Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar (testun cyfansawdd)
← | Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar (testun cyfansawdd) gan John Davies, Llandysul |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant John Williams (I ab Ioan) Aberduar |
COFIANT
Y
PARCH. JOHN WILLIAMS ("I. AB IOAN"),
ABERDUAR.
GAN Y PARCH. J. DAVIES,
LLANDYSSUL.
Buddugol yn Eisteddfod Tyssul Sant, Medi, 1874.
Beirniad—Parch. T. WILLIAMS, Ebenezer, Llangynog.
AIL ARGRAFFIAD.
Caerfyrddin:
ARGRAFFWYD GAN C. A D. JONES, HEOL-Y-BRENIN.
1875.
Y FEIRNIADAETH.
Teimlaf yn ddiolchgar i Bwyllgor Eisteddfod Tyssul Sant am roddi yn destun Gofiant i'r diweddar Barch. John Williams, Aberduar. Peth rhesymol a buddiol ydyw cadw coffadwriaeth am y cyfryw bersonau a fuont yn ffyddlon yn eu hoes yn ngwasanaeth eu Duw, ac o ddefnydd neillduol i ddynion. Dywedir yn yr Ysgrythyr fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig; y mae rhan helaeth o'r Ysgrythyrau yn hanes bucheddau dynion da. Ysgrifenodd pedwar hanes bywyd a marwolaeth y dyn Crist Iesu; y bywgraffiad goreu yw eiddo Luc y Physigwr; ond y mae y pedwar wedi eu barnu yn deilwng o wobr fawr, sef breniniaeth ac offeiriadaeth yn y nef. Ni ddaeth ond un Cofiant i'r Hybarch Williams, Aberduar, i law; sef eiddo Jonathan. Edrychais drosto mor fanwl ag y gallaswn, ac y mae, i'm bryd I, yn bob peth a ellid ddymuno, a sicr nas gallai un Dafydd ragori arno. Y mae y rhan gyntaf yn cynnwys hanes am brif gyfnewidiadau ei fywyd, yn gywir a manwl. Yr wyf yn barnu mai annoeth yw rhoddi yn ei gofiant ei ganu pan wedi dweyd ei wers yn dda wrth y tutor, a rhyw ychydig o bethau eraill. Rhan II. Mae hon yn rhagorol, yn gymmedrol, diweniaeth, a gwirioneddol. Rhan III. Yn bortread cywir a gwir lun Williams, fel dyn, gweinidog, a Christion. Pawb oedd yn ei adnabod a'i adwaenant yn y fynyd wrth edrych ar y portread hwn, a dynwyd gan Jonathan; a chaiff yr oes a ddel wybod pa fath un oedd hen weinidog Aberduar o'r flwyddyn 1831 hyd y flwyddyn 1871. Rhan IV. Y mae y farwnad yn rhagorol. Nid wyf yn deall rheolau barddoniaeth, ond y mae elfen fywiol yn rhedeg trwy yr alarnad, a naturiaeth ei hun yn fy nghefnogi i ddweyd yn hyf ei bod yn waith bardd natur a chelfyddyd hefyd. Yr wyf yn credu pe buasai saith yn cystadlu, na fuasai un o honynt yn rhagori ar Jonathan. Mae yn gyfiawn iddo gael y wobr; rhodder hi iddo.
Yr eiddoch yn gywir,
THOMAS WILLIAMS.
PENDERFYNIAD Cyfarfod Chwarterol Dosparth Isaf Swydd Gaerfyrddin, yr hwn a gynhaliwyd Hydref yr 20ed a'r 21ain, yn Ebenezer, Llangynog :
"Fod y Cyfarfod hwn yn mawr lawenhau fod cofiant teilwng wedi ei ysgrifenu gan y Parch. J. DAVIES, Llandyssul, i'r diweddar Barch. J. WILLIAMS, Aberduar, ac yn taer ddymuno arno ei ddwyn allan drwy y wasg yn fuan."
ANERCHIAD I'R DARLLENYDD.
ANWYL DDARLLENYDD,
Meddyliais droion mai cam â'r marw—yn ogystal a cholled i'r byw—fyddai gadael ein galluog frawd i syrthio i dir anghof heb gofadail fyw i siarad am dano. Mae'r awgrymiad o'i roddi yn destun Eisteddfodawl yn ddyledus i'r brawd J. Charles, pregethwr cynorthwyol yn Ebenezer, Llandyssul, ac mai y brawd yn deilwng o gydnabyddiaeth barchus am ei awgrym amserol.
Credwyf fod yr enwad yn dysgwyl cofnodiad parchus, canys mae "Williams, Aberduar," yn enw teuluaidd ac anwyl yn ein mysg. Heblaw, yr oedd yn gymeriad hynod ac ar wahan oddiwrth eraill.
Ymgymerais â'r gwaith o ysgrifenu y deyrnged goffadwriaethol hon oddiar fy edmygedd a'm parch neillduol tuag ato, yn nghyd â'm hadnabyddiaeth o hono. Nid oes un gweinidog yn fyw a dreuliodd gymmaint o'i oes yn ei gyfeillach a mi. Cefais y fraint o gyd-deithio gydag ef i gyfarfodydd, &c., am ddwy-ar-hugain o flynyddoedd. Mae y rhan fwyaf o'i hynodion wedi eu hysgrifenu genyf oddiar adgofion o'r pethau a glywais.
Dichon y bydd rhai yn cwyno fod yma ormod o ddigrifwch ac ysgafnder; cofied y cyfryw, pe gadewsid allan y pethau hyny, na fuasai Williams, Aberduar, yma o gwbl; canys hyn a'i hynodai oddiwrth eraill. Yr oedd ei ddigrifwch yn dalent naturiol ynddo, a'i gwreiddioldeb a'i gwnai mor dderbyniol i eraill. Fel y dywedai ef ei hun, "Mae llawer math o bobl yn gwneyd i fyny un byd."
Llandyssul,
- Hydref 22ain, 1874.
COFIANT JOHN WILLIAMS.
RHAN I.
Prif gyfnewidiadau ei fywyd—Lle ei enedigaeth—Ei rieni a'i berthynasau—Ei ddyfodiad at grefydd—Ei fedyddiad—Dechreu pregethu—Ei fynediad ir Athrofa—Ei gyd—fyfyrwyr—Rhai engreifftiau o'i hynodion yno—Ei alwad i'r Penrhyncoch hefyd i Aberduar—Ei sefydliad yn y lle olaf—Ei briodas—Nifer ei deulu—Ei gystudd hirfaith—Ei angeu yn nghyd â hanes ei farwolaeth.
GANWYD gwrthddrych ein cofiant mewn ffermdy bychan o'r enw Trwynswch, yn mhlwyf Llandoged, Swydd Dinbych. Enwau ei rieni oeddynt John a Jane Williams: oddiwrth enw ei dad y cymerodd yr enw Barddonol "I. ab Ioan." Yr oedd ei fam yn ddynes hynod o grefyddol, ac yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Llanrwst. Nid oedd ei dad yn proffesu crefydd, eto Trefnydd Calfinaidd ydoedd o ran ei farn. Byddai Mr. Williams yn siarad llawer am ei fam—mwy felly nag am ei dad—hi, mae yn debyg, gafodd yr afael flaenaf ar ei feddwl, ac egwyddorion proffesedig ei fam a fabwysiadodd. Bedyddiwyd ef yn Llanrwst gan y Parch. John Thomas, gweinidog yr eglwys ar y pryd. Dechreuodd bregethu yn Cefnbychan o gylch pump-ar-hugain oed. Mae anrhydedd mawr wedi cael ei roddi ar yr eglwys hon trwy iddi fod yn gychwynfan i ddau o brif wroniaid ein henwad, sef y Parch. Edward Williams, Aberystwyth, ac arwr ein cofiant. Bu Mr Williams yn cadw ysgol a phregethu yn Cefnbychan am ysbaid o dair blynedd cyn iddo cael ei dderbyn i Athrofa y Fenni.
Yr hyn a gymerodd le pan oedd rhwng wyth a naw-ar-hugain oed :—Yr oedd gan yr athraw olwg fawr ar yr efrydwr o Gefnbychan fel duwinydd, ond nid cymmaint fel Sais, yr hon iaith oedd yn hollol annaturiol iddo. Dywedir fod yno gyd-fyfyriwr iddo o edrychiad lled dywysogaidd o ran corph, ond yr ystafell uwchben y llygaid yn lled wag. Fel y gwyr llawer, yr oedd y dyn oddiallan yn bur gyffredin gyda Mr. Williams. Un diwrnod, pan oedd y ddau yn cyd-ddweyd eu gwersu wrth yr athraw dysgedig, wedi iddo gael ei foddhau gan y naill a'i siomi yn y llall, dywedodd wrth y gwr prydferth yr olwg arno, "Take care of your body," ac wrth Mr. Williams, "Take care of your soul."
Yr oedd yr elfen fawr gymdeithasol—pa un a nodweddodd ei fywyd—yn gryf ynddo y pryd hwnw. Efe oedd pen "Ystorïwr" yr Athrofa; medrai ysgwyd eu peiriannau chwerthingar pryd yr ewyllysiai. Cof genyf ei glywed yn crybwyll am un tro y cafodd gyflawn fuddugoliaeth ar yr holl fyfyrwyr. Bob hwyr dydd Llun byddai ganddynt gynnadledd i adrodd ac adolygu eu helynt pregethwrol dros y Sabbath. Un tro siaradodd y brodyr â'u gilydd am y rheswm eu bod yn cael hwyl gyda ystorïau "Ab" (o herwydd "Ab" yr oedd yn cael ei alw ganddynt). Canlyniad yr ymddyddan fu penderfynu peidio rhoddi hwyl iddo y noswaith hono, ac eto i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Pan ddaeth y cyfarfod, penodwyd yr Hybarch D. Rhys Stephen i'r gadair; dechreuodd y brodyr adrodd eu hystorïau gyda mawr hwyl. Galwyd ar "Ab" i ddweyd ei lith, ond pawb mor ddystaw a'r bedd. Synodd y brawd beth oedd yn bod; ail ddywedodd ystori, dilynwyd hono drachefn gyda'r un agwedd ddiystyrllyd. Deallodd "I. ab Ioan" erbyn hyn fod yno gynghrair rhyngddynt i'w orchfygu; gan hyny daeth allan yn ei nerth mawr, ac adroddodd yr ystori ganlynol:—"Cwrddodd boneddwr unwaith â hogyn bychan ar yr heol, a gofynodd iddo, 'I b'le 'rwyt ti'n myned?' 'I'r pentref gerllaw,' oedd yr ateb. Os cyfarfyddi â'm goruchwyliwr ar y ffordd, dywed wrtho am fyned i'm ffermyard i edrych yr anifeiliaid?' Atebodd y bachgen, Gwnaf gyda phob pleser.' Siarsodd y boneddwr ef dair neu bedair gwaith trwy ddweyd, 'Os cyfarfyddi ag ef, cofia ddweyd. 'Wel, syr,' ebai y bachgen, 'beth ddywedaf wrtho os na chwrddaf ag ef?' Gyda hyn poethodd ysbryd y boneddwr, a dywedodd, 'Well, go d—m it, 'does dim eisieu dweyd dim wedyn, yr hen grwt dwl." Ar hyn torodd y gronfa fawr ac arllwysodd eu ffrydlif chwerthiniadol nes iddynt orwedd ar draws yr ystafell, a darfu i'r Parch. D. Rhys Stephen syrthio mewn pang chwerthiniadol ar ei gefn dros y gadair i'r llawr.
Yr oedd yn eilun edmygedd a serch yr holl goleg tra bu yno. Parhaodd y Parch. D. Rhys Stephen i ddal gohebiaeth ag ef tra fu byw. Yr oedd y Parch. Edward Evans, Dowlais, yn un o'i gyd-fyfyrwyr, a chaiff y llythyr canlynol o waith Mr. Evans ymddangos fel y mae o dan ei law ef ei hun mewn perthynas i'r cyfnod hwnw.
***** " Yr oeddwn yn bur gyfarwydd â Mr. Williams er ys hanner can' mlynedd yn ol.
"Ganwyd ef mewn fferm fechan o'r enw Trwynswch , yn nghymydogaeth Llanrwst. Daeth oddi yno i'r Cefnbychan i gadw ysgol ; yno yr adnabum ef gyntaf, ac yr oeddem yn llettya yn yr un ty. Yr oedd y pryd hwnw yn gallu cyfan- soddi pregeth mewn amser byr iawn . Cof ydyw genyf ei glywed yn dweyd bryd ciniaw un diwrnod , Mi wnes bregeth, wele di , heddyw ar y ffordd o'r Cefnbychan yma, a dyma'r testun, ' Ty Iacob, deuwch a rhodiwch yn ngoleuni yr Arglwydd.' Yr oedd anallu naturiol ynddo i fod yn siaradwr Seisneg da ; yr oedd yn deall Seisneg, ac yn gallu defnyddio llyfrau Seisneg iddo ei hun gystal ag un o'i gyd-fyfyrwyr, ond yr oedd pregethu Seisneg yn boen iddo. Felly nid oedd efe fel Sais gymmaint yn flafr y tutor, ond yr oedd ganddo olwg fawr arno fel duwinydd . Byddai weithiau yn methu a dweyd ei lesson yn dda, a'r tutor yn ei ddwrdio ; deuai i fyny i'r Library y prydiau hyny a'i lygaid yn llawn dagrau , a dywedai yn gwynfanus, ‘ Happy time to go from him .' " Pan y byddai wedi dweyd ei wers yn dda , deuai oddi- wrth y tutor at y bechgyn mor llawen a'r gôg, ac fel hyn y dywedai yn gyffredin:
'Da genyf ganu, da genyf gwrw,
Gwisgo rhibbanau , a gwasgu rhai menyw.'
" Yr oedd yr oll o'i gyd-fyfyrwyr yn ei hoffi yn fawr ; ond Dafydd Rhys Stephen a minau oeddynt ei brif ffrydiau .
Wedi gorphen ei yrfa golegawl, derbyniodd alwad i Penrhyncoch, a bu yno ar brawf am ychydig fisoedd. Yn y cyfryw adeg daeth ar ei gylch i Aberduar, a chafodd alwad unfrydol eglwysi Coedgleision ac Aberduar, yr hon a dderbyniodd yn galonog, ac urddwyd ef tua mis Tachwedd, 1831.
Ychydig iawn o bregethwyr fu yn gweini yn yr urddiad. Nid ydym yn gwybod y rheswm am hyny. Trefn y cyfarfodydd oeddynt a ganlyn:—Y nos gyntaf, pregethodd y Parch. W. Evans, Aberystwyth. Am ddeg, yr un gwr parchus a bregethodd siars i'r gweinidog a'r eglwys, a neillduwyd y brawd trwy arddodiad dwylaw a gweddi gan y Parch Daniel Davies, Talgoed, Llandyssul. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn. T. Thomas a Timothy Jones, Caio. Y mae y gwyr da hyn oll wedi eu symmud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr er ys blynyddau bellach. Fel yma y dechreuodd ein brawd yrfa ei weinidogaeth, pa un a redodd mor llwyddiannus.
