "Cywydd y Diogyn a'r Diwyd;" pa rai a ddyfynwn yn gyflawn:

"Ow'r gofid, oer gafod, i'm dryllio o drallod,
Sy'n dô wedi dyfod, mawr syndod y sydd ;
Mae'm bron dan ei briwiau, am llygaid yn ddagrau,
A degau o nodau annedwydd.

"Gwael wyf ac wylofus, ar lawr yn alarus,
Mi âf yn alarus enbydus i'r bedd;
Can's llarpiodd rhyw fwystfil fy enwog fab anwyl,
Ni welaf un egwyl mo'i agwedd.

"Y bachgen penfelyn, â'r bochau heirdd cochwyn,
Pan ydoedd yn cychwyn yn derfwyn i'w daith,
Ychydig feddyliais, was anwyl, neu syniais,—
Gollyngais,—ni welais ef eilwaith.

"Pe b'aswn yn gwybod am droellau'r fath drallod,
Y gwnaethai'r bwystfilod y difrod i'r dyn,
Mi f'aswn ofalus na chawsai'r mab gweddus
Un trefnus, cu, iachus, ddim cychwyn.

"Ow! na b'asai cydyn o'i eurwallt, neu flewyn,
Yn cadw mewn blwchyn eurfelyn, i fod
Yn arwydd gofiadol, i'r oesoedd dyfodol,
O'i harddwch addurnol ryw ddiwrnod.

"Bu'r siaced fraith undydd, un brydferth, dda'i defnydd,
Am dano fe'n newydd ; o herwydd cael hon,
Ei olwg oedd gymhwys, fel blodau Paradwys,
Ac yntau yn gulwys ei galon.

"Ow'r siaced fraith anwyl, yn ngwaed rhyw hen fwystfil,
A drochwyd!—heb arwyl, oer egwyl, yr aeth
Fy Joseph, fab enwog, i'r bwystfil danneddog,
Cynddeiriog, ysglyfiog, yn 'sglyfaeth!

"Pe cawn I ond crawen o asgwrn fy machgen,
Mi fyddwn yn llawen o ddyben gwir dda;
Mi ro'wn yr asgwrnyn mewn eurflwch, heb 'rofyn,
I gofio'r goreuddyn hawddgara'.


"Pe gwyddwn pa ddernyn o'r tir y bu'm plentyn,
Yn ngafael y gelyn, ar derfyn ei daith,
Mi godwn gof-arwydd o'r creulon dro'n ebrwydd,
Ac wylwn o'i herwydd mewn hiraeth.

"Ow! coeliwch, mae'm calon yn gwaedu,—ergydion
A gefais, rhy drymion,—tost greulon yw'r groes;
Dan benyd du beunydd, gan hiraeth o'i herwydd,
Y derfydd llawenydd f' holl einioes."


CYWYDD Y DIOGYN A'R DIWYD.

Diogyn, fab llibyn, llwyd,
Fab gwirlesg, hen fab gorlwyd;
Fab saith gwsg, fab syth ei gefn,
Fab dwydroed lesg, fab didrefn ;
Fab gwarth oll, fab gwrth allan,
Fab caru tŷ, fab cwr tân;
Fab dwylaw pleth, fab cethin,
Fab byr haf, fab beio'r hin;
Fab ofn llew, fab gorllwfr;
Fab tŷ tyllog ar ogwydd,
Fab â dwy law, fab di lwydd ;
Fab cwch heb fêl, gwan helynt,
Fab 'ffrostio mewn gweithio gynt ;
Fab maes drain, fab moesau drwg,
Fab diles, fab diolwg;
Fab mawr, balch, fab mor bylchog,
Fab dwl iawn, byth fab di—lôg ;
Fab coffr gwâg, fab geiff hir gosp,
Fab trymgwsg, llwydd fab tromgosp;
Fab cefn llwm, fab ag ofn llid,
Fab arlwy wael, fab erlid;
Fab prin dorth, di—gynnorthwy,
Fab hir ei blâg, fab ar blwy'.

Y diwyd, fab llawnbryd lles,
Da hynod yw ei hanes ;
Fab ystwythgorph diorphwys,
Fab hyfryd glanbryd a glwys;
Fab bur nos, fab boreu'n wir,
Fab gara waith, fab geirwir;
Fab perchen pwrs, (eurbwrs yw,)
Fab wr pur, fab aur Peru;
Fab prynu tir, glasdir glwys,
Fab pryd hardd, fab Paradwys;

Fab codi tai, fab cadw tir,
Fab glwysdeg yw, fab glasdir;
Fab planu coed, glasgoed glyn,
Fab gwir hedd, fab â gwreiddyn;
Fab coffr lawn, fab gaiff hir log,
Fab rhinwedd, fab arianog;
Fab clod hir, fab clyd yw hwn,
Fab llwyddiant—moliant miliwn ;
Fab ddaeth o'r gors i'r orsedd,
Fab hir ei sôn, fab ar sedd."

Ac ymddengys mai ei hoff ddarnau oeddynt yr uchod, ac hefyd, "Yr Iesu a wylodd." Nid ydym wedi cael ar ddeall fod ein brawd yn ymgeisydd Eisteddfodol, oddigerth mewn un neu ddwy ddinod. Cawn ef yn fuddugol ar y "Gân ar Ddyffryn Teifi," yn Eisteddfod Caersalem, yn y flwyddyn 1870, ac yn gyd-fuddugol ar y Farwnad yn yr un.

EI GYNYRCHION LLENYDDOL.

Nid ydym yn gwybod am ddim heblaw Lloffyn y Prydydd, pa un a argraphwyd yn 1839; a Chofiant John Jones, Llandyssul, 1859. Ysgrifenodd amryw ddarnau i'n cyfnodolion misol, megys Bywgraffiad i'r diweddar Barch. B. Thomas, Penrhiwgoch, yr hwn a ymddangosodd yn Seren Gomer, pa un oedd yn cynnwys desgrifiad o hono fel pregethwr, yn nghyd â hanes ei fywyd; buasai yn dda genym ei gael i'r cofiant hwn. Mae yn amlwg fod gan Mr. Williams dalent i fod yn llenor o radd uchel, eithr ni roddodd ei fryd ar hyny. Clywsom amryw bregethau ganddo a fuasai yn gaffaeliad i'n llenyddiaeth, megys ei bregethau ar "Abia yn nhy Jeroboam;" "Crist ein bywyd ni;" "Etifeddiaeth anllygredig;" "Cariad Duw wedi ei amlygu mewn Cyfryngwr;" "Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Gresyn iddynt syrthio i ddifancoll, fel y mae yn dygwydd yn aml o herwydd esgeulusdra ein henwogion i ysgrifenu eu pregethau. Anaml y byddai yn ysgrifenu ei bregethau o gwbl; a phan y gwnai, ychydig nodiadau a fyddent, a'r cyfryw yn ddealledig iddo ef yn unig. Rhoddodd orchymyn pendant i'w deulu i beidio eu dangos i neb.

Un llyfr pregethau a ysgrifenodd erioed, a hyny pan oedd yn efrydwr yn nghyd â'r tair blynedd gyntaf o'i weinidogaeth. Rhoddodd hwnw yn anrheg i foneddwr ieuanc sydd yn byw yn Llanbedr; gwelsom ef yn ddiweddar, ond byddai yn gam annhraethol i ddwyn hwnw allan fel dangoseg o Williams, Aberduar, yn ei ddyddiau goreu. Ei drysor bachgenaidd ydyw hwnw, ac nid ffrwyth ei feddwl mawr addfed.

Nodiadau

[golygu]