Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/At y Darllenydd

Oddi ar Wicidestun
Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Y Cynnwysiad

AT Y DARLLENYDD




Nis gwn a ddysgwylir i mi roddi unrhyw esgusawd dros anturio dwyn allan Gofiant am y diweddar hybarch Richard Humphreys o'r Dyffryn ai peidio: credwyf na wneir. Onid oedd y neillduolion a ddisgleirient mor amlwg yn i gymeriad, a'r safle uchel a enillodd fel dyn, gwladwr, cristion, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd, yn cyfiawn haeddu i'r deyrnged hon o barch gael ei thalu i'w goffadwriaeth? Buasai yn dda genyf pe syrthiasai i law rhywun mwy cymhwys na mi i osod allan mewn trefn ei hanes: ond er bod yn ymwybodol o fy annghymhwysder, yr oedd y parch dwfn a deimlwn i'w goffadwriaeth yn cymhell fy meddwl i edrych beth ellid wneyd er casglu adgofion am dano. Gwyddwn cyn dechreu fod y gwaith yn fawr, gan fod yn rhaid casglu y defnyddiau oddiar gof y rhai a'i hadwaenai, a llawer o'r rhai hyny fel yntau wedi huno. Ond er hyny credwn fod ei sylwadau doeth a'i atebion pert—fel yr esgyrn hyny—yn wasgaredig ar hyd wyneb y Dyffryn, ac ardaloedd eraill; ac ar ol gwneyd fy mwriad o'u casglu at eu gilydd yn hysbys trwy y Cyfarfod Misol, Y Goleuad, a llythyrau cyfrinachol, dechreuodd asgwrn dd'od at ei asgwrn; ac fel yr oeddynt yn dyfod i law, ymdrechais i gyfodi gïau a chig arnynt, a'u gwisgo â chroen, a gwnaethum fy ngoreu i anadlu bywyd i'r Cofiant, a thrwy hyny gael yr hen batriarch ar ei draed ar ol bod am flynyddoedd mewn tir annghof.

Y mae yn gweddu mi gydnabod gyda'r diolchgarwch gwresocaf y cynorthwy a gefais gan y Parchn. Robert Griffith, Bryncrug; Griffith Hughes, Edeyrn; y diweddar E. Davies, Penystryd, Trawsfynydd (Annibynwr); Joseph Thomas, Carno; O. Thomas a Joseph Williams, Liverpool; D. Davies, Abermaw; R. Edwards, Wyddgrug; Dr. M. Davies, Caernarfon; Mri. Rees Roberts, Harlech; William Lewis, Llanbedr; D. Rowlands, Pennal; W. Ellis, Aberllefeni; William Williams, Tanygrisiau; D. W. Owen, Bethesda; y diweddar E. Davies, Cefnyddwysarn; Richard Owen, Machynlleth; M. Williams, Abermaw; yn nghyda lluaws mawr o'i hen gymydogion yn y Dyffryn a'r amgylchoedd. Gwnaethum hefyd ddefnydd helaeth-trwy ganiatâd yr awdwr, y Parch. L. Edwards, D.D., Bala—o'r ysgrif a ymddangosodd yn "Maner ac Amserau Cymru" yn fuan ar ol ei farwolaeth.

Fe wel y brodyr anwyl a fu mor garedig ag ysgrifenu yn lled helaeth eu hadgofion am dano, oddiwrth y cynllun a fabwysiadwyd genyf i drefnu y Cofiant, fod yn anmhosibl i mi roddi eu hysgrifeniadau i mewn yn un darn fèl y daethant i law—er y buasai yn dda genyf allu gwneyd hyny ond yr oeddwn dan orfod i'w dadgymalu, a gosod pob darn gyda'i debyg. Derbyniais lawer o'r un sylwadau o'i eiddo, a phan y cawn amryw yn cofnodi yr un pethau, fy rheol ydoedd cymeryd yr un y byddai Mr. Humphreys hawddaf i'w adnabod ynddo. Gallwn feddwl fod ganddo lot o ddywediadau ac egwyddorion, pa rai a ddefnyddiai fel y byddai amgylchiadau yn galw am danynt.

Trwy hynawsedd Mr. Hugh Jones, Draper, &c.; Dolgellau, anrhegwyd ni ag amryw o bregethau Mr. Humphreys, pa rai a ysgrifenwyd ganddo wrth eu gwrando; a dian genyf y cytuna y darllenydd â mi i gyflwyno y diolchgarwch gwresocaf i Mr. Jones am danynt; byddant yn chwanegiad gwerthfawr at y Cofiant.

Ar anogaeth amryw o frodyr a hen gyfeillion Mr. Humphreys yr wyf hefyd wedi casglu ei holl ysgrifeniadau, pa rai a ymddangosasant o dro i dro trwy y wasg, a chredaf y teimla y darllenydd wrth eu darllen yn debyg i minau, sef gresynu na buasid wedi llwyddo i gael ganddo ysgrifenu mwy o gynyrchion ei brofiad aeddfed ar wersi ymarferol bywyd.

Nid oes genyf bellach ond canu yn iach i'r doethwr o'r Dyffryn, ar ol bod yn eistedd uwch ei ben am dros flwyddyn a haner; ac nis gallaf lai na'i hystyried yn fraint cael rhoddi cyfleusdra i'r darllenydd trwy y gyfrol fechan hon i wrando ar un sydd wedi marw yn llefaru eto. Fy nymuniad diweddaf ydyw ar i gynwys y Llyfr Coffadwriaeth hwn fod er adeiladaeth, a chynghor, a chysur i bawb a'i darlleno.

GRIFFITH WILLIAMS.

TAL-Y-SARNAU,

Mawrth 15fed, 1878.

Nodiadau

[golygu]