Yn y flwyddyn 1841 ymunodd ein hybarch frawd ag Eleanor Hughes, Llangyforiog, mewn glân briodas. Y Parch. H. W. Jones, Caerfyrddin, fu swyddog yr undeb hwn, a byddai Mrs. Williams yn dweyd yn aml wrth Mr. Jones, mewn digrifwch, "Yn wir, Mr. Jones, rhaid i chwi ddyfod i ddadwneyd yr undeb eto, y mae yn rhy ddrwg i fyw gydag ef." Yr oedd Mrs. Williams yn chwaer i'r Parch. John Saunders Hughes, Mount Pleasant, Abertawe; gwr o ddysg a doniau helaeth iawn.
Cynyrchodd yr undeb hwn chwech o blant, sef Martha, John, Jane, Elizabeth, Dafydd, a Mary Anne. Yr oll yn fyw, yn nghyd â'r weddw alarus.
Priodol yw nodi y fan hon mai yr oll o'i berthynasau sydd yn fyw ac adnabyddus i'r teulu ydyw un chwaer, yr hon sydd yn byw yn y Ddolwen, plwyf Llangarnedd, ac yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn nghyd â'r Parch. John Evans, gweinidog y Wesleyaid yn L'erpwl.
Y lle cyntaf yr aeth Mr. Williams i lettya ydoedd Under Grove, cartrefle Mr. Saunders (brawd yr Hybarch D. Saunders, Merthyr), ac yno y bu am chwech mlynedd a hanner, y gweddill a dreuliodd cyn priodi yn Sarnginyn. Gellir dweyd fod ein hoffus frawd yn ddyn hynod iach a chryf ei gyfansoddiad. Nid oedd un amser yn achwyn hyd ei ddyddiau olaf, gyda'r eithriad o'r iselder meddwl a'i tarawodd pan oedd yn Under Grove; methodd bregethu am bump neu chwech mis yr adeg hono. Yr oedd yn meddu ei synwyrau a'i amgyffrediad, ac yn bwyta yn lled dda; ond nid oedd bosibl ei gael o'r gwely. Yr oedd Mr. Williams yn hollol hysbys o natur ei glefyd. Un tro penderfynodd ymdrechu ei gael i lawr.
Wrth fyned allan un boreu, fel arferol, i edrych y tir, dywedodd wrth Mrs. Saunders am ei alw i lawr erbyn y boreu-fwyd. Gwnaeth hithau gydag egni anarferol, ond ni thyciodd dim. Wedi i wr y ty ddychwelyd, gofynodd a oedd y llettywr wedi codi. Atebwyd, nad oedd. Ar hyn i fyny ag ef i'r ystafell wely, a dechreuodd syllu ar ddarlun yr hwn oedd yn cynnwys "Dienyddiad Dick Turpin." Symmudodd at un arall, ac arosodd yno am enyd, yr hwn oedd yn ddarlun o nifer o ffyrdd ysbeilwyr yn cael eu dienyddio. Yr oedd yno ddarlun arall yn dwyn yr un golygfeydd ofnadwy! Wedi aros ychydig gyda hwnw, rhedodd y boneddwr allan yn lledradaidd, gan lefain—"Williams, dewch i lawr o'r ystafell yna; nid oes neb heb ei grogi ond eich hunan." Ar hyn, heb oedi eiliad, rhedodd i lawr y grisiau a'i ddillad dan ei gesail.
Bu y tro hynod yna yn droad adnewyddol i'w feddwl; ac yn fuan ar ol hyny, trwy drugaredd y Duw mawr, daeth i lanw ei gylch arferol. Wedi pregethu ychydig Sabbathau yn Aberduar, cymhellwyd ef gan ei frodyr yn y weinidogaeth i fyned i Gymmanfa Llandilo-fawr; a phregethodd yno, am saith yn y boreu, ar "Gariad Duw wedi ei ddadblygu yn y Cyfryngwr bendigedig," gyda dylanwad anarferol, ac nid gormod ydyw dweyd―er mor nerthol oedd y cewri yn pregethu yn y Gymmanfa hono, megys Francis Hiley, H. W. Jones, Spencer, Llanelli, &c., &c.,—mai efe oedd ar y blaen.
Ar ol hyny llonyddodd ei feddwl, ac ni phrofodd ond ychydig ymosodiadau ysgafn oddiwrth y gelyn annaturiol a phoenus hwnw.
Tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth tarawyd ef gan enynfa yn mys ei droed, ac yn fuan aeth i'r llall, ac i'r droed arall, gyda yr un loesau chwerwon; wedi hyny cododd i fysedd ei ddwylaw. Mewn canlyniad i'r ingoedd ofnadwy, collodd holl ewinedd ei draed a'i ddwylaw. Dyoddefodd boenau annirnadwy, a hyny gydag amynedd duwiol a ffydd Cristion. Ymdrechodd am flwyddyn i gadw ei gylch yn y cyflwr truenus hwnw. Teg yw crybwyll i'r eglwys fod yn hynod garedig wrtho yn ei amgylchiadau cyfyng. Prynasant gerbyd drudfawr iddo at ei wasanaeth, a roddasant bymtheg punt ar hugain o dysteb i gynal ei feddwl i fyny trwy ysbaid ei gystudd. Talodd Aberduar a Chaersalem ei gyflog yn llawn. Cydymdeimlodd brodyr y weinidogaeth ag ef i fesur helaeth yn ei amgylchiadau; eithr, wedi yr holl ffyddlondeb a'r ymdrechiadau ar ei ran, terfynodd ei gystudd hirfaith a phoenus yn angeu y dydd diweddaf, o'r flwyddyn 1871, er galar a cholled i'r teulu, yr eglwys, y gymydogaeth, ac hefyd i gylch y Gymmanfa; eto hyderwn er cysur a llawenydd tragwyddol iddo ef. Tafled y Duw trugarog ei aden dros y teulu amddifaid sydd yn aros. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus; gosodwn yr ysgrif yn y fan hon fel yr ymddangosodd yn Seren Cymru (Ionawr 12ed, 1872,) gan ei hoffus gyfaill y Parch. W. Hughes, Glanymôr, Llanelli:—
CLADDEDIGAETH Y PARCH. JOHN WILLIAMS,
ABERDUAR.
"Y mae y cewri yn Sion yn syrthio, y gwylwyr yn cael eu colli oddiar y twr, y gwyr mawr yn Israel yn cwympo i'r bedd. Mae Cymmanfa Caerfyrddin a Cheredigion wedi cael colled trwy symmudiad enwogion o'n plith. Y mae lle y brawd anwyl Williams yn wag yn Aberystwyth; Nazareth wedi colli Theophilus Thomas; ac yn ddiweddaf oll y brawd hoff Williams wedi ei golli o Aberduar. Y pregethwr galluog a hyawdl, a'r cyfaill ffyddlon, wedi ei golli a'i osod yn nhywyllwch y bedd ar ol hir gystudd o'r natur fwyaf poenus; wedi dyoddef yr arteithiau mwyaf dychrynllyd, efe a hunodd yn yr Iesu prydnawn y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1871, yn 71 mlwydd oed. Gadawodd ei ysbryd y daearol dy ar y Sabbath a'r dydd olaf o'r flwyddyn, a chymerwyd ef mewn trugaredd gan ei Dduw i dreulio y Sabbath hir, yn ngwydd yr Oen, tu fewn i'r llén yn ngwlad y goleuni pur.
"Nid ydys yn myned i ysgrifenu cofiant i'r brawd hoff sydd wedi ein gadael, gobeithio y gwneir hyny gan rhyw un yn y dyfodol; ond yn unig groniclo hanes ei gladdedigaeth, yr hyn a gymerodd le dydd Gwener, Ionawr 5ed, 1872. Deg o'r gloch boreu y dydd hwnw oedd yr awr appwyntiedig, pan y gwelid y bobl yn d'od o bob cyfeiriad gan dynu tua'r ty lle y gorweddai yr hyn oedd farwol o Williams, Aberduar. Daeth llu o weinidogion o wahanol enwadau, o bell ac agos, i ddangos eu parch i'r ymadawedig; yn eu plith gwelsom y rhai canlynol:-Y Parchn. H. W. Jones, cyfaill mynwesol i Mr. Williams dros ddeugain mlynedd; W. Hughes, Llanelli; J. Lloyd, Felinwen; D. Jenkins, Jezreel; D. Morris, Porthyrhyd; E. Lewis, Llandyssul; D. Williams, Llwyndafydd; L. Roderick, Ceinewydd; J. D. Evans, Caio; D. Williams (A.), Rhydybont; Mr. Evans, Maesymeillion, a Mr. Davies, Alltypacca, gweinidogion y Presbyteriaid, a dichon eraill nad oedd yr ysgrifenydd yn gwybod eu henwau. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymydogaeth, oblegid yr oedd y brawd Williams yn hynod o barchus gan bawb yn mhell ac agos. Yn y ty, cyn cychwyn, darllenodd a gweddiodd y brawd John Lloyd, a chanwyd hymn. Allan, cyn codi y corph, dywedwyd yn bwrpasol i'r amgylchiad a gweddiwyd gan y brawd D. Jenkins.
"Wedi hyny aethpwyd yn dorf fawr a threfnus tua hen gapel Aberduar, tua milldir oddiwrth y ty. Blaenorid gan y gweinidogion yn ddau a dau,' a phob un yn gwisgo arwyddion galar yn y ffurf o hat-bands wedi eu rhoddi gan yr eglwysi, y rhai yn ddiau ni welant yn ormod i dalu yr holl dreulion cysylltiedig â chladdu yn barchus un a'u gwasanaethodd am ddeugain mlynedd.
"Wedi cyrhaedd yr addoldy, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. D. Williams, Rhydybont; a phregethodd y brodyr W. Hughes, Llanelli, a H. W. Jones, Caerfyrddin, oddiwrth Thes. iv. 13, 14; a Phil. i. 6. Yr olaf yn destun dewisiedig y brawd Williams amser cyn ei farw. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y brawd D. Williams, Llwyndafydd; canwyd yn ystod y cyfarfod ddwy neu dair gwaith, a rhoddwyd yr emynau allan gan y brawd D. Morris.
"Yna awd allan i roddi yr hyn oedd farwol o Williams, Aberduar, yn ei dy newydd. Yr oedd y bedd wedi ei wneyd yn hardd â phriddfeini, ac fel y dywedai y brawd Evans, Caio, Y mae yn edrych yn ddymunol o fedd.' Ar lan y bedd siaradwyd yn doddedig gan y brodyr Lewis, a Evans, Caio, a dybenwyd trwy weddi gan y brawd L. Roderick. Fel hyn gadawsom y bardd a'r pregethwr yn nhir tywyllwch a chysgod angeu, gan deimlo y gwneir y corph gwael a roddwyd i lawr, yn y dydd diweddaf, yr un ffurf a'i gorph gogoneddus ef.
"Dangosodd yr ardalwyr bob serchawgrwydd i'r dyeithriaid a ddaethant yn nghyd, a phawb a amlygent y parch mwyaf i'r brawd oedd wedi ein gadael. Ein gweddi yw am i'r Arglwydd fod yn dyner iawn o'r weddw a'r plant, a'u cadw o dan gysgod ei adenydd ; ac hefyd i ddanfon gwas teilwng i lafurio yn y maes pwysig lle llafuriodd ein brawd gyda llwyddiant am dymhor maith. Yr wyf yn gweled nad oes eisieu y gair teilwng yn y fan yna, oblegid os danfona yr Arglwydd un-ni ddanfona ond y teilwng a'r cymhwys. Bydded felly.
Llanelli.
WILLIAM HUGHES."
Y mae un peth yn hynod yn nhreigliadau bywyd ein hanwyl frawd, h.y., fod y prif gyfnewidiadau wedi cymeryd lle ar ben deg mlynedd :—
Yn 1801 y ganwyd ef.
Yn 1831 yr ordeiniwyd ef.
Yn 1841 y priododd.
Yn 1871 y bu farw.
Er mor gysurus a llewyrchus y bu gyrfa bywyd ein hoffus frawd mewn eglwysi anrhydeddus a thangnefeddus, ac yn byw yn un o'r dyffrynoedd mwyaf prydferth yn Nghymru, mewn ffermdy tlws o'r enw Gwrdymawr, ac o ran amgylchiadau uwchlaw angen a thylodi drwy ei oes, ac ys dywedai ei hunan am y dyffryn :
"Mae man cyfleus i graffus wr
Ar uchel dwr y Dderi,
Os na fydd niwl, i weled glyn,
Neu ddyffryn tyfawl Teifi ;
Ar bob man yn y parthau hyn,
Ei gyrau sy'n rhagori.
"Mae Dyffryn Teifi 'n faith ei hyd,
Mae ynddo brydferth goedydd,
A'r olwg arnynt sydd yn gu,
Yn neutu glwysion nentydd;
Ar gangau 'r gwydd lle cana 'r gog,
Uwchi serchog ddeiliog ddolydd.
"Wrth rodio 'r coedydd hirddydd haf,
Yn araf, yn mhlith irwydd,
Yr adar hardd-deg yma gaf,
Rai mwynaf, ar y manwydd;
A'u per ganiadau lleisiau llon,
Cain hylon, i'w Cynhalydd.
"Pa ddyn all beidio hoffi 'u llais,
Neu adlais, eu per odlau,
A hoffi 'r gân a'i leffaith gwir,
Ac aros hirion oriau
I wrando lleisiau pynciau per,
Mwyn dyner, eu mân dannau.
"Da wenith pur y Dyffryn glwys,
A'i haidd mawr bwys ganmolir;
A'i ychain breision hardd eu llun,
Yn wael yr un ni welir;
Mae ynddo borthiant bob peth byw,
Hyfrydol ydyw'r frodir.
"Mae'r defaid tewion yma sydd,
Ar ddolydd bras gwyrdd-ddeiliog,
Yn dangos fod y Dyffryn hardd
I'w wel'd yn dra ardderchog;
Mae'n ail baradwys, lawn o ffrwyth,
Diadwyth, le godidog.
"Anedd-dai heirddion yma gawn,
Teg erddi, llawn berllanau,
Sy'n perarogli 'r Dyffryn clau,
Fel Eden, â'u hardd flodau;
Afalau per, yn llwythi gant,
Sy'n borthiant yn ei barthau.
"Rhed iachus ddw'r o'r bryniau ban,
A chwydda 'n iach afonydd;
Dolenog y'nt, mewn tiroedd bras,
Yn myn'd trwy ddeil-las ddolydd;
A rhyw ffynnonau llawnion glân,
Gawn yma, mewn mân gwmydd.
"Rhed Teifi deg trwy 'r Dyffryn llad,
Gwna 'r wlad yn dra chyfoethog;
I'n maesydd glân mawr ffrwyth a gyrch,
Gwna 'n llenyrch yn feillionog
A dwg ei haraf, lathraf li',
Ein gwlad i fri goludog.
"A chelfyddydol bontydd da,
Yn gadarn yma godwyd,
I groesi Teifi 'n hwylus iawn,
Eu budd yn llawn a brofwyd;
A llawer un o'r pontydd hyn
Y Dyffryn a addurnwyd.
"Ychydig bach o'r eira gwyn,
Ar dir ein glyn sy'n glynu;
Mae'r eira 'n myn'd i hau ei lwch
I fanau uwch i fyny;
Yn gynar iawn, er lles i'r wyn,
Mae'r Gwanwyn yma ' n gwenu.
"Yr amser gynt mi glywais gân,
'Morwynion glân Meirionydd;'
Gwyryfon hefyd pur ddifai,
A glân, a fagai glenydd,
Yr afon Teifi uchel nod,
Y rhai sy'n glod i'r gwledydd.
"Mae yma ambell Olwen lwys,
Fel rhosyn glwys a glanwedd;
Ac ambell Elen landeg lon,
Morwynion gwych am rinwedd;
Ac ereill sy'n tryfritho'r fro,
Gan rodio mewn anrhydedd.
"Dan effaith athrylithgar ddawn,
Mae'r wlad yn llawn llenorion,
A beirdd sy'n gwneuthur, yn ddi dawl,
Newyddawl gynghaneddion;
Pa le y ceir ar fryn neu bant,
Yn un-lle ' r fath gantorion?
"Yn nyddiau'n tadau mawr eu rhin,
Cawd yma win Awenydd,
Gan lawer o'n hen feirddion llon,
Ar finion yr afonydd,
Ni fu glan Teifi, fangre glyd,
Un pryd heb fagu Prydydd.
"Un Edward Richards, enwog wr,
Fu' n noddwr awenyddion;
Mae 'i wê e'n llawn o win a llaeth,
O hyd mae'n faeth i feirddion;
Mae 'i waith yn hollol wrth ein bodd,
Da canodd ei accenion.
"Ac yma magwyd Prydydd Hir,
Adwaenai'n wir yr Awen;
A Dafis Castellhowel clau,
Mae yntau dan dywarchen;
A Daniel Ddu, y doniol ddyn,—
Arebawl un oedd Reuben.[1]
"A Dafydd llwyd, Brynllefrith wych,
O! ceinwych byddai'n canu;
Ac Eleazer ber a chu,
Tra dyddan bu'n prydyddu;
Ni bu yn agos nac yn mhell
Erioed eu gwell am ganu.
"Mae Ioan Emlyn fardd yn fyw,
Ac Ioan Mynyw[2] mwynwas;
Ac Iago Emlyn mawr ei ddawn,
Sy'n llawn o bur-ddawn Barddas;
A Gwilym Gwenog, enwog ddyn,
I'r Dyffryn sydd yn urddas.
"Mae yma rai offeiriaid myg,
A digon o Feddygwyr;
A gwir bregethwyr, uchel nod;
A gormod o Gyfreithwyr:
'Does yma, fel mae goreu'r clod,
Yn 'mosod ddrwg ormeswyr.
"O benau y mynyddau ban,
Ceir golwg ar ein Llanau;
A gweled ein Tai-cyrddau teg,
A'n Coleg hardd-deg yntau;
Ar las-lawr, yn y Dyffryn ter,
Mae'n bleser gwel'd Palasau,
"Ceir gweled draw Dregaron fad,
A muriau Ystrad Meirig;
A Llanbedr wych, ar lwysdeg dir,
Sy'n Dref lân, wir ddysgedig;
Yn mlaenau 'r Dyffryn mae rhai hyn,
Ar fanau lled fynyddig.
"Ceir gwel'd o uchel fan o bell,
Dref brydferth Castell-newydd;
A threm ar deg Llandyssul deg,
Man cudeg rhwng y coedydd;
Ac Aberteifi, ger llaw ' r môr
Mae goror ei magwyrydd.
"Cerbydres yma 'n gyflym red
I waered ac i fyny,
Yn ol a blaen trwy 'r Dyffryn teg;
Man agos hawdd mynegu—
Yw'r man yn awr, oedd gynt yn mhell;
Mae'r wlad yn well o'i meddu.
"Na ddoed i'r Dyffryn frad na briw,
Mawr lwydd i'w ardalyddion;
Yn wlad o barch mewn golud byd
I gyd bo 'i lad drigolion;
Yn dal i garu crefydd Crist,
Heb nag, fel gwir Grist'nogion.
"Yn niwedd oes, trwy nawdd Ion hael,
Dymunwyf gael fy nghladdu,
Tan Ywen werdd lle sia'r gwynt,
Deheuwynt, ar lan Teifi;
Lle mae fy hen gyfeillion gwar,
Yn llwch y dd'ar yn llechu."
Eto gwelwn yn ei hanes fod geiriau y llyfr dwyfol yn wirionedd, "Dyn a aned o 'Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau a llawn o helbul," ac mai ofer yw rhoddi pwys a hyder ar ddedwyddwch y byd presenol. Yr ydym yn gallu dweyd, trwy brofiad a gwybodaeth bersonol, nas gwelsom drigfa dedwyddwch yn fwy cyflawn i'n golwg ni na chartrefle ein hanwyl frawd. Eithr heddyw cymylau a thywyllwch sydd yn crogi uwchben y fan.
RHAN II.
FEL DUWINYDD, BARDD, A LLENOR.
Wedi darllen y Bibl—Barn a chrebwyll—Y prif lyfrau a ddarllenodd— Duwinyddiaeth yn unig destun ei fyfyrdod a sylwedd ei bregethau—Pregethwr poblogaidd B'le 'roedd cuddfa ei gryfder? nid yn ei lais, na chyflymder ei ddywediad, na phrydferthwch ei iaith, na thlysni ei frawddegau-Desgrifiad o hono fel pregethwr-Ei ymddangosiad yn yr areithfa—Arddull ei bregethau—Ei draddodiad—Ei ffigyrau—Ei athrylith—Ei dduwiol—frydedd wrth draddodi—Ei gyfansoddiadau barddonol—Yn adnabyddus â theithi barddoniaeth—Yn meddu gradd helaeth o ddarfelydd ac awen—Ei gynyrchion llenyddol.
Yr oedd y Bibl yn llyfr cyfarwydd gan ein brawd ; yr oedd hyn yn amlwg yn ei rwyddineb yn gwneyd cyfeiriadau at wahanol ranau o'r llyfr sanctaidd. Y gwir yw, yr oedd cleddyf yr Ysbryd yn arf wrth ei law. Nid yn aml y clywid pregethwyr yn gallu dyfynu cynnifer o adnodau wrth bregethu a gwrthddrych ein cofiant, a byddai bob amser yn geirio yr adnodau yn ol y geiriad Ysgrythyrol. Peth annaturiol a gwrthun i'r graddau eithaf yw clywed dynion cyhoeddus yn geirio yr adnodau yn eu hiaith eu hunain, a chyflwr mwy truenus fyth yw fod pregethwyr yn anghyfarwydd yn y llyfr hwnw a broffesant eu bod yn ei ddysgu i eraill.
Yr oedd Mr. Williams yn meddu barn a chrebwyll. Yr oedd yn deall yr hyn a ddarllenai; medrai gloddio i ddyfnderoedd y gloddfa ysbrydol. Y gwir yw, yr oedd ganddo agoriadau teyrnas Dduw. Nid yn unig yr oedd yn deall, ond medrai bregethu ac ymresymu ger bron ei gynulleidfa fawrion bethau Duw yn eglurhad yr Ysbryd a chyda nerth mawr. Yr oedd
ei bregethau fel maelfa wedi ei llwytho â nwyddau trugaredd. Buom yn siarad â'i wrandawyr cartrefol lawer gwaith-dynion o farn a phwyll—a byddent oll yn dwyn tystiolaeth i'r un gwirionedd.
Yr oedd ein brawd yn ddarllenwr mawr trwy gyfnod boreuol ei fywyd, ac yn adnabyddus â'r prif lyfrau ar Dduwinyddiaeth, megys Dr. Owen, Henry, Scott, Adams, Howe, &c., &c.
Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith mai yr awdwr olaf a roddodd yr agoriadau mwyaf trylwyr i'w feddwl i ystafelloedd y cysegr. Gellir dweyd mai duwinyddiaeth fu maes mawr ei fyfyrdodau; dyma yr hoel ar ba un y crogai ei holl bregethau. Efengylwr oedd ein brawd, ac yno yr oedd ei brif ddedwyddwch. Ni chlywid ef byth yn pregethu seryddiaeth, daearyddiaeth, morwriaeth, nac athroniaeth; ei aeth fawr ef oedd "fod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau."
Yr oedd Mr. Williams yn bregethwr poblogaidd, ac yn un o brif bregethwyr y Gymmanfa, a byddai yn aml yn cael ei alw i gyfarfodydd mawrion; a gellir dweyd, heb arfer gormodiaeth, lle bynag y byddai, fod hoff ddyn y bobl yno; yr oedd ei enw yn adnabyddus fel y cyfryw trwy Gymru. Naturiol gwneyd ymchwiliad am guddfa ei gryfder fel y cyfryw.
Mae yn amlwg nad yn ei lais y gorweddai. Ceir nerth ambell un yn ei lais, megys rhyw ariangloch nefol; cryged neu fethed hwnw, dyna hi yn llongddrylliad ar y pregethwr. Yn hytrach i'r ochr aflafar yr oedd ganddo ef, eto nid oedd yn boenus i'r glust. Rhwydd adnabod wrth ei wrandaw nad astudiodd elfenau sain i fod yn agoriad calonau y bobl; bloeddiadau afreolaidd fyddai ganddo yma a thraw.
Nid yn nghyflymder ei ddywediad yr oedd ei boblogrwydd i'r ochr araf y byddai yn tueddu—ac hefyd nid yn ngodidogrwydd ei ymadrodd, na thlysni ei frawddegau.
Yr oedd Mr. Williams yn gwybod teithi iaith yn dda, ac yn gyfoethog o drysorau iaith. Gallai, fel Paul, arfer "godidogrwydd ymadrodd"; eithr yr oedd yn ymwadu â hyny, "fel na wnelid croes Crist yn ofer." Yn ol ein barn ni, yr oedd dylanwad neillduol ein brawd yn gorwedd yn yr hyn a ganlyn:—
1af—Ei ymddangosiad ger bron y gynulleidfa.—Pan safai o flaen y bobl, hawdd gellid gweled fod yno un ag oedd wedi dianc yn lladradaidd i gysegr sancteiddiaf eu serch; byddent yn gwenu ac yn llygad loni y naill ar y llall. Y rhan fynychaf gwnai roddi pesychiad cryf, a dichon ysgydwad afreolaidd i'w ben nes i'w wallt dalsythu yn annhrefnus. Yr oedd y bobl bob amser yn cael hwyl wrth weled ei agweddau felly, a diau fod ei bresenoldeb enillgar yn rhoddi mantais fawr i'w ddylanwad.
2il.—Arddull ei bregethau.—Ei arddull ydoedd rhanu ac adranu, a'r oll yn tarddu yn naturiol o'r testun. Yr oedd yn hynod ddedwydd yn nghynllun ei bregethau, a'r holl gyfansoddiad drwyddodraw yn cael ei nodweddu gan eglurdeb, fel nad oedd eisieu i un gradd o feddwl yn y gynulleidfa deimlo yn annedwydd am nad oeddynt yn deall yr hyn a bregethid ganddo.
3ydd.—Ei draddodiad.—Diammheu fod Mr. Williams yn teimlo ei gryfder wrth bregethu, a gwnai i eraill deimlo fod yno feistr ar y gynulleidfa uwch eu penau. Yr oedd ei lais yn gryf a nerthol, er nad oedd yn soniarus; clywid ef o draw ar y cae fel pe byddid yn ei ymyl. Nis gellir dweyd ei fod yn orator ac yn areithydd hyawdl fel Jones o Ferthyr, neu Jones, Caerfyrddin; eto yr oedd yn ddywedwr hapus, ac yn gallu sicrhau pob llygad wrth ei wefus; pe buasai wedi talu sylw dyladwy i areithyddiaeth, diau y gallasai ragori llawer yn yr ystyr hwn.
4ydd.—Ei ffigyrau.—Yn hyn diammheu yr oedd prif nerth ei boblogrwydd; y rhan fynychaf byddent yn tueddu at yr ysgafn a'r digrifol, eto yn naturiol. Rhoddwn ychydig engreifftiau pan yn pregethu ar y testun hwnw yn Efengyl Ioan, “Yr wyf yn myned at fy Nhad, ymgysurwch," &c. "Dywediad hynod iawn," meddai, "iddynt ymgysuro pan oedd eu cyfaill goreu yn myned, ac na fuasent yn gweled ei wyneb ef mwy. Y gwaith oedd ar ben, bobl nid oedd eisieu iddo ef ddyfod yn ol. Mae dynion yn gorfod dyfod yn ol yn aml am nad ydynt wedi gorphen eu gwaith yn iawn. Dyna Dafydd Edward, y saer, wedi gwneyd contract i adeiladu ty; gorphenodd ef, a rhoddodd yr agoriad i fyny; ond yn mhen ychydig ddyddiau, dyna genad ar ol Dafydd yn ei gyrchu yn ol. 'Roedd y drws yn pallu cau; nid oedd y gwaith wedi ei orphen yn iawn, am hyny 'roedd angen gweled ei wyneb ef drachefn; ond yr Iesu anwyl pob peth gydag ef wedi ei orphen; nid oedd angen iddo ddyfod yn ol i wella dim : ymgysurwch," &c.
Cofus genyf ei glywed yn pregethu un tro mewn perthynas i gyfaddasrwydd yr Efengyl fel unig foddion i wella cyflwr y byd moesol, ac nad oedd angen ei newid. Yr oedd y gydmariaeth yn wir hapus fel y canlyn:—"Yr oedd pregethwr bach yn byw mewn pentref bychan y drws nesaf i fferyllydd, yr hwn oedd anffyddiwr. Un diwrnod gwnaeth wawdio y pregethwr trwy ddweyd, 'Pa synwyr sydd yn y pregethu yna sydd genych o hyd? dweyd am Iesu Grist, y groes, a rhyw gyfiawnhau byth a hefyd! newidiwch, rhoddwch amrywiaeth i'r bobl; yr un hen stori oedd gan eich tad o'ch blaen.' Ar hyn cymerodd y pregethwr bach galon, a dywedodd, 'Wel, syr, yr wyf finau yn eich adnabod chwithau a'ch tad o'ch blaen, a'r un moddion yr ydych yn ei roddi i'r bobl-rhyw bills a phowdrach. Paham na newidiwch chwithau?' Ie,' meddai yr anffyddiwr, 'yr un ydyw clefyd y bobl, gan hyny nid oes angen ei newid.' Very good, meddai y pregethwr, 'yr un yw clefyd ysbrydol y bobl; gan hyny nid oes eisieu newid y cyfferi." Pan oedd yn arfer illustrations felly, byddai ei ddylanwad yn annhraethol ar y gynulleidfa.
Brydiau eraill byddai ei ffigyrau yn tynu at y difrifol. Clywsom ef unwaith yn dweyd un o'r nodwedd hyn nes oedd pob grudd yn y gynulleidfa yn foddfa o ddagrau. Y pwnc oedd ganddo yn cael ei osod allan ydoedd "Cyflawn faddeuant pechod."
"Yr oedd gan dad fachgen drwg iawn; ac er mwyn dylanwadu arno i weled ei bechodau, gosododd y tad astell ar y wal yn y ty, a phob trosedd a gyflawnai pwyai hoel iddi. Yn mhen tymhor llanwodd yn hollol; wedi hyny meddiannwyd y bachgen gan bryder neillduol. Gofynodd y tad y rheswm o hyny? Atebodd yntau, mai hoelion yr astell, trwy ddangos ei droseddau, oedd yn tori ei galon. 'Dere di,' ebai y tad, y mae lle i wella; fe dynaf hoel ymaith am bob gweithred dda a wnei.' Felly y bu nes iddynt gael eu tynu oll, eto pryderus oedd y bachgen o hyd. 'Ymgysura bellach,' ebai y tad. 'Na, 'nhad,' meddai y llanc, ' y mae ol yr hoelion yn aros o hyd.' 'Ond fe gliria Gwaed y Groes,' meddai Mr. Williams, 'ol yr hoelion.'"
Y mae yn briodol i ni nodi yn y fan hon nid yn unig ei fod yn hapus yn ei ffigyrau, ond yn ffraethbert wrth bregethu; yr oedd hyny yn chwanegu llawer at ei boblogrwydd. Yr oedd yn pregethu mewn cwrdd mawr yn Nghwmaman un tro, ac yn dwyn i sylw, yn mysg pethau eraill, y gwelliannau rhyfeddol oedd yn cymeryd lle yn y byd celfyddydol. 'Ond," meddai, gyda chroch-floedd nerthol, “yr wyf yn gweled wedi dyfod i'r lle hwn fod un peth yn eithriad-Y mae bonneti y menywod yma yn myned yn ol." Yr oedd y ffasiwn y pryd hwnw fod y pen orchudd i fod yn hollol ar y wegil.
Wrth bregethu ar y geiriau hyny, "Crist ein bywyd ni," &c., adroddai hanesyn am ddau offeiriad oedd yn ymrafaelio am hawl i fywioliaeth eglwys blwyfol mewn rhan o Sir Gaerfyrddin. Aeth y ddau yn eu gwisgoedd gwynion i gwrdd ag angladd oedd yn dyfod i'r fynwent. Gwaeddai un yn y fan hyn, Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd;" a'r llall yn ei ymyl yn dolefain, "Nage, syr, myfi ydyw ef." "Ond yr wyf finau yn dweyd," ebai Mr. Williams, "nad yr un o honynt yw yr adgyfodiad a'r bywyd, eithr Iesu Grist ydyw Ef."
Pan yn pregethu ar y geiriau hyny o eiddo ein Harglwydd Iesu, "Beth yw hyny i ti, canlyn di fi;" ei rhagymadrodd ydoedd, "Pwnc y testun ydyw—I bob un feindio busnes ei hunan."
Clywsom ef yn pregethu yn ddoniol anarferol ar wirionedd yr Efengyl. Sylwai fod tri math o wirionedd. Gwirionedd Athronyddol, Hanesyddol, a gwirionedd yr Efengyl. Gwirionedd athronyddol yw yr hyn a ganlyn. Cof genyf fod fy mam yn dweyd wrthyf, John, os rhoddi ormod o bwysau ar y cart bach, mae yn sicr o dori.' 'Os ei i'r afon, yr wyt yn sicr o foddi.' 'Os rhoddi dy fys yn y tân, mae yn sicr o losgi," &c.'
Y mae genym un sylw i'w wneyd am nodwedd Mr. Williams fel pregethwr, y byddai yn gam ag ef i'w adael allan. Er ei fod yn naturiol dueddu at y digrifol fel rheol, eto yr oedd yn amlwg fod pregethu yn waith mawr a phwysig yn ei olwg. Gwelsom ef lawer gwaith yn wylo, ac yn gorfod ymattal dan deimladau wrth gymhell pechaduriaid at Fab Duw. Yr oedd y gwaith yn pwyso ar ei galon, a chredwn, oddiar brofiad lled helaeth o'i gyfeillach, fod y gwaith yn waith ei enaid.
FEL BARDD A LLENOR.
Nid ydym yn honi y gallwn roddi darluniad a beirniadaeth gyfiawn ar wrthddrych ein cofiant o dan y gangen hon; beth bynag, gwnawn ymdrech yn ol ein gallu. Y mae tri pheth yn amlwg yn ei berthynas ag ef fel bardd.
1af—Iddo gyfansoddi nifer o bob math o ganeuon. Y mae Lloffyn y Prydydd yn cynnwys 261 heblaw ei gân orchestol ar "Ddyffryn tyfawl Teifi," ac hefyd ei gyfansoddiadau o bryd i'w gilydd a anfonodd i'r cyfnodolion misol ac wythnosol.
2il.—Yr oedd yn adnabyddus â theithi barddoniaeth, o herwydd cawn yn ei gynyrchion barddonol Awdlau, Cywyddau, Pryddestau, Englynion, Emynau, Marwnadau, a Chaneuon o bob math.
3ydd. Yr oedd yn meddu gradd helaeth o ddarfelydd ac awen. Clywsom rai yn dweyd mai "Bardd Celfyddyd" ydoedd, ond credwn fod y dywediad yn gyfeiliornus; y mae yr elfen fyw sydd yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau yn gwrthbrofi yr haeriad. Nid ydym am resu ein hoffus frawd yn y gradd uchaf o ddarfelyddion, megys Daniel Ddu, Goronwy Owain, Dewi Wyn, &c. Bardd canolradd ydoedd "I. ab Ioan." Credwn pe y buasai yn parhau i ymroddi, y buasai wedi cyrhaedd graddau llawer uwch. Am gyfnod bach yn moreuddydd bywyd y cafodd yr awen hamdden i flaguro ynddo; canys casglodd ei gynyrchion yn Lloffyn, ac argraphwyd ef yn y flwyddyn 1839, yn mhen wyth mlynedd wedi iddo sefydlu yn Aberduar. Y mae rhai darnau hynod farddonol yn y Lloffyn, megys "Cwyn Jacob ar ol ei fab Joseph" ar y mesur Tri tharawiad;" hefyd, "Cywydd y Diogyn a'r Diwyd;" pa rai a ddyfynwn yn gyflawn:
"Ow'r gofid, oer gafod, i'm dryllio o drallod,
Sy'n dô wedi dyfod, mawr syndod y sydd ;
Mae'm bron dan ei briwiau, am llygaid yn ddagrau,
A degau o nodau annedwydd.
"Gwael wyf ac wylofus, ar lawr yn alarus,
Mi âf yn alarus enbydus i'r bedd;
Can's llarpiodd rhyw fwystfil fy enwog fab anwyl,
Ni welaf un egwyl mo'i agwedd.
"Y bachgen penfelyn, â'r bochau heirdd cochwyn,
Pan ydoedd yn cychwyn yn derfwyn i'w daith,
Ychydig feddyliais, was anwyl, neu syniais,—
Gollyngais,—ni welais ef eilwaith.
"Pe b'aswn yn gwybod am droellau'r fath drallod,
Y gwnaethai'r bwystfilod y difrod i'r dyn,
Mi f'aswn ofalus na chawsai'r mab gweddus
Un trefnus, cu, iachus, ddim cychwyn.
"Ow! na b'asai cydyn o'i eurwallt, neu flewyn,
Yn cadw mewn blwchyn eurfelyn, i fod
Yn arwydd gofiadol, i'r oesoedd dyfodol,
O'i harddwch addurnol ryw ddiwrnod.
"Bu'r siaced fraith undydd, un brydferth, dda'i defnydd,
Am dano fe'n newydd ; o herwydd cael hon,
Ei olwg oedd gymhwys, fel blodau Paradwys,
Ac yntau yn gulwys ei galon.
"Ow'r siaced fraith anwyl, yn ngwaed rhyw hen fwystfil,
A drochwyd!—heb arwyl, oer egwyl, yr aeth
Fy Joseph, fab enwog, i'r bwystfil danneddog,
Cynddeiriog, ysglyfiog, yn 'sglyfaeth!
"Pe cawn I ond crawen o asgwrn fy machgen,
Mi fyddwn yn llawen o ddyben gwir dda;
Mi ro'wn yr asgwrnyn mewn eurflwch, heb 'rofyn,
I gofio'r goreuddyn hawddgara'.
"Pe gwyddwn pa ddernyn o'r tir y bu'm plentyn,
Yn ngafael y gelyn, ar derfyn ei daith,
Mi godwn gof-arwydd o'r creulon dro'n ebrwydd,
Ac wylwn o'i herwydd mewn hiraeth.
"Ow! coeliwch, mae'm calon yn gwaedu,—ergydion
A gefais, rhy drymion,—tost greulon yw'r groes;
Dan benyd du beunydd, gan hiraeth o'i herwydd,
Y derfydd llawenydd f' holl einioes."
CYWYDD Y DIOGYN A'R DIWYD.
Diogyn, fab llibyn, llwyd,
Fab gwirlesg, hen fab gorlwyd;
Fab saith gwsg, fab syth ei gefn,
Fab dwydroed lesg, fab didrefn ;
Fab gwarth oll, fab gwrth allan,
Fab caru tŷ, fab cwr tân;
Fab dwylaw pleth, fab cethin,
Fab byr haf, fab beio'r hin;
Fab ofn llew, fab gorllwfr;
Fab tŷ tyllog ar ogwydd,
Fab â dwy law, fab di lwydd ;
Fab cwch heb fêl, gwan helynt,
Fab 'ffrostio mewn gweithio gynt ;
Fab maes drain, fab moesau drwg,
Fab diles, fab diolwg;
Fab mawr, balch, fab mor bylchog,
Fab dwl iawn, byth fab di—lôg ;
Fab coffr gwâg, fab geiff hir gosp,
Fab trymgwsg, llwydd fab tromgosp;
Fab cefn llwm, fab ag ofn llid,
Fab arlwy wael, fab erlid;
Fab prin dorth, di—gynnorthwy,
Fab hir ei blâg, fab ar blwy'.
Y diwyd, fab llawnbryd lles,
Da hynod yw ei hanes ;
Fab ystwythgorph diorphwys,
Fab hyfryd glanbryd a glwys;
Fab bur nos, fab boreu'n wir,
Fab gara waith, fab geirwir;
Fab perchen pwrs, (eurbwrs yw,)
Fab wr pur, fab aur Peru;
Fab prynu tir, glasdir glwys,
Fab pryd hardd, fab Paradwys;
Fab codi tai, fab cadw tir,
Fab glwysdeg yw, fab glasdir;
Fab planu coed, glasgoed glyn,
Fab gwir hedd, fab â gwreiddyn;
Fab coffr lawn, fab gaiff hir log,
Fab rhinwedd, fab arianog;
Fab clod hir, fab clyd yw hwn,
Fab llwyddiant—moliant miliwn ;
Fab ddaeth o'r gors i'r orsedd,
Fab hir ei sôn, fab ar sedd."
Ac ymddengys mai ei hoff ddarnau oeddynt yr uchod, ac hefyd, "Yr Iesu a wylodd." Nid ydym wedi cael ar ddeall fod ein brawd yn ymgeisydd Eisteddfodol, oddigerth mewn un neu ddwy ddinod. Cawn ef yn fuddugol ar y "Gân ar Ddyffryn Teifi," yn Eisteddfod Caersalem, yn y flwyddyn 1870, ac yn gyd-fuddugol ar y Farwnad yn yr un.
EI GYNYRCHION LLENYDDOL.
Nid ydym yn gwybod am ddim heblaw Lloffyn y Prydydd, pa un a argraphwyd yn 1839; a Chofiant John Jones, Llandyssul, 1859. Ysgrifenodd amryw ddarnau i'n cyfnodolion misol, megys Bywgraffiad i'r diweddar Barch. B. Thomas, Penrhiwgoch, yr hwn a ymddangosodd yn Seren Gomer, pa un oedd yn cynnwys desgrifiad o hono fel pregethwr, yn nghyd â hanes ei fywyd; buasai yn dda genym ei gael i'r cofiant hwn. Mae yn amlwg fod gan Mr. Williams dalent i fod yn llenor o radd uchel, eithr ni roddodd ei fryd ar hyny. Clywsom amryw bregethau ganddo a fuasai yn gaffaeliad i'n llenyddiaeth, megys ei bregethau ar "Abia yn nhy Jeroboam;" "Crist ein bywyd ni;" "Etifeddiaeth anllygredig;" "Cariad Duw wedi ei amlygu mewn Cyfryngwr;" "Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Gresyn iddynt syrthio i ddifancoll, fel y mae yn dygwydd yn aml o herwydd esgeulusdra ein henwogion i ysgrifenu eu pregethau. Anaml y byddai yn ysgrifenu ei bregethau o gwbl; a phan y gwnai, ychydig nodiadau a fyddent, a'r cyfryw yn ddealledig iddo ef yn unig. Rhoddodd orchymyn pendant i'w deulu i beidio eu dangos i neb.
Un llyfr pregethau a ysgrifenodd erioed, a hyny pan oedd yn efrydwr yn nghyd â'r tair blynedd gyntaf o'i weinidogaeth. Rhoddodd hwnw yn anrheg i foneddwr ieuanc sydd yn byw yn Llanbedr; gwelsom ef yn ddiweddar, ond byddai yn gam annhraethol i ddwyn hwnw allan fel dangoseg o Williams, Aberduar, yn ei ddyddiau goreu. Ei drysor bachgenaidd ydyw hwnw, ac nid ffrwyth ei feddwl mawr addfed.
RHAN III.
FEL DYN, GWEINIDOG, A CHRISTION.
Ei ddyn oddi allan—Ei atebion ffraethlym―Yn ddyn llawn—Synwyr cyffredin cryf—Yn gyfeillachwr hapus—Yn cymhwyso ei hun i wahanol gylchoedd cymdeithas Cyfaill ffyddlon—Rhyddfrydwr o ran syniadau gwleidyddol—Yn weinidog da—Adeiladu tri o gapeli—Bedyddio llawer—Amryw weinidogion parchus—Gofalu am achosion gweiniaid—Hyfforddiadau i weinidogion ieuainc—Myned yn mlaen gyda'i oes—Cristion da, egwyddorol, ac ymarferol.
Y dyn oddi allan.—Nid oedd ein hoffus frawd y Lefiad mwyaf golygus, eto nid oedd mewn un modd yn anafus. Nis gallai ymffrostio gyda'r Hybarch J. Jones, Llandyssul, yn ei allu i gerdded; canys yr oedd y gwaith hwnw yn feichus a phoenus iddo; yr oedd bob amser yn marchogaeth, neu yn gyru mewn cerbyd. Yr oedd o uchder cyffredin, tua phump troedfedd a chwech modfedd; ei wyneb yn llydan, ac o liw tywyll; edrychiad llym, llygaid bywiog, a thalcen llydan. Nid oedd yn rhoddi pwys ar ymddangosiad chwaethus mewn arddull corph na phrydferthwch gwisgiad; byddai yn glogyrnaidd ac annhrefnus. Yr oedd yn amlwg na fu dolenu ei gadach gwddf erioed yn destun ei fyfyrdod. Nid yn aml y byddai yn dadrus ei wallt; a phan y gwnai, nid oedd ond yn hynod aflunaidd; pe buasai ein hybarch frawd yn rhoddi ei fryd ar drwsio ei ddyn oddi allan, gallai ymddangos lawer mwy boneddigaidd. Yr ydym o angenrheidrwydd i gydnabod fod chwaeth dda ar y pen hwn yn gaffaeliad gwerthfawr.
Ei atebion arabedd a ffraethlym.—Y gallu hwn oedd cuddfa cryfder ein harwr. Yr oedd ei atebion yn hynod barod a tharawiadol dros ben. Gellir dweyd, yn ngeiriau Ioan,—pe ysgrifenasid ei ymadroddion ffraeth-bert un ac oll—"nid wyf yn tybied y cynnwysai y byd y llyfrau." Gosodwn yr enghreifftiau canlynol fel dangoseg o'i dalent anghydmarol :Cyfarfuwyd ag ef un tro gan ddau o efrydwyr Coleg Llanbedr, y rhai, wedi clywed am ei ddoniau arabedd, a benderfynasant ofyn cwestiwn iddo, yn dwyn perthynas ag Euclid, gan feddwl ei goncro yn ddiffael. Wedi cyfarch y naill y llall: "Mr. Williams," ebai un o honynt, "caniatewch pe byddai y Bod mawr yn creu dau fynydd ar y gwastadedd yma, beth fyddai wedyn?" "Byddai cwm yn y canol rhyngddynt, bid siwr," oedd yr ateb. Yr oedd un tro yn ffair Llanybyther yn gwerthu mochyn. Bu yno fargena taer iawn o bob tu; Mr. Williams yn taeru fod y mochyn yn werth ychwaneg na chynygiad y prynwr ; hwnw, o'r tu arall, yn taeru ei fod yn cynyg digon. Beth bynag, ymadawsant heb ddyfod at eu gilydd. Dygwyddodd fod brawd lled bwysig, yn perthyn i'r frawdoliaeth yn Aberduar, yn gwrandaw yr ymgom o'r dechreu hyd y diwedd; a chan fod y prynwr yn wrandawr selog yn y lle, gofidiai na fuasai Mr. Williams yn rhoddi ffordd. Wedi iddynt ymadael, trodd yr aelod ato gan ddweyd, "Mr. Williams, yr ydych wedi gwastraffu nerth ac amser rhyfeddol i siarad am y swm bychan o hanner coron," canys dyna oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. "Frawd bach," oedd yr ateb, "fe ddywedais I gymmaint a hyna ddeng waith am swllt cyn hyn." Flynyddau yn ol, pan oedd achos gweinidog ac eglwys ger bron Cynnadledd Sir Gaerfyrddin, am drosedd ar reolau ein Cymmanfa; yr hwn, pan ddeallodd fod pethau yn gwynebu yn ei erbyn, a diarddeliad yn ymddangos yn anocheladwy, a daflodd lythyr yn cynnwys resignation i'r ysgrifenydd, yn hytrach nac ymostwng yn dawel i'r ddysgyblaeth. Hysbyswyd Mr. Williams (yr hwn oedd allan ar y pryd) o'r dygwyddiad hynod. "O," meddai, "dyna drick Twm yn ngharchar Sir Gaernarfon. Hysbyswyd Twm ei fod i gael ei grogi am ddeg o'r gloch dranoeth. Na, na,' oedd ateb y carcharor, 'fe ysparia I eu sport hwy; fe groga fy hun heno!" Wedi gorphen pregethu mewn Cymmanfa a gynhaliwyd yn y Tabernacle, Caerfyrddin, daeth ei hen gyfaill (Isaac Evans, Cwmtwrch,) i gyffyrddiad ag ef—aelod gwreiddiol, cofier, yw y brawd anwyl a pharchus hwn o Aberduar, ac wedi bod am flynyddau dan ei weinidogaeth—a chymerodd yr ymddyddan canlynol le rhyngddynt:— "Wel, Isaac, sut y pregethais I, d'wed?" "Fe bregeth'soch yn odidog; nid wyf yn meddwl y pregetha neb yn well na chwi yma heddyw. Pan welais chwi yn dyfod yn mlaen i front y stage—ac os gweddïais erioed—fe weddïais o eigion fy enaid am i chwi gael nerth, a chwi a gawsoch nerth i'w ryfeddu." "O, Isaac," ebai, dan chwerthin yn iachus fel y medrai wneyd, "mi welaf dy fod ti am gael y gogoniant i gyd am weddïo drosof, ac nid oes ond ychydig neu ddim i mi am bregethu yn dda." Flynyddau mawr yn ol, pan oedd ein harwr yn sefyll ar lan bedd dynes a fuasai am gyfnod maith yn gorwedd yn ei gwely, gofynodd un o'i pherthynasau (yr hon oedd yno ar y pryd) iddo wneyd pennill i'r ymadawedig? "Gwnaf," ebai Mr. Williams, "ar yr ammod i ti beidio ffromi." Sicrhaodd ef na wnai ddigio. Yna esgorodd yr awen ar y pennill digrif canlynol, yr hwn sydd ar lafar gwlad yn mhell ac agos:—
"Yma gorwedd Lettis hagar,
'Lawr yn isel yn y ddaear;
Os cara'r bedd fel gwnaeth â'r gwely,
Hi fydd yr ola'n adgyfodi."
Yr oedd y dawn parod hwn wrth law ganddo yn mhob cylch y troai ynddo. Un boreu Sabbath, pan ar ei daith i bregethu i'w gylch eglwysig, cyfarfu ag un o weinidogion yr Undodiaid, yr hwn oedd yn hollol adnabyddus iddo, ac yn un o'i hoff gyfeillion. "Wel, T. G.," meddai ein harwr, "b'le yr ai di i wrandaw heddyw?" "Nid gwrandawr wyf i fod, canys byddaf yn pregethu fy hun yn y Cribin," oedd yr atebiad. "Yr wyf finau," ebai Mr. Williams, "yn myned i bregethu Crist i Bethel Silian." Pan yn talu y degwm unwaith i foneddwr a adnabyddir yn y wlad hon fel un o'r eglwyswyr mwyaf brwdfrydig a phenboeth, cyfarchwyd ef gan yr hen dywysog eglwysaidd fel y canlyn:—"Mr. Williams, buasai yn fwy priodol lawer eich gweled chwi yn derbyn tegwm na'i dalu." Ar darawiad amrant atebwyd ef gan ein harwr trwy ddweyd, "Dos yn fy ol i, Satan; rhwystr ydwyt i mi; am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion." Un tro, pan oedd ar ei daith i gwrdd mawr, galwodd yn hen gartrefle yr awdwr—Pontfaen, ger Llandyssul—wrth fyned heibio; a phan oeddem ein dau yn y cerbyd yn cychwyn, galwodd Mrs. Davies ar ein holau, gan ofyn, "Pa bryd y deuwch yn ol?" "Cerdd i'r ty, cerdd i'r ty," ydoedd yr atebiad ffraeth—lym, "gad i ni fyn'd yn gyntaf." Mewn Cymmanfa yn ngodre Sir Gaerfyrddin aeth Mrs. Ellis ato i ofyn ei helynt— priod Mr. John Ellis, un o ddiaconiaid Aberystwyth— un o'r teuluoedd goreu yn ein gwlad. Atebodd hi, Chwaer fach, yr wyt wedi dyfod ffordd bell i'r Gymmanfa. A wyt ti yn myned i'r Cwrdd Gweddi gartref?" Mewn cyfeillach gweinidog a drigfannai yn Sir Aberteifi, yr hwn nad oedd bob amser yn cario y syniadau mwyaf parchus am ei frodyr yn y weinidogaeth, crybwyllodd am ryw draethodau bychain a ysgrifenodd i'r Athraw, &c. Gofynodd y gweinidog crybwylledig iddo mewn tôn wawdlyd, "A ddarfu i chwi sylwi ar y gwallau sydd ynddynt?" I'r hyn atebodd Mr. Williams, "D. W., mae rhai yn dweyd eu bod yn gallu gweled dannedd chwain." Yr oedd hen weinidog yn Sir Aberteifi flynyddau yn ol a dybiai dipyn yn dra ffafriol am dano ei hun, a rhoddai gryn bwys ar ei fodolaeth. Mewn cyfeillach o weinidogion, galwodd sylw ei frodyr at ei brofiad neillduol. Dywedai ei fod yn hen, a'i fod yn tynu tua rhosydd Moab, bron gadael yr anial yn lân. Gosodai bwys mawr ar ei ymadawiad, mwy felly nag oedd eraill yn deimio. Atebwyd ef gan ein gwron, "Cerdd ynte, cerdd ynte. Os wyt yn myned paid cadw 'stwr. Fe fu y byd fyw cyn dy weled, ac fe fydd byw eto ar ol i ti farw."
Yr oedd Mr. Williams yn ddyn llawn, ac edrychid i fyny arno yn mhob cymdeithas y deuai i gyffyrddiad â hi. Pan gyda'r cyfoethog, teimlai y cyfryw fod yno foneddwr yn ei bresenoldeb; pan gyda'r talentog a'r dysgedig, teimlent hwythau fod tywysog athrylith yn eu plith; yr oedd ein brawd yn ymwybodol o'i gryfder a'i sefyllfa ar y pen hwn, canys nid oedd byth yn dychrynu rhagddynt.
Yr oedd yn berchen synwyr cyffredin cryf. Bendith fawr ydyw y gallu hwn i bob dyn, ond yn fwy felly i bregethwr na neb. Y mae llawer dyn cyhoeddus yn fawr yn y pwlpud; ond wedi disgyn oddiyno y mae yn "llai na'r lleiaf," ac yn fwy diafael na'r cyffredin. Yr oedd y dawn hwn yn gryf yn ngwrthddrych ein cofiant; trwy hyn yr oedd yn gallu llanw holl gylchau cymdeithas gyda deheurwydd neillduol ; ac yn wir ni welsom neb erioed yn fwy llawn o elfenau cymdeithas na'r gwr da hwn. Efe oedd y siaradwr lle bynag y byddai yn y lletty, Cwrdd Chwarter, y Gymmanfa, gyda gweinidogion neu leygwyr, "Williams, Aberduar," oedd yn traethu, a phawb yn dysgwyl wrtho ac yn gwrando arno.
Treuliasom lawer awr hapus yn ei gyfeillach. Yr oedd Mr. Williams yn astudio cysur cymdeithas, ac yn cymhwyso ei hunan i fod ynddi. Pan fyddai yn mhlith gweinidogion neu ddynion o safle uchel, byddai yn adrodd ystorïau am weinidogion enwog a diaconiaid gwerthfawr, megys y Parchn. T. Thomas, Aberduar; Saunders, Merthyr; Christmas Evans, &c. Yr oedd yn hynod hoff o adrodd am yr Hybarch Christmas Evans. "Pan yn ymadael â Chaerdydd, annogwyd ef gan un o Gynnadleddau y Gogledd i fyned i Gaernarfon, ac fel rheswm dros iddo fyned, dywedodd rhyw un yno fod yr annogaeth yn briodol am fod ei ddawn yn taro y lle. Beth ddywedaist ti?' gofynai yr hen wron, 'fy nawn I yn taro y lle. Nid rhyw ddawn lleol fel yna sydd genyf fi, ond dawn i'r holl fyd.' Clywsom ef lawer gwaith yn adrodd am un o hen ddiaconiaid Llanwenarth, yr hwn oedd yn uwch—Galfin mewn barn; byddai yr hen frawd yn rhoddi mwy o bwys ar adnodau ag oedd yn ymddangos iddo ef dipyn yn Galfinaidd na'r rhai Arminaidd. "Dyna adnodau yw y rhai hyn," meddai, "Ei etholedigion,' &c.'Ei ddefaid,' &c.—Ei blant,' &c. Y mae adnodau bach i'w cael, mae yn wir, Yr holl fyd—pob dyn— a phawb.'" Byddai yn cynnal digrifwch anarferol gyda'i frodyr yn y weinidogaeth mewn perthynas i'w oedran. Ni wnai ar un cyfrif ddweyd ei oedran—yr hyn, fel pethau eraill, oedd yn perthyn i'w nodweddau digrifol. Mewn cyfarfodydd neillduol, ar adegau hamddenol, byddai y brodyr yn cynghreirio er ei hud—ddenu i'r fagl hon trwy ofyn cwestiynau iddo, megys "B'le ei ganwyd? Faint o amser y bu yn y fan a'r fan, a'r lle a'r lle?" Ond buan canfyddai eu hamcanion cyfrwysgall, ac nid oedd tâw ar ei siarad wedi buddugoliaethu arnynt. Y brofedigaeth fwyaf danllyd diammheu a gafodd ein hoffus frawd ar y pen hwn ydoedd mewn Cyfarfod Chwarterol yn Llanfynydd. Cafodd ef a minau ein penodi i'r un lle i lettya, fel y byddem yn arferol. Mor bell ag yr ydym yn cofio mai un o'r Trefnyddion Calfinaidd ydoedd ein gwesttywr; dyn o ymddangosiad hynod hynaws a thawel. Yr unig eiriau a gawsom oddiwrtho ar hyd yr holl ffordd adref ydoedd atebion i ofyniadau uniongyrchol, yr un fath wedi myned adref. Gwnaeth Mr. Williams nodiadau droion wrthyf am dano yn ei absenoldeb, na welodd ddyn erioed â golwg mwy diniwed. Wedi swperu, cawsom hamdden wrth y tân cyn myned i'r gwely. Tra yr ydoedd Mr. Williams yn ein difyru â'i ffraethebau difyrus, braidd y cawsom wên ar wyneb ein gwesttywr, hyd yn nod wrth wrandaw yr ystorïau mwyaf chwerthingar. Yn nghanol yr ymddyddan gofynodd i'r ysgrifenydd, Brodor o b'le ydoedd? Atebais ef. Gofynodd yr un cwestiwn i Mr. Williams, a gwnaeth yntau ei ateb. Yn mhen ychydig gofynodd drachefn i Mr. Williams am ei oedran yn dechreu pregethu, ac atebodd ef. Yn nes yn mlaen gofynodd eto ei oedran yn myned i'r athrofa. Atebodd, heb feddwl drwg drachefn. Yn mhen tymhor hirfaith, gofynodd ei oedran yn ymsefydlu yn Aberduar. Pan megys ar ymylon llithrigfa, tarawyd Mr. Williams gan ammheuaeth, a throdd ato ar ei wên gellweirus gan ofyn iddo, "Fachgen, a oes drygioni ynot? Os oes drygioni ynot ti, ni roddaf fy ymddiried mewn dyn byth, oblegid yr wyt wedi'm twyllo yn deg." A gwir oedd y peth; gwnaeth ein cymwynaswr addefiad gonest fod nifer o weinidogion megys weinidogion megys "Lleurwg," a rhai cyffelyb iddo, wedi rhoddi arno i'w hud-ddenu i'r fagl; ac, yn wir, dihangfa brin a gafodd. Dranoeth yr oedd ein hoffus frawd yn ein plith fel Wellington wedi dychwelyd o faes Waterloo, ar ei uchel-fanau mewn buddugoliaeth. Yn mhob cyfrinach gwnai edliw iddynt eu methiant siomedig, ac yn wir yr oeddynt hwy yn cael cymmaint o ddifyrwch wrth gael eu plagio ganddo, ag oedd yntau yn deimlo wrth eu plagio. Pan y byddai yn myned i deulu drachefn, yr oedd ganddo ddigrifion yn eu taro hwythau. Siaradai yn debyg i hyn:—"Tomos, yr ydych chwi yn meddwl yn fawr am eich bachgen, mi wranta; meddwl nad oes plentyn yn un man fel efe. Fel y tad hwnw oedd yn bostio, 'Dyna ysgolhaig yw John ni; y mae y blaenaf yn y class ond un.' 'Ië, ebai y llall, 'pa sawl un sydd yn y class?' 'O! dau,' ebai y tad. Erbyn hyn yr oedd John ni yn olaf." Dywedai wrth y wraig drachefn, "Yr ydych chwithau yn meddwl nad ydyw Tomos ddim yn eich caru mor wresog ag ydoedd yn y dechreu, mi wranta. A glywsoch chwi y 'stori am Twm, Cae—mawr, a Betti? Yr oedd Betti o hyd yn dweyd wrth Tomos nad ydoedd yn ei charu fel yr oedd pan briododd efe hi. 'Ydwyf, ydwyf, Betti fach,' ebai yntau, 'yn awr gymmaint ag erioed.' 'Na, nid wyf yn credu,' meddai Betti drachefn. Ar hyn dystawodd Tomos, a 'chwanegodd Betti trwy ddweyd, 'Fe dde'st â cheffyl a chyfrwy i'm cyrchu yma, Tomos.' Ar hyn cynhyrfodd Tomos, a dywedodd, 'Betti, fe ddown I â cheffyl a dau gyfrwy i dy hebrwng oddiyma.'
Yr oedd yn gartrefol yn mhob teulu yr elai iddo, ac yn gwneyd pawb o'i amgylch i deimlo yr un modd. Y gwir yw, yr oedd y gwesttywyr caredig mewn cyfarfodydd yn barod i gwympo allan am ei gael o dan eu cronglwyd. Cof genyf, flynyddau mawr yn ol, ei fod ef a minau yn cyd—deithio o Aberteifi, ac yn bwriadu llettya y noswaith hono yn Llandyssul. Yr oedd yr awdwr yn gweinidogaethu ar y pryd yn Bethel a Salem, Caio. Wedi gorphwys am ychydig yn Mhenybont, galwodd Mrs. Jones i fewn, a dywedodd wrthi yn debyg i'r hyn a ganlyn:—"Mrs. Jones, mae eisieu lletty arnaf heno; mae Mrs. Jones y shop yn dwli am fy nghael, a Mrs. Phillips, Blue Bell, yr un modd; ond yr wyf yn cynyg yr anrhydedd yn flaenaf i chwi: 'nawr dywedwch yn y fan." Mrs. Jones yn ateb, wedi ei llyncu fyny gan ei ddigrifwch, "Yma yr ydych i fod Mr. Williams bach." Yr oedd yn gyddeithiwr diail, o herwydd yr oedd ei ymddyddanion mor ffraeth-bert a difyrus.
Cof genyf am dri o weinidogion yn cyd-deithio o Llanrhystyd i Dregaron. Mr. Williams ar gefn caseg uchel; yr ail ar gefn pony o faintioli cyffredin; a'r trydydd ar gefn un "bychan bach," un o'r rhai lleiaf a welsom erioed yn cario bod dynol ar ei gefn. Dywedodd yr olaf na welodd un erioed allasai guro yr un bach mewn trot o hir barhad: atebodd Mr. Williams fod ei gaseg ef yn un o'r goreuon: taerodd y llall y buasai yr un bach yn sicr o'i maeddu. Safodd Mr. Williams, ac edrychodd arno ef a'r pony bach mewn syndod, gan ddweyd, "Fachgen, 'does dim lle i ddirgelwch yn hwna."
Yr oedd yn gyfaill ffyddlon. Gwyddom am frodyr fu yn ei gyfeillach am flynyddau lawer: nid oedd twyll, hoced, na brad yn perthyn iddo. Nid oedd un amser yn siarad yn anmharchus am neb yn ei gefn, ac ni theimlai yn hapus i wrando ar neb arall yn gwneyd hyny; darfu i ni sylwi arno lawer gwaith yn edrych yn ddiflas, gan droi at rhyw bwnc arall, yn hytrach na gwrando arnynt. Byddai bob amser yn wyliadwrus rhag archolli teimlad neb. Yr oedd yn ymddangos yn edrych ychydig yn annibynol ar y dechreu i'r dyeithr; ond wedi ymgynefino ag ef, teimlid ef yn agos atoch, er y byddai ef yn arfer digrifwch diniwed wrth y rhai oedd yn ei garu fwyaf. Flynyddau yn ol, yr oedd gweinidog yn Sir Aberteifi heb fod yn un o'r rhai mwyaf talentog a threfnus ei ymadroddion, eto yn meddwl llawer o hono ei hunan. Byddai y brawd hwnw yn gwisgo fynychaf yn bur dda, a cheffyl golygus dano; yn yr allanol yr oedd yn rhagori ar Mr. Williams. Pan ar eu taith i gyfarfod yn Mhontrhydfendigaid, yr oedd y bobl yn talu gwarogaeth trwy wneyd curtsi a chodi het, &c. Dywedodd y brawd wrth Mr. Williams mai efe oedd gwrthddrych yr arwyddion parchus hyn. Atebodd yntau ei fod ef yn eu cael gystal ag yntau. "Beth bynag am y gorphenol," ebai Mr. Williams, "y fi gaiff yr oll o hyn allan." Gwnaeth ein harwr drick ag ef. Safodd o'r tu ol iddo, a phan y byddai dyn neu ddynes yn dyfod, tynai Mr. Williams ei het iddynt yn gyntaf, tu cefn i'r cyfaill golygus; felly y gwnaeth y bobl yr un cyfarchiad, wrth gwrs, yn ol i'r hwn oedd yn eu cyfarch gyntaf. Wedi colli yr holl foesgyfarchiadau, a Mr. Williams yn ei boeni, cyffrodd nwydau y gwr balch i raddau mawr, a bu agos iddo gyflawni trosedd pwysig yn erbyn ein harwr; dan yr amgylchiadau hyn i ffwrdd ag ef nerth cyflymdra yr anifail. Yn mhen tymhor, mewn ty gerllaw, daliwyd ef gan Mr. Williams, a rhybuddiodd ef am ei bechod, gan osod ger ei fron y gosp a roddai arno, sef—y tro cyntaf y clywai ef yn pregethu—y gwnai anfon ei bregeth air am air i Seren Gomer. Dychrynwyd y brawd mor ofnadwy fel na phregethai ar un cyfrif yn ei glyw drachefn. Ond cyn nemawr amser ar ol hyny yr oedd yn pregethu mewn cyfarfod neillduol, a phan oedd ond newydd ddechreu daeth Mr. Williams i fewn; ac er syndod i bawb, dyna y pregethwr yn tori i fyny ar unwaith rhag ofn y fflangell.
Yr oedd Mr. Williams yn Rhyddfrydwr trwyadl o ran ei syniadau gwleidyddol, ac yn un a deimlai lawer iawn o ddyddordeb mewn achosion o'r fath.
Condemnir gweinidogion Ymneillduol am ymyraeth mewn achosion o'r fath. Pan chwilir hanes y tylwyth hyn, ceir mai nid gofal dros ein crefydd a'n duwioldeb sydd arnynt, ond ofn ein dylanwad. Y mae ymdrechu am ein rhyddid a'n hawliau gwladol yn bechod yn eu cyfrif hwy; yr hawliau a waharddant i eraill a fwynheir ganddynt hwy eu hunain. Dymunem eu sicrhau, tra fyddo Eglwyswyr gwleidyddol, fe fydd Ymneillduwyr gwleidyddol hefyd; ac, yn wir, onid ydym yn ddinasyddion fel eraill, ac yn talu trethi? Tra fyddom felly y mae gan weinidogion hawl i ymyraeth â chyfreithiau y wlad.
Gweithiodd ein harwr drwy ei oes gyda ffyddlondeb yn y cyfeiriad hwn; ac yn 1868, sef yr etholiad cyffredinol, collodd y Gwrdymawr, sef ei anwyl gartref y treuliodd dros ugain mlynedd mor ddedwydd ynddo. Yr oedd Mr. Williams, yn un o ddysglaer lu y merthyron gwleidyddol yn y cyfnod hwnw; safodd y brofedigaeth fel gwron, ac ni fedrodd gwg na bygythion ei feistr tir syflyd ei nerth moesol. Yr oedd rhyw ddynion yr adeg hono, fel ar adegau cyffelyb, yn cymeryd eu harwain megys caethion i foddio nwydau llygredig eu meistriaid, a hyny ar draul sathru iawnderau y gydwybod o dan eu traed. Nid dyn glasdwraidd felly oedd gwrthddrych ein cofiant, ond gwron diail a fedrodd ddweyd yn ngwyneb ei feistr tir, na wnai blygu glin cydwybod iddo er peryglu cartref hoff. Diolch i Dduw fod rhai o'r stamp hyn i'w cael; onide, arosai y byd yn dragywyddol dan iau caethiwed.
FEL GWEINIDOG.
Y mae llawer un yn bregethwr da, ond yn weinidog tylawd. Nid ydym am honi fod Mr. Williams y gweinidog goreu; er hyny, yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn iddo. Y mae y ffeithiau canlynol yn profi hyny.
Bu yn weinidog yn yr un eglwys am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn arfer ymffrostio yn ei arosiad yn yr un lle; ac, yn wir, yr oedd ganddo hawl i hyny; nid peth bach oedd byw mewn tangnefedd gyda'r un bobl am gynnifer o flynyddoedd. Y mae clod hefyd yn perthyn i'r eglwys am ei hysbryd tawel a llonydd; nid yn unig mewn cysylltiad â Mr. Williams, ond pob gweinidog a fu yn gweini iddi er ei dechreuad; ni anfonodd un gweinidog ymaith erioed. Gwir i rai ymadael, ond gwnaeth yr eglwys ei goreu i'w cadw, megys Saunders, Merthyr, a'r enwog John Williams, Trosnant, &c., &c.
Parhaodd Mr. Williams yn wir barchus hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yr aelodau a'r gwrandawyr â meddwl pur uchel am dano. Yr oedd yr hen aelodau, y rhai oedd yn debyg iddo o ran oedran, yn hynod ëofn arno. Dyma enghraifft o'r modd y byddent yn siarad â'u gilydd yn aml. Un boreu Sabbath, pan yn dyfod oddiwrth y capel, yr oedd yn cyd-gerdded â gwraig lled dalentog. Dechreuodd Mr. Williams bysgota ychydig o glod oddiwrthi; deallodd hithau ei amcan, a dyma ydoedd yr ymddyddan gymerodd le:—
Y Pregethwr "Yr oedd tyrfa fawr o bobl yn Aberduar heddyw."
Y Wraig—Yr oedd yn foreu fine iawn, welwch chwi."
Y Pregethwr "Yr oedd y bobl yn hynod sylwgar wrth wrando."
Y Wraig—"Mae yn fresh iawn yn y boreu; mae pawb a'u penau i'r lan."
Y Pregethwr—"Ie: fe bregethais inau yn dda iawn."
Y Wraig—" Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun."
Y Pregethwr" Paham na wnewch, ynte? Gwell i mi ganmol fy hunan na bod heb yr un o gwbl."
ADEILADU TRI O GAPELAU.
Aberduar.—Yr hwn a ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1841, pa un sydd yn adeilad prydferth, a mynwent fawr yn perthyn iddo.
Bethel Silian.—Adeiladwyd hwn eto yn ei amser ef. Yr oedd yr hen achos yn y Coedgleision o fewn milldir a hanner i'r lle yr adeiladwyd y capel newydd. Darfu i Mr. Evans, Tanygraig, roddi tir ac adeiladu y capel ar ei draul ei hunan, ond rhyw sut gwaelu y mae yr achos wedi gwneyd hyd yn bresenol oddiar ei symmudiad i'r lle newydd.
Caersalem.—Adeiladwyd hwn eto yn ystod bywyd yr un gweinidog, yr hwn sydd tua milldir a hanner i'r de-ddwyreiniol o Llanbedr, ac yn gapel o faintioli cyffredin. Mae wedi meddiannu y wlad o amgylch, ac yn bresenol y mae yno eglwys gref a chynulleidfa ragorol. Gadawn i'r dyn gwerthfawr hwnw—Mr. Thomas Morgans, Fraich Esmwyth—i ddweyd hanes yr achos blodeuog hwn o'i ddechreuad. Gadawodd ysgrif ar ei ol, pa un sydd yn meddiant D. Lloyd, Ysw., Dolgwm House, Llanbedr, pa un a osodwn ger bron y darllenydd:
"Yn nechreu haf 1839 cafodd aelodau Aberduar, ag oedd yn byw yn y rhan uchaf o blwyf Pencareg, annogaeth i geisio gan y Parch. John Williams i ddyfod i'r gymydogaeth hono; a chafwyd ty gan William Williams, Parkyrhos, a bu yn pregethu yno am amryw fisoedd, a llawer iawn yn dyfod yno i wrando. O gylch mis Awst y flwyddyn hono, anfonwyd un o'r brodyr i gymeryd y ty i'r perwyl o bregethu, a buwyd yn pregethu yno am yn agos i flwyddyn; ac yn mis Gorphenaf, 1840, daeth un y'mlaen i ddangos ei bod yn chwenych uno a'r Bedyddwyr, a bedyddiwyd hi yn yr afon yn agos i Barkyrhos ar yr 19eg o Orphenaf, 1840; yr wythnosau canlynol daeth amryw y'mlaen hysbysu eu bod yn ewyllysio dangos eu cariad at Fab Duw trwy ufuddhau i'r ordinhad o Fedydd. Ar yr 16eg o Awst bedyddiwyd wyth ar eu proffes o'u ffydd, a chadwyd y cwrdd cymundeb cyntaf yn Parkyrhos. Ar yr achlysur mae'n debyg i John Williams i ddweyd rhywbeth nad oedd wrth fodd taenellwyr babanod i'r fath raddau fel y darfu iddynt weithio mor effeithiol ar berchen y ty, yr hwn oedd a'i wraig, a'i nai—yn perthyn i'r Independiaid, fel y dafu iddo anfon cenad at un o aelodau y Bedyddwyr i'w rhybuddio na chaent ddim pregethu yno' ond am bythefnos, ac na chaent fedyddio yn yr afon ar gyfer ei dir. Ond mor gynted ag y clybuwyd fod y ty uchod yn cael ei gau, clywsom fod ty yn Tanlan. Felly awd i Tanlan.—THOMAS MORGANS."
Bu yn hynod lwyddiannus i fedyddio. Yn y flwyddyn 1859 bedyddiwyd dros gant, ac un boreu Sabbath yn y flwyddyn hono bedyddiodd 39 mewn ugain mynyd. Er nad oedd ein brawd o gorph cryf, eto yr oedd yn hynod ddeheuig gyda y gwaith hwn, ac yn cael ei ystyried yn Fedyddiwr da. Bedyddiodd amryw o weinidogion parchus, pa rai sydd agos oll wedi troi mewn cylch o ddefnyddioldeb, megys y Parchn. D. Jenkins, Jesreel; John S. Hughes, Abertawy; D. Evans, Llaneurwg; T. Davies, Cwmfelin; a Mr. Evan Evans, Llanbedr.
Bu Mr. Williams yn hynod ffyddlon yn ei gylchoedd Cymmanfaol. Nid oedd neb yn fwy teimladwy i wrando ar gwyn achosion gweiniaid; gwyddom iddo wneyd llawer er eu cynorthwyo. Byddai yn arfer ceryddu gweinidogion am na fyddent yn arfer galw mewn lleoedd gweiniaid wrth basio i gyrddau mawr, trwy ddweyd, "Yr hen ffasiwn oedd gyda ni yn amser W. Evans, Aberystwyth, wrth fyned i'r cyrddau mawr, ydoedd pregethu yn Llanrhystyd, Swydd Ffynnon, &c. Wrth hyny yr oeddem yn cadarnhau yr eglwysi gweiniaid. Ond 'nawr y maent yn myned whiw gyda'r train, ac yn disgyn fel brain yn y cyrddau, heb neb yn eu gweled yn dyfod nac yn myned." Yr oedd Mr. Williams yn un o'r Cynnadleddwyr goreu, ac yn teimlo interest yn y gwahanol achosion, a phob amser byddai yn cael ei wrando ar eu rhan. Bu yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Chwarterol am flynyddoedd. Y mae un rhinwedd arall yn galw am ein sylw arbenig.
Yr oedd yn hynod barod i roddi hyfforddiadau i'r gweinidogion ieuainc, ac yn teimlo dyddordeb yn hyny. Clywsom ef yn dweyd lawer gwaith wrth ddynion ieuainc yn debyg i hyn:—" Gofala bob amser am dy ddyledswyddau gweinidogaethol, fel na chaffo y bobl gyfle i'th geryddu. Paid syrthio i drugaredd neb mae trugaredd dyn yn fain iawn, ond trugaredd Duw yn llydan fel y môr." Bryd arall dywedai—"Peidiwch bod yn rhy awyddus i eistedd yn y prif gadeiriau. Byddwch yn amyneddgar, fe ddaw eich amser yn naturiol; mae ei gyfnod i bob un. Fel y byddo y brodyr da sydd yn eistedd ynddynt yn bresenol yn cael eu symmud ymaith, byddwch chwithau yn stepio y'mlaen i'w lleoedd." Yr oedd yn gyfaill i ddyn ieuanc gobeithiol, a gwnaethai lawer drosto. O'r tu arall, nid oedd un bod ffieiddiach yn ei olwg na phregethwr hunanol, yn neillduol dyn ieuanc felly; yr oedd y cyfryw yn sicr o oddef ei geryddon llym. Cof genyf, flynyddau mawr yn ol, am ddyn ieuanc wedi symmud i un o eglwysi mawrion Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn amlwg fod y brawd hwn o dan ddylanwad hunanoldeb i fesur helaeth; byddai ar ei eithaf yn gwthio ei hunan yn mlaen i'r prif gadeiriau. Pan wedi gorphen ciniaw mewn Cwrdd Chwarter, galwodd Mr. Williams arno trwy ddweyd, "I., y mae genyf 'stori i'w hadrodd wrthyt, gwrando dithau. Yr oedd ffermwr mawr, ar lan Teifi, yn magu tarw bob blwyddyn. Yn mhen rhyw ddwy flynedd, byddai y teirw yn myned yn wyllt (canys yr oeddynt yn cael eu porthi yn dda), ac yn tori ar draws y cloddiau i diroedd eu cymydogion, a mawr yr helynt fyddai yn eu herwydd; eithr pan elent yn rhy ddrwg, byddai y meistr yn eu saethu. Magwyd un tarw coch nice yno, yr hwn oedd hoff eidion y gwas lleiaf. Pan tua dwy flwydd oed, dyma yntau yn tori ar draws y cymydogion; ac wrth ddychwelyd, cyfarfyddodd y crwt ag ef ar yr heol yn ymyl y ty, yr hwn a'i cyfarchodd ef fel y canlyn:'Darw coch, gwrando air o gynghor; yr wyf yn gyfaill i ti, ac yn dymuno dy les; yr wyf yma er's blynyddoedd, ac wedi gweled llawer un o dy fath yn cael eu magu yma, ac wedi iddynt dyfu i faintioli yn tori ar draws y wlad. Y canlyniad fu i meistr eu saethu bob un; ac fel y mae byw dy enaid, os troedi eu llwybrau, yr un fydd dy dynged anffortunus dithau." Cafodd y cerydd hwn effaith anghydmarol ar feddwl y dyn ieuanc. Yr oedd un bachgen yn weddïwr doniol iawn yn eglwys Aberduar, a byddai y gweinidog yn hoff iawn o'i orchymyn i weddïo, yn neillduol pan mewn dosbarth ar gyrau yr eglwys. Chwyddodd y dyn wrth y sylw oedd Mr. Williams yn ei wneyd o hono, a deallodd y gweinidog ei fod yn y cyflwr peryglus hwnw. Un diwrnod, er mewn pysgota clod, gofynodd i Mr. Williams, "Sut yr ydych yn fy rhoddi i weddïo fel hyn yn amlach na neb?" Atebodd Mr. Williams ef trwy ddweyd, "A fuoch chwi yn edrych ar eich mam yn gwneyd canwyllau erioed? Gwyddoch mai y rhai meinaf y mae yn dipio amlaf yn y pot â'r gwêr." Deallodd y brawd yr hint a bu dawel.
Yr oedd Mr. Williams yn wahanol i lawer o hen weinidogion trwy ei fod yn symmud yn mlaen gyda'r oes. Yr oedd mor gartrefol gyda'r ieuanc a'r hen, a hwythau yr un modd gydag yntau.
Yr oedd yn un selog dros ben dros ei egwyddorion fel Bedyddiwr. Cafodd brofedigaethau llymion gan y Parch. John Jones, Llangollen, yr hwn a fu yn weinidog am dymhor yn Rhydybont a Chapel Nonni. Pan yn mhoethder amrafaelion mawr bedydd, dywedir i Mr. Williams roddi ffordd i wawdiaeth un boreu Sabbath, wrth fedyddio, er dangos y gwahaniaeth oedd rhwng y llawenydd oedd yn blaenori bedydd yr oes Apostolaidd i'r hyn oedd eiddo bedydd y Taenellwyr yn amser Jones, Llangollen. "Fel hyn y byddai y bobl gynt yn dweyd, 'Mae tair mil wedi eu dwysbigo ar ddydd y Pentecost.' 'Diolch am hyny,' ebai'r saint, mae gobaith am fedyddio eto!' 'Mae gwŷr a gwragedd wedi credu yn Samaria.' 'Diolch byth!' oedd yr adsain, 'ni gawn fedyddio eto.' Ond yn ol athrawiaeth Jones, Llangollen, fel hyn mae'r llawenydd yn gweithio, 'A glywsoch chwi fod Gweno, morwyn Penrhos, yn feichiog o John, Tŷ-draw?" Diolch am hyny,' ebai y brodyr taenellyddol, 'mae gobaith am fedyddio eto!' 'A glywsoch chwi fod Mary, Tŷ-bach; Eliza, Godre'r-waun; a Mrs. Jones, Tŷ-mawr, yn y ffordd gyffredin? Diolch am hyny,' ebai'r taenellwyr, 'llawenhawn! y mae gobaith am fedyddio eto."" Medrai arfer gwawdiaeth gyda rhwyddineb mawr, eto nid bywyd rhyfelgar oedd ei hoff awyrgylch: canys mab tangnefedd ydoedd yn naturiol.
FEL CRISTION.
Ar ryw olwg gellir cymeryd Mr. Williams yn ddyn ysgafn, cellweirus. Yr oedd y dawn hwnw, cofier, yn hollol naturiol iddo, ac felly yn fwy esgusodol wrth ei arfer; efallai ei fod yn rhoddi y ffrwyn iddo ormodol ar rai prydiau. Yr oedd gan ein brawd grefydd egwyddorol. Y mae hyn yn amlwg trwy fod yr elfen grefyddol yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau, ei bregethau, yn nghyda'i gyfeillach ddirgelaidd. Yr oedd teimladau crefyddol yn llywodraethu ei galon. Y canlynol fyddai ei hoff emyn:—
"Yn dy waith y mae fy mywyd,
Yn dy waith y mae fy hedd;
Yn dy waith 'rwyf am gael aros
Tra bwy 'r ochr hyn i'r bedd;
Yn dy waith ar ol myn'd adref,
Trwy ofidiau rif y gwlith;
Moli 'r Oen fu ar Galfaria—
Dyna waith na dderfydd byth."
Heblaw, yr oedd gan ein brawd grefydd ymarferol; yr oedd ei fywyd i fesur helaeth yn ddifrycheulyd ger bron y byd. Bu yn ffyddlon i'w Arglwydd yn y cylch pwysig a ymgymerodd arno, ac hyderwn ei fod wedi cyfranogi o'r croesawiad hwnw y clywsom ef yn dweyd mor hyawdl arno, "Da was, da, a ffyddlawn: buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."
Pell ydym o honi perffeithrwydd i'n hanwyl frawd ar y pen hwn; gallai fod rhai yn rhagori arno. Eto myntumiwn fod ynddo nodweddau gwir Gristion. Yr oedd yn meddu syniad goruchel a dyrchafedig am Dduw, ei air, a'i waith sanctaidd. Yr oedd holl alluoedd uwch—raddol ei enaid yn cael eu taflu fel gemau gwerthfawr wrth draed ei anwyl Geidwad. Hawdd canfod yn ei waith yn ymdrin â'r pethau cysegredig, fod yno deimlad dysgybl wrth draed ei athraw yn gofyn, "Pa beth a fynni di i mi i'w wneuthur?" Wedi darllen pennod neu ei destun, byddai bob amser yn ymarfer yr ymadrodd hwnw, "Felly y darllenwyd rhan o air yr Arglwydd." Nid ydym yn cofio i ni sylwi ar neb erioed yn ymdrin â'r pethau dwyfol gyda mwy o wyleidd-dra.
Iawn ac Aberth ein Gwaredwr oedd unig sail ei obaith am iachawdwriaeth ei enaid. Llawer gwaith y clywsom ef yn dweyd, "Os cedwir fi, bydd hyny yn hollol trwy waed y groes." —Yr oedd y dyn mawr yn llai na'r lleiaf o'r holl saint yn ei brofiad a'i deimlad mewn perthynas i'w gadwedigaeth.
Yr oedd llawer o rhinweddau Cristionogol yn blaguro yn nghymeriad cyhoeddus ein hoffus frawd. Yr oedd yn ddyn gonest yn ei fasnach; nid oedd neb ar lan Teifi yn meddu mwy o ymddiried, ac nid oes hanes iddo wneyd tro isel—wael â neb yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn ddyn geirwir; pan fyddai yn rhoddi ei dystiolaeth dros neu yn erbyn unrhyw beth, cawsai ei gredu gan dylawd a chyfoethog.
Heblaw, yr oedd yn ddiweniaeth; ni wnai ganmol heb fod gwir deilyngdod; a phan gaffai rhyw beth o werth mewn unrhyw gyfeiriad, byddai yn barod i roddi canmoliaeth, ac yr oedd yn fwy parod i wneyd hyny yn nghefn dyn na'i wyneb. Ei ddull cyffredin o ganmol fyddai a ganlyn:—" Fe bregethaist yn dda iawn, ac yr wyf fi yn ddigon o judge; ond paid a balchio, fe bregethodd llawer yn dda o dy flaen, ac fe bregetha llawer yn dda ar dy ol."
Ni welsom neb erioed yn gallu mwynhau pregeth yn well na Mr. Williams; ac yr oedd yn dangos hyny drwy chwerthin, wylo, a dweyd "Amen." Yr oedd yn un o'r brodyr da hyny sydd yn caru rhoddi a derbyn. Pell iawn oedd ef oddiwrth y gweinidogion hyny a gymerant a fynoch, ond ni roddant ddim; gonestrwydd â'r cyfryw fyddai iddynt gael eu talu yn ol yn eu coin eu hunain. Yr oedd yn rhoddi gwerth dyladwy ar dalentau ei frodyr. Cof genym ei glywed yn dweyd yn Nghymmanfa Porthyrhyd, pan yn codi i bregethu ar ol "Mathetes" a "Lleurwg," pa rai oedd wedi pregethu mor odidog, "Dyma le noble i ddysgu gwers i bregethwr hunanol, sef i godi i fyny i siarad ar ol y ddau frawd yma." Yr oedd yn foneddwr yn mhob ystyr o'r gair. Byddai pawb yn siarad am dano yn uchel a pharchus.
Wrth ddiweddu, gallwn ddyddanu ein gilydd â'r gwirionedd hwnw o eiddo Paul:—"Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megys eraill y rhai nid oes ganddynt obaith." Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i adgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef."
Ffarwel, fy mrawd! heddwch i'th lwch; a gorphwysed tangnefedd Duw ar y weddw a'r amddifaid galarus.
"YR ARWR CRISTIONOGOL."
MARWNAD
ER COF AM Y
PARCH. JOHN WILLIAMS ("I. AB IOAN"),
ABERDUAR,
GAN
S. DARON JONES, YSW.,
"Between two worlds, Life hovers like a star,
'Twixt night and morn upon the horizon's verge;
How little do we know that which we are!
How less what we may be." —Byron.
ARWEINGERDD.
O! ddeigryn diragrith naturiol dy rediad
Yn awr o fy mynwes orlwythog a phrudd,
Eneinlwys ddehonglydd iaith dyner fy nheimlad
yn ddarlun o'm calon wrth wlychu fy ngrudd;
Ag alaeth y llwythwyd fy mynwes yn orlawn,
Mantellwyd claer seren llawenydd yn lân,
Darlunio y prudd—der a'r loes anghymodlawn
A deigryn sydd hawddwaith ond anhawdd â chan.
Llen ddu oer marwolaeth daenwyd
Dros ein holl obeithion ni,
"I. ab Ioan" dyner glwyfwyd
Pan yn gwisgo mantell bri;
Ow! ar helyg afon angau
Crogwyd ein telynau 'n fud;
Mwy ni chlywir ein caniadau—
Wylo'r awrhon wnawn y'nghyd.
Er fod bysedd anfarwoldeb
Yn cyfeirio tua' r lan,
At ogoniant a dysgleirdeb
Nef y nefoedd fel ei ran;
Fry at goron buddugoliaeth
Llawryf gwyrdd anfarwol fyd,
Rhaid yw rhoddi ffrwyn i hiraeth,
Dyn yw dyn er hyn i gyd."
O golli dim y golled hagra ' i gwedd-
Y drymaf, arwaf, un i deimlad byw-
Yw gweled claddu yn y dystaw fedd
Y tyner, addfwyn, diwyd blentyn Duw.
RHAN I.
"Er meddygon a'u doniau—a'u purlan
Hoff eirian, gyffeiriau,
Diddym oll yn y dydd mau
Unrhyw gynghor rhag angau."
—Ieuan Glan Geirionydd.
"Here is the wise, the generous, and the brave,
The just, the good."— Blair.
Taener clodydd gwych enwogion
Mewn hyawdledd, dysg, a dawn,
Pe heb nodi enw Ioan,
Byth ni fydd y rhestr yn llawn ;
Nid efelychydd oedd, ond ffynnon fyw-
A'i tharddle ynddi ei hun-yn rhedeg drwy
Fras diroedd annirnadwy Bibl Duw,
Ond sychodd angau hi: nid ydyw mwy.
Ei galon oedd yn wastad yn ei waith,
A'i waith feddiannai 'i galon fawr i gyd,
Ac nis gall awen lesg yn awr â iaith
Ddarlunio'r lles a wnaeth tra yn y byd.
Holl sengablwyr crefydd Iesu
Yrai i fythnosol daw,
Gordd rhesymeg yr Efengyl
Oedd yn wastad wrth ei law;
Dadrus wnelai ddyrys bynciau
Yr Ysgrythyr o bob rhyw
Gydag yni, ond gofalai
Rhag tywyllu meddwl Duw.
Fe ysgydwai yn ysgyrion
Hen welyau meddwl dyn,
Lle gorweddai traddodiadau
Amser fu, mewn tawel hun;
Blinder byth ni feiddiai 'n agos
Atom wrth ei wrando ef,
Yr oedd cadwen ei hyawdledd
Yn ein rhwymo wrth y Nef.
Rhesymwr ystyrbwyll, synwyrgall, a dyddan,
Ni fynai ei syflyd gan ddim ond gair Duw,
Yr hwn oedd ei fwa, ei gwmpawd, a'i darian,
Ei gysur wrth farw, a'i lywydd wrth fyw.
Bu yma yn y peiriau amser maith,
Ond allan daeth yn iach a pherffaith lân
Oddiwrth halogrwydd pechod dyrys:daith,
Fel aur coethedig o'r puredig dân.
Mor hyfryd gweled dyn ar derfyn oes
Yn canu yn ystormus hyrddwynt angau
Fod Crist yn gyfaill yn mhob ing a loes,
Yn llwyr dawelu chwyddlif ei deimladau.
Tywysen addfed oedd ar faes y byd,
A rhaid ei chyrchu adref yn ddihangol
I ddiddos ysguboriau gwynfa glyd,
O'r ddryghin at y dyrfa waredigol.
Y Cristion cywir—farn terfynodd ei lafur,
Teg redodd ei yrfa, gorphenodd ei waith;
Diosgwyd ei arf—wisg, enillodd y frwydr,
Ca'dd goron cyfiawnder ar derfyn y daith.
RHAN II.
"Oh! for a general grief, let all things share
Our woes, that knew our loves, the neighbouring air
Let it be laden with immortal sighs:
This is an endless wound,
Vast and incurable."—Isaac Watts, D.D.
"Un o'i fath, marw ni fydd—yn ei waith
Cawn ei wel'd o'r newydd;
Deil ei waith tra bo'r iaith rydd
A Gwalia wrth eu gilydd." —Caledfryn.
"Wedi marw!" oerias eiriau,
Archolledig a dihedd,
Mynwes oedd yn llawn serchiadau,
Heddyw 'n oer yn mynwes bedd;
Angau ! ti ddattodaist gwlwm
Cysegredig genyf fi,
Nes dros geulan pwyll a rheswm
Ffynnon galar chwydda 'n lli.
Fel yr ymglymai 'r iorwg am y pren,
Ymglymai 'i wendid a'i afiechyd yntau,
A mynych teimlai fod ei daith ar ben,
A murmur oer marwolaeth ar ei glustiau;
Ond doeth ragderfynedig amser Duw—
I'w edryd ef i'w adref—ni ddaeth eto,
Ei waith nid oedd ar ben, rhaid iddo fyw
Nes llwyr gyflawnu 'r gorchwyl a roes iddo.
Yn unfryd plethasom ein taerion weddïau
Mewn dwys ddymuniadau am wel'd ei wellhad,
Curiadau y galon oll yn erfyniadau
Ar Dduw am adferiad a chyflawn iachad.
Gwir gyfaill cariadus, gwr gweddus ei rodiad,
Diragrith ei fynwes, mewn parch gan bob dyn;
Ni raid i mi ffugio wrth lunio'r alarnad
Gwr anwyl oedd ef gan y Nefoedd ei hun.
Er cwrdd ar adegau â chroes anhawsderau
Ymdrechai fyn'd trwyddynt yn dawel a llon,
Erioed ni roes le i siom chwalu mwynderau
Amynedd a thuedd heddychol ei fron.
Sobr a difrifol ydoedd,
Addfwyn, serchus, cywir fryd,
Fel pe 'n teimlo pwys a nerthoedd
Dylanwadau arall fyd;
Yr oedd symledd yn ei fawredd,
Mawredd yn ei symledd ef,
Byth yn ddiddig nid arosai
Nes anelai 'r gwir i dref.
Ganwaith gwnaeth i Sion wenu
Mewn llesmeiriol deimlad byw,
Ganwaith drwyddo, testun canu
Gaed yn ngwydd angylion Duw.
Dirgelion ei galon, fel gwenau y Nef,
Addurnent ei ruddiau serchogwedd;
Nid "Cristion" mewn geiriau dibwrpas oedd ef,
Ond Cristion mewn gair a gwirionedd.
Trysorau diysbydd o gariad a swyn
Ddylifent trwy 'i ddoeth-lawn frawddegau,
Trwy gariad cadwynai bob ymffrost—rho ffrwyn
Ar warrau gwag wibiog feddyliau.
Ffraeth ydoedd, er hyn 'roedd cyfrolau o drefn
Yn nghudd yn ei fynwes serchoglon;
Meddyliai, ymbwyllai, meddyliai drachefn,
Cyn rhoddi 'r pwrpasol gynghorion.
Hawddgar frawd, gyd-weithiwr anwyl,
Henffych! 'rwyt ti heddyw 'n rhydd,
Wedi dechreu cadw noswyl
Ar ol gorphen gwaith y dydd.
Annheilwng oedd y byd o hono ef,
Rhy berffaith oedd i aros yma 'n hwy,
Addfedu 'roedd o ddydd i ddydd i'r Nef,
I'r lle 'r ehedodd uwch pob loes a chlwy';
Ei fywyd glân oedd fel y goleu—ddydd,
Oes faith fy mrawd, oes bur i Grist fu hon;
Pob dyn o chwaeth a'i parchai ef—a budd,
A gwir leshad gaed trwy'r gyfeillach lon.
Tyner-fwyn, siriol-fwyn, ei fywyd i gyd,
Ni phallodd ei wên yn nos angau.;
Ond beth am orfoledd a thegwch ei bryd
Mewn gor-hoen yn awr uwch gofidiau;
Ehedodd, dihangodd i'r bell hirbell daith,
Serch hudol nefolgainc a'i denodd
Uwchlaw pob darluniad uwch cyrhaedd fy iaith
'Roi drych o'r llawenydd feddiannodd.
Er hyn rhaid rhoi tafod i'm drylliog deimladau,
Gwag ydyw 'r Gymmanfa a'r cyrddau i gyd,
'R eglwysi gyd—blethant alarnad gofidiau
Am fugail mor ffyddlon a serchus ei bryd;
Ein dagrau y'nt halltach na'r wen—don pan ddymchwel,
Ein galar ymchwydda fel mynwes y môr,
Nes ydym rai prydiau yn beio ar ddirgel
Droadau cudd olwyn rhagluniaeth yr Ior.
DIWEDDGLO.
"Pe bae tywallt dagrau ' n tycio
Er cael eto wel'd dy wedd,
Ni chaet aros , gallaf dystio,
Hanner mynyd yn dy fedd."
—G. Hiraethog.
"Come hither, all ye tenderest souls that know
The heights of fondness and the depths of woe,
Death in your looks; come mingle grief with me
And drown your little streams in my unbounded sea.
—Isaac Watts, D.D.
Oer frigddu dymhestl-don angau aeth drosto,
Mae'n edwi mewn daear a'i fron yn ddifraw,
Ond caiff yntau 'r ceufedd cyn hir ei ferwino,
A'r gwan diymadferth o'i ddaear a ddaw;
Ond er fod y marwol mewn beddrod yn dawel
A mud dan dywarchen, llefara er hyn
Am oesau trwy riniau ei fywyd yn uchel,
Ni edwa 'i ragorion dan gloion y glyn.
Yn iach, fy mrawd anwyl, rhaid gadael dy fedd,
A byw rhwng llawenydd a galar;
'Rwyt ti heddyw 'n ddedwydd mewn hafan o hedd,
Dy fenthyg a gafodd y ddaear.
Adref aeth i wych brydferth-dir,
Anfarwoldeb pur di-len;
Do, derbyniodd goron euraidd
O gyfiawnder ar ei ben:
Unodd yn yr anthem newydd
Gyda'r seintiau glân y'nghyd,
Ond nid cyn rhoi argraph burlan
O ddylanwad ar y byd.
Paham y gwnawn wylo ag yntau mewn hoen
Ar eurwych esgynlawr bytholiant?
Mewn hwyl a melusder yn ngwyddfod yr Oen
Yn chwyddo per-geinciau gogoniant.
ENGLYNION COFFADWRIAETHOL.
Er du oer alar, dwr heli—Williams
Ni welir mwy 'n lloni;
Uchel frawd, iach hael ei fri,
Mewn tawel fedd mae 'n tewi.
Aberduar geinwedd wnaiff gwyno—'n aethus,
A Bethel am dano;
Caersalem sydd yn tremio
Yn or-drist am y chwerw dro.
Saith deg un oedd pan hunodd—yn angeu,
Ow 'r ingon a deimlodd !
Er ei fyw mewn garw fodd,
Ei dda reswm ni dd❜rysodd.
A! ail agor ei olygon—a wnaeth
Ar y Nef a'i cheinion;
E rwyfodd drwy yr afon,
'N ara' deg heb arw don.
Cofier, ei enaid mawr cyfion—heddyw
Sy 'n addurn yn nghoron
Ei rad Bryniawdydd mawr Iôn,
Yn canu 'r Nef acenion.
Y bywiog I. ab Ioan—a orphwys
Yn arffed y graian;
Ond A cwyd, fy enaid cân,
A gwel ei Loffyn gwiwlan.
O fewn i hwn y cawn fwynhau—diliau
Ei delyn bêr seiniau;
Cawn y dwys, a'r glwys yn glau,
Yn ddenawl trwy ei ddoniau.
Ei ddawn oedd burlan o berlau—lluniaeth
Sy'n lloni coeth odlau;
A! gwell na'r gwin i'r min mau,
Ei gu addien gywyddau.
Ehedlym yw ei awdlau,—a'i seiniau 'n
Orswynawl yn ddiau;
Afalau têr, pêr, pob pau,
Yw ei orwych ffraeth eiriau.
Eang lanwai englynion—o synwyr,
A seiniau melusion;
Coronau pob cywreinion,
Iddo er bri oedd o'r bron.
Mae ei ddawn hoff, llawn lluniaeth,—yn fiwsig
Ar faesydd llenyddiaeth;
Arllwysai frwd ffrwd fawr ffraeth,
'Fyw wir ddawn y farddoniaeth.
Ei Loffyn dillyn, da hollol,—erys
Yn arogl mynwesol;
Bydd hwn tra bryn, dyffryn, dol,
'N addurn i'r byd llenyddol.
Yn goeth iawn gwnai bregethu,—wr enwog,
Goranwyl trwy Gymru;
Ei bwnc a driniai tra bu,
Yn foddus i'w ryfeddu.
Pregethu 'n goeth fu hyd ei fedd—agos
Bu am ddeugain mlynedd;
Bu 'n traethu, clyw, 'n wyw ei wedd,
Wr astud ar ei eistedd![3]
Enaid mawr y doeth cu,—yn amlwg
Deimlai wrth gymmynu;
Ffeia 'r hen ddall uffern ddu,,
A mynwesai'r mwyn Iesu.
Wylwn fyrdd ar lan ei fedd,—ddoeth lenwr,
Ië, a rhodiwr prif ffyrdd anrhydedd;
Gorphwysed, huned mewn hedd;—daw allan
O'i wely eirian, lle tawel orwedd.
—EIDDIL GWENOG,
—Sef David Thomas, Blaenhirbant.
PEDWAR ENGLYN
I'R
PARCH. JOHN WILLIAMS
(Buddugol yn Eisteddfod Caersalem, 1870.)
Gwr galluog gwir gu a llawen—yw
Ein John Williams trylen;
Os hawlia neb îs haulwen
Swydd o bwys efe sydd ben.
Llon noddwr ein llenyddiaeth—yw efe,
A hen fardd da odiaeth;
Daw yn ffrwd o'i enau ffraeth
Fôr o ddawn y farddoniaeth.
Un yn berchen anian i barchu—dyn
A Duw yn ei deulu,
Yw, a'r gwaith o bregethu
Gair Iôn yn ei galon gu.
Ar y maes heb neb i'w ormesu-b'o,
A'r byd arno 'n gwenu;
Hir oes i was yr Iesu,-
Hedd ei dad fyddo o'i du.
—N. MARLAIS THOMAS.
C. a D. Jones, Agerdd-Argraffwyr, Heol-y-Brenin, Caerfyrddin.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